Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Gareth Thomas
Ystyried
adroddiad ar yr uchod.
*11.30yb –
12.30yp
*amcangyfrif o’r
amseroedd
Penderfyniad:
Derbyn yr
adroddiad, gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y cyfarfod, ac argymell
i’r Cabinet fabwysiadu Opsiwn 1 yn yr adroddiad fel y model darparu a
gweithredu gorau ar gyfer y Gwasanaeth Teithiol Llyfrgelloedd i’r dyfodol, sef:
Cam 1
Gwasanaeth
Cartref (misol) a Chludo Eitemau i’r Cartref yn cael ei ddarparu gan 3 cerbyd
llai (faniau trydan / hybrid) a gyrrwr yr un ar gyfer:-
1. Arfon
2. Dwyfor
3.
Meirionnydd
Cam 2
Yn dilyn
ymddeoliad gyrrwr yn y 1-2 flynedd nesaf, Gwasanaeth Cartref (misol) a Chludo
Eitemau i’r Cartref yn cael ei ddarparu gan 2 gerbyd llai (faniau trydan /
hybrid) a gyrrwr yr un ar gyfer:-
1. Arfon /
Dwyfor
2.
Meirionnydd
Cofnod:
Croesawyd yr Aelod Cabinet Economi a Chymuned, ynghyd â swyddogion yr Adran Economi
a Chymuned i’r cyfarfod.
Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet Economi a Chymuned yn ceisio
arweiniad y pwyllgor craffu ar y Gwasanaeth Teithiol i’r Cartref, yn
dilyn adolygiad o’r ddarpariaeth bresennol a hanesyddol o fewn y Gwasanaeth Llyfrgell. Gwahoddwyd yr aelodau i
ystyried nifer o opsiynau, yn seiliedig
ar ganfyddiadau’r Gwasanaeth o’r
galw a’r defnydd presennol o’r gwasanaeth, ac arbedion y gellid eu gwneud o adolygu’r
patrwm darpariaeth.
Gosododd yr Aelod Cabinet
y cyd-destun, gan nodi y gwelwyd bod nifer o fuddion yn codi o’r
drefn newydd o gyflenwi’r Gwasanaeth, oedd wedi cychwyn yn
ystod yr argyfwng Cofid, a bod pobl yn gwerthfawrogi’r
trefniant fwyfwy wrth i amser
fynd yn ei
flaen.
Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn
cwestiynau a chyflwyno sylwadau. Yn ystod y drafodaeth,
cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-
·
Er
derbyn bod pobl yn croesawu cael y gwasanaeth i’r cartref, efallai bod angen
hybu ac annog pobl i fentro allan a chymdeithasu yn sgil y pandemig.
·
Y
gallai gofalwyr, ac ati, sy’n galw yng nghartrefi pobl, bigo llyfrau i fyny a mynd
a hwy i’r person yn ystod eu hamser gwaith.
·
Y
gallai’r cerbyd teithiol ymweld ag, e.e. neuaddau pentref, pan fydd grwpiau neu
glybiau paned yn cyfarfod yno.
·
Y croesawid y defnydd o’r faniau
trydan/hybrid i gyflenwi’r gwasanaeth, yn hytrach na’r
lorïau mawr.
·
Y
deellid nad cyfle i arbed arian oedd y drefn newydd o gyflenwi’r Gwasanaeth, a phetai’r gwasanaeth yn gweld bod angen cadw’r status quo, bod arian ar gael ar
gyfer hynny.
·
Cwestiynwyd
y penderfyniad i gyflwyno’r newid yn ystod y pandemig,
a holwyd oni fyddai’n well aros i bethau setlo yn gyntaf?
·
Y byddai peidio
ag ymweld ag arosfannau teithiol yn golygu
gostyngiad o 17% yn nifer yr aelwydydd
yng Ngwynedd sydd o fewn cyrraedd
llyfrgell sefydlog neu deithiol, a gan fod mwyafrif
poblogaeth y sir yn byw yn y trefi
beth bynnag, golygai hynny 17% o’r trigolion gwledig.
·
Bod
pobl sy’n gaeth i’w cartref, am ba reswm bynnag, yn croesawu’r gwasanaeth i’r
cartref yn fawr iawn, a bod angen datblygu’r cynllun ymhellach, gan hefyd roi
mwy o gyhoeddusrwydd iddo, e.e. drwy gynnwys eitem yn Newyddion Gwynedd. Awgrymwyd hefyd y byddai’n syniad gyrru
e-bost at bob cynghorydd i’w hysbysu am y Gwasanaeth, gan ofyn iddynt ledaenu’r
wybodaeth drwy’r prif gyfryngau cymdeithasol i drigolion eu wardiau. Cytunodd y Rheolwr Gwasanaeth
Llyfrgelloedd i ddilyn hynny i fyny.
·
Bod
y dewis o lyfrau ar fan yn reit gyfyng, a bod y gwasanaeth i’r cartref yn
ehangu’r dewis o lyfrau, ac yn cyrraedd pawb yn y sir.
·
Cwestiynwyd
a fyddai pobl yn awyddus i ymgynnull mewn lle cyfyng fel fan yn sgil Cofid beth
bynnag.
Mewn ymateb i’r sylwadau, ac i gwestiynau gan
aelodau:-
·
Nodwyd
bod pryderon wedi’u lleisio cyn y pandemig
ynglŷn â’r lleihad o flwyddyn i flwyddyn yn y niferoedd oedd yn
defnyddio’r arosfannau teithiol, a bod hyd yr
arhosiad yn yr arosfannau hynny wedi lleihau dros y
blynyddoedd hefyd.
·
Eglurwyd
bod profiad a ffigurau blaenorol y gwasanaeth yn awgrymu y byddai’r lleihad yn
y defnydd o’r arosfannau teithiol yn parhau yn y
dyfodol, gan fod patrwm bywyd ac anghenion pobl wedi newid. Hefyd, nid oedd yr arosfan
yn ddelfrydol mewn tywydd gwael, ac roedd y cyfleuster o gael y gwasanaeth yn
dod i’r cartref yn fwy deniadol.
·
Cytunwyd bod modd datblygu’r syniad o wella lefel y cymorth a roddir i ddefnyddwyr
y Gwasanaeth drwy, e.e. ddarparu cyfarpar TGCh a mynediad i’r rhyngrwyd mewn
llyfrgelloedd teithiol, a defnyddio’r gwasanaeth i alluogi trigolion
mewn ardaloedd gwledig gael
gafael ar wasanaethau eraill y Cyngor. Cyfeiriwyd at ddwy esiampl benodol o sut y llwyddwyd i fanteisio ar y dull newydd o ddarparu gwasanaeth cludo i’r cartref, sef
y defnydd o grant trechu tlodi i ddarparu
nwyddau misglwyf i’r cartref, a’r
prosiect ‘Llyfrgell y Petha’, sy’n cynnig
offer ar fenthyg i’r cartref, fel rhan
o’r economi gylchol. Nodwyd bod y gwasanaeth yn gweithio gyda
nifer o asiantaethau a gwasanaethau o ran hybu’r cynigion hyn.
·
O
ran ymweld â grwpiau, ac ati, nodwyd bod y gwasanaeth yn gallu ymateb i nifer o
ymholiadau o’r math yma, gan dargedu a theilwrio’r gwasanaeth i gwrdd â llu o
anghenion gwahanol.
·
Nodwyd
y credid bod digon o slac yn y system ar hyn o bryd i
un gyrrwr fedru cyflenwi’r gwasanaeth ar draws Arfon a Dwyfor, ond bod angen
troedio’n ofalus. Byddai’n rhaid treialu
hynny’n gyntaf, ond gallai fod yn opsiwn pellach wrth gynllunio’r gwasanaeth i’r
dyfodol.
·
Eglurwyd
bod y targed Dangosydd Ansawdd Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru wedi’i
osod gan Lywodraeth Cymru, a’i fod yn mesur agosrwydd at lyfrgell, man
gwasanaeth statig, neu fan gwasanaeth teithiol.
Fodd bynnag, wrth gyflenwi i’r cartref, gellid dadlau bod y gwasanaeth
yn cyrraedd 100% o’r boblogaeth.
·
O
ran yr amseru, nodwyd bod y cyfnod Cofid wedi caniatáu i’r Gwasanaeth arbrofi,
a thrwy hynny, gwelwyd bod yna ddatrysiad gwahanol, sy’n medru cyrraedd mwy o
bobl a darparu gwasanaeth gwell.
·
Nodwyd
bod pobl yn croesawu’r pecynnau darllen sydd wedi’u paratoi ar eu cyfer gan
aelodau staff, a bod hynny’n ffordd dda o gyflwyno’r darllenwyr i awduron
newydd.
Diolchwyd i’r Gwasanaeth
Llyfrgell am y gwasanaeth gwych a ddarparwyd yn ystod y cyfnodau clo, a
mynegwyd gwerthfawrogiad o’r gwasanaeth llyfrau awdio hefyd.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad, gan nodi’r sylwadau a
gyflwynwyd yn ystod y cyfarfod, ac argymell i’r Cabinet fabwysiadu Opsiwn 1 yn
yr adroddiad fel y model darparu a gweithredu gorau ar gyfer y Gwasanaeth
Teithiol Llyfrgelloedd i’r dyfodol, sef:
Cam 1
Gwasanaeth Cartref (misol) a Chludo Eitemau i’r Cartref yn
cael ei ddarparu gan 3 cerbyd llai (faniau trydan / hybrid) a gyrrwr yr un ar
gyfer:-
1. Arfon
2. Dwyfor
3. Meirionnydd
Cam 2
Yn dilyn ymddeoliad gyrrwr yn y 1-2 flynedd nesaf, Gwasanaeth
Cartref (misol) a Chludo Eitemau i’r Cartref yn cael ei ddarparu gan 2 gerbyd
llai (faniau trydan / hybrid) a gyrrwr yr un ar gyfer:-
1. Arfon / Dwyfor
2. Meirionnydd
Dogfennau ategol: