Agenda item

I ystyried cadarnhau y Gorchymyn Diogelu Coed.

Penderfyniad:

Cadarnhau’r gorchymyn heb newidiadau.

 

COFNODION:

Grŵp o goed

 

a)    Ymhelaethodd yr Arweinydd Tîm Gorfodaeth ar gefndir y cais gan nodi bod Gorchymyn Diogelu Coed Dros Dro wedi ei osod ar ddau grŵp o goed, oedd wedi eu lleoli i’r gogledd o Tyddyn Meilir, ar yr 8fed o Ragfyr 2020. Eglurwyd bod  asesiad o’r ddau grŵp wedi ei gwblhau gan ddefnyddio system TEMPO - byddai unrhyw goeden/coed sy’n sgorio 16 pwynt neu fwy yn teilyngu cael eu diogelu. Adroddwyd bod Grŵp 1 (yn cynnwys 25 o goed Ffawydd) wedi sgorio 18 pwynt, a Grŵp 2 (yn cynnwys 32 o goed ffawydd, 2 sycamorwydden, ac 1 dderwen gyda’r ffawydd wedi polardio fewn i glawdd) wedi sgorio 16 pwynt. Ystyriwyd  bod y coed o werth mwynderol uchel.

 

Nodwyd bod gwrthwynebiad i’r gorchymyn dros dro wedi ei dderbyn gan yr Aelod Lleol a pherchennog y tir ynghyd a llythyr gan Undeb Amaethwyr Cymru (dyddiedig 3 Mawrth 2021) yn cefnogi gwrthwynebiad y perchennog tir. Wedi derbyn y gwrthwynebiadau i’r gorchymyn, ymgynghorwyd ymhellach gyda’r Gwasanaeth Bioamrywiaeth a chyfeiriwyd at y sylwadau a dderbyniwyd yn 4.4 o’r adroddiad. Ystyriwyd mai gwrych oedd yn bodoli ar y safle yn y blynyddoedd a fu, ond oherwydd diffyg rheolaeth debygol, bellach ymddengys rhes o goed o rywogaeth ffawydd ar y safle. Derbyniwyd bod dymuniad gan y perchennog tir i ddod a’r coed dan reolaeth, ond pwysleisiwyd bod angen i unrhyw waith i’r coed gael ei wneud drwy ddilyn dulliau gweithio ymarfer da. Amlygwyd bod peth gwaith wedi ei ymgymryd o docio rhai o’r coed a hynny cyn i’r gorchymyn dros dro gael ei gyhoeddi.

 

Archwiliwyd y coed 9 Chwefror 2021 yng nghwmni’r perchennog tir, a nodwyd bod sawl coeden gyda phydredd a thyllau yn eu boncyff. Fodd bynnag, ymddengys bod dulliau cynnal neillog ar wahân i docio yn bosibl (gyda chyngor arbenigol priodol) fyddai yn golygu y gellir diogelu’r coed, a rhoi mynediad rhwydd i’r tirfeddiannwr ar gyfer amaethu’r tir a chynnal y borfa. Cyfeiriwyd at y 4 dewis oedd gan y Pwyllgor ac argymhellwyd bod y  Pwyllgor yn dewis opsiwn (i), sef cadarnhau’r gorchymyn heb newidiadau.

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad noddodd y tirfeddiannwr y pwyntiau canlynol ynghyd a dangos fideo byr o’r coed a’u cyflwr

·         Pwysleisiodd mai ei fwriad oedd tocio'r coed ac nid eu cwympo - byddai hyn yn ymestyn oes y coed oherwydd bod pydredd yn amryw ohonynt

·         Aml i gangen wedi dod i lawr yn y blynyddoedd diweddar ac yn syrthio i’r lon

·         Wedi dechrau tocio cyn derbyn y gorchymyn - tocio i uchder o 10’- 12’ - yn wreiddiol wedi cael eu tocio fel gwrych

·         Gwaith ysgafnu ar nifer y coed

·         Amlygodd yn y fideo bod nifer wedi pydru gyda ffwng yn tyfu ar ambell un

·         Os dim yn tocio, bydd y coed yn mynd yn rhy drwm i’r boncyffion

c)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y pwyntiau canlynol:

·         Bod cyflwr y coed yn wael, felly herio sgôr yr asesiad

·         Bod cysgod o’r coed yn amharu ar wella’r brofa

·         Bod y tirfeddiannwr yn methu mynd a thractor at ochr y cae

·         Bod y tirfeddiannwr wedi cysylltu gydag ef cyn tocio

·         Bod lori stoc methu mynd i lawr at y fferm

·         Os na fyddai’r coed yn cael eu tocio, byddant yn debyg o ddisgyn yn y storm nesaf

·         Y coed heb eu tocio ers hanner canrif

·         Tynnu sylw bod Undeb Amaethwyr Cymru hefyd yn gwrthwynebu’r gorchymyn

·         Bod pethau yn anodd i ffermwyr heb orfod mynd i gostau ychwanegol

 

ch)  Cynigwyd ac eiliwyd i beidio â chadarnhau'r gorchymyn dros dro a chaniatáu i’r                               docio'r coed heb ymyrraeth

 

 Ymhelaethodd y cynigydd drwy nodi:

·         Nad oedd bwriad creu bygythiad i’r coed

·         Os na fydda’r tirfeddiannwr yn tocio’r coed buasent yn disgyn beth bynnag

·         I ymestyn oes y coed byddai tocio yn beth da – yr unig ffordd o reoli ac achub y coed

·         O ran yr elfen weledol, well  fyddai tocio’r coed na'u gweld yn pydru

·         Byddai tocio coed yn yr Hydref yn amserol - ail egino erbyn y Gwanwyn

·         Nad oedd unrhyw esgeulustod ar ran y tirfeddiannwr

·         Proses o dderbyn adroddiad coed  yn llafurus ynghyd a chostau ychwanegol diangen

·         Byddai’r tirfeddiannwr yn gweithredu yn sensitif a chyfrifol

·         Annog yr Aelodau i ganiatáu torri coed i ymestyn eu hoes

 

d)    Mewn ymateb i’r sylwadau, nododd y Pennaeth Cyfreithiol bod angen system yn ei le i ganiatáu gwaith tocio priodol

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r ychwanegiad sydd angen ar yr ymgeisydd i fynd i’r afael a’r sefyllfa, nododd y Pennaeth Cynorthwyol,  yn unol â safonau perthnasol i gadw’r coed, bod trefniant priodol yn cadarnhau’r dulliau torri addas i warchodiechyd’ y coed. Ategwyd nad oedd gorchymyn gwarchod coed yn drefn anghyffredin - byddai cynllun yn sicrhau gwaith cynnal a chadw gydag arbenigaeth berthnasol.

 

Ategodd y Swyddog Bioamrywiaeth bod asesiad gorchymyn dros dro wedi ei gwblhau a bod y canlyniad yn awgrymu bod cynnal a chadw’r coed yn hanfodol. Byddai gôr dorri yn rhoi straen ar y coed a gydag amryw o rywogaethau gwahanol byddai angen cynllun torri addas ar gyfer pob rhywogaeth. Y bwriad fyddai cydweithio gyda’r ymgeisydd, gan gyflwyno cynllun gweithredu priodol i sicrhau gwarchodaeth.

 

dd)     Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylw canlynol gan aelodau:

·         Yn amlwg bod y tir feddiannwr yn ofalgar dros y coed

·         Bod yn anodd dirnad maint y coed o’r lluniau

·         Bod angen gwell tystiolaeth - lluniau o’r amgylchedd cyfagos

·         Pwysig bod y gwaith tocio yn cael ei wneud yn briodol

·         Prinder coed ffawydd yn Llŷn

·         O ran diogelwch y cyhoedd, angen sicrhau nad oes coed yn disgyn i’r ffordd

·         Awgrym i dorri'r rhai sydd wedi pydru ac ail blannu

·         Cynorthwyo’r tirfeddiannwr yw’r flaenoriaeth

·         Y coed yn debygol o ddisgyn yn naturiol, felly angen gwneud rhywbeth am y sefyllfa yn fuan

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chostau cynllun gweithredu ac arbenigwyr i ymdrin â’r gwaith, nodwyd bod costau ynghlwm a’r gwaith ond nad oedd y rhain yn gostau gwirion

 

e)       Pleidleisiwyd ar y cynnig i beidio â chadarnhau'r gorchymyn dros dro a chaniatáu i’r ymgeisydd docio'r coed heb ymyrraeth

 

Disgynnodd y cynnig

 

f)         Cynigiwyd ac eiliwyd i gadarnhau’r gorchymyn fel y mae, heb newidiadau gyda phwyslais ar warchod y coed a derbyn cyngor gan arbenigwyr.

 

                PENDERFYNWYD cadarnhau’r gorchymyn heb newidiadau.

 

Dogfennau ategol: