Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd.
Cofnod:
Rhoddwyd teyrnged gan y Cynghorydd Selwyn Griffiths i’r diweddar
Maldwyn Lewis, Porthmadog – cyn
aelod o’r Cyngor hwn a chyn-Gyngor Sir Gwynedd.
Nododd y Cadeirydd mai, gyda thristwch,
y clywyd hefyd am farwolaeth sydyn y cyn-Gynghorydd Dewi Llewelyn, fu’n
frwdfrydig iawn wrth gynrychioli pobl leol a’i
gymuned ym Mangor. Mynegwyd cydymdeimlad dwysaf y Cyngor â’i deulu a’i ffrindiau.
Nodwyd hefyd bod y Cyngor yn dymuno cofio am bawb o fewn cymunedau’r
sir oedd wedi colli anwyliaid yn ddiweddar.
Ymdawelodd y Cyngor fel arwydd o barch
a choffadwriaeth.
Gwahoddwyd yr Arweinydd i
ddweud gair ynglŷn â’r Etholiadau Senedd diweddar. Nododd:-
·
Mai dyma’r Cyfarfod
Blynyddol diwethaf o’r Cyngor cyn i’r aelodau wynebu etholiadau ym mis Mai y
flwyddyn nesaf, a daliodd ar y cyfle i ddiolch i bob aelod am eu cyfraniad
gwerthfawr i waith y Cyngor. Nododd
hefyd y bu’n bleser ac yn anrhydedd bod yn Arweinydd dros y 4 blynedd
ddiwethaf, ac y byddai’n gwneud ei orau eto dros y flwyddyn sy’n weddill o
dymor y Cyngor presennol.
·
Y dymunai longyfarch
Sian Gwenllian a Mabon ap Gwynfor ar gael eu hethol i gynrychioli Arfon a
Dwyfor Meirionnydd yn yr Etholiadau Senedd diweddar. Mynegodd ei obaith y byddai’r ddau, fel
cyn-gynghorwyr sir, yn cofio am lywodraeth leol yn eu gwaith, ac yn cefnogi pob
ymdrech i rymuso ac amddiffyn llywodraeth leol, ac i sicrhau y byddwn yn derbyn
cyllid digonol i ymgymryd â’n dyletswyddau.
·
Y dymunai ddatgan
gwerthfawrogiad i’r aelodau hynny o’r Cyngor oedd wedi sefyll yn yr Etholiadau
Senedd, gan ddiolch iddynt am gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd.
·
Yr hoffai ddymuno’n
dda i’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas ar ei ymddeoliad o’r Senedd ar ôl oes o
wasanaeth i Gymru, ac yn arbennig i Feirionnydd. Nododd y bu ei waith fel Llywydd y Cynulliad
yn allweddol i osod sylfeini cadarn ac i roi statws i’r
corff, a diolchodd iddo am ei holl waith, ac am ein cynrychioli cyhyd.
·
Bod pobl Cymru wedi
rhoi pleidlais o hyder yn y Blaid Lafur, a bod llawer o’r diolch am hynny i’r
Prif Weinidog, Mark Drakeford, am y ffordd bwyllog a
gonest y bu iddo ein harwain drwy gyfnod hynod anodd. Roedd y flwyddyn ddiwethaf wedi dangos y
gallai Cymru weithio yn fwy effeithiol, ac yn ddoethach,
na Llywodraeth San Steffan, a dangoswyd hefyd yn glir yr angen am lawer iawn
mwy o bwerau i Gymru. Roedd her i’r
Blaid Lafur ddangos eu bod yn barod i sefyll yn gadarn dros Gymru, gan fynnu
mwy o bwerau, ac i sefydlu eu hunain fel plaid annibynnol Gymreig, gan dorri’n
rhydd oddi wrth eu cymheiriaid yn Lloegr.
Fel Arweinydd y Cyngor dros y flwyddyn nesaf, byddai’n manteisio ar bob
cyfle i fynegi’r her yma iddynt.
·
Y dymunai groesawu
Dafydd Gibbard i’w Gyngor llawn cyntaf fel Prif Weithredwr. Dymunodd iddo bob llwyddiant yn y swydd, gan
nodi ei fod yn edrych ymlaen at gydweithio gydag ef dros y flwyddyn nesaf.
Llongyfarchwyd Andy Dunbobbin ar gael
ei ethol yn Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru.
Mynegodd y Cadeirydd ei werthfawrogiad
o waith y Cynghorydd Edgar
Owen fel Cadeirydd dros y ddwy flynedd
diwethaf. Nododd ei fod
wir wedi cerdded yr ail filltir a bod parch mawr i’w dymor fel
Cadeirydd. Ychwanegodd y bu’r flwyddyn ddiwethaf yn eithriadol o heriol, a bod y Cynghorydd Edgar
Owen wedi bod yn llwyddiannus iawn yn ymdopi â chadeirio
cyfarfodydd y Cyngor yn rhithiol am y tro cyntaf yn hanes
y Cyngor.
Croesawyd Dafydd Gibbard i’w gyfarfod Cyngor llawn cyntaf fel
Prif Weithredwr a diolchwyd i Dilwyn Williams, y cyn Brif Weithredwr,
am ei waith yntau dros y saith
mlynedd diwethaf, gan ddymuno iddo
ymddeoliad hir a hapus.
Nodwyd ei bod yn braf
hefyd nodi i’r Cyngor gadw ei statws ar Lefel
Aur gan asesydd
Safon Iechyd Corfforaethol (Llywodraeth Cymru) yn dilyn
cyflwyniad a sgwrs ynglŷn â’r hyn a wnaed i
gefnogi lles meddyliol a chorfforol yn ystod y deuddeg
mis diwethaf.