Cais i estynnu'r adeilad cartref nyrsio a maes parcio
ynghyd a chadarnhau lleoliad presennol uned biomass
AELOD LLEOL: Cynghorydd Eirwyn Williams
Penderfyniad:
Caniatáu
Amodau:
COFNODION:
Tynnwyd
sylw at y ffurflen sylwadau hwyr.
a) Amlygodd
y Rheolwr Cynllunio bod y safle wedi ei leoli mewn lleoliad canolog o fewn Tref
Cricieth gyda’r
adeilad presennol eisoes wedi ei ymestyn yn sylweddol ac yn cael ei ddefnyddio
fel cartref nyrsio. Eglurwyd bod y prif estyniad bwriedig yn mesur 28m wrth 16m
ar ei fwyaf, 7.9m o uchder i’r crib a 5m o uchder i’r bondo; wedi ei leoli ar
ran o’r safle sy’n is na’r briffordd a’r rhan blaen yr adeilad. Byddai’n darparu
11 ystafell wely ynghyd ac ystafelloedd staff/nyrs cysylltiol ar y llawr
gwaelod a 9 ystafell ychwanegol ar y llawr cyntaf
ynghyd a derbynfa ac ystafelloedd eraill cysylltiol. Ategwyd bod y bwriad
hefyd yn golygu ymestyn y maes parcio presennol i ran o dir gwyrdd sydd wedi ei
leoli drws nesaf i’r safle i ddarparu 14 llecyn parcio ynghyd a llecyn ar gyfer
yr anabl. Y bwriad yw cadw gweddill y tir gwyrdd ar gyfer bywyd gwyllt.
Tra
bod Polisi TAI 11 yn ymwneud a cheisiadau ar gyfer datblygu Cartrefi Gofal preswyl
/ychwanegol / arbenigol o’r newydd, ystyriwyd egwyddorion a meini prawf y
Polisi gyda’r cais. Eglurwyd bod maen prawf (1) o’r Polisi yn cyfeirio tuag at
y ffaith fod y bwriad wedi ei leoli o fewn ffin datblygu Canolfan Isranbarthol,
Trefol neu Leol. Nodwyd bod Cricieth wedi ei adnabod fel Canolfan Wasanaeth
Lleol yn y Cynllun. Yn ogystal, mae maen prawf (4) yn
cyfeirio at yr angen i sicrhau na fydd y bwriad yn arwain at orddarpariaeth o
lety gofal o gymharu ag anghenion yr ardal leol. Adroddwyd bod Gwasanaeth Cymdeithasol Cyngor Gwynedd
wedi cadarnhau bod prinder cartrefi yng Ngwynedd sy’n gallu darparu gofal
nyrsio, yn benodol gofal nyrsio dementia. Ategwyd ,
fel comisiynwyr, eu bod yn falch o weld cartref sydd yn cynnig y math yma o
ofal ac yn un sydd yn edrych i ddatblygu a chynyddu capasiti i’r dyfodol.
Yng nghyd-destun
yr ardal agored, nodwyd bod pwysigrwydd i’r ardal agored yma yng nghanol tref
Criccieth, a’r golygfeydd allan dros y safle tua’r
arfordir, wedi ei amlygu ym mhenderfyniadau cynllunio ar /ger y safle yn y
gorffennol. Mynegwyd bod yr ardal wedi ei gwarchod fel llecyn agored o dan y
Cynllun Datblygu Unedol ond nad oedd ganddo'r un
warchodaeth ffurfiol o dan y Cynllun Datblygu Lleol cyfredol. Eglurwyd bod y
term ‘man agored’, a gynhwysir ym mholisi ISA 4, yn cynnwys mannau gwyrdd
amwynder, rhandiroedd, parciau a gerddi cyhoeddus, cyfleusterau chwaraeon awyr
agored a darpariaeth chwarae i blant a phobl ifanc fel y disgrifir o fewn Nodyn
Cyngor Technegol 16: Chwaraeon, Hamdden a Mannau Agored. Ystyriwyd bod yr ardal agored yma yn fan gwyrdd
amwynder a bod gofynion polisi ISA 4 yn berthnasol i’r bwriad. Ategwyd bod y
polisi yn gwrthod cynigion fyddai’n arwain at golli llecynnau agored presennol oni
bai fod y bwriad yn cydymffurfio gyda’r meini prawf. Nodwyd bod yr ‘ardal
agored’ dan sylw yn dir preifat ac nad oedd mynediad
i’r cyhoedd iddo.
Yng nghyd-destun
mwynderau gweledol, cyffredinol a phreswyl, nodwyd bod yr estyniadau bwriedig yn eithaf sylweddol, ond
wedi ei leoli ar lefel islaw na’r adeilad presennol ac o faint deulawr ac
unllawr yn unig. Oherwydd maint presennol y safle a’i leoliad ynghyd a maint a
dyluniad y bwriad, ni ystyriwyd y byddai’r estyniadau
yn ymddangos yn ormesol o’i gymharu â’r adeilad presennol. Ni ystyriwyd y
byddai’r bwriad yn gyfystyr a gorddatblygiad o’r safle oherwydd bod y cynllun
lleoliad yn dangos bod llefydd gwag o gwmpas yr adeilad. Cyfeiriwyd at leoliad
y tai agosaf i’r safle (Teras Mona) sydd wedi eu
lleoli ar draws trac cul i ffin y safle ble bwriedir gosod estyniad unllawr yn
unig.
Amlygwyd
bod y bwriad yn cynnwys materion yn ymwneud a’r boiler biomas sydd wedi ei
leoli ar y safle gyda chynlluniau wedi eu cyflwyno i gadarnhau lleoliad y
boiler gan gydnabod nad oes caniatâd cynllunio yn
bodoli ar gyfer y sefyllfa bresennol. Nodwyd bod pryderon wedi eu hamlygu gan y cyhoedd
ynglŷn â llygredd yn deillio o’r boiler a’r effaith weledol. Ategwyd bod
Uned Gwarchod y Cyhoedd wedi cadarnhau fod y math o foiler a gynigir yn addas
ar gyfer ardal breswyl a mynegwyd bod amod tirweddu wedi ei gynnwys ar gyfer
lleddfu’n rhannol unrhyw effaith weledol.
Adroddwyd
bod nifer o sylwadau wedi eu derbyn ynghylch a’r sŵn sy’n deillio o’r
cartref presennol ynghyd ac achosion o ymddygiad anghymdeithasol ar adegau.
Mynegwyd bod y cartref
nyrsio yn bodoli’n bresennol gyda mesurau sydd yn ymdrin â materion niwsans
cyhoeddus tu hwnt i reolaeth cynllunio. Er bod y safle
wedi ei leoli o fewn ardal brysur o Griccieth, ni ystyriwyd y byddai’r bwriad
gerbron yn debygol o gael effaith sylweddol fwy ar fwynderau’r trigolion lleol
o ran ymddygiad anghymdeithasol. Ategwyd bod asiant y cais wedi cadarnhau
bwriad i ddarparu unedau awyru o fewn yr ystafelloedd fyddai’n golygu na fyddai angen agor ffenestri yn yr haf / yn y nos. Byddai
hyn yn lleihau’r effaith sŵn ac yn unol â dymuniad Uned Gwarchod y
Cyhoedd, byddai angen cytuno ar fanylion y ddarpariaeth drwy amod cynllunio
briodol.
Adroddwyd bod
nifer o wrthwynebiadau wedi eu derbyn gan y cyhoedd ynglŷn â’r sefyllfa
parcio bresennol ynghyd a phryderon ynglŷn â’r sefyllfa parcio i’r dyfodol
o ganlyniad i’r estyniad. Amlygwyd bod y bwriad yn cynnig estyniad i’r maes parcio gyda’r Uned Drafnidiaeth yn cadarnhau fod y
ddarpariaeth yn cyrraedd gofynion parcio statudol. Roedd yr Uned Drafnidiaeth
hefyd yn nodi bod
darpariaeth ar gael ar y stryd ac mewn meysydd parcio cyhoeddus fyddai'n
ddigonol ar gyfer delio gyda threfn parcio sy’n deillio o’r datblygiad.
Derbyniwyd cadarnhad
gan yr Uned Bioamrywiaeth bod y bwriad yn dderbyniol yn ddarostyngedig i amodau
cynllunio i sicrhau fod y mesuriadau lliniaru sydd yn cael eu cynnig yn cael eu
gweithredu. Derbyniwyd cadarnhad bod materion archeolegol a hanesyddol hefyd yn
dderbyniol.
Yng nghyd-destun
materion iaith, gan fod y cais yn gais Pwyllgor, mae’r CCA Cynnal a Chreu
Cymunedau Nodedig a Chynaliadwy yn gofyn i ymgeiswyr/asiantwyr ddarparu
datganiad i egluro sut mae’r bwriad yn rhoi ystyriaeth i’r iaith. Adroddwyd bod
datganiad iaith wedi derbyn sylw gan yr Uned Hunaniaeth oedd wedi cadarnhau fod
effaith y datblygiad yn gadarnhaol.
O ystyried yr holl faterion cynllunio perthnasol, gan
gynnwys polisïau a chanllawiau perthnasol, ystyriwyd fod y bwriad i ymestyn y
cartref presennol yn dderbyniol ac yn cydymffurfio gyda gofynion polisïau.
b)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd
gwrthwynebydd i’r cais y pwyntiau canlynol:
·
Ei
fod yn siarad ar ran nifer o drigolion
o’r ardal sy’n gwrthwynebu’n gryf i’r cais
·
Nad oedd digon o le ar y safle i geir ymwelwyr a staff, parcio ambiwlans,
cerbydau nwyddau a lorïau sbwriel sy’n galw. O ganlyniad mae cerbydau’r Pines
yn parcio ym mhobman ar y priffyrdd cyfagos gan greu dryswch a pherygl ger y
fynedfa i’r safle - byddai ehangu’r Cartref yn gwaethygu’r problemau yma
·
Bod
nifer o finiau gwastraff a sgip fawr ar y maes parcio.
·
Yn ôl safonau parcio cenedlaethol CSS
Cymru, nid yw’r ddarpariaeth a fwriedir (14 lle i ymwelwyr a 2 i staff) yn ddigonol. Mae
angen 15 lle i ymwelwyr a 19 i staff ynghyd a lle i’r biniau sbwriel,
i’r lorïau sbwriel a cherbydau nwyddau ddadlwytho a throi’n ôl. Nid yw’r gofod
yn y maes parcio newydd yn ddigonol.
·
Byddai’r
bwriad yn cael effaith ar yr Ardal Gadwraeth Cricieth.
·
Buasai’r
maes parcio newydd yn ymwthio i lecyn agored yn yr Ardal a buasai’r parcio, y
compownd biniau a’r sgip yn edrych fel iard sbwriel gan amharu’n fawr ar
gymeriad yr Ardal ac ar y golygfeydd arbennig oddi yno.
·
Bod y sied boiler wedi ei hadeiladu o
ddalennau metel gyda chorn simdde mawr ddur - defnyddiau sy’n hollol anaddas
mewn Ardal Gadwraeth.
·
O dan y Ddeddf mae gan y Cyngor Lleol
ddyletswydd ffurfiol i ddiogelu a gwella
cymeriad a golwg Ardaloedd Cadwraeth - byddai caniatáu'r estyniad yn amharu ar
yr ardal
·
Nid yw boiler masnachol biomas yn addas i’w
leoli mewn ardal breswyl nac wrth ymyl Cartref Nyrsio gan fod sŵn hymio
cyson yn dod ohono a llwch du mân yn dod allan o’r
simdde a gorchuddio popeth yn y cyffiniau.
·
Bod astudiaeth gan Lywodraeth Prydain yn
dweud fod boiler biomass yn creu 13.5% mwy o lygredd na boiler olew a 300 gwaith mwy na boiler nwy. Honnir bod y gronynnau
llygredig bychain o foiler biomas yn medru mynd i mewn i ffrwd gwaed ac organau
pobl gan greu peryglon tymor hir i’w hiechyd a chael effaith ar anadlu a chreu
problemau asthma.
·
Bod
Llywodraeth Cymru’n disgwyl y bydd Awdurdodau Cynllunio yn cymryd llygredd aer
yn ddifrifol wrth ystyried ceisiadau cynllunio ac os nad yw’n bosib lliniaru’r
llygredd, dylai’r datblygiad gael ei wrthod.
·
Bod
yn bwysig i’r Pwyllgor ystyried y rhesymau gwrthwynebu hyn, ynghyd ag eraill
sydd wedi cael eu manylu’n llawn yn y rhaglen cyn dod i benderfyniad.
c)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr
ymgeisydd y pwyntiau canlynol:
·
Bod y cwmni yn gweithredu dau gartref sy'n
darparu gofal nyrsio arbenigol 24 awr i unigolion sy'n byw gyda Dementia. Mae
Cartref Porthmadog a Chartref Criccieth yn gweithredu hyd eithaf eu gallu ac yn
aml mae argaeledd gwelyau yn gyfyngedig oherwydd y
galw sylweddol.
·
Bod y cartrefi yn darparu 84 gwely gofal
nyrsio dementia arbenigol ar gyfer
Dwyfor a Meirionydd (poblogaeth o 62,000)
·
Dros y 3 blynedd diwethaf mae Cartref Criccieth wedi cynnal rhestr aros o hyd at 10
unigolyn sydd angen lleoliad preswyl, ond ers i Gartref Pwyliaid Penrhos, ger
Llanbedrog gau yn ddiweddar, bod y rhestr aros wedi dyblu.
·
Disgwylir y bydd nifer unigolion sydd
angen gofal preswyl nyrsio yn dyblu dros y blynyddoedd i ddod. Y bwriad yw i’r
cartref yng Nghriccieth, ddarparu 20 gwely nyrsio ychwanegol fydd yn cwrdd â'r galw.
·
Bod cael cartref nyrsio arbenigol yng Nghriccieth
yn adnodd cymunedol hanfodol sydd yn caniatáu i deuluoedd fod yn agos at eu
hanwyliaid
·
Ar hyn o bryd Cartref Criccieth yn cyflogi
55 o staff. Bydd yr estyniad arfaethedig yn creu 21 o swyddi llawn amser ychwanegol
fydd yn cynnwys 15 Cynorthwyydd Gofal Iechyd, Arbenigwr Gofal Dementia a Swyddi
Nyrsio Cofrestredig
·
Eu
bod yn ceisio staff sy'n siarad Cymraeg i gefnogi’r preswylwyr. Bod 67% o'r
staff presennol yn siarad Cymraeg iaith gyntaf
- yn falch eu bod yn cymryd agwedd ragweithiol i sicrhau bod iaith yn
rhan annatod o ofal
·
Ymateb
i'r pryderon a godwyd gan y gymuned yn ystod y broses ymgynghori, yng nghyd-destun sŵn yn
cario o’r cartref wedi eu cydnabod
·
Eu
bod yn bwriadu gosod system awyru a gosod lifft pwrpas dwbl newydd sydd wedi'i
gynllunio ar gyfer cyfleusterau meddygol.
·
Wrth
gymeradwyo'r cais, bydd hyn yn galluogi i’r tîm rheoli baratoi a moderneiddio'r
cartref ar gyfer y dyfodol
·
Eu bod yn darparu adnodd cymunedol
angenrheidiol, yn gyflogwr lleol allweddol a phwysig, ac yn chwarae rhan
hanfodol yn economi gofal iechyd Gogledd Cymru.
ch) Yn manteisio ar yr hawl i
siarad nododd yr Aelod Lleol y pwyntiau canlynol:
·
Ei fod yn
gwrthwynebu’r cais
·
Ei fod yn ystyried y
bwriad yn orddatblygiad o’r safle
·
Y bwriad wedi ei leoli o fewn safle cadwraeth
·
Byddai’r bwriad yn amharu ar fwynderau trigolion cyfagos
·
Nad oedd y safle yn addas ar gyfer y cais
d) Cynigiwyd
ac eiliwyd i ganiatáu’r cais
dd) Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau
canlynol gan aelodau:
·
Bod gwir
angen y ddarpariaeth yn y Sir
·
Bod y boblogaeth yn heneiddio ac felly angen gofal
demtia o ansawdd
·
Croesawu swyddi newydd yn yr ardal
·
Nad yw’r datblygiad yn ymddangos yn ymwthiol
·
Angen mwy o ymdrech i gynyddu'r nifer o weithwyr
Cymraeg
·
Bod y bwriad yn cyfarch materion polisi – dim sail i
wrthwynebu
e) Mewn
ymateb i bryderon am drefniadau ar gyfer biniau a lorïau nwyddau, nodwyd bod y
swyddogion wedi ymgynghori gyda’r Uned Gwastraff ond nad
oedd ymateb wedi ei dderbyn. Tynnwyd sylw at amod 11 - yr angen am gynllun
gwastraff
f) Mewn
ymateb i bryderon am y sefyllfa parcio nododd yr Uwch Beiriannydd Rheolaeth
Datblygu bod ymateb i’r pryderon parcio wedi ei nodi ar dudalen 38 o’r rhaglen.
Ategodd bod y ddarpariaeth, o ystyried yr holl ffactorau, yn cynnig balans teg
ff) Mewn
ymateb i bryderon am amod 7 - Ni chaniateir ffenestri sy’n agor ar yr
estyniad sy’n destun y caniatâd yma, nodwyd bod hwn wedi ei gynnwys fel
ymateb uniongyrchol i bryderon lleol. Yn dilyn ymgynghori gydag Uned Gwarchod y
Cyhoedd, amlygwyd eu bod wedi awgrymu’r amod mewn ymateb i gwynion a
dderbyniwyd ynglŷn â sŵn gan y cleifion
g) Mewn
ymateb i awgrym i ystyried boiler gwahanol i un biomas
oherwydd pryderon am yr allyriadau, amlygodd y Cyfieithwr mai lleoliad yr uned
biomas cyfredol oedd dan sylw. Cyfeiriwyd at sylwadau Gwarchod y Cyhoedd
ynglŷn â’r uned biomas. Petai angen ystyried boiler gwahanol, buasai rhaid
cyflwyno cais diwygiedig. Nid oedd unrhyw reswm cynllunio dros wrthod ail
leoli’r uned biomas.
PENDERFYNWYD:
Caniatáu y cais
Amodau:
1.
5 mlynedd
2.
Unol a’r cynlluniau ac adroddiadau
3.
Llechi
4.
Gorffeniad allanol
5.
Amodau dwr Cymru
6.
Cytuno manylion a lleoliad uned(au) awyru allanol cyn
eu gosod
7.
Ni chaniateir ffenestri sy’n agor ar yr estyniad sy’n
destun y caniatâd yma
8.
Amod sŵn - cyfraddiad
sŵn 25 rhwng 2300 - 0700 ac 35 ar unrhyw adeg arall
9.
Amodau archeolegol
10. Tirweddu
11. Cynllun
gwastraff
12. Parcio
i’w gwblhau yn unol gyda’r manylion a gymeradwyir ac yn gwbl weithredol cyn dod
a’r adeilad i ddefnydd
13. Math
o biomas boiler / ffliw
14. Cynllun
gwastraff i’w weithredu yn unol â’r manylion cymeradwyedig
Dogfennau ategol: