Agenda item

I ystyried cais Mr C

 

(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)

 

 

Penderfyniad:

Bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.

 

Cofnod:

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr C am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol. Amlygwyd nad oedd yr ymgeisydd wedi datgan fod collfarn flaenorol ar ei gais ac awgrymwyd iddo ymhelaethu ar hyn. Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor ganiatáu y cais.

 

Gwahoddwyd cynrychiolydd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar gais yr ymgeisydd gan roi gwybodaeth am gefndir y gollfarn a’i amgylchiadau personol. Eglurwyd bod yr ymgeisydd wedi datgan y gollfarn flaenorol ar lafar, ond heb ei chynnwys ar y ffurflen gais (cadarnhaodd y swyddog trwyddedu bod hyn yn gywir).

 

PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.

 

Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

·         GofynionPolisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’

·         ffurflen gais yr ymgeisydd

·         adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS

·         sylwadau ar lafar gan gynrychiolydd yr ymgeisydd

·         Canllawiau'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau

 

Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol

 

Yn Ionawr 2016 cafwyd yr ymgeisydd yn euog gan Lys Ynadon Môn o achosi digwyddiad peryglus  ar / dros ffordd yn groes i a22 Ddeddf Traffig y Ffyrdd 1988. Derbyniodd ddirwy o £155.00, gorchymyn i dalu costau o £85 a chostau ychwanegol o £20.

 

Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a phriodol. Mae paragraff 2.4 yn nodi pan fydd ymgeisydd wedi'i gael yn euog o drosedd(au) neu fod mater arall/materion eraill i'w (h)ystyried yng nghyswllt hynny, ni chaiff y cyngor adolygu rhinweddau'r gollfarn honno na'r mater arall hwnnw.

 

Ystyriwyd paragraff 4.5 sydd yn nodi bod Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried pob collfarn, p’run ai ydynt wedi eu treulio o dan Ddeddf 1974 neu beidio

 

Mae rhan 12 o’r Polisi yn ymwneud â chollfarnau moduro gyda pharagraff 12.2 yn rhestru troseddau traffig difrifol at ddibenion y Polisi. Mae rhan 13 yn ymwneud a mân droseddau traffig ac yn cyfeirio yn bennaf at droseddau sydd heb eu rhestru ym mharagraff 12.2 o’r Polisi gyda pharagraff 13.1 yn diffiniomân drosedd traffigfel trosedd sydd yn derbyn rhwng 1 a 3 pwynt cosb. Ystyriwyd paragraff 13.2 sydd yn nodi pan fydd ymgeisydd gydag un gollfarn am fân drosedd gyrru ni fydd hyn fel arfer yn arwain at wrthod y cais.

 

Daeth yr Is-bwyllgor i gasgliad bod y digwyddiad 2016 yn cyfrif fel mater i’w ystyried fel mân drosedd traffig. Ni fydd collfarn sengl am fân drosedd traffig fel arfer yn arwain at wrthod cais ac felly nid oedd yr Is-bwyllgor yn gweld unrhyw reswm dros gyfiawnhau gwyro oddi ar y safbwynt yma.

 

Wedi pwyso a mesur y dystiolaeth ar wybodaeth yn ofalus, roedd yr Is-bwyllgor o blaid  caniatáu y cais a phenderfynwyd bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol i ddal trwydded gyrrwr cerbyd hacni a hurio preifat.

 

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i’r ymgeisydd