Cyflwyno adroddiad
y Swyddog Monitro (ynghlwm).
Penderfyniad:
Cyflwyno’r sylwadau a ganlyn mewn ymateb i’r
ymgynghoriad, a dirprwyo hawl i’r Swyddog
Monitro goladu a chyfleu yr ymateb ar ran y Cyngor:-
·
Bod y pwyllgor yn croesawu’r
ddogfen yn gyffredinol, ac o’r farn ei bod yn ddarllenadwy ac yn hynod
ddefnyddiol o ran esbonio’r cod. Credir
hefyd bod y defnydd o esiamplau achos a swigod siarad yn ffordd
dda o amlygu rhannau o’r ddogfen a’i gwneud yn berthnasol i bobl.
·
Byddai’n fuddiol petai’r enghreifftiau o
dorri’r Cod Ymddygiad a restrir yn y ddogfen hefyd yn nodi beth oedd canlyniad
hynny, er mwyn rhoi darlun mwy eglur.
·
Byddai’r fuddiol petai’r ddogfen yn cynnwys
esiamplau o sut mae’r prawf budd cyhoeddus wedi weithio’n ymarferol, h.y. pa
fathau o gwynion sydd wedi croesi’r rhiniog, a pha fathau o gwynion sydd wedi
methu.
·
Y dylai’r ddogfen fod yn niwtral o ran rhyw.
Cofnod:
Cyflwynwyd –
adroddiad y Swyddog Monitro yn gwahodd y pwyllgor i gyflwyno sylwadau ac
adborth ar ymgynghoriad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar ganllawiau
drafft newydd ar y Cod Ymddygiad ar gyfer aelodau Cynghorau Sir a Chynghorau Tref
a Chymuned.
Eglurwyd nad oedd
cwestiynau penodedig wedi’u gosod yn yr ymgynghoriad, ond gan ddal sylw at
bwrpas y ddogfen, awgrymwyd y materion canlynol ar gyfer ystyriaeth y
pwyllgor:-
·
Ydi’r
arweiniad a roddir yn ddealladwy ac o ddefnydd?
·
Oes agweddau sydd ddim gystal ag y gellir eu gwella a sut?
·
Oes angen
ychwanegu rhywbeth? Beth?
Nodwyd ymhellach
bod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd wedi cael cyfle i ystyried yr
ymgynghoriad yn eu cyfarfod ar 18 Chwefror, ac er yn gyffredinol gefnogol i’r
canllawiau o ran eu cynnwys a’u tôn, bod rhai cwestiynau wedi codi o gwmpas yr
her o ran mynegiant gwleidyddol, a lle mae’r llinell rhwng yr hyn sy’n briodol
ac yn amhriodol, ayb, yn enwedig o safbwynt parch a’r defnydd o gyfryngau
cymdeithasol, ac ati.
Yna tynnwyd sylw’r
pwyllgor at rannau penodol o’r canllawiau, sef:-
·
Y prawf
dau gam a ddefnyddir gan yr Ombwdsmon wrth benderfynu a ddylid ymchwilio i gŵyn,
neu a ddylid parhau ag ymchwiliad i dorri’r Cod.
·
Hawl
mynegiant gwleidyddol, lle gall y Cod ymyrryd, a lle mae’n croesi’r
llinell.
·
Perthnasedd
y Cod i unigolion a’r disgwyliad bod pobl sydd mewn swyddi cyhoeddus yn cynnal
safonau uchel o ymddygiad.
·
Y gofyn i
aelodau sy’n cynrychioli’r Cyngor ar gyrff allanol gydymffurfio â Chod y corff
hwnnw, ac y gall torri Cod y corff hefyd olygu bod yr aelod yn torri Cod y
Cyngor.
·
Rol arweinyddiaeth gymunedol aelodau, a sut y gall gyrru negeseuon
e-bost amhriodol neu ddefnydd diofal neu anghyfrifol o gyfryngau cymdeithasol
ddwyn anfri ar swydd yr aelod.
·
Cymhlethdod
rôl a statws y clerc o fewn unrhyw gyngor cymuned.
·
Rôl y
Swyddog Monitro yng nghyd-destun cynghorau cymuned.
Yn ystod y
drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-
Nodwyd, er bod y
canllawiau’n cynnwys enghreifftiau o dorri’r Cod, nad oedd cyfeiriad at y gosb
a roddwyd yn yr achosion hynny.
Awgrymwyd bod y
defnydd o esiamplau achos a swigod siarad yn ffordd dda o amlygu rhannau o’r
ddogfen a’u gwneud yn berthnasol i bobl.
Nodwyd bod y pwynt
ynglŷn â diffyg ymchwilio i gwynion gan yr Ombwdsmon yn codi’n flynyddol
yng nghyfarfod y Cyngor llawn, ond roedd yn amlwg bod llai na 5% o waith yr
Ombwdsmon yn ymwneud â chynghorau, gyda’r mwyafrif o gwynion yn codi yn y maes
iechyd. Tynnwyd sylw hefyd at y ffaith
bod yr Ombwdsmon yn nodi yn ei ragair i’r canllawiau bod nifer y cwynion lefel
isel oedd yn dod i law yn dal yn rhy uchel, ac er ei bod yn ymddangos mai nifer
fach o aelodau oedd yn cyflwyno’r cwynion hyn, yn y cyfnod heriol hwn, roedd yn
bwysicach nag erioed bod adnoddau ei swyddfa’n cael eu defnyddio’n effeithiol,
a bod unrhyw ymchwiliad a gynhelid yn gymesur ac yn ofynnol er budd ehangach y
cyhoedd. Nodwyd hefyd bod yr Ombwdsmon
yn annog aelodau i fanteisio ar unrhyw drefniadau lleol ar gyfer ymdrin â
chwynion ‘aelodau yn erbyn aelodau’ a holwyd beth oedd rôl y Pwyllgor Safonau
a’r Swyddog Monitro o ran hynny. Mewn
ymateb, cyfeiriwyd at Safon Gwynedd a threfn ddatrys fewnol y Cyngor ar gyfer
ymdrin ag anghydfod rhwng aelodau ac aelodau.
Nodwyd bod y Swyddog Monitro yn dueddol o droi at y drefn fewnol i
geisio datrys mater aelod yn erbyn aelod o fewn Cyngor Gwynedd, ac yn y diwedd,
drwy’r broses, bod modd dod at y Pwyllgor Safonau i ymdrin â’r mater. Wrth gwrs, gan fod hyn y tu allan i’r
fframwaith statudol, nid oedd pwerau’r Pwyllgor Safonau yn sylweddol. Nid oedd llawer o achlysuron wedi codi yng
Nghyngor Gwynedd lle'r oedd hyn wedi bod yn berthnasol, ac roedd mwyafrif y
cwynion yn deillio o’r cyhoedd yn erbyn aelodau. Roedd angen cyfeirio cwynion o’r fath at yr
Ombwdsmon, er yn amlwg, roedd modd i’r Swyddog Monitro gynghori’r cyhoedd. Roedd y sefyllfa’n fwy heriol yn achos
cynghorau cymuned gan nad oedd ganddynt yr adnoddau na’r gyfundrefn
llywodraethiant i ddatrys problemau rhwng aelodau. Eto, lle’r oedd gwir broblemau, roedd modd
i’r Swyddog Monitro geisio helpu’r cynghorau cymuned hynny fel y gallai.
Awgrymwyd efallai
bod canfyddiad ymhlith aelodau cynghorau cymuned bod y Pwyllgor Safonau yn
gallu datrys anghydfod, a bod lle i’r pwyllgor fod yn fwy ymwybodol o’r cwynion
fel y gellid eu trafod a defnyddio’r drefn ddatrys leol i ymateb i’r
broblem.
Nodwyd bod yr
enghreifftiau yn y canllawiau yn egluro pam na all y Pwyllgor Safonau fynd â
mater ymhellach, ac awgrymwyd bod hynny’n cael ei amlygu yn fwy penodol yn
adroddiad blynyddol y pwyllgor i’r Cyngor llawn. Mewn ymateb, eglurwyd bod y Pwyllgor Safonau
yn cael ei weld fel fforwm datrys cwynion, ond bod raid i bob cŵyn
allanol, gan gynnwys cwynion yn deillio o gynghorau cymuned, gael eu cyfeirio
at yr Ombwdsmon. Pe dymunid cynnig
gwasanaeth gwahanol i gynghorau cymuned, byddai’n rhaid bod yn fyw i’r ffaith
bod yna tua 64 o gynghorau cymuned a thref, a tua 700-750 o aelodau cynghorau
cymuned yng Ngwynedd. Gallai’r
goblygiadau adnoddau fyddai’n deillio o gynnig hynny fel gwasanaeth fod yn sylweddol,
ac roedd angen bod yn ofalus rhag cynnig gwasanaeth na ellid ei gyflawni. Ond efallai bod lle i gael y neges
allan. Awgrymwyd ymhellach y gallai’r
her fod yn llawer mwy na’r 750 aelod, gan fod yna gyn-aelodau o gynghorau
cymuned sy’n parhau i ymddiddori yng nghwaith y cynghorau hynny, ac o bosib’ am
gyfeirio cwynion at yr Ombwdsmon.
Pwysleisiwyd y
dylai’r canllawiau fod yn niwtral o ran rhyw.
PENDERFYNWYD cyflwyno’r sylwadau a ganlyn
mewn ymateb i’r ymgynghoriad, a dirprwyo hawl
i’r Swyddog Monitro goladu a chyfleu'r ymateb ar ran y Cyngor:-
·
Bod y pwyllgor yn croesawu’r
ddogfen yn gyffredinol, ac o’r farn ei bod yn ddarllenadwy ac yn hynod
ddefnyddiol o ran esbonio’r cod. Credir
hefyd bod y defnydd o esiamplau achos a swigod siarad yn ffordd
dda o amlygu rhannau o’r ddogfen a’i gwneud yn berthnasol i bobl.
·
Byddai’n fuddiol petai’r enghreifftiau o
dorri’r Cod Ymddygiad a restrir yn y ddogfen hefyd yn nodi beth oedd canlyniad
hynny, er mwyn rhoi darlun mwy eglur.
·
Byddai’r fuddiol petai’r ddogfen yn cynnwys esiamplau o sut mae’r prawf
budd cyhoeddus wedi gweithio’n ymarferol, h.y. pa fathau o gwynion sydd wedi
croesi’r rhiniog, a pha fathau o gwynion sydd wedi methu.
·
Y dylai’r ddogfen fod yn niwtral o ran rhyw.
Dogfennau ategol: