Agenda item

Codi tŷ preswyl newydd

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Eirwyn Williams

 

Dolen i'r dogfennau cefndirol perthnasol

Penderfyniad:

Gohirio er mwyn cynnal traofdaethau pellach gyda’r ymgeisydd ynglyn a deunyddiau amgen ar gyfer y to a’r waliau allanol

Cofnod:

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr.

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio bod y cais yn ymwneud a chodi tŷ newydd a chreu mynedfa gerbydol oddi ar y ffordd stad bresennol. Eglurwyd bod y safle wedi ei leoli o fewn ffin datblygu pentref Criccieth; ar blot cul o fewn stad o dai amrywiol sydd ar lethr sy’n codi tua chefn y safle, ac wedi ei leoli rhwng dau eiddo gydag eiddo arall union o’i flaen gyferbyn a’r ffordd stad gul. Ategwyd bod y cais wedi bod yn destun sawl cais cynllunio ac apêl - 6 cais cynllunio wedi ei wrthod ar y safle yn y gorffennol a chaniatâd wedi ei roi ar y safle drwy apêl ar sail y cynlluniau a gyflwynwyd fel rhan o gais C08D/0870/35/LL, Cadarnhawyd bod y caniatâd yma yn parhau yn fyw ar y safle

 

Cyflwynwyd y cais i Bwyllgor ar gais yr Aelod Lleol.

 

Adroddwyd bod yr adroddiad yn mynd i’r afael a’r materion hynny a godwyd yn yr apeliadau blaenorol; ac yn asesu’r bwriad yn erbyn polisïau cyfredol y Cynllun Datblygu Lleol. Nodwyd bod penderfyniadau apêl (gwrthod a chaniatáu) ar y safle yn gosod yn glir fod potensial i eiddo deulawr ar y safle yma beri goredrych ac effaith annerbyniol ar y trigolion gerllaw bob ochr ac i’r blaen. Mae’r penderfyniadau apêl yn dibynnu ar leoliadau ffenestri a lefelau llawr er mwyn sicrhau nad oes effaith andwyol ar y tai cyfagos.

 

Eglurwyd bod y tŷ sydd gerbron erbyn hyn oddeutu 4m yn lletach a 1m yn hirach na’r eiddo a ganiatawyd. Nodir fod yr eiddo wedi ei ddylunio gydag ongl ar y blaen fel nad yw’r edrychiad yn edrych allan i’r un cyfeiriad i gyd (i geisio osgoi goredrych). Mae’r annedd gerbron felly ychydig yn is o ran crib y to na’r hyn a ganiatawyd ond yn lletach ac yn cynnwys mwy o agoriadau ar y llawr cyntaf. Ystyriwyd nad yw’r lleihad mewn uchder yn gyfaddawd am yr effaith andwyol o gynyddu ei led ac ychwanegu agoriadau ar y llawr cyntaf. Ystyriwyd y byddai’r bwriad yn cael effaith andwyol sylweddol yn fwy ar eiddo Pen y Bryn sydd wedi ei leoli yn union o flaen y safle, na’r hyn a grybwyllwyd yn dderbyniol yn ystod apêl 2011. Ystyriwyd fod maint yr eiddo (yn benodol ei led a’i swmp) yn golygu nad yw’r eiddo yn cydweddu a phatrwm adeiladu a dyluniad y stad

 

Nodwyd bod materion trafnidiaeth, mynediad a draenio yn dderbyniol

 

Ar sail yr asesiad, ystyriwyd fod y bwriad yn annerbyniol oherwydd bod yr Awdurdod Cynllunio Lleol (ACLl) yn ystyried y byddai’r tŷ gerbron, oherwydd ei faint (yn benodol ei uchder a’i led) lleoliad y ffenestri/drysau a balconïau ar yr edrychiad blaen a’r lefelau llawr gorffenedig yn cael effaith andwyol sylweddol ar fwynderau a phreifatrwydd rhesymol eiddo o flaen y safle.

 

Argymhellwyd gwrthod y cais am y rhesymau oedd wedi ei cynnwys yn y ffurflen sylwadau hwyr a oedd wedi ei diwygio i gynnwys deunyddiau / gorffeniad allanol.

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y pwyntiau canlynol: Defnyddiwyd lluniau drone i ddangos effaith goredrych lleoliad y tŷ newydd.

·         Bod swyddogion, ar ôl gweld y dystiolaeth wedi cytuno bod “dogfennau yn dangos y byddai’r goredrych o’r ffenest balconi'r un fath a’r hyn a ganiatawyd drwy’r apêl”

·         Sylwadau penderfyniad yr apêl - “Ni ystyriaf fod modd gweld rhan uchaf yr annedd a gynigir yn niweidiol oddi mewn i dermau’r polisi. Y rhyngweledd rhwng y prif ffenestri sydd o bryder posib.”

·         Na fyddai modd gweld ffenestri’r bwriad o’r tŷ gyferbyn, oni bai bod y perchennog yn bwriadu torheulo ar y to

·         Os cymharu goredrych gyda thŷ drws nesaf, Hafan Deg, mae’r gwahaniaeth fel nos a dydd.

·         Does dim ffenestri ar ochr y tŷ. Mae’r balconi yn gaeedig, fel bod modd gweld  yn syth allan yn unig

·         Bod y ‘tŷ’ sydd wedi derbyn caniatâd yn dau lawr, sydd yn mesur 180 metr sgwâr. Mae’r cais dan sylw yn dau lawr, sy’n mesur 177 metr sgwâr, felly yn llai na’r hyn sydd wedi ei gytuno yn barod.

·         Bod tueddiad y stad yn hollol gyferbyniol i sylwadau’r swyddogion gyda rhan fwyaf o’r tai yn agos at un, dau neu dair ffin eu tir.

·         Bod elfen o oredrych yn bodoli ar y stad. Pob tŷ yn unigryw, ei siâp, ei faint a’i arddull gyda maint y ffenestri, nifer o falconïau, stafelloedd haul a phatios yn amrywio ar y stad.

·         Bod y rhesymau gwrthod nid yn unig yn gamarweiniol, ond yn anghywir - yr hyn sydd wedi ei ganiatau drwy apel wedi ei wella

·         Bod y tŷ yn LLAI ‘na beth sydd wedi ei basio.

·         Bod y tŷ yn BELLACH YN ÔL ‘na beth sydd wedi ei basio.

·         Bod y tŷ yn IS na be sydd wedi ei basio.

·         Bod safle’r tŷ ar y plot yn CYD-FYND a phatrwm y stad.

·         Bod pob tŷ ar y stad yn wahanol.

·         Nid yw’r tŷ yn goredrych.

·         Yn deulu ifanc, wedi dod adref i Griccieth i ymgartrefu

 

c)  Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y pwyntiau canlynol:

·         Ei fod yn cytuno gyda phenderfyniad Cyngor Cymyned / Tref

·         Ei fod yn gefnogol i’r cais

·         Dim gwrthwynebiad

 

ch) Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais yn groes i’r argymhelliad

 

d)    Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·           Bod y stad yn gymysg o gynlluniau pensaernïol

·           Nad oedd unffurfiaeth i arddull tai yng Nghriccieth

·           Bod y cynllun diwygiedig gyda llai o arwynebedd

·           Bod bwriad tyllu i lawr i osgoi ymddangosiad gormesol

·           Bod y balconi yn gaeedig ac felly dim effaith ar dai cyfochrog

·           Hapus gyda gosodiad a maint y datblygiad

 

·           Pryder am ddeunyddiau allanol

·           Dim gwrthwynebiad i’r cynllun, ond ceisio gwella edrychiad

 

dd)  Cynigiwyd ac eiliwyd gwelliant - gohirio’r penderfyniad a chynnal trafodaethau pellach gyda’r ymgeisydd ynglŷn  â deunyddiau amgen

 

Mewn ymateb i’r cynnig i gynnal trafodaethau pellach gyda’r ymgeisydd, nododd y Rheolwr Cynllunio bod modd ystyried hyn gan awgrymu llechi ar gyfer y to fyddai yn cydweddu yn well yn ei amgylchedd

 

PENDERFYNWYD:

 

Gohirio er mwyn cynnal trafodaethau pellach gyda’r ymgeisydd ynglŷn â deunyddiau amgen ar gyfer y to a’r waliau allanol

 

Dogfennau ategol: