Cyflwyno adroddiad llafar yr Aelod Cabinet – Y Gymraeg.
Cofnod:
Cyflwynwyd –
adroddiad llafar yr Aelod Cabinet – Y Gymraeg, yn manylu ar ddatblygiadau
diweddar o fewn y maes, gan gynnwys y canlynol:-
·
Y
cadarnhad amodol o lwyddiant y grant hyrwyddo defnydd y Gymraeg.
·
Y
gwaith o sefydlu’r ganolfan iaith newydd ym Mangor.
·
Cynhadledd
ar yr 22ain o Ionawr yn Llanrwst i lansio’r Siarter Iaith ar draws y siroedd y
Gogledd.
·
Cynhadledd
ar y 13eg o Ionawr a drefnwyd gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’r ymgynghoriad ar
fframwaith strategaeth olynol ar y cynllun Mwy na Geiriau.
·
Ymgynghoriad
Llywodraeth Cymru ar newidiadau arfaethedig i Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 20
sy’n ymwneud â Chynllunio a’r Gymraeg.
·
Y
bwriad i feithrin perthynas gyda’r Dr Rhian Hodges
a’r Dr Cynog Prys o Brifysgol Bangor, sy’n arbenigwyr ar bolisi a chynllunio
ieithyddol.
·
Trafodaethau
ar y Safonau Iaith a’u heffaith ar Bolisi Iaith y Cyngor.
·
Y
bwriad i gyflwyno argymhellion yr Ymchwiliad Iaith – Defnydd o’r Gymraeg mewn
Cyfarfodydd Allanol i’r Cabinet ar y 19eg o Ionawr i’w mabwysiadu ac i
weithredu arnynt.
Trafodwyd y
materion a ganlyn:-
(A)
Ymgynghoriad TAN 20
Nododd yr Uwch
Reolwr – Democratiaeth a Chyflawni:-
·
Y
bwriadai’r Adran Gynllunio drefnu seminar i’r aelodau ar bnawn yr 8fed o Fawrth er mwyn rhoi cyfle i aelodau’r Pwyllgor Craffu
Cymunedau, y pwyllgor hwn ac eraill i geisio dylanwadu
ar y canllaw cenedlaethol drwy gyfrannu eu sylwadau ar y newidiadau
arfaethedig.
·
Yn
ogystal â hynny, bod yna ganllawiau lleol yn cael eu datblygu a bod yr Aelod
Cabinet wedi datgan ei fwriad i drafod y canllaw lleol gyda’r Pwyllgor Craffu
Cymunedau a’r pwyllgor hwn.
Cytunwyd, er
hwylustod, i gylchredeg linc i’r TAN 20 presennol ar wefan Llywodraeth Cymru i
aelodau’r pwyllgor.
(B)
Cyd-weithio gyda Phrifysgol Bangor
Holwyd a fyddai
modd gwahodd yr arbenigwyr ar bolisi a chynllunio ieithyddol i gyfarfod y
Pwyllgor Iaith. Atebodd yr Aelod Cabinet
fod angen trafodaeth bellach gyda’r Brifysgol yn gyntaf i ridyllu’r deunydd
academaidd er mwyn gweld beth sy’n berthnasol i’r Cyngor ac y gellid dod yn ôl
at y Pwyllgor Iaith ar ôl datblygu’r drafodaeth ymhellach.
(C)
Enwau Lleoedd
Nododd yr Uwch
Reolwr – Democratiaeth a Chyflawni:-
·
Yn
sgil y penderfyniad yn y cyfarfod diwethaf i bwyso am gynnwys cymal ynglŷn
â’r Gymraeg yn y Bil Amgylcheddol Hanesyddol, y
derbyniwyd ymateb gan Gadeirydd y pwyllgor yn y Senedd sy’n trafod y bil yn
datgan bod y bil wedi’i ddiwygio, ym mis Tachwedd 2015, i gynnwys adran sy’n ei
gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru lunio a chynnal rhestr o enwau lleoedd
hanesyddol yng Nghymru (sef adran 33 newydd i’r Bil).
·
Bod
y bil wedi’i ddiwygio hefyd i’w gwneud yn ofynnol i Gofnodion Amgylchedd
Hanesyddol (a fydd yn cael eu paratoi gan awdurdodau cynllunio lleol) ddarparu
dull o gael gafael ar fanylion pob enw lle hanesyddol yn ardal yr awdurdod
hwnnw sydd wedi’i gynnwys yn y rhestr a gaiff ei llunio a’i chynnal gan
Weinidogion Cymru.
Yn ystod y
drafodaeth:-
·
Cytunwyd
i aros i weld beth mae’r canllawiau’n ddweud ac ystyried bryd hynny sut y gall
y Cyngor hwn a’r cymunedau lleol a’r cynghorau bro lleol gyfrannu at y broses.
·
Cyfeiriodd
aelod at amharodrwydd Snowdonia Active i
ohebu yn Gymraeg a holwyd a oedd modd dwyn pwysau arnynt. Gofynnodd yr Uwch Reolwr – Democratiaeth a
Chyflawni i’r aelod yrru’r manylion perthnasol at y swyddogion, ond rhybuddiodd
yr Aelod Cabinet na welai sut y gellid eu gorfodi gan
mai cwmni preifat oeddent. Pwysleisiwyd
yr angen i gefnogi cwmnïau i fod yn ddwyieithog, yn hytrach na phwyntio
bys. Mewn ymateb, eglurodd yr Aelod
Cabinet fod hynny’n rhan sylfaenol o waith Hunaniaith ac ymhelaethodd y Swyddog Datblygu Iaith ar y
gwaith o gynghori’r sector fusnes gan nodi fod y sector awyr agored yn faes
anodd gan eu bod yn gwasanaethu llawer o gwsmeriaid o’r tu allan i Gymru.
·
Nodwyd y gellid hawlio grant gan y Bwrdd Iaith yn y
dyddiau a fu i gael arwyddion Cymraeg ar fusnesau a faniau
a nododd yr Uwch Reolwr - Democratiaeth a Chyflawni y byddai’r ymchwiliad iaith
nesaf yn edrych ar welededd y Gymraeg a dylanwad y Cyngor ar hynny.
PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad.