THE WAVERLEY HOTEL, 10, HEOL YR ORSAF, BANGOR
I ystyried y cais
Penderfyniad:
Caniatáu i Heddlu Gogledd Cymru adolygu’r drwydded a diwygio Atodiad 3 o’r drwydded honno
Cofnod:
Ar
ran Heddlu Gogledd Cymru:
Arolygydd 2600 Chris Hargrave
PCSO Lis Williams
Ar
ran yr eiddo:
Ms Hayley Meek
Deilydd trwydded Waverley
Hotel, Bangor
Michael Strain Cyfreithiwr
Eraill
a wahoddwyd:
Moira Duell Parry - Swyddog Iechyd yr Amgylchedd
Robert Taylor – Swyddog Gorfodaeth Trwyddedu
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Amlygodd y Cadeirydd y byddai gan bob parti hawl i
hyd at 10 munud i gyflwyno eu sylwadau
a)
Adroddiad yr Adran Trwyddedu
Cyflwynwyd
adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais gan yr Arolygydd Chris Hargrave
ar ran Heddlu Gogledd Cymru am adolygiad trwydded eiddo ar gyfer Y Waverley
Hotel, Bangor. Gwnaed y cais oherwydd
· methiant
cydymffurfio gydag amodau’r drwydded eiddo mewn perthynas ag amodau TCC
·
methiant gofyn am brawf oedran i unigolion sy’n
ymddangos i fod o dan 18
· methiant deilydd y
drwydded i gadw rheolaeth yng nghyd-destun yr argyfwng Covid -19.
Amlygwyd bod yr
Heddlu yn nodi pryderon gan y Cyhoedd am yr eiddo a’r diffygion rheolaeth.
Ategwyd bod deiseb ar lein yn gofyn am i’r eiddo gael
ei gau i lawr gyda ‘channoedd’ wedi arwyddo’r ddeiseb.
Adroddwyd bod yr
Heddlu wedi ystyried cynnig i ddeilydd y drwydded gyflwyno cais am Fân Amrywiad
o’r drwydded eiddo. Oherwydd yr amgylchiadau, a methiannau niferus deilydd y
drwydded i reoli’r sefyllfa, roedd yr Heddlu yn awyddus i gyflwyno’r cais i’r
Is- Bwyllgor er mwyn sicrhau adolygiad llawn gan argymell addasiadau i’r
drwydded.
Tynnwyd sylw at y
materion roedd yr Heddlu wedi eu hargymell i ddeilydd y drwydded. Adroddwyd bod
gohebiaeth wedi bod rhwng deilydd y drwydded, swyddog trwyddedu’r Heddlu, a’r
Cyngor oherwydd methiant i weithredu’r argymhellion - cafodd argymhelliad i
sicrhau fod goruchwylwyr drysau ar yr eiddo bob nos Wener a Nos Sadwrn ei
anwybyddu ar y cyfan. Dadleuwyd bod angen i hyn gael
ei gynnwys fel amod ar y drwydded er mwyn galluogi monitro cydymffurfiaeth.
Cyfeiriwyd at y
problemau a ganfuwyd yr Heddlu ynghyd a’r amodau trwyddedu a
argymhellwyd ganddynt ar gyfer eu cynnwys ar y drwydded eiddo
Tynnwyd sylw at yr
ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Nodwyd bod
Uned Gwarchod y
Cyhoedd, Swyddog Gorfodaeth Trwyddedu a’r Gwasanaeth Tân ac Achub wedi cyflwyno
sylwadau a chefnogaeth i’r adolygiad
Roedd yr Uned
Gwarchod y Cyhoedd yn amlygu cefnogaeth i’r adolygiad ar sail yr amcan
trwyddedu o ddiogelu’r cyhoedd ac atal niwsans cyhoeddus. Roedd pryderon gan y
Swyddog Gorfodaeth Trwyddedu am anwybyddu rheolau pellter cymdeithasol o dan
gyfyngiadau covid hefyd yn sail i gefnogi’r adolygiad. Roedd y Gwasanaeth Tân
wedi amlygu materion diogelwch tân oedd angen sylw deilydd y drwydded.
Nodwyd bod gan
Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei
gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol.
Argymhellwyd i’r
Is-bwyllgor ystyried a chaniatáu adolygiad o drwydded yr eiddo gan yr Heddlu
Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:
·
Rhoi
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr Trwyddedu
·
Gwahodd
yr Heddlu i ymhelaethu ar y cais
·
Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau
i'r Heddlu
·
Gwahodd
deilydd y drwydded neu gynrychiolydd i ymateb i’r sylwadau
·
Rhoi cyfle i’r ymgynghorai
gyflwyno eu sylwadau
·
Rhoi
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y drwydded a’r
ymgynghorai
b)
Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd yr Arolygydd ei fod
yn hapus gyda’r hyn oedd wedi ei gyflwyno.
Ategodd bod y system TCC yn un o ansawdd, ond
nad oedd yn cynnig gwelededd llawn o’r fynedfa nac ardaloedd o fewn y dafarn.
Nodwyd bod ambarelau ar fyrddau yn y maes parcio yn
creu rhwystr gan atal gwelededd clir. Awgrymodd y byddai’n fodlon trafod a rhoi
cyngor i ddeilydd y drwydded ar sut i wella’r ddarpariaeth TCC. Yng
nghyd-destun yfed dan oed, mynegodd yr Arolygydd mai prin iawn yw presenoldeb
cynrychiolydd y Waverley mewn cyfarfodydd Pubwatch. Nododd bod diffyg rheolaeth
gyffredinol o’r eiddo a’u bod yn awyddus i weld cydymffurfiaeth a threfn.
c)
Mewn ymateb i gwestiynau gan yr Is-bwyllgor am
gydymffurfio cyn y cyfnod clo, nododd yr Arolygydd bod cydymffurfiaeth gydag
oriau cau, ond bod pobl yn dueddol o fod yn araf yn ymadael â’r safle. Ategwyd
nad oedd cwynion wedi dod i law ynglŷn â diffygion cydymffurfiaeth oriau
cau
ch) Manteisiodd yr ymgynghorai oedd yn bresennol ar y cyfle i
ymhelaethu ar sylwadau a gyflwynwyd ganddynt drwy lythyr.
Dadleuodd y Cyfreithiwr
ar ran Ms Meek y canlynol:
·
Nad oedd digwyddiad difrifol wedi digwydd ar y
safle
·
Nad oedd digwyddiad wedi ei gyfeirio at y Llys yn
ystod 2020
·
Bod deilydd y drwydded wedi cydweithio gyda’r
Heddlu gan ddarparu recordiad TCC
·
Bod unigolyn trydydd parti yn achosi aflonyddwch i
Ms Meek a bod yr Heddlu yn ymwybodol o hynny
·
Cwestiynu bodolaeth y ddeiseb ac os oedd yr enwau
ar y ddeiseb yn rhai gwir ynteu ffug
·
Bod y TCC o ansawdd rhesymol
·
Bod defnydd o gardiau adnabod ffug yn broblem ym
Mangor
·
Bod deilydd y drwydded yn cynnig defnyddio
goruchwylwyr drysau ar adegau prysur yn unig
·
Bod enwau unigolion sydd wedi eu gwahardd gan
Pubwatch yn cael ei cylchredeg, ond dim lluniau
Ategodd Ms Meek
·
Ei bod yn cydymffurfio gydag oriau cau
·
Bod costau cyflogi goruchwylwyr yn ddrud
·
Bod llawer o’r cyhuddiadau yn ffug
·
Ei bod yn cydweithio gyda’r cyhoedd, yr Heddlu a’r
Cyngor i redeg busnes da
·
Nad oedd cerddoriaeth yn broblem - bod y
gerddoriaeth yn debygol o fod yn dod o gampfa gyfagos
·
Bod 4 deilydd trwydded i’r eiddo.
Swyddog Iechyd yr Amgylchedd,
·
Bod
rhybudd wedi ei osod ar yr eiddo yn dilyn tystiolaeth gafodd ei ryddhau gan yr
Heddlu o dor rheoliadau covid 19
·
Bod yr Uned yn parhau i roi cyngor i Ms Meek
ynglŷn â sicrhau diogelwch y cyhoedd
·
Bwriad yr Uned yw ymweld â’r eiddo i sicrhau
cydymffurfiaeth pan fydd cyfyngiadau covid yn caniatáu hynny
·
Bod yr Uned yn rhoi cefnogaeth i Ms Meek er mwyn
sicrhau llwyddiant y diwydiant
Swyddog Gorfodaeth Trwyddedu
·
Ei fod wedi ymweld â’r eiddo (16 Medi 2020) ar y
cyd gyda Swyddog Trwyddedu'r Heddlu yn dilyn cwynion am sŵn cerddoriaeth
uchel yn dod o’r eiddo yn ystod cyfnod cyfyngiad covid
·
Bod deilydd y drwydded yn teimlo’n rhwystredig gan
fod deilwyr trwydded eiddo ym Mangor Uchaf yn anfon pobl wedi eu gwahardd i lawr
i’r Waverley
·
Ei fod wedi cyferio cwynion am gyffuriau i’r Heddlu
·
Bod ymweliad arall ar 25ain o Fedi wedi amlygu nad
oedd Asesiad Risg Covid yn gyflawn
·
Ymweliadau pellach a gohebiaeth yn dilyn cwynion
ynghyd a thystiolaeth fideo oedd wedi ei rannu ar y cyfryngau cymdeithasol yn
dangos diffyg cydymffurfiaeth gyda rheolau pelau cymdeithasol covid
Cyfeiriwyd at y
sylwadau a dderbyniwyd gan y Gwasanaeth Tân
d)
Yn manteisio ar y cyfle i gloi ei achos, nododd yr
Arolygydd ei fod yn hapus gyda chynnwys yr adroddiad ysgrifenedig, bod yr
argymhellion yn glir a’i fod yn hapus i gydweithio gyda deilydd yr eiddo i
sicrhau gwelliannau arwyddocaol
dd) Ymneilltuodd yr Heddlu, deilydd y drwydded ynghyd a’i
chynrychiolydd cyfreithiol, y Rheolwr Trwyddedu, Swyddog yr Amgylchedd a’r
Swyddog Gorfodaeth Trwyddedu
o’r cyfarfod tra bu i
aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais
e) Wrth gyrraedd y
penderfyniad ystyriodd yr Is-bwyllgor adroddiad llafar yr Heddlu (gan gynnwys
tystiolaeth fideo a lluniau), sylwadau
ysgrifenedig a gyflwynwyd gan y partïon â diddordeb, adroddiad y Swyddog
Trwyddedu yn ogystal â sylwadau llafar a dderbyniwyd yn y gwrandawiad.
Ystyriwyd hefyd Polisi Trwyddedu’r Cyngor a chanllawiau’r Swyddfa Gartref.
Roedd yr holl ystyriaethau yn cael eu pwyso a’u mesur yn erbyn yr amcanion trwyddedu o dan y Ddeddf Trwyddedu
2003, sef:
i.
Atal trosedd ac anhrefn
ii.
Atal niwsans cyhoeddus
iii.
Sicrhau diogelwch
cyhoeddus
iv.
Gwarchod plant rhag niwed
PENDERFYNWYD caniatáu adolygiad i’r
drwydded gan ddiwygio
Atodiad 3 o’r drwydded fel a ganlyn.
TCC -
dileu pwynt 1 a nodi'r canlynol yn ei le:
“Bydd sustem TCC ddigidol
yn cael ei gosod a dylai’r Heddlu a’r Awdurdod Lleol fod yn fodlon gyda sut
mae’n gweithio, gan fonitro tu mewn a thu allan i’r eiddo. Er mwyn osgoi
amheuaeth, mae tu allan i’r eiddo yn cynnwys ond ddim yn gyfyngedig i faes
parcio'r eiddo ac ardaloedd eistedd tu allan.”
Goruchwylwyr Drysau
- dileu'r paragraff presennol a rhoi’r
canlynol yn ei le:
“Bydd yr eiddo yn cyflogi
lleiafswm o 2 goruchwyliwr drws wedi eu hachredu yn briodol gan yr Awdurdod
Diwydiant Diogelwch i fod ar yr eiddo bob nos Wener a nos Sadwrn o 18:00 tan 30
munud yn dilyn awr derfynol agor i’r cyhoedd. Bydd y gofyniad hwn hefyd yn
berthnasol ar gyfer unrhyw ddigwyddiadau wedi eu trefnu lle rhagwelir y bydd
nifer uwch o gwsmeriaid yn mynychu’r lleoliad.”
Mewnosod adran ‘Her 25’
1. Bydd yr eiddo yn mabwysiadu a
gweithredu polisi Her 25, lle bydd gofyn i gwsmeriaid sydd yn ymddangos i fod o
dan 25 mlwydd oed brofi eu hoedran wrth brynu alcohol, fel arall rhaid gwrthod
y gwerthiant.
2. Bydd dulliau derbyniol o brawf adnabod
yn cynnwys pasbort, cerdyn trwydded yrru gyfredol neu brawf adnabod arall fel y
darperir gan yr Awdurdod Trwyddedu yn ei Bolisi Trwyddedu.
3. Bydd yr
eiddo yn gosod arwyddion yn dwyn sylw cwsmeriaid i’r polisi Her 25
4. Bydd yr
eiddo yn hyfforddi pob staff perthnasol ar y polisi ac yn cadw cofnod
ysgrifenedig o’r hyfforddiant hwnnw.
5. Bydd yr
eiddo yn cadw cofnod ysgrifenedig o werthiannau a wrthodwyd mewn llyfr
gwrthodiadau.
6. Bydd y
cofnodion ysgrifenedig hyn ar gael ar gyfer archwilio ar gais gan Awdurdod
Cyfrifol.”
Noder bod mwyafrif o
argymhellion yr Heddlu parthed TCC eisoes mewn grym yn Atodiad 3 o’r drwydded
bresennol.
Ni
ychwanegwyd amodau, rhybuddion na gorchmynion mewn perthynas â chydymffurfiaeth
rheoliadau COVID-19 oherwydd bod fframwaith cyfreithiol arwahan yn berthnasol
ar gyfer gorfodi'r darpariaethau hyn.
Ni ychwanegwyd amodau o ran
diogelwch tân, gan fod fframwaith cyfreithiol arwahan yn berthnasol ar gyfer
gorfodi safonau diogelwch tân.
Diolchwyd i bawb
am gyflwyno sylwadau ar y cais.
Rhoddodd yr
Is-bwyllgor ystyriaeth briodol i’r holl sylwadau.
Cyflwynodd yr
Heddlu gais am adolygiad yn fras ar 3 sail:
1. Methiant yr eiddo i gydymffurfio gydag
amod gorfodol Atodiad 1, paragraff 3 o’r drwydded bresennol (mewn perthynas â
mabwysiadu polisi gwirio oedran)
2. Methiant yr eiddo i gydymffurfio gydag
amodau yn Atodiad 3 o’r drwydded bresennol (yn ymwneud â TCC)
3. Methiant cyffredinol yr eiddo i gynnal
tŷ tafarn trefnus
I gefnogi’r sail
yfed dan oed, honnodd yr Heddlu bod alcohol wedi ei weini i o leiaf 2 unigolyn
o dan 18 oed ar 19 Medi 2020. Arhosodd yr unigolion ar yr eiddo am gyfanswm
oriau o 21 awr. Dangoswyd yr Heddlu glip TCC fel tystiolaeth ar gyfer y
digwyddiadau hyn.
I gefnogi’r sail
TCC, dywedodd yr Heddlu bod llawer o ardaloedd heb eu goruchwylio’n briodol.
Nodwyd absenoldeb y maes parcio a’r ardal eistedd tu
allan, a oedd wedi eu cuddio gan ambarelau. Daeth y methiannau hyn i’r amlwg
pan wnaed cais i weld clip TCC, yn dilyn digwyddiad o ymosodiad difrifol ar 19
Medi 2020. Ni chafwyd recordiad ohono oherwydd diffyg darpariaeth TCC priodol.
Ar gyfer y sail
trefn gyhoeddus, honnodd yr Heddlu bod sawl digwyddiad o fethiant gan yr eiddo:
(i) Ar 19 Medi 2020 cafodd 2 unigolyn oedd
yn destun gwaharddiad Pubwatch ar y pryd eu gweini gan yr eiddo. Adnabuwyd yr
unigolion dan sylw mewn clip TCC.
(ii) Ar 19 Medi 2020 bu sawl toriad o
gyfyngiadau Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2)
(Cymru) 2020 fel y dangoswyd mewn clipiau TCC. Arweiniodd hyn at gyhoeddi
rhybudd gwella eiddo ar 23 Hydref 2020 gan Iechyd Amgylcheddol Cyngor Gwynedd,
oedd yn cynnwys:
·
methiant i ymlynu at ymbellhau cymdeithasol 2m, fel
y tystiolaethwyd gan ddeilydd y drwydded yn cofleidio pobl yn rheolaidd ac yn
cymdeithasu â gwahanol bobl yn ardal y bar;
·
methiant i gydymffurfio â chanllawiau yn ymwneud â
6 fesul bwrdd o’r un aelwyd, fel y tystiolaethwyd gan ddeilydd y drwydded ei
hun yn eistedd wrth fwrdd gyda 10 o bobl;
·
cwsmeriaid yn ciwio wrth far prysur heb unrhyw
gyfyngiad ar niferoedd nag ymbellhau cymdeithasol;
·
dim tystiolaeth o olchi dwylo/defnydd o ddiheintydd
gan gwsmeriaid neu staff;
·
dim tystiolaeth o wybodaeth profi ac olrhain;
·
gosodiad y byrddau ddim yn cyd-fynd ag ymbellhau
cymdeithasol;
·
staff ddim yn gwisgo masgiau
·
cwsmeriaid ddim yn gwisgo
masgiau wrth symud o gwmpas y dafarn tan yn eistedd wrth fwrdd a neilltuwyd
iddynt.
iii) Bu digwyddiadau o gwffio/ymddygiad
afreolus ar 16 Awst 2020 (gan gynnwys 20+ o bobl), 16 Medi 2020 (ffrae rhwng 2
ddyn) a 19 Medi 2020 (pobl yn cwffio tu allan).
Ystyriwyd sylwadau
Swyddog Gorfodaeth Trwyddedu oedd yn
cadarnhau rhwng 23 Medi 2020 a 15 Hydref 2020 bu iddo dderbyn negeseuon oddi
wrth aelodau’r cyhoedd yn honni camddefnydd cyffuriau ar yr eiddo, yn ogystal â
gweld postiadau cyfryngau cymdeithasol yn datgelu diffyg cydymffurfiaeth â
gofynion ymbellhau cymdeithasol ac yfed dan oed.
Yn ogystal,
darparwyd sylwadau oddi wrth Swyddog Iechyd Amgylcheddol yn manylu ar y camau
gorfodaeth a gyflwynwyd gan y gwasanaeth mewn perthynas â’r eiddo ynglŷn
â’r rheoliadau COVID-19.
Mewn ymateb,
honodd Ms Meek (deilydd y drwydded eiddo) drwy ei chyfreithiwr (Mr Strain) mewn
perthynas â’r yfed dan oed, bod yr eiddo wedi dioddef o’r defnydd o gardiau
adnabod ffug. Mewn perthynas â’r sail TCC dywedodd deilydd y drwydded bod y
ddarpariaeth yn briodol, ond y byddai gwelliannau yn cael eu gwneud. O ran y
sail trefn gyhoeddus, honnodd deilydd y drwydded y byddai eiddo trwyddedig
eraill ym Mangor Uchaf yn gyrru cwsmeriaid trafferthus at ei heiddo hi, ond
derbyniodd hefyd na ddylai’r digwyddiadau fod wedi
digwydd.
O bwyso a mesur,
roedd yr Is-bwyllgor yn canfod bod yr oll seiliau y dibynwyd arnynt gan yr
Heddlu dros gynnal adolygiad wedi cael eu profi. Roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon
bod y digwyddiadau o yfed dan oed yn torri’r amcan trwyddedu o ddiogelu plant
rhag niwed. Roedd diffyg ymlyniad o ran TCC yn cynrychioli torri pob un o’r pedwar amcan trwyddedu, tra bo’r holl ddigwyddiadau o
dan y sail trefn gyhoeddus (gyda’i gilydd ac yn unigol) yn torri’r amcanion
trwyddedu o atal trosedd ac anhrefn a sicrhau diogelwch cyhoeddus.
Tra bo’r
Is-bwyllgor yn nodi bod deilydd y drwydded wedi derbyn na
ddylai’r digwyddiadau trefn gyhoeddus fod wedi digwydd, nid oedd wedi ei
berswadio na chael argraff dda gan yr honiad bod problemau’r eiddo o ganlyniad
i eiddo ym Mangor Uchaf yn annog cwsmeriaid digroeso i fynychu’r Waverley. Ni
chyflwynwyd tystiolaeth a hyd yn oed petai’r honiad yn wir, buasai’n
amherthnasol: mae cyfrifoldeb dros reolaeth yr eiddo
yn gorwedd yn llwyr gyda deilydd y drwydded.
Nododd yr
Is-bwyllgor y bu cyfeiriad at ddeiseb a oedd yn ôl pob sôn wedi ei lofnodi gan
2500 o unigolion, yn galw am gau yr eiddo i lawr. Nid yw’n glir pam bu
cyfeiriad at y ddeiseb gan nad oedd yn ffurfio rhan o
achos yr Heddlu. Ni ddarparwyd copi o’r
ddeiseb. Adroddwyd bod rhaid i benderfyniad yr Is-bwyllgor fod yn seiliedig ar
dystiolaeth i ddigwyddiadau penodol oedd yn tanseilio’r amcanion trwyddedu ac
er y nodwyd bodolaeth y ddeiseb, nid oedd hynny ynddo’i hun yn darparu
tystiolaeth o ddigwyddiadau unigol. O dan yr amgylchiadau, ni
fu i’r Is-bwyllgor ystyried y ddeiseb at ddibenion cyrraedd penderfyniad.
O dan yr
amgylchiadau, roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon bod cynnwys yr amodau ychwanegol
fel yr amlinellwyd uchod ar y drwydded yn ddymunol ar gyfer hyrwyddo’r
amcanion trwyddedu. Roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon bod y cais yn gydnaws â’r
pedwar amcan trwyddedu, a chaniatawyd y cais am adolygiad.
Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad
yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i bawb oedd yn bresennol. Ategwyd
bod gan bob parti i’r cais yr hawl i gyflwyno apêl yn Llys Ynadon Caernarfon yn
erbyn penderfyniad yr Is-bwyllgor. Dylid cyfeirio unrhyw apêl o’r fath drwy roi
rhybudd o apêl i’r Prif Weithredwr, Llys Ynadon Llandudno, Llandudno, o fewn
cyfnod o 21 diwrnod gan gychwyn â’r dyddiad y bydd yr apelydd yn derbyn llythyr (neu gopi ohono) yn cadarnhau’r
penderfyniad.
Dogfennau ategol: