Agenda item

I ystyried cais Mr A

 

(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)

 

Penderfyniad:

Bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.

 

COFNODION:

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol. Amlygwyd nad oedd yr ymgeisydd wedi datgan fod ganddo gollfarnau blaenorol ar ei gais ac awgrymwyd iddo ymhelaethu ar hyn. Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor ganiatáu y cais.

 

Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar ei gais gan roi gwybodaeth am gefndir y collfarnau a’i amgylchiadau personol. Eglurodd bod ganddo gywilydd o’i ymddygiad pan yn ifanc. Wedi cyfnod yn y carchar eglurodd ei fod yn benderfynol o droi ei fywyd o gwmpas a bu iddo fynd i’r coleg, dilyn gyrfa lwyddiannus a sefydlu busnes.

 

PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.

 

Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

·         GofynionPolisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’

·         ffurflen gais yr ymgeisydd

·         adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS

·         adroddiad yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau

·         sylwadau ar lafar gan yr ymgeisydd

·         Canllawiau'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau

 

Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol

           

Yn Awst 1994 cafwyd yr ymgeisydd yn euog gan Lys Ieuenctid Bangor ar un cyhuddiad o ymosod gan achosi gwir niwed difrifol (ABH), yn groes i a47 Deddf Troseddau Corfforol 1861. Derbyniodd ryddhad amodol 12 mis, gorchymyn i dalu iawndal o £20.00 a gorchymyn ‘bind over’.

 

Ym Medi 1998 cafwyd yr ymgeisydd yn euog gan Lys Ynadon Bangor ar ddau gyhuddiad. Un am ymosod gan achosi gwir niwed corfforol (ABH) yn groes i a47 o Ddeddf  Troseddau Corfforol 1861, ac un o achosi gwir niwed corfforol difrifol (GBH) yn groes i adran 20 o’r un Ddeddf. Derbyniodd 3 mis o garchar, ar gyfer y drosedd GBH a dedfryd 3 mis o garchar dilynol am y drosedd ABH

 

Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a phriodol. Mae paragraff 2.4 yn nodi pan fydd ymgeisydd wedi'i gael yn euog o drosedd(au) neu fod mater arall/materion eraill i'w (h)ystyried yng nghyswllt hynny, ni chaiff y cyngor adolygu rhinweddau'r gollfarn honno na'r mater arall hwnnw.

 

Ystyriwyd paragraff 4.5 sydd yn nodi bod Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried pob collfarn, p’run ai ydynt wedi eu treulio o dan Ddeddf 1974 neu beidio.

 

Mae paragraff 6.0 o’r Polisi yn cyfarch troseddau o drais. Ym mharagraff 6.1 nodir, gan fod gyrwyr trwyddedig yn dod i gysylltiad agos gyda'r cyhoedd yn rheolaidd y byddai is-bwyllgor yn mabwysiadu safbwynt cadarn at y rhai hynny sydd â throseddau yn ymwneud a thrais. Mae paragraff 6.4 yn nodi bydd cais am drwydded yn cael ei wrthod os oes gan yr ymgeisydd fater i’w ystyried am niwed corfforol difrifol gyda bwriad sydd yn llai na 10 mlynedd cyn dyddiad y cais. Mae paragraff 6.5 o’r Polisi yn nodi y bydd cais am drwydded fel rheol yn cael ei wrthod os oes gan yr ymgeisydd fater i’w ystyried am ymosodiad sydd yn achosi gwir niwed corfforol sydd yn llai na 3 blynedd cyn dyddiad y cais. Mae paragraff 6.6 o’r Polisi yn nodi y bydd cais, fel arfer yn cael ei wrthod os oes mwy nag un gollfarn am drosedd o natur dreisgar yn erbyn yr ymgeisydd a hynny o fewn y 10 mlynedd ddiwethaf.

 

 

Daeth yr Is-bwyllgor i gasgliad fod collfarnau Awst 1994 a Medi 1998 yn droseddau o drais, fodd bynnag, gan fod y collfarnau hyn wedi eu cyflwyno 26 a 22 mlynedd yn ôl  (sydd tu hwnt i’r cyfnod 10 blynedd), nid oedd yr un o’r rhagdybiaethau dros wrthod o dan ran 6 o’r Polisi yn goroesi, ac felly nid yn sail i wrthod y cais

 

Wedi pwyso a mesur y dystiolaeth ar wybodaeth yn ofalus, roedd yr Is-bwyllgor o blaid  caniatáu y cais a phenderfynwyd bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol i ddal trwydded gyrrwr cerbyd hacni a hurio preifat.

 

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i’r ymgeisydd.