Cyflwynwyd gan:Cyng. Craig ab Iago
Penderfyniad:
a)
Gefnogwyd
blaenoriaethu'r defnydd o’r Grant Cymorth Tai fel yr amlinellwyd ym mharagraff
36 o’r adroddiad.
b)
Gefnogwyd yr egwyddor i barhau i gydweithio gyda
darparwyr allanol er mwyn cynnig gwasanaethau cefnogol arbenigol ychwanegol i’r
hyn y gellir ei ddarparu’n fewnol.
c)
Nodwyd y risg ynghlwm i’r grant refeniw yn y
dyfodol (fel pob grant refeniw arall) a’r mesur lliniaru a nodwyd ym mharagraff
39 o’r adroddiad hwn.
COFNODION:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Craig ab
Iago
PENDERFYNIAD
a.
Cefnogwyd blaenoriaethu'r defnydd o’r
Grant Cymorth Tai fel yr amlinellwyd ym mharagraff 36 o’r adroddiad.
b.
Cefnogwyd yr egwyddor i barhau i
gydweithio gyda darparwyr allanol er mwyn cynnig gwasanaethau cefnogol
arbenigol ychwanegol i’r hyn y gellir ei ddarparu’n fewnol.
c.
Nodwyd y risg ynghlwm i’r grant refeniw
yn y dyfodol (fel pob grant refeniw arall) a’r mesur lliniaru a nodwyd ym
mharagraff 39 o’r adroddiad hwn.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y Cabinet wedi bod yn
amlygu nad yw'r ddwy Lywodraeth wedi bod yn gwneud digon i daclo'r problemau
tai sydd i’w gweld yn y sir. Amlygwyd y
camau mae’r Cyngor wedi ei wneud i daclo’r broblem tai megis adroddiad
am ail dai o fewn y sir, edrych ar y maes twristiaeth ac adfywio cymunedau.
Pwysleisiwyd mai un o flaenoriaethau’r Adran Tai ac Eiddo yw taclo
digartrefedd, gan ychwanegu fod rhan fawr o’r Cynllun Gweithredu Tai yn edrych
ar y mater.
Ymhelaethwyd fod penderfyniad heddiw yn amlinellu
cynlluniau’r adran i ddefnyddio arian Grant Cymorth Tai er mwyn taclo
digartrefedd.
Ychwanegodd Pennaeth yr Adran Tai ac Eiddo fod niferoedd
digartrefedd wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf. Mynegwyd yn ystod y blynyddoedd cynnar o gynnydd yn nigartrefedd
fod y Cyngor wedi bod yn ymateb yn araf ac wedi methu a chreu cynllun hir
dymor. Bellach, nodwyd fod cynllun hir dymor yn ei le ac amlinellwyd y
cynllun.
Pwysleisiwyd dros y flwyddyn ddiwethaf fod cynnydd o 26%
wedi bod yn y niferoedd sy’n cyflwyno eu hunain yn ddigartref, cynnydd o 71%
dros bum mlynedd. Amlygwyd ei bod yn gyfnod o argyfwng ac nad yw’r ffordd
bresennol o weithio yn ddigonol.
Mynegwyd fod y Grant Cymorth Tai am gynorthwyo’r adran i symud ymlaen
gyda cham 2 a 3 o’r cynllun sef i adeiladu unedau tai dros dro i’r digartref ac
i gynyddu’r staff cefnogol i’r unigolion.
Nodwyd yn
2019 fod y Llywodraeth wedi rhagrybuddio y byddant yn edrych ar leihau'r grant
hwn. Fodd bynnag, o ganlyniad i ddigartrefedd yn cael ei amlygu yn ystod cyfnod
covid-19, bu i ddyfodol y grant newid yn llwyr. Mynegwyd fod dyraniad
ychwanegol o £1.6m ac o ganlyniad i hyn y bydd modd i’r Adran fynd yn syth i
adeiladu 50 o unedau tai dros dro. Ategwyd y bydd yr arian yn ogystal yn galluogi’r
Cyngor i ddyblu'r tîm cefnogaeth i unigolion digartref i dderbyn cefnogaeth
emosiynol ynghyd a sgiliau bywyd.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth
¾ Croesawyd yr adroddiad gan nodi'r angen am
gefnogaeth ar gyfer y digartref. Tynnwyd sylw at ddigartrefedd cudd.
¾ Pwysleisiwyd
yr angen i wneud gwaith ataliol gan holi os oedd modd ddefnyddio'r arian grant
ar gyfer y gwaith hwn. Nodwyd fod gwaith ymyrraeth gynnar yn rhan o’r annatod o
gynnig cefnogaeth fel bod modd cefnogi’r unigolion i ddal gafael eu llety yn
ogystal.
¾ Diolchwyd
am y cynllun hirdymor ynghyd â chynyddu capasiti o fewn yr adran i wneud y
gwaith sydd ei angen i gefnogi’r unigolion.
¾ Mynegwyd
ei bod yn dda cael newyddion da i gefnogi unigolion a bod yn rhagweithiol wrth
symud ymlaen.
Awdur:Dafydd Gibbard
Dogfennau ategol: