Cyflwynwyd gan:Cyng. Dafydd Meurig a'r Cyng. Dilwyn Morgan
Penderfyniad:
Cymeradwywyd yr ymateb drafft i’r Ymgynghoriad gan nodi
angen am addasiadau i ymateb cwestiwn 3 er mwyn cryfhau’r ymateb.
Cefnogwyd penderfyniad y Cyngor i anghytuno gyda’r cynigion
sydd wedi’u cynnwys yn y Papur Gwyn.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad
gan Cyng. Dafydd Meurig
PENDERFYNIAD
Cymeradwywyd yr ymateb
drafft i’r Ymgynghoriad gan nodi angen am addasiadau i ymateb cwestiwn 3 er
mwyn cryfhau’r ymateb.
Cefnogwyd penderfyniad y
Cyngor i anghytuno gyda’r cynigion sydd wedi’u cynnwys yn y Papur Gwyn.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad
gan nodi fod y Llywodraeth wedi cyhoeddi’r Papur Gwyn yn edrych ar Ail Gydbwyso
Gofal a Chymorth. Nodwyd fod y Papur Gwyn yn amlygu gweledigaeth y Llywodraeth
a oedd yn cynnwys symud oddi wrth gymhlethdodau, symud oddi wrth brisiau ac yn
nes at werth cymdeithasol ac i symud o ffocws sefydliadol i ffocysu ar
gydweithio effeithiol. Mynegwyd cefnogaeth i’r weledigaeth sydd yn cyd-fynd a’r
weledigaeth sydd o fewn y Cyngor.
Pwysleisiwyd mai’r brif
broblem o edrych ar y dogfennau oedd sut fydd y Llywodraeth yn cyflawni hyn.
Ymhelaethwyd drwy nodi fod y Papur Gwyn yn pwysleisio'r elfen symleiddio, ond
yn cymhlethu’r trefniadau drwy nodi prosesau comisiynu safonol, creu Byrddau a
Swyddfa Genedlaethol ac i sefydlu’r Byrddau Partneriaeth Ranbarthol yn endidau
corfforaethol cyfreithiol. Amlygwyd ymdeimlad fod y bwriad uchod yn groes i’r
weledigaeth a bod hyn wedi ei amlygu yn ymateb y Cyngor.
Ychwanegodd y
Cyfarwyddwr Corfforaethol ar yr olwg gyntaf ei fod yn cyd-fynd a gweledigaeth y
Cyngor ac yn ymateb da gan y Llywodraeth. Er hyn, nodwyd wrth edrych yn
fanylach ei fod yn groes i’r weledigaeth sydd yn cael ei nodi. Amlygwyd fod y
maes yn cael ei gymhlethu drwy ychwanegu mwy o haenau ac yn benodol mewn
rhanbarthau mawr megis Gogledd Cymru. Ategwyd y byddai hyn yn symud y
penderfyniadau pellgyrhaeddol ymhellach oddi wrth yr unigolyn. Pwysleisiwyd fod
prynu cymorth unigolion yn rhan fawr o’r ddogfen ac yn mynd yn erbyn
egwyddorion Gwynedd o fynd ar sail yr unigolyn yn hytrach na bwydlen o
gefnogaeth.
Nodwyd fod y ddogfen yn amlygu
angen am delerau ac amodau gwell ar gyfer staff gofal ond nad yw’n nodi beth
yw’r datrysiad. Amlygwyd fod sôn am gronfeydd cronnus rhanbarthol ond nodwyd na
fyddai hyn yn rhoi datrysiad. Mynegwyd nad oes dim sôn am y ddogfen
bellgyrhaeddol Cymru Iachach, sy’n nodi’n glir fod angen gweledigaeth
ranbarthol ond darpariaeth leol. O ran yr ymatebiad nodwyd fod ymatebion i’w
gweld yn yr atodiadau ond amlygwyd yr angen i anfon llythyr yn ogystal yn
amlygu beth mae’r Cyngor yn ei wneud i gyd-fynd a’r weledigaeth sydd yn cael ei
amlygu.
Sylwadau’n codi o’r
drafodaeth
¾
Nodwyd
dealltwriaeth o anfon llythyr gyda’r ymatebion ond mynegwyd y posibilrwydd y
byddant yn edrych ar yr ymatebion yn unig. Pwysleisiwyd yr angen i amlygu yn
glir y gwrthwynebiad o greu endid corfforaethol cyfreithiol rhanbarthol.
¾
Pwysleisiwyd
pryder am rhanbartholi gan ei bydd yn tynnu ymhellach
oddi wrth y trigolion.
¾
Mynegwyd fod
risgiau o greu cronfeydd a bod angen amlygu'r rhain yn yr ymateb i gryfhau'r
gwrthwynebiad am greu corff rhanbarthol.
¾
Pwysleisiwyd fod
y weledigaeth yn cyd-fynd a deheuad y Cyngor. Nodwyd nad oes dim sôn am
ymarferon da sydd i’w gweld ar draws Cymru, a dim sôn yn ogystal am sylwadau
cyhoedd. Pwysleisiwyd yr angen i fod yn agored ac i’r cyhoedd fod yn ymwybodol
o beth sydd yn cael ei gynnig.
Awdur:Morwena Edwards
Dogfennau ategol: