Agenda item

Adroddiad gan Alwen Williams, Cyfarwyddwr Portffolio.

Penderfyniad:

1.  Mabwysiadu'r datganiad sefyllfa arfaethedig yn adran 5.1 o’r adroddiad ar sut y bydd prosiectau'r Cynllun Twf yn cyflawni yn erbyn dyheadau rhanbarthol a dyheadau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar newid hinsawdd ac ecolegol, gyda’r addasiadau a ganlyn:-

·         Diwygio’r ail bwynt bwled i ddarllen “cyflawni o leiaf 40% yn llai o garbon corfforedig”.

·         Diwygio’r trydydd pwynt bwled i ddarllen “cyflawni o leiaf 10% o fudd net ar gyfer bioamrywiaeth”.

·         Dileu’r frawddeg ddiwethaf, sef “Bydd y Swyddfa Rheoli Portffolio yn gweithio gydag arianwyr prosiectau i gyflawni’r datrysiad fforddiadwy gorau ar gyfer pob prosiect”.

2.  Nodi y bydd gofyn i holl brosiectau'r Cynllun Twf amlinellu i ba raddau y byddant yn cyflawni yn erbyn y datganiad sefyllfa ac unrhyw fesurau lliniaru perthnasol fel rhan o broses gymeradwyo'r achos busnes.

3.  Dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Portffolio bennu'r modd gweithredu a mesur priodol ar draws y portffolio a nodi y bydd angen comisiynu arbenigedd allanol i gefnogi'r Swyddfa Rheoli Portffolio.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Alwen Williams (Cyfarwyddwr Portffolio) a Robyn Lovelock (Rheolwr Rhaglen Cynllun Twf).

 

PENDERFYNWYD

(1)     Mabwysiadu’r datganiad sefyllfa arfaethedig yn adran 5.1 o’r adroddiad ar sut y bydd prosiectau’r Cynllun Twf yn cyflawni yn erbyn dyheadau rhanbarthol a dyheadau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar newid hinsawdd ac ecolegol, gyda’r addasiadau a ganlyn:-

·         Diwygio’r ail bwynt bwled i ddarllen “cyflawni o leiaf 40% yn llai o garbon corfforedig”.

·         Diwygio’r trydydd pwynt bwled i ddarllen “cyflawni o leiaf 10% o fudd net ar gyfer bioamrywiaeth”.

·         Dileu’r frawddeg ddiwethaf, sef “Bydd y Swyddfa Rheoli Portffolio yn gweithio gydag arianwyr prosiectau i gyflawni’r datrysiad fforddiadwy gorau ar gyfer pob prosiect”.

(2)     Nodi y bydd gofyn i holl brosiectau’r Cynllun Twf amlinellu i ba raddau y byddant yn cyflawni yn erbyn y datganiad sefyllfa ac unrhyw fesurau lliniaru perthnasol fel rhan o broses gymeradwyo’r achos busnes.

(3)     Dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Portffolio bennu’r modd gweithredu a mesur priodol ar draws y portffolio a nodi y bydd angen comisiynu arbenigedd allanol i gefnogi’r Swyddfa Rheoli Portffolio.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Heb ddatganiad sefyllfa clir gan y Bwrdd ar newid hinsawdd ac ecolegol, gellid colli cyfleoedd i siapio achosion busnes y prosiectau.  Gallai hyn arwain yn anfwriadol at brosiectau’r Cynllun Twf yn cynyddu allyriadau carbon rhanbarthol a cholli bioamrywiaeth.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad oedd yn cyflwyno datganiad sefyllfa arfaethedig ar gyfer Cynllun Twf Gogledd Cymru yn ymwneud â newid hinsawdd ac ecolegol.

 

Manylwyd ar y cefndir ac ystyriaethau perthnasol a’r ymgynghoriadau a gynhaliwyd.

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-

 

·         Mynegwyd pryder gan rai aelodau nad oedd y datganiad sefyllfa arfaethedig yn mynd yn ddigon pell, a bod angen tynhau ar y geiriad, e.e. dylid nodi ‘bydd holl brosiectau’r Cynllun Twf yn ...’, yn hytrach na ‘bydd holl brosiectau’r Cynllun Twf yn anelu i ...’, ayb.

·         Pwysleisiwyd y dylai’r Bwrdd Uchelgais arwain ar draws y Gogledd ar leihau ôl troed carbon, ac awgrymwyd y dylai holl brosiectau’r Cynllun Twf gyflawni 50% yn llai o garbon corfforedig (yn hytrach na 40%, fel y nodwyd yn y datganiad sefyllfa arfaethedig) a chyflawni budd net o 20% ar gyfer bioamrywiaeth (yn hytrach na’r 10% a nodwyd yn y datganiad).  Mewn ymateb, eglurwyd nad oedd Cymru wedi sefydlu targed budd net ar gyfer bioamrywiaeth, ond roedd yn cydnabod nad oedd y sefyllfa bresennol yn gefnogol i iechyd ecosystemau, a bod angen bod yn fwy uchelgeisiol.  Yn absenoldeb targed ar gyfer Cymru, dilynwyd arweiniad DEFRA, oedd wedi ymgynghori’n helaeth dros gyfnod o fisoedd lawer yn Lloegr cyn sefydlu’r budd net o 10%.  Nodwyd ymhellach bod y targed ar gyfer carbon corfforedig yn uchelgeisiol, ac y byddai’n bosib’ tynhau’r geiriad, mae’n debyg.  Tynnwyd sylw hefyd at y ffaith bod y datganiad yn nodi y byddai prosiectau’n cael eu hannog i gyflawni’n uwch na’r dyheadau hyn, ond roedd yn rhaid i’r geiriad hefyd gydnabod yr amrediad aeddfedrwydd o fewn y portffolio, a darparu asesiad realistig o hynny.

·         Mewn ymateb i gwestiwn, eglurwyd bod pob un o’r chwe Awdurdod Lleol yn y Gogledd naill ai wedi datgan argyfwng hinsawdd, neu wedi gwneud ymrwymiadau i fod yn garbon niwtral erbyn 2030, a chytunodd y Rheolwr Rhaglen Cynllun Twf i anfon y wybodaeth ynglŷn â’r ymrwymiadau at Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

·         Cytunwyd bod rhaid cael dyhead, ond pwysleisiwyd hefyd bod angen bod yn wyliadwrus o ran tynhau’r geiriad, rhag gyrru datblygwyr o Ogledd Cymru i ranbarthau eraill lle nad yw’r gofynion mor llym.

·         Nodwyd bod yna lawer o ansicrwydd o gwmpas gwaelodlinau, ac ati, ac nad mater hawdd oedd gwneud y cyfrifiadau hyn.  Nodwyd y gallai’r arbenigedd ym Mhrifysgol Bangor gefnogi’r broses.  Awgrymwyd y dylai’r Bwrdd wneud yr hyn sy’n bosib’ ar hyn o bryd, gan edrych ar godi’r safonau hynny yn y dyfodol, pan fydd y dechnoleg, ac ati, wedi datblygu ymhellach.

·         Nodwyd bod rhaid bod yn ymarferol, a bod peryg’ mewn gwneud gormod o addewidion.  Fodd bynnag, roedd yna gyfleoedd ar gael, e.e. mentrau hydrogen glas, o bosib’.

·         Pwysleisiwyd y dylai’r Bwrdd Uchelgais fod yn fwy uchelgeisiol nag sy’n gyfforddus, er mwyn gyrru’r newid y dymunir ei weld.  Nid oedd yr economi a’r amgylchedd yn annibynnol o’i gilydd, a byddai’r economi yn cael ei gyrru gan y newidiadau sy’n cael eu gyrru gan y Bwrdd yn nhermau’r amgylchedd.

·         Mynegwyd y farn bod y datganiad yn llawn dyhead, a’i fod yn rhoi arweiniad clir i’r gymuned fusnes.

·         Awgrymwyd bod y datganiad yn addas ar gyfer lle rydym wedi gyrraedd ar hyn o bryd, ond y dymunid i’r Bwrdd ei adolygu ymhen 12 mis i weld sut effaith mae’n gael, ac i sicrhau ei fod yn cyd-fynd â gofynion busnesau o safbwynt caniatáu amser digonol i’r sector breifat, yn arbennig, i gynllunio tuag at hyn.

·         Croesawyd y gwaith, a chefnogwyd y polisi a’r fframwaith oedd yn cael ei roi ymlaen.  Fodd bynnag, mynegwyd pryder y gallai’r polisi gael ei orfodi yn hwyr yn y dydd ar rai prosiectau oedd yn eithaf aeddfed yn barod.  Mewn ymateb, nodwyd bod yna oblygiadau, ond bod rhaid bod yn uchelgeisiol, ac yn briodol hefyd o ran beth fyddai goblygiadau costau ychwanegol yn erbyn y gyllideb a osodwyd, gan gymryd i ystyriaeth hefyd bod angen ail-edrych ar hyn yn gyson er mwyn sicrhau bod y cynlluniau a’r dyheadau yn briodol i’r cyfnod.  Ni ddymunid cytuno’n awr i unrhyw sefyllfa na fyddai’r holl bartneriaid yn gallu ymrwymo iddo, felly roedd angen i’r dyhead fod yn briodol i bawb, ond yn rhywbeth y gellid ei ystyried ymhellach ymlaen er mwyn codi’r uchelgais.

·         Awgrymwyd nad oedd pwrpas i frawddeg olaf y datganiad sefyllfa, sef ‘Bydd y Swyddfa Rheoli Portffolio yn gweithio gydag arianwyr prosiectau i gyflawni’r datrysiad fforddiadwy gorau ar gyfer pob prosiect’, gan y byddai datblygwyr yn awyddus i wneud cymaint o elw â phosib’.

·         Nodwyd bod y Bwrdd mewn sefyllfa o gryn anwybodaeth ar hyn o bryd, ac ar siwrne o ddysgu.  Nid oedd yn glir sut y gellid cyflawni budd net o 10% ar gyfer bioamrywiaeth, a chredid nad oedd gan y Bwrdd sail wyddonol ffeithiol ar hyn o bryd i ddweud nad oedd y targed o 10% yn ddigonol.  Gwastraff fyddai cefnogi targed uwch, gan wybod na fyddem yn ei gyrraedd.  Efallai y byddai gwybodaeth ar gael ymhen 2 flynedd, ac y gellid edrych ymhellach ar y ffigwr ar yr adeg hynny.

·         Pwysleisiwyd y dylai’r Bwrdd fod yn arwain, yn hytrach nag yn dilyn, ar hyn.  Credid bod DEFRA wedi sefydlu’r ffigwr budd net anghywir, a bod gennym gyfle yma i gynyddu’r mannau gwyrdd a gwella bioamrywiaeth o fewn ein datblygiadau newydd.  Mewn ymateb, nodwyd na ellid tanbwysleisio’r her.  Roedd angen arbenigedd ychwanegol i ddeall y mesurau i’w defnyddio i asesu’r waelodlin.  Eglurwyd bod y prosesau rheoleiddio cyfredol, mewn rhai achosion, yn arwain at raddfa effeithiolrwydd ail-sefydlu bioamrywiaeth ar ôl datblygu o 6-20%, ac roedd polisi cynllunio yn dweud bod angen i ni wneud yn well, ac roedd yr uchelgais yn sylweddol.  Nid oeddem yn glir o ran sut i wneud hynny, ac felly roedd angen cyngor ychwanegol ar hynny.  Roedd ail ran y datganiad yn nodi y dymunir gweld prosiectau’n cyflawni’n uwch na’r dyheadau hyn.  Nid oedd unrhyw beth yn atal prosiectau Wrecsam rhag cyflawni hyn, ac edrychid ymlaen at gydweithio gyda Glyndŵr i wneud hynny.

·         Mewn ymateb i gwestiwn, awgrymwyd y gallai’r Bwrdd adolygu’r datganiad cyn pen 12 mis, ar ôl cael cefnogaeth ychwanegol a chyngor technegol.

·         Nodwyd y byddai dal yn ôl rhag sefydlu targedau yn golygu y byddai’r Bwrdd yn colli cyfleoedd, gan fod rhai prosiectau yn datblygu achosion busnes eisoes, ac yn chwilio am arweiniad ar hyn.  Gan hynny, awgrymwyd diwygio ail a thrydydd pwynt bwled y datganiad i gyfeirio at ‘o leiaf’ 40% a 10%, er mwyn pwysleisio ein dyhead i fynd ymhellach na hynny.

 

Dogfennau ategol: