Craffu’r wybodaeth cyn i’r Cabinet argymell cyllideb 2021/22 i’r Cyngor
llawn
Penderfyniad:
Derbyn y wybodaeth a
chymeradwyo’r gyllideb y bwriedi’r ei argymell gan y Cabinet (16/02/21) i’r
Cyngor Llawn
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad gan yr
Aelod Cabinet Cyllid yn nodi fod y Cyngor eleni wedi derbyn
cynnydd grant oedd yn cyfarch chwyddiant ac yn setliad tecach na fu yn y blynyddoedd diwethaf. Tynnwyd sylw at y
penderfyniad a geisir gan y Cabinet yn ei gyfarfod (16/02/21) ar angen i’r
Pwyllgor graffu’r wybodaeth cyn i’r Cabinet ei argymell i’r Cyngor Llawn ym mis
Mawrth 2021. Ategwyd bod y penderfyniadau a geisir yn rhai fyddai’n caniatáu
ariannu cynnydd anorfod mewn costau rhai gwasanaethau craidd ynghyd a chodi’r
Dreth 3.7%. Pwysleisiwyd fod codi’r dreth yn angenrheidiol er mwyn amddiffyn
gwasanaethau hanfodol i drigolion Gwynedd gan y bydd yn anymarferol i weithredu
cynlluniau arbedion ychwanegol eleni. Adroddwyd bod mwyafrif o aelodau’r Cyngor wedi mynychu cyfres
o weithdai ymgynghori.
Nodwyd erbyn 2021/22 y bydd angen cynyddu gwariant
i £10.6m er mwyn ‘sefyll yn
llonydd’, gan gynnwys £3.6m i gwrdd â phwysau gyllidebau’r gwasanaethau. Esboniwyd i gyfarch
y bwlch ariannol, y gellid cynaeafu £725k yn 2021/22 o’r cynlluniau arbedion ond y bydd angen
cynyddu’r dreth Cyngor
3.7%.
Ategwyd fod ffigyrau swyddogol
Llywodraeth Cymru yn dangos fod
y Cyngor yn derbyn cynnydd grant o £6.4m erbyn y flwyddyn nesaf sy’n gynnydd o 3.4% ac y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi’r
setliad grant terfynol ar yr 2il Mawrth
2021, ynghyd a chyllideb derfynol Llywodraeth Cymru. Amlygwyd y gwariant refeniw gan dynnu sylw
bod chwyddiant cyflogau
staff yn £3.5m, ynghyd a darparu cynnydd tal i
staff ar gyflogau £24,000 neu is, a chynnydd tal o 3.1% i athrawon
ysgolion Gwynedd am y cyfnod
Ebrill - Awst 2021.
Mynegwyd fod chwyddiant arall yn £2.6m yn cynnwys darpariaeth
ar gyfer effaith y ‘cyflog byw’ ynghyd a chynnydd
chwyddiant ar gyllidebau tanwydd ac ynni a chynnydd mewn prisio yn
dilyn ail-dendro. Amlygwyd bod bidiau wedi ei derbyn
gan adrannau’r Cyngor o
£3.6m am adnoddau parhaol ychwanegol i gwrdd
â phwysau anorfod ar wasanaethau.
Tynnwyd sylw at y cynllun arbedion gan egluro
y bydd
cyfanswm net o £725k o arbedion
i’w defnyddio i leihau bwlch
ariannu cyllideb 2020/21.
Golygai hyn byddai bwlch gweddilliol o £77m, ac argymhellwyd
cyfarch y bwlch hwnnw drwy’r Dreth Cyngor. Bydd angen codi’r Dreth 3.7% er mwyn
cynhyrchu incwm digonol gan osod cyllideb net o £271,751,360. Adroddwyd y
byddai’r dreth a godir gan yr Awdurdod Heddlu (cynnydd o 5.14% ar gyfer
2021/22) a’r cynghorau cymuned (% amrywiol) yn ychwanegol i hyn. Mynegwyd, pe
bai aelodau’r Cyngor awydd cynnydd llai na 3.7% yn lefel y Dreth, yna byddai
rhaid gwario llai ar wasanaethau. Atgoffwyd yr Aelodau o’r opsiwn a drafodwyd
yn y gweithdai aelodau lle mynegwyd peidio ariannu rhai o’r bidiau refeniw
parhaol ‘Categori 2’ (oedd wedi ei rhestru yn yr adroddiad). Derbyniwyd bod y dewis
rhwng cynnal gwasanaethau a threthu o hyd yn un anodd, ond o ran cymhariaeth, ar gyfer 2021/22 nodwyd bod cyfartaledd o gynnydd treth yr awdurdodau lleol
eraill ledled Cymru yn debygol o fod tua 4.1%, gyda’r cynnig gerbron i godi’r
dreth 3.7% yn lefel tebyg i fwyafrif yr awdurdodau yn y gogledd.
Ategodd y Pennaeth Cyllid ei ddiolch i’r
Aelodau hynny a fynychwyd y
gweithdai. Tynnwyd sylw at atodiad 10 o’r adroddiad oedd
yn manylu ar gadernid yr
amcangyfrifon oedd yn sail i’r gyllideb
ynghyd a’r risgiau posib a’r
camu lliniaru. Roedd y Pennaeth Cyllid o’r farn
fod y gyllideb yn gadarn, digonol
a chyraeddadwy
Mewn ymateb i gwestiwn
yng nghyd-destun risg llog isel
a datganiad gan Arlinglose na fydd
angen gweithredu ‘llog negyddol’ er bod awgrym diweddar gan fanciau y bydd
hyn mewn lle erbyn mis
Gorffennaf, nododd y Pennaeth Cyllid bod trafodaethau pellach i’w cynnal gydag
Arlingclose ac yn unol â Strategaeth Fuddsoddi’r’ Cyngor nid yw’r gyllideb yn
dibynnu ar ddychweliadau rhy uchel er bod pob
ymgais yn cael ei wneud
i geisio gwell dychweliadau ar gronfeydd ecwiti
ac eiddo sydd yn gweithredu’n well.
Mewn ymateb i sylw
ynglŷn â chategori 2 (sef bidiau sydd
yn amodol ar gynnydd yn
y dreth incwm o 3.7%), cadarnhawyd mai gwariant newydd oedd yma ac nid
toriad ar y gwasanaeth. Ategwyd bod atodiad 2a yn amlinellu
bidiau sydd eu hangen gan
yr adrannau i gyflawni lefel
gwasanaeth, ond bod bidiau categori 2 yn anorfod er
yr angen amdanynt i barhau
gyda lefel gwasanaeth cyfredol. Derbyniwyd bod y sefyllfa yn un anodd
ond awgrymwyd wrth beidio cynnig
mwy i’r gwasanaeth
byddai’n arwain at elfen o dorri yn
y dyfodol.
PENDERFYNWYD
·
Derbyn y wybodaeth a chymeradwyo’r gyllideb y bwriedi’r ei
argymell gan y Cabinet (16/02/21) i’r Cyngor Llawn
Dogfennau ategol: