I ystyried cais
Mr B
(copi arwahan i aelodau’r
Is Bwyllgor yn unig)
Penderfyniad:
Bod yr
ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd
hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.
COFNODION:
Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr B am drwydded gyrru
cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol
â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau
a chollfarnau perthnasol. Roedd yr Awdurdod
Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor ganiatáu y cais.
Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar ei
gais gan roi gwybodaeth am gefndir y collfarnau a’i amgylchiadau personol. Eglurodd bod collfarnau 2001 i gyd o ganlyniad i beidio derbyn cyngor
proffesiynol i geisio arbed asedau busnes
ei deulu. Rhoddodd eglurhad llawn o’r sefyllfa
ynghyd a gwybodaeth am y troseddau traffig. Nododd ei fod yn
gweithio gyda phobl gydag anableddau
dysgu a’i fwriad oedd cynnig
gwasanaeth cludiant iddynt gan geisio cymhwyster priodol i wneud hynny
PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson
addas a phriodol ar gyfer trwydded
gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat
gyda Chyngor Gwynedd.
Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:
·
Gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar gyfer
Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’
·
ffurflen gais yr ymgeisydd
·
adroddiad yr Adran
Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS
·
adroddiad yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau
·
sylwadau ar lafar gan yr ymgeisydd
·
Canllawiau'r Asiantaeth
Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau
Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion
canlynol
Yn 1988 cafodd
yr ymgeisydd ei wahardd rhag
gyrru am 28 diwrnod yn dilyn
digwyddiad o yrru 107mya ar draffordd yr
M6.
Yn Mai 2001 cafwyd yr ymgeisydd yn
euog gan Lys y Goron yr Wyddgrug ar
gyfres o 10 cyhuddiad. Un cyhuddiad o fod yn fethdalwr yn
cymryd rhan mewn neu yn
ymwneud â hyrwyddo neu reoli cwmni
yn groes i a11 o’r Ddeddf Anghymwyso
Cyfarwyddwyr Cwmni 1986. Dau gyhuddiad o fod yn rhan
o neu barhau â busnes gyda’r bwriad
o dwyllo credydwyr yn groes i a458 o’r un Ddeddf. Saith cyhuddiad o gael gafael ar
eiddo drwy dwyll yn groes
i a15 o’r Ddeddf Dwyn 1968. Derbyniodd 2 flynedd o garchar ar un o’r cyhuddiadau
o gael gafael ar eiddo drwy
dwyll ynghyd a dedfrydau o garchar yn cyd-redeg ar
y cyhuddiadau eraill.Yn
ogystal cafodd ei wahardd am
5 mlynedd rhag bod yn gyfarwyddwr
ar gwmni.
Yn Medi 2015 derbyniodd SP30 am oryrru, (57mya mewn ardal 50mya ar hyd ffordd
ddeuol yr A55) – derbyniodd 3 pwynt cosb ar ei
drwydded yrru.
Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd
i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd
rhag cael trwydded, ond bydd
disgwyl iddo fod yn rhydd
rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir
yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn
unigolyn addas a phriodol i ddal
trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd
i brofi ei
fod yn berson
addas a phriodol. Mae paragraff 2.4 yn nodi pan fydd ymgeisydd
wedi'i gael yn euog o drosedd(au) neu fod mater arall/materion eraill i'w (h)ystyried yng nghyswllt hynny,
ni chaiff y cyngor adolygu rhinweddau'r gollfarn honno na'r mater arall hwnnw.
Ystyriwyd paragraff
4.5 sydd yn nodi bod Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried pob collfarn,
p’run ai ydynt wedi eu
treulio o dan Ddeddf 1974 neu beidio.
Ystyriwyd paragraff
8.0 o’r Polisi sydd yn cyfarch
troseddau o anonestrwydd gyda pharagraff 8.1 yn nodi y cymerir
golwg ddifrifol ar unrhyw gollfarn
sy'n ymwneud ag anonestrwydd. Mae paragraff 8.2 yn nodi bydd cais
fel arfer yn cael ei
wrthod os bydd gan yr
ymgeisydd gollfarn am drosedd a restrir, a bod y gollfarn yn llai
na 3 blynedd
cyn dyddiad y cais. Nodwyd bod y rhestr troseddau yn cynnwys, ymhlith
eraill, twyllo, cael eiddo drwy
dwyll a lladrata.
Mae rhan
12 o’r Polisi yn ymwneud â chollfarnau
moduro gyda pharagraff 12.2 yn rhestru troseddau traffig difrifol at ddibenion y Polisi. Mae rhan
13 yn ymwneud a mân droseddau traffig
ac yn cyfeirio yn bennaf at droseddau
sydd heb eu rhestru ym
mharagraff 12.2 o’r Polisi. Nodir ym
mharagraff 13.3 y gallai mwy nag un gollfarn
am fân drosedd traffig neu fater
arall i'w ystyried arwain at wrthod cais, yn
enwedig os oes sawl collfarn
neu faterion eraill i’w hystyried
ar gyfer yr un drosedd, e.e. goryrru
Daeth yr Is-bwyllgor
i gasgliad bod y digwyddiad 1988 yn cyfrif fel mater i’w ystyried am
fân drosedd traffig, sef goryrru.
Daeth yr Is-bwyllgor i’r casgliad
bod collfarn 2001 yn ymwneud â throseddau
o anonestrwydd. fodd
bynnag, gan fod y collfarnau hyn wedi eu cyflwyno 19 mlynedd yn ôl (sydd tu hwnt i’r cyfnod
3 blynedd), nid oedd rhan 8 o’r Polisi
yn goroesi, ac felly nid yn
sail i wrthod y cais
Daethpwyd i’r casgliad
bod digwyddiad 2015 yn ymwneud â mater i’w ystyried am
fân drosedd traffig. Gyda’i gilydd, gallai digwyddiadau goryrru 1988 a 2015 fod yn
sail dros wrthod y cais. Fodd bynnag, argymhelliad
y Polisi ym mharagraff 13.3 yw y gallai fod yn
sail dros wrthod, yn hytrach
na datgan y dylid gwrthod. Ystyriwyd bod cyfnod o 26 mlynedd rhwng y ddau ddigwyddiad, bod digwyddiad 1988 wedi digwydd ar
draffordd a bod digwyddiad 2015 o yrru 7mya yn uwch na’r
cyfyngiad o 50mya ar ffordd ddeuol. Roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon na ddylai’r
digwyddiadau hyn fod yn sail
gwrthod chwaith.
Wedi pwyso
a mesur y dystiolaeth ar wybodaeth yn
ofalus, roedd yr Is-bwyllgor o blaid caniatáu y cais a phenderfynwyd bod yr ymgeisydd yn
berson addas a phriodol i ddal trwydded gyrrwr cerbyd hacni a hurio preifat.
Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i’r ymgeisydd.