Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Cemlyn Williams
Ystyried
adroddiad ar yr uchod.
*10-30yb –
11.30yb
Penderfyniad:
Derbyn yr
adroddiad, gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd - yn arbennig ynghylch addasrwydd
trefniadau y Fframwaith, yr angen i gynnig cynhaliaeth llawn i bobl ifanc sydd
mewn peryg’ o / wedi dadrithio o fyd addysg, hyfforddiant neu waith, gan
sicrhau fod yr elfennau hyn yn cael sylw wrth adolygu ein darpariaethau i’r
dyfodol. Dylid hefyd ystyried craffu’r
maes ymhellach, gan drafod yr amserlen ar gyfer hynny yng Ngweithdy Blynyddol y
pwyllgor hwn ym mis Mai.
Cofnod:
Croesawyd yr Aelod Cabinet Addysg a’r Aelod
Cabinet Plant a Phobl Ifanc, ynghyd â swyddogion yr Adran Addysg a’r Adran
Plant a Chefnogi Teuluoedd i’r cyfarfod.
Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet
Addysg yn gwahodd y pwyllgor craffu i ystyried a yw trefniadau a
darpariaethau’r Cyngor yn ddigonol i gefnogi pobl ifanc sydd mewn perygl o gael eu dadrithio gan addysg, neu sydd wedi eu dadrithio gan
addysg, hyfforddiant neu waith.
Gosododd y ddau Aelod Cabinet y cyd-destun,
gan nodi:-
·
Bod
y Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid, a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru
yn 2013, yn gyfrifoldeb trawsadrannol.
·
Y ceisid barn y craffwyr ar y trefniadau ar gyfer
cyflawni gofynion y Fframwaith wedi i arian Cronfa
Gymdeithasol Ewrop (ESF) ar gyfer prosiectau TRAC ac ADTRAC ddod i ben.
·
Bod
angen i bawb atgoffa eu hunain yn gyson yn ystod y drafodaeth mai adroddiad am
fframwaith oedd hwn, sef y fframwaith o ran sut mae’r Cyngor yn cefnogi plant a
phobl ifanc nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg neu hyfforddiant (NEET).
Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a
chyflwyno sylwadau. Yn ystod y
drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-
·
Wrth
symud ymlaen, ei bod yn bwysig deall llwyddiannau a methiannau’r ddarpariaeth
bresennol.
·
Y
teimlid bod y pwyllgor yn craffu’r mater hwn yn rhy fuan, neu’n rhy hwyr. Roedd y Fframwaith ei hun yn 8 mlwydd
oed. Er bod trefniadau’r fframwaith wedi
bod mewn lle ers hynny, roedd newid wedi bod yn rhai o’r darpariaethau oedd
ynghlwm â hi. Roedd gwaith adolygu rhai
o’r darpariaethau ar waith. Hyd yma
nododd adolygiad Wavehill o TRAC a ADTRAC fod angen am y math yma o gefnogaeth
i bobl ifanc, ac roedd eu llwyddiant yn amlwg yn yr adolygiad i fyny at ryw
bwynt, ond roedd pethau wedi newid ers hynny, yn arbennig yn sgil cyd-destun y
pandemig. Gwelid hefyd yr awydd i barhau
â’r darpariaethau yma, ond fod eu ariannu yn dod i ben. Roedd arian ADTRAC yn dod i ben mis nesaf, ac
arian TRAC yn dod i ben ymhen y flwyddyn.
Roedd trafodaethau ar ffynonellau ariannu y tu hwnt i’r Cronfeydd
Ewropeaidd presennol yn cael eu harwain o Lywodraeth San Steffan, ond sut
fyddai’n bosib’ bwrw ymlaen, oni bai bod yna newid meddwl sylweddol iawn ar ran
y grymoedd sy’n ariannu’r pethau hyn?
·
Bod cydweithio yn hynod bwysig yn y sefyllfa anodd
sydd ohoni o ganlyniad i golli’r arian ESF, a
chyfeiriwyd at gydweithio amlasiantaethol yn Nyffryn Nantlle fel enghraifft dda
o feddwl y tu allan i’r bocs.
·
Mai un o’r dylanwadau mwyaf
ar bobl ifanc yw eu cyfoedion, a chymerid bod yna bobl ifanc, fu’n anodd ac yn
fregus ar un adeg, ond sydd bellach wedi troi cornel ac wedi symud ymlaen i
addysg bellach, hyfforddiant neu waith, ac sy’n fodlon siarad yn agored gyda
phobl ifanc dadrithiedig.
·
Dylid
holi oes tystiolaeth bod y penderfyniad i godi tâl am gludiant i Goleg Meirion
Dwyfor wedi bod yn rhwystr i bobl ifanc fynychu addysg bellach.
Mewn ymateb i’r sylwadau, ac i gwestiynau
gan aelodau:-
·
Manylwyd
ar y cydweithio rhwng y gwasanaeth iechyd meddwl CAHMS o fewn ADTRAC, a rhwng
prosiect TRAC gyda’r Gwasanaeth ADY a Chynhwysiad a’r Gwasanaeth Cwnsela
Ysgolion.
·
O
ran mesur faint o bobl ifanc oedd mewn gwaith erbyn cyrraedd 25 oed, eglurwyd
bod y Gwasanaeth yn mesur yr allbynnau, neu daith pobl ifanc sy’n ymgysylltu
gyda’r rhaglenni a’r darpariaethau. O
safbwynt ADTRAC, darparwyd inffograffeg yn amlinellu faint o bobl ifanc oedd yn
derbyn cefnogaeth, ac wedi symud i addysg, hyfforddiant neu waith. O’r nifer o bobl ifanc oedd yn derbyn y
gefnogaeth, roedd 77% yn symud ymlaen i allbwn llwyddiannus. Roedd y Gwasanaeth hefyd yn casglu’r
deilliannau meddal, mwy cadarnhaol roedd y bobl ifanc yn eu derbyn.
·
O safbwynt y gwersi a ddysgwyd o ran pa ymyraethau
sy’n llwyddiannus neu beidio, eglurwyd y byddai’r gwerthusiad terfynol o ADTRAC
a TRAC yn amlinellu’r ymyraethau mwyaf llwyddiannus, fel bod modd eu
hymgorffori mewn gwasanaethau craidd i’r dyfodol, wedi i’r cronfeydd Ewropeaidd
ddod i ben.
·
Eglurwyd nad oedd Cofid wedi
effeithio ar y systemau tracio pobl ifanc, gan fod y cydweithio amlasiantaethol
wedi agosáu yn sgil Cofid. Fodd bynnag,
roedd wedi effeithio ar y gallu i ymgysylltu’n llwyddiannus gyda phobl ifanc NEET,
oherwydd bod y gwaith wyneb yn wyneb wedi gorfod dod i
ben yn ystod y cyfnodau clo.
·
O ran sefydlu mecanwaith ar gyfer craffu pa mor
lwyddiannus oedd y ddarpariaeth a roddwyd yn y gorffennol, nodwyd y byddai’r
Grŵp Rheoli Fframwaith Ymgysylltu, oedd yn gyrru’r agenda lleol o dan y
Fframwaith, yn derbyn ac yn trafod canlyniadau’r gwerthusiadau.
·
Eglurwyd na lwyddwyd i
sefydlu ymgysylltiad gyda thraean o’r cyfeiriadau i ADTRAC, a bod y rhesymau am
hyn yn gymhleth, gan gynnwys amharodrwydd rhai pobl ifanc i ymgysylltu â’r
ddarpariaeth, diffyg amser o fewn ffiniau prosiect i fagu’r berthynas a’r
ymgysylltiad ac oedran datblygiadol rhai o’r bobl ifanc. Er hynny, gwelid yn aml fod pobl ifanc sy’n
gadael ysgol yn 16 oed, heb symud ymlaen i addysg, hyfforddiant neu waith, yn
barod i ymgysylltu â’r ddarpariaeth cyflogaeth ymhen blwyddyn neu ddeunaw mis.
·
Nodwyd bod TRAC ac ADTRAC yn cydlynu cyfarfodydd
pontio yn flynyddol, ac felly’n adnabod unigolion sydd â risg o beidio symud
ymlaen i hyfforddiant neu waith, ac yn cadw rhywfaint o drac arnynt. Fel gydag ADTRAC, roedd y cyfeiriadau i TRAC
yn achosion cymhleth, a rhai o’r plant hynny’n amharod i ymgysylltu â’r
gefnogaeth. Yn fisol gallai hyd at 1000
o ddisgyblion amlygu yn gymwys i dderbyn cefnogaeth TRAC. Yn amlwg ni allai
pob un ohonynt dderbyn gwasanaeth. Roedd
TRAC yn ymgymryd â gwaith mapio er adnabod y rhai mwyaf anghenus. O ran tracio disgyblion mewn Coleg, y Coleg a
Gyrfa Cymru oedd yn gwneud hynny.
·
O ran y niferoedd, eglurwyd na
fu i 160 allan o’r 470 o gyfeiriadau i ADTRAC dros y 3 mlynedd ddiwethaf symud
ymlaen i gofrestru gyda’r prosiect.
Roedd data ar gael o ran y gymhariaeth gydag
awdurdodau eraill, a gellid adrodd yn ôl i’r craffwyr mewn ysgrifen ar hynny.
·
O
ran atal disgyblion Blwyddyn 11 rhag cyrraedd sefyllfa o adael ysgol heb bontio
i addysg bellach, hyfforddiant neu waith, eglurwyd bod Gyrfa Cymru’n bartner
llawn gydag Addysg, a bod modd cael mynediad at gyflogwyr, ayb, fel y gallai’r
bobl ifanc flasu a gweld yr opsiynau sydd ar gael iddynt.
·
O ran sicrhau parhad y gwasanaeth i’r dyfodol yn
niffyg arian Ewropeaidd, nodwyd bod gwerthusiad o TRAC
yn cael ei wneud yn rhanbarthol, ynghyd â gwerthusiad o ran effaith Cofid. Bwriedid cychwyn ar werthusiad lleol hefyd
fel y gellid gweld beth fydd y bylchau fydd TRAC yn gadael ar ei ôl. Roedd gwaith ar droed hefyd i fapio
etifeddiaeth TRAC, ond ni fyddai’n bosib’ i unrhyw
fodel newydd fod yr un model ag yn bresennol.
Roedd TRAC yn tynnu £3m o arian Ewropeaidd i
mewn dros y 6 mlynedd (2016-2022).
Edrychwyd ar fodelau fel bod yr Adran Addysg yn mabwysiadu elfennau o
TRAC o fewn y gwasanaethau sy’n bodoli eisoes, gan ddefnyddio gwasanaethau fel
ymyrraeth gynnar, cyfathrebu a rhyngweithio, sy’n gweithio’n bennaf yn y sector
cynradd. Byddai’r gwasanaethau
cynhwysiad hefyd yn gallu etifeddu rhywfaint o egwyddorion TRAC. Iddo weithio’n iawn, byddai’n rhaid i’r model
fod yn wahanol i’r hyn sy’n cael ei ddarparu eisoes, gan fod yn greadigol ac yn
hyblyg o ran anghenion yr unigolion yma.
Cydnabyddid bod yna waith i’w wneud, a dyma fyddai’n arwain rhaglen
waith y Rheolwr TRAC dros y 18 mis nesaf, fel bod modd cyflwyno model i’r Adran
Addysg, boed y Cyngor yn derbyn arian ar gyfer hynny neu beidio. O ran ADTRAC,
roedd yr Adran Plant eisoes wedi ail-fodelu ei ddarpariaeth yn y Gwasanaeth
Ieuenctid i sicrhau trefniadau olynol i gyfarch rhai agweddau o’r prosiect
hwnnw y tu hwnt i gyfnod ariannu Ewrop.
·
O
safbwynt parhad y gefnogaeth, nodwyd bod y gwerthusiad yn edrych ar sut mae
TRAC yn cyd-fynd â darpariaeth rhai o wasanaethau eraill y Cyngor, megis yr ysgolion,
y Gwasanaeth Ieuenctid a’r Gwasanaeth ADY a Chynhwysiad, gan ystyried lle mae’r
bylchau, lle gellir eu llenwi, a lle fydd y bylchau yn amlwg yn parhau.
·
Nodwyd
bod TRAC/ADTRAC yn cydweithio gydag adrannau eraill y Cyngor i gynnig cyfleoedd
i unigolion sydd ar gynlluniau, megis Kickstart, gael profiad gwaith gyda’r
Cyngor.
·
Eglurwyd, fel y nodwyd yn Atodiad 6 i’r adroddiad, bod
y Fframwaith yn ddibynnol ar TRAC ac ADTRAC o ran y gallu i adnabod pobl ifanc
sy’n debygol o ddisgyn allan o addysg, neu sydd wedi disgyn allan o addysg,
hyfforddiant neu waith. Roedd yr
ansicrwydd o ran pryd oedd yr adeg gorau i adolygu’r Fframwaith yn fater o
bryder. Roedd y Cyngor yn cael ei yrru
gan ariannu ESF i fod yn adolygu’r ddarpariaeth a’r trefniadau, ond roedd yr
holl Fframwaith yn ddibynnol ar ariannu oedd yn dod i
ben ar adegau gwahanol. Roedd rhannau
o’r ddarparaieth ôl-16 wedi’i adolygu, a’r elfen 11-16 oed eto
i’w adolygu. Holwyd y
craffwyr a oeddent yn gyfforddus ein bod, drwy gael ein gorfodi i adolygu yn y
ffordd rydym yn gwneud ar hyn o bryd, yn mynd i gyfarch anghenion y Fframwaith
yn ei gyfanrwydd, neu a oeddent o’r farn bod rhywbeth yn cael ei golli drwy
weithredu felly, gan dderbyn, ar yr un pryd, ei bod yn amhosib’ gwneud yr
adolygu i gyd mewn un cam. Er bod
TRAC ac ADTRAC yn ddau brosiect eithaf allweddol i’r Fframwaith, nid dyma’r
unig adnoddau i helpu’r Cyngor i gyflawni’r nod, ac nid oedd yn glir ar hyn o
bryd a ddeellid yr holl ddarpariaeth bellach.
Roedd angen deall hefyd beth oedd perthynas y Fframwaith i raglenni
economaidd a chyflogadweydd eraill, megis Cymunedau am Waith a Gwaith
Gwynedd. Pwrpas y Fframwaith oedd
sicrhau bod pob person ifanc yn ymgysylltu ag addysg, hyfforddiant, neu waith,
ond roedd Cofid, a phrofiad TRAC ac ADTRAC fel prosiectau, wedi dangos nad
ymyraethau gwaith nac addysg, yn ystyr y cwricwlwm addysg neu’r dysgu, oedd eu
hangen ar rai pobl ifanc. Roedd yna heriau yn ymwneud â
datblygiad personol ac amgylchiadau cymdeithasol pobl ifanc, ac efallai bod lle
i gwestiynu a oedd y Fframwaith ei hun yn addas i bwrpas bellach, gan ei fod yn
ceisio cynhyrchu allbynnau a chanlyniadau economaidd i bob person ifanc, er y
gwelwyd bod iechyd meddwl, llesiant a datblygiad personol wedi bod yn fwy o
rwystrau i bobl ifanc fynd yn ôl i addysg, hyfforddiant neu waith dros y 12 mis
diwethaf.
·
O ran targedu pobl ifanc sy’n cicio yn erbyn y tresi,
a’u tynnu i mewn i’r Fframwaith a rhoi cynhaliaeth iddynt, eglurwyd bod TRAC yn
gweithio gyda phobl ifanc yn bennaf drwy’r ysgolion. Gan fod y gwasanaeth yn eistedd o fewn yr
Adran Addysg, ond ddim yn wasanaeth statudol, gellid bod yn greadigol ac yn
hyblyg o ran yr hyn y gellid ei gynnig i’r unigolion yma. Yn ogystal â gweithio ar yr elfen
cyflogadwyedd, roedd TRAC hefyd yn gweithio ar hunanddelwedd a hunanhyder y
bobl ifanc hyn, gan weithio hefyd gydag unigolion â phroblemau ymddygiad. Yn amlwg, nid oedd yn bosib’ gweithio gyda
phob unigolyn, ac roedd yn rhaid iddynt fod ar radar TRAC, ond roedd y gwasanaeth
yn gweithio gyda’r bobl ifanc mwyaf bregus.
Nododd aelod fod y cwestiwn cyllido yn
llawer rhy gymhleth i’r craffwyr ei ateb ar hyn o bryd, ac awgrymwyd y dylai’r
pwyllgor graffu’r maes ymhellach, gan drafod yr
amserlen ar gyfer hynny yng Ngweithdy Blynyddol y pwyllgor hwn ym mis Mai. Mewn ymateb, nodwyd y byddai’r swyddogion yn
hapus iawn i ddod i’r gweithdy, a chrybwyllwyd yr isod fel materion sydd angen
sylw pellach:-
·
Effaith y gwerthusiad pellach
ar TRAC, a mewnbwn ar gyfer cynllunio olyniaeth i TRAC.
·
Sut mae beth bynnag fydd yn digwydd
ar ôl TRAC neu ADTRAC am ffitio i mewn yn y ddarpariaeth ehangach pe na bai
cyllideb ar gael.
·
Sut i ymateb i newid mewn darpariaeth
sy’n digwydd ar wahanol adegau, tra’n parhau gyda’r trefniadau pontio a
thracio, gan hefyd ddeall gwirioneddol effeithiau’r newidiadau ar y bobl ifanc,
a’u hanghenion.
·
Effeithiau Cofid ar
ganlyniadau a phrofiadau disgyblion fydd yn gadael y gyfundrefn ysgol ym mis
Gorffennaf, nid yn unig yn academaidd, ond hefyd o ran y gynhaliaeth ehangach.
Nodwyd bod y swyddogion wedi bod yn agored a
thryloyw wrth ateb cwestiynau’r craffwyr, a diolchwyd iddynt am eu gwaith gyda
grŵp bregus iawn o bobl ifanc, sydd â heriau sylweddol.
PENDERFYNWYD derbyn yr
adroddiad, gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd - yn arbennig ynghylch addasrwydd trefniadau'r
Fframwaith, yr angen i gynnig cynhaliaeth lawn i bobl ifanc sydd mewn peryg’ o
/ wedi dadrithio o fyd addysg, hyfforddiant neu waith, gan sicrhau fod yr
elfennau hyn yn cael sylw wrth adolygu ein darpariaethau i’r dyfodol. Dylid hefyd ystyried craffu’r maes ymhellach,
gan drafod yr amserlen ar gyfer hynny yng Ngweithdy Blynyddol y pwyllgor hwn ym
mis Mai.
Dogfennau ategol: