Agenda item

I drafod adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau.

Penderfyniad:

Derbyn cynnwys yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.

 

Cofnod:

Rhoddwyd diweddariad ar faterion rheolaethol yr harbwr gan y Uwch Swyddog Harbyrau gan bwysleisio bod y pandemig wedi cael effaith ar ffigyrau ar bob harbwr yng Ngwynedd. Ategwyd hyn gan y Cadeirydd.

 

Parhaodd i ddiweddaru’r aelodau’r Pwyllgor ar y pwyntiau canlynol:

 

-        Adroddwyd ar yr angorfeydd blynyddol a’r lleihad a welwyd y flwyddyn 2020 sef bod 47 o gychod o gymharu â 68 yn 2019. Rhagdybiwyd bod llawer o bobl wedi penderfynu peidio defnyddio eu cychod yn ystod y cyfnod hwn.

-        Adroddwyd ar y niferoedd o gychod a chychod dwr personol y cofrestrwyd gan nodi bod cynnydd wedi bod yn niferoedd cychod dwr personol.

-       Cyfeiriwyd at yr adroddiad gan nodi bod yr holl ystadegau perthnasol wedi eu nodi fan hyn, a chroesawyd cwestiynau ar y rhain.

 

Trafodwyd y Cod Diogelwch Morwrol a gofynnwyd i’r aelodau i roi gwybod i’r Gwasanaeth os bydd unrhyw sylwadau ynghylch hyn. Parhawyd i drafod sefyllfa staff yr harbwr, gan ddiolch iddynt am eu gwaith dros y cyfnod clog. Nodwyd eu bod wedi parhau i weithio drwy gydol y pandemig er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd ag diogelwch yr harbwr.

 

Mewn perthynas ag sefyllfa rheoliadau Covid-19, nodwyd bod arwyddion o amgylch yr harbwr wedi eu gosod i helpu gyda chydymffurfiad ac i sicrhau iechyd staff.

 

Croeswyd yr Harbwrfeistr Cynorthwyol ar ei benodiad ar gytundeb parhaol erbyn hyn. Parhawyd i nodi bod ei gyfraniad wedi bod yn allweddol i gynorthwyo’r Harbwrfeistr dros y cyfnod anodd hwn. Ar ben y penodiad hwn, nododd yr Uwch Swyddog Harbyrau bod bwriad i benodi 2 swyddog traeth eleni gan eu bod yn rhagweld y bydd llawer iawn o bobl yno dros yr haf eleni.

 

Mewn perthynas â materion ariannol, nodwyd nad oedd ffigyrau cyfredol ar gael gan yr uned cyllid hyd hyn, fodd bynnag sicrhawyd y bydd y rhain ar gael i Aelodau yn fuan. Diweddarwyd ar y sefyllfa ariannol gan nodi bod incwm yn ddifrifol o ganlyniad i niferoedd llai o gychod a rhagwelid y bydd ansicrwydd teithio yn cael effaith ar hyn eleni. Ategwyd at hyn gan nodi bod aelodau’r Cyngor wedi cefnogi a gostwng targedau incwm i gymryd ystyriaeth heriau'r diwydiant morwrol.

 

Diolchwyd i’r Harbwrfeistr A’r Cymhorthydd Harbyrau am y gwaith llynedd mewn cyfnod prysur iawn er ei fod yn dymor byr. Atgyfnerthwyd pwysigrwydd eu swyddi mewn perthynas â chadw’r harbyrau a thraethau yn saff.

 

Yn ystod y drafodaeth cododd y sylwadau canlynol;

 

-        Diolchwyd i’r holl staff harbyrau gan Aelodau ABC.

-        Ategwyd bod yr ardal wedi profi nifer uchel iawn o ymwelwyr a rhagwelir y bydd hyn yn digwydd eto eleni  a bydd staff yr harbwr yn brysur iawn, pwysleisiwyd eu bod angen pob cefnogaeth.

-        Cydymdeimlwyd a’r adran gan fod incwm yn amlwg wedi lleihau oherwydd y cyfyngiadau sydd wedi bod.

-        Derbyniwyd bod angen codi incwm fodd bynnag cynigwyd byddai cadw ffioedd yr un fath yn cynyddu’r nifer fydd yn talu.

 

Mewn ymateb i rai sylwadau nodwyd;

 

-        Bod y Cyngor yn gefnogol iawn i sefyllfa ariannol yr harbyrau a bod sawl cyfarfod wedi bod er mwyn trafod dulliau i ymateb i’r cyfnod ôl cyfyngiadau.

-        Mai prif ffocws yr haf yma fydd sicrhau diogelwch ymwelwyr i’r ardaloedd harbyrau a thraethau.

-        Cadarnhawyd bod y Cyngor yn gefnogol iawn gyda nifer o gyfarfodydd yn digwydd i edrych ar sut i ymateb i agor i fyny a’r niferoedd o ymwelwyr ym mhob rhan o Wynedd.

-        Ategwyd bod cefnogaeth dau aelod staff haf yma rhyddhau aelod o staff i fod ar y dŵr yn fwy rheolaidd i gadw trefn

-        Nodwyd mai cyfiawnhad ar gyfer codi ffioedd oedd cynnal y Gwasanaeth ac i annog pobl i gofrestru am y flwyddyn.

-        Ategwyd bod pobl yn cael eu hybu i dalu ar-lein neu’n electroneg gan nad oes modd gofrestru yn y swyddfa harbwr.

 

 

 

Dogfennau ategol: