Agenda item

Cais ar gyfer codi 24 o dai, creu mynedfa newydd a ffordd stad mewnol, cadarnhau llwybr cyhoeddus, gwaith draenio a gwaith cysylltiol

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Judith Humphreys

 

Dolen i'r dogfennau cefndirol perthnasol

Penderfyniad:

Dirprwyo’r hawl i Bennaeth Cynorthwyol Adran yr Amgylchedd i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i dderbyn ymateb ffafriol gan Dwr Cymru ac i’r ymgeisydd gwblhau cytundeb o dan Adran 106 er mwyn sicrhau cyfraniad ariannol ar gyfer darpariaeth addysgol a chyfraniad llecyn agored.

 

 Amodau

 

1.         5 mlynedd.

2.         Yn unol â’r dogfennau/cynlluniau a gyflwynwyd gyda’r cais.

3.         Llechi naturiol.

4.         Samplau o’r deunyddiau a’r lliwiau ar gyfer y tai ynghyd a manylion y paneli solar i’w cytuno gyda’r ACLL.

5.         Amodau Priffyrdd.

6.         Tirlunio meddal a chaled.

7.         Amodau Bioamrywiaeth a Choed

8.         Cyfyngu ar oriau gweithio i 08:00 - 18:00 yn yr wythnos, 08:00 - 12.00 ar ddydd Sadwrn a dim o gwbl ar y Sul a Gwyliau Banc.

9.         Manylion Llwybr

10.       Cytuno manylion parthed enwau Cymraeg ar gyfer y datblygiad ynghyd ac arwyddion sy’n hysbysu ac yn hyrwyddo’r datblygiad o fewn ac oddi allan y safle.

11.       Sicrhau cynllun/trefniadau ar gyfer darparu’r unedau fforddiadwy.

12.       Tynnu hawliau datblygu cyffredinol o’r unedau fforddiadwy.

13.       Cyflwyno Datganiad Dull Adeiladu gan gynnwys darpariaeth parcio cerbydau’r adeiladwyr.

14.       Cyflwyno manylion goleuadau allanol i’w gytuno gyda’r ACLL cyn iddynt gael eu gosod

15.       Amod mesurau lliniaru archeolegol.

16.       Diogelu’r llecyn agored ar gyfer y dyfodol

 

Nodyn: Hysbysu’r ymgeisydd o’r angen i gyflwyno cynllun strategaeth ddraenio cynaliadwy i’w gymeradwyo gan Uned Dwr ac Amgylchedd y Cyngor

 

Nodyn: Hysbysu’r ymgeisydd o ymateb Dŵr Cymru sy’n cyfeirio at garthffos gyhoeddus yn croesi’r safle

 

Nodyn: Enwau Cymraeg i’r tai yn ogystal a’r Stad/ffyrdd o fewn y stad ei hun

 

COFNODION:

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr.

 

a)            Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais oedd yn gais llawn ar gyfer darparu 24 o unedau preswyl gyda phob un ohonynt yn dai fforddiadwy. Cyflwynwyd y cais gan Grŵp Cynefin (Landlord Cymdeithasol Cofrestredig) ac yn gynllun ar y cyd rhwng Grŵp Cynefin a Chyngor Gwynedd. Eglurwyd bod y safle, sydd eisoes ym mherchnogaeth Grŵp Cynefin, wedi ei leoli oddi fewn i ffin datblygu Penygroes ac wedi ei ddynodi ar gyfer tai fel y’i cynhwysir yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn. Rhennir y cais i sawl elfen wahanol sy’n cynnwys:-

·         Darparu unedau fforddiadwy sy’n cynnwys 10 tŷ 2 ystafell wely, 3 tŷ 3 ystafell wely, 2 tŷ 3 ystafell wely, 1 tŷ 4 ystafell wely ac 8 fflat 1 ystafell wely fydd ar gael ar ffurf cymysgedd o ddeiliadaeth fforddiadwy sydd i’w gytuno. Darparu isadeiledd i gynnwys ffordd stad a llwybrau troed cysylltiedig, ffensys/rheiliau a waliau cerrig.

·         Darparu llecynnau parcio ar gyfer pob tŷ, creu mynedfa newydd o’r ffordd sirol dosbarth II B4418 ynghyd a darparu llwybr troed drwy’r safle i gydymffurfio a’r llwybr cyhoeddus sydd yn ei groesi.

·         Darparu llecyn amwynder o fewn y safle ynghyd a llefydd ar gyfer crynhoi dŵr a choridor bywyd gwyllt

 

Adroddwyd bod yr ymgeisydd wedi llwyddo i dderbyn grantiau gan Lywodraeth Cymru i  adeiladu’r holl unedau preswyl fel rhai fforddiadwy.

 

Cyfeiriwyd at faterion tai fforddiadwy a chymysgedd tai. Adroddwyd bod yr ymgeisydd wedi cyflwyno Nodyn Tai Fforddiadwy. Eglurwyd y byddai’r  tenantiaid yn cael ei  dewis drwy bolisi tai gosod lleol. Amcangyfrifwyd bod 70 o geisiadau ar y gofrestr aros am dai cymdeithasol yn yr ardal a’r diffyg cyflenwad yn golygu y byddai rhai yn aros yn hir am gartref. Ystyriwyd bod y bwriad yn gam mawr i’r cyfeiriad cywir i gartrefu pobl yn eu hardal leol drwy ddatblygu cynllun o ansawdd fyddai’n diwallu anghenion cydnabyddedig drwy ddarparu cymysgedd briodol o unedau.

 

Nodwyd bod materion mwynderau gweledol, cyffredinol a phreswyl a materion trafnidaieth yn dderbyniol. Yng nghyd-detun materion llifogydd a draenio, nodwyd bod Dŵr Cymru wedi cadarnhau bodlonrywdd bod yr asedau yn cael eu gwarchod mewn ffordd briodol.

 

Wrth gyfeirio at faterion ieithyddol, adroddwyd bod datganiad iaith wedi ei gyflwyno gyda’r cais ynghyd a diwygiad pellach. Ategwyd bod sylwadau pellach wedi eu cyflwyno (22/3/21) gan yr Uned Iaith yn cadarnhau nad oedd ganddynt wrthwynebiad i’r cais oherwydd bod y materion addysg a’r angen am dai wedi eu cadarnhau.

 

Adroddwyd bod Swyddog Gwybodaeth yr Adran Addysg wedi nodi bod Ysgol Gynradd Bro Lleu dros ei chapasiti ac o ganlyniad bod cyfiawnhad i ofyn am gyfraniad er mwyn diwallu’r diffyg capasiti yma drwy gyfrannu swm penodol o £64,614. Ategwyd bod yr ymgeisydd wedi derbyn cadarnhad gan swyddogion cynllunio bod angen cyfraniad addysgol a gellid sicrhau hyn drwy arwyddo cytundeb cyfreithiol o dan Adran 106.

 

Yng nghyd-destun llecynnau chwarae, amlygwyd bod diffyg llecynnau chwarae gyda chyfarpar i blant yn yr ardal. Nodwyd bod yr ymgeisydd yn cynnig 1040m2 o lecyn agored heb gyfarpar ar y safle, gydag esboniad na ellid darparu offer ar y llecyn agored oherwydd yr angen am fynediad i wasanaethau megis Dŵr Cymru. Er bod y bwriad yn cynnwys llecyn agored bwriedig, nid yw’r llecyn yn cwrdd â’r angen ar gyfer llecyn gydag offer. Er mwyn cydymffurfio a gofynion polisi ISA5 o’r CDLl ynghyd a’r CCA: Llecynnau Agored mewn Datblygiadau Tai Newydd, cafwyd cadarnhad y bydd yn ofynnol i’r datblygwr ddarparu cyfraniad o £8911.54 drwy gytundeb 106 er mwyn sicrhau darpariaeth briodol yn yr ardal leol.

 

Ni ystyriwyd fod y bwriad yn groes i bolisïau lleol na chenedlaethol ac nad oedd unrhyw fater cynllunio perthnasol yn gorbwyso’r ystyriaethau polisi. O ganlyniad,  ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol yn ddarostyngedig ar gwblhau Cytundeb 106 i sicrhau cyfraniad addysg a chyfraniad llecyn agored ac i gynnwys amodau priodol.

 

b)            Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y pwyntiau canlynol:

 

·           Bod y datblygiad yn bwysig iawn i Grŵp Cynefin – ei fod ar ei stepen drws

·           Cynhaliwyd ymgynghoriad sylweddol ar y datblygiad trwy arolwg anghenion tai a gynhaliwyd gan yr Hwylusydd Tai Gwledig a hefyd proses cyn ymgeisio cynllunio

·           Cynlluniau wedi ei diwygio ar sawl achlysur - bod datblygiad y 24 cartref newydd hyn a'r gymysgedd a gyflwynir yn y cais yn ymateb i adborth a phryderon a godwyd.

·           Bod y tir eisoes ym mherchnogaeth Grŵp Cynefin ac wrth ei ddatblygu mae'n cyf;wyno heriau, gyda'r angen i fynd i'r afael ag amodau tir annormal sylweddol a lleoliad gwasanaethau ar ran o'r safle. Fodd bynnag, y datblygiad fel y'i dyluniwyd a'i gyflwyno yn mynd i'r afael â hyn.

·           Y bwriad yw adeiladu 24 o gartrefi carbon isel ac ynni effeithlon newydd, a llwyddwyd i gael arian grant gan Lywodraeth Cymru trwy’r Rhaglen Tai Arloesol

·           Fel Landlord Cymdeithasol Cofrestredig, bydd yr holl gartrefi newydd ar gael i bobl leol ar ddeiliadaeth fforddiadwy cymysg. Bydd y ddeiliadaeth yn unol â'r ddeiliadaeth fforddiadwy a ganiateir gan amodau'r grantiau sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y datblygiad

·           Yn gweithio'n agos gyda Chyngor Cymuned Llanllyfni, Cyngor Gwynedd a Tai Teg i gytuno ar bolisi gosod lleol ar gyfer y cartrefi newydd yma.

 

c)            Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y pwyntiau canlynol

·         Bod angen dirfawr am dai i bobl lleol

·         Diffyg tai yn un o heriau Cyngor Gwynedd, felly croesawu’r datblygiad

·         Yn ddatblygiad arloesol, amgylcheddol gyfeillgar

·         Yn ymateb i’r angen am dai yn lleol

·         Ymfalchïo yn y cynllun

·         Cefnogaeth llawn i’r cynllun

 

ch)       Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais

 

d)            Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

 

·         Bod y tai yn rhai o ansawdd da

·         Gosodiad yn dderbyniol

·         Hapus gyda’r amodau a’r dyluniad

·         Croesawu amod argymhellion yr Uned Coed

·         Bod angen ystyried enwau Cymraeg ar y tai

·         Croesawu’r datblygiad

·         Angen am dai yn lleol

 

Mewn ymateb i sylw bod 24 yn lawer o dai a bod angen osgoi gweld sefyllfa o dai gwag fyddai o ganlyniad yn cael eu gwerthu fel tai marchnad agored, nododd y Rheolwr Cynllunio bod yr ymgeisydd yn landlord cofrestredig fydd yn derbyn grant sydd yn clymu’r tai fel rhai fforddiadwy yn unig - bydd y tai yn cael eu gosod ar rent drwy bartneriaeth rhwng y Cyngor a Grŵp Cynefin.

 

Mewn ymateb i sylw am enwau tai Cymraeg, amlygwyd bod trefn statudol i enwi tai ac na fyddai yn rhesymol gosod amod i sicrhau hyn. Ategwyd bod Rheolaeth Adeiladu gyda chyfrifoldeb dros enwi stadau a rhifo tai.  Byddai modd annog pobl i ddefnyddio enwau Cymraeg - awgrym i osod nodyn i amlygu’r dymuniad.

 

            PENDERFYNWYD

 

            Dirprwyo’r hawl i Bennaeth Cynorthwyol Adran yr Amgylchedd i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i dderbyn ymateb ffafriol gan Dwr Cymru ac i’r ymgeisydd gwblhau cytundeb o dan Adran 106 er mwyn sicrhau cyfraniad ariannol ar gyfer darpariaeth addysgol a chyfraniad llecyn agored.

 

            Amodau

 

1.         5 mlynedd.

2.         Yn unol â’r dogfennau/cynlluniau a gyflwynwyd gyda’r cais.

3.         Llechi naturiol.

4.         Samplau o’r deunyddiau a’r lliwiau ar gyfer y tai ynghyd a manylion y paneli solar i’w cytuno gyda’r ACLL.

5.         Amodau Priffyrdd.

6.         Tirlunio meddal a chaled.

7.         Amodau Bioamrywiaeth a Choed

8.         Cyfyngu ar oriau gweithio i 08:00 - 18:00 yn yr wythnos, 08:00 - 12.00 ar ddydd Sadwrn a dim o gwbl ar y Sul a Gwyliau Banc.

9.         Manylion Llwybr

10.       Cytuno manylion parthed enwau Cymraeg ar gyfer y datblygiad ynghyd ac arwyddion sy’n hysbysu ac yn hyrwyddo’r datblygiad o fewn ac oddi allan y safle.

11.       Sicrhau cynllun/trefniadau ar gyfer darparu’r unedau fforddiadwy.

12.       Tynnu hawliau datblygu cyffredinol o’r unedau fforddiadwy.

13.       Cyflwyno Datganiad Dull Adeiladu gan gynnwys darpariaeth parcio cerbydau’r adeiladwyr.

14.       Cyflwyno manylion goleuadau allanol i’w gytuno gyda’r ACLL cyn iddynt gael eu gosod.

15.       Amod mesurau lliniaru archeolegol.

16.       Diogelu’r llecyn agored ar gyfer y dyfodol

 

Nodyn: Hysbysu’r ymgeisydd o’r angen i gyflwyno cynllun strategaeth ddraenio gynaliadwy i’w gymeradwyo gan Uned Dwr ac Amgylchedd y Cyngor

 

Nodyn: Hysbysu’r ymgeisydd o ymateb Dŵr Cymru sy’n cyfeirio at garthffos gyhoeddus yn croesi’r safle.

 

Nodyn: Enwau Cymraeg i’r tai yn ogystal â’r Stad/ffyrdd o fewn y stad ei hun

 

Dogfennau ategol: