Agenda item

Materion a gadwyd yn ol mewn perthynas a cais C13/0611/18/AM ar gyfer datblygiad preswyl o 17 o dai (yn cynnwys 2 dy fforddiadwy) a mynedfa newydd – cynlluniau diwygiedig a gwybodaeth ychwanegol

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Elfed Williams

 

Dolen i'r dogfennau cefndirol perthnasol

Penderfyniad:

Dirprwyo’r hawl i Bennaeth Cynorthwyol Adran yr Amgylchedd i ganiatáu’r cais materion a gadwyd yn ol yn ddarostyngedig i:-

 

          Amodau:-

 

          1.            Yn unol â’r cynlluniau diwygiedig.

          2.            Cydymffurfio a gofynion y Caniatâd Draenio Tir Cwrs Dwr Cyffredin.

 

Nodyn i’r ymgeisydd parthed cyngor Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd yn ymwneud a thir halogedig.

 

 

Cofnod:

a)    Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais. Eglurwyd bod egwyddor y bwriad eisoes wedi ei drafod a’i dderbyn o dan y cais amlinellol, gyda’r cais gerbron ar gyfer asesu’r elfennau  graddfa, golwg, tirweddu a mynedfa yn unig oedd wedi eu cadw’n ôl. Yn ychwanegol i’r materion a gadwyd yn ôl, roedd angen cydymffurfio gydag amodau oedd yn ymwneud a chyflwyno manylion parthed:-

 

(i)            cyflwyno Archwiliad Desg er mwyn asesu risg o lygredd dichonol ar y safle;

(ii)           cyflwyno gwybodaeth/eglurhad pellach parthed lliniaru effaith llifogydd;

(iii)          cyflwyno Datganiad Rheoli i’w gytuno gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol ar gyfer y cwrs dwr sy’n rhedeg drwy’r safle;

(iv)          cyflwyno manylion darparu a gweithredu system rheoli dŵr hwyneb

(v)           cyflwyno manylion llwybr mynedfa i’r cwrs dwr, gwelliannau i drefniadau’r fewnfa ynghyd a thynnu’r geuffos.

 

Adroddwyd bod y safle wedi ei leoli i’r de-orllewin o Ddeiniolen ar lecyn o dir diffaith a oedd yn hanesyddol wedi cael ei ddefnyddio at ddiben diwydiant cynhyrchu nwyddau dringo. Cyflwynwyd cynlluniau diwygiedig gyda’r cais a nodwyd bod y polisïau perthnasol ynghyd ag ymatebion y cyfnod ymgynghori wedi ei cynnwys yn yr adroddiad.

 

Yng nghyd-destun mwynderau gweledol, roedd yr egwyddor o godi 17 ar y safle eisoes wedi ei dderbyn. Gan ystyried gosodiad y safle o fewn y tirlun ynghyd a’i agosatrwydd at ardaloedd adeiledig, ni ystyriwyd y byddai’r datblygiad yn cael effaith arwyddocaol ar osodiad, cymeriad nag ar olygfeydd i mewn neu allan o’r dirwedd hanesyddol hwn. Ategwyd bod y safle yn dirywio ar  sail mwynderau gweledol ac yn ddolur llygad yn y tirlun. Awgrymwyd y byddai caniatáu y cais yn debygol o fod yn gam tuag at wella’r mwynderau gweledol yn y rhan yma o’r pentref. Yn ogystal, gan ystyried  gosodiad a dyluniad y tai arfaethedig ar y safle mewn perthynas â gosodiad a ffurf yr anheddau cyfagos, ystyriwyd na fyddai effaith sylweddol nac arwyddocaol ar fwynderau preswyl na chyffredinol yr anheddau hyn

 

Adroddwyd bod bwriad creu mynedfa newydd fyddai’n disodli’r fynedfa bresennol ar gyfer y datblygiad tai oddi ar y ffordd sirol dosbarth III gyfagos. Er bod gwrthwynebiad wedi ei dderbyn i’r cais ar sail diogelwch ffyrdd, roedd yr egwyddor o greu mynedfa newydd eisoes wedi ei dderbyn. Cyflwynwyd cynlluniau manwl ynghyd ag Asesiad Canlyniadau Llifogydd, Adendwm i’r Asesiad Canlyniadau Llifogydd, Datganiad Manylion Rhyddhau Dŵr o’r Safle, Datganiad Gwaith ar gyfer cario allan gwelliannau i’r cwrs dwr sy’n rhedeg drwy’r safle ynghyd a Chytundeb Rheoli ar gyfer y cwrs dwr i ddiwallu gofynion y cais amlinellol. Ategwyd bod Uned Dŵr ac Amgylchedd y Cyngor caniatáu i’r ymgeisydd  ymgymryd â gwaith gwelliant i’r cwrs dwr sy’n cynnwys gosod trap graean ac adeiladu siambr cilfach gyda sgrin chwyn iddo. Dylai’r gwaith sicrhau na fydd llifogydd yn deillio o’r cwrs dwr naill a’i i’r tai arfaethedig nag allan i’r ffordd gyfagos.

 

Cyflwynwyd Adroddiad Ymchwiliad Tir Halogedig Cam 1, Rhan 2. Yn dilyn ymchwiliadau a chymryd samplau o’r ddaear ni ddaethpwyd ar draws unrhyw ffynhonnell halogedig o fewn y safle. Ategwyd bod Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd yn hapus gyda chasgliadau’r Adroddiad Halogedig.

 

Ystyriwyd bod y cais cynllunio yn cwrdd gyda gofynion polisi cynllunio lleol a chenedlaethol.

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y pwyntiau canlynol:

·         Derbyn bod y cais ar gyfer asesu rhai o elfennau’r datblygiad yn unig, ond angen dwyn i sylw problemau llifogydd yn yr ardal - angen sicrhau bod gwaith atal yn cael ei gwblhau

·         Angen cynnal trafodaeth gyda swyddogion y Cyngor ynglŷn â barn ar y datblygiad mewn perthynas â chais UNESCO

·         Cais i ystyried cynyddu’r nifer tai fforddiadwy o fewn y datblygiad

·         Pryder am ddiffyg palmentydd - hyn yn tanseilio gofynion diogelwch

·         Cais i ystyried enwau Cymraeg ar y tai

·         Dim gwrthwynebiad i dai, ond angen tai  i bobl leol

 

c)     Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais

 

ch)  Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylw canlynol gan aelodau:

·           Pryder yn nifer isel y tai fforddiadwy

·           Awgrym  y dylai dyluniad y tai fod yn fwy arloesol

·           Angen ystyried diffyg palmentydd

·           Cais i ddarparu ardal chwarae

·           Pryder am lifogydd - a yw’r safle ei hun yn destun llifogydd?

·           Awgrym i ystyried os yw’r gair  nepellym mharagraff 5.6 yn gywir

 

d)    Mewn ymateb i’r sylwadau, nododd y Swyddog Monitro bod egwyddor y datblygiad eisoes wedi ei sefydlu ac mai materion a gadwyd yn ôl oedd dan sylw. Ategodd Pennaeth

Cynorthwyol Cynllunio ac Amgylchedd mai cyfyngedig oedd y materion y gellid eu trafod. Amlygodd nad oedd gan Cyfoeth Naturiol Cymru, yr Uned Draenio nac yr Uned Trafnidiaeth wrthwynebiadau i’r cais ac yngg nghyd-destun UNESCO, nodwyd, bod Cadw fel un o’r ymgynghorai statudol heb fynegi gwrthwynebiad i’r cais. Nododd bod y cyfiawnhad dros ganiatáu y cais yn seiliedig ar y dystiolaeth a gyflwynwyd yn yr adroddiad.

 

Mewn ymateb i gwestiwn os oedd dyluniad y tai wedi ei gytuno, nododd y Swyddog Rheolaeth Datblygu bod cynlluniau bras wedi ei cyflwyno yn wreiddiol yn amlygu gosodiad y tai. Ategodd bod y cynlluniau cyfredol yn rhai diwygiedig gyda’r gosodiad wedi ei ail gyflwyno a dyluniad y tai yn fwy derbyniol. Nododd y Rheolwr Cynllunio nad oedd cymysgedd tai yn ystyriaeth pan gafodd y cais amlinellol ei ganiatau  - bod cymysgedd tai yn fater sydd wedi ei gyflwyno fel rhan o’r canllaw cynllunio atodol ers hynny. O ganlyniad,  ni ellid ail ymweld â materion sydd yn ymwneud a chymysgedd tai.

        

PENDERFYNWYD: Dirprwyo’r hawl i Bennaeth Cynorthwyol Adran yr Amgylchedd i ganiatáu’r cais materion a gadwyd yn ôl yn ddarostyngedig i:-

 

          Amodau:-

 

          1.            Yn unol â’r cynlluniau diwygiedig.

          2.            Cydymffurfio a gofynion y Caniatâd Draenio Tir Cwrs Dwr Cyffredin.

 

Nodyn i’r ymgeisydd parthed cyngor Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd yn ymwneud a thir halogedig.

 

 

 

Dogfennau ategol: