Cyflwynwyd gan:Cyng. Dilwyn Morgan
Penderfyniad:
Derbyniwyd yr adroddiad ar waith y Panel Strategol Diogelu
Plant ac Oedolion.
COFNODION:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dilwyn
Morgan
PENDERFYNIAD
Derbyniwyd yr adroddiad ar waith y Panel Strategol Diogelu Plant ac
Oedolion.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi mai pwrpas
yr adroddiad oedd rhoi ddiweddariad ar waith y Panel Strategol Diogel.
Pwysleisiwyd fod diogelu yn flaenoriaeth i bawb o fewn y sir a'i fod wedi ei
amlygu yn ystod y cyfnod covid-19.
Mynegwyd fod yr adroddiad yn crynhoi gwaith
y panel, gyda chyfeiriadau at adroddiadau archwiliwr allanol ac Adroddiad
Blynyddol y Cyfarwyddwr Corfforaethol am y cyfnod o ddwy flynedd. Mynegwyd er
bod yr adroddiad wedi llithro ond nad yw hyn adlewyrchiad o waith y panel yn
ystod y cyfnod.
Bu i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol ymddiheuro
fod yr adroddiad yn hwyr yn cyrraedd, ond mynegwyd fod yr adroddiad yn un
cynhwysfawr. Mynegwyd fod oedi byr iawn cyn cyfarfod ar ddechrau’r pandemig ond amlygwyd y bu i’r panel gyfarfod drwy gydol y
flwyddyn ddiwethaf, a bod hyn wedi amlygu fod diogelu yn flaenoriaeth o fewn y
Cyngor. Diolchwyd am ymrwymiad pawb i’r maes.
Tynnwyd sylw ar effaith y pandemig ar ddiogelu gan amlygu fod y nifer y cyfeiriadau
wedi lleihau am gyfnod ond fod y
niferoedd yn cynyddu fel oedd elfennau o’r pandemig
yn addasu. Mynegwyd ei bod yn galonogol fod y tueddiadau yma yn gyson gyda'r
darlun a welwyd ar draws Cymru, a bod trafodaethau cenedlaethol a rhanbarthol
yn parhau i edrych ar y tueddiadau yma.
Nodwyd o ran y rhaglen waith fod cynnydd
wedi ei wneud. Tynnwyd sylw at y gwaith da o godi ymwybyddiaeth sydd yn cael ei
wneud yn barhaus, ond mynegwyd fod data hyfforddiant yn parhau i fod yn bryder
gan nad yw’r ffigyrau nifer o staff y cyngor yn mynychu hyfforddiant yn 100%.
Ychwanegwyd fod y panel yn edrych ar y ffordd orau o rannu’r wybodaeth gyda
staff. Amlygwyd y gwaith sydd yn cael ei wneud mewn partneriaeth yn rhanbarthol
ac yn genedlaethol. Mynegwyd bellach fod
y panel yn fewnol wedi cyfuno diogelwch cymunedol o fewn y Panel Diogelu.
Tynnwyd sylw ar y cynnydd mewn nifer o rieni
yn penderfynu addysgu eu plant o’r cartref gan amlygu nad oes canllawiau
diogelwch ar yn lle ar gyfer y plant yma. Amlygwyd yr angen i edych ymhellach i
mewn i’r mater.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth
¾
Holwyd
o ran nifer plant yn cael eu haddysgu
o’r cartref a’r rhesymeg dros y cynnydd. Mynegwyd angen gofyn i’r Pennaeth
Addysg am y rhesymeg tu ôl i’r penderfyniadau ond nodwyd fod gweithdrefnau yn
eu lle er mwyn gwneud cyswllt gyda’r unigolion sydd yn dewis addysgu o’r
cartref.
¾
Mynegwyd
fod cyfradd trais yn y cartref yn isel yn benodol ar ôl y cyfnod clo. Amlygwyd
pryder am y maes a bod swyddogion arbennig o fewn y maes yn gweithio yn agos
gyda phenaethiaid i geisio gwneud popeth mor syml â phosib i’r unigolion sydd
wir angen cymorth. Ychwanegwyd fod disgwyliad i’r niferoedd godi yn dilyn y pandemig ac y bydd angen creu asesiad anghenion poblogaeth
yn dilyn y cyfnod.
¾ Diolchwyd i’r staff am eu gwaith yn ystod y pandemig..
Awdur:Morwena Edwards
Dogfennau ategol: