Cais dan Adran 73 o'r Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref i
amrywio amod 1 ar ganiatâd cynllunio C16/0816/34/MW (estyniad arfaethedig
dwyreiniol i echdynnu tywod a graean a gwaith adfer graddol) i ganiatáu estyniad
pedair blynedd i gwblhau gweithrediadau mwynau a blwyddyn ychwanegol i
gwblhau'r gwaith adfer
AELODAU LLEOL: Cynghorydd Owain Williams a’r Cynghorydd Craig ab Iago
Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol
Penderfyniad:
Dirprwyo'r hawl i
Bennaeth Cynorthwyol yr Adran i gymeradwyo'r cais, yn ddarostyngedig i'r newid
isod i Amod 1 ar ganiatâd cynllunio C16/0816/34/MW i ymestyn oes y
gweithrediadau mwynau sy'n ymwneud â gweithrediad tair lagŵn dyddodion
ategol a'r gwaith cysylltiedig am gyfnod o 4 blynedd ychwanegol:
Daw'r gwaith o
echdynnu mwynau i ben erbyn 31 Rhagfyr 2024 ac erbyn hynny bydd yr holl
weithfeydd a pheiriannau wedi'u gwaredu o'r safle; bydd y gwaith adfer wedi'i
gwblhau erbyn 31 Rhagfyr 2025.
Ymateb ymgynghoriad
Cyfoeth Naturiol Cymru i'w atodi i'r daflen penderfyniad, yn cynghori y dylid
cysylltu â hwy yn uniongyrchol mewn perthynas â'r rheolaethau amgylcheddol a
gweithredol penodol a'r ddarpariaeth o wasanaeth o fewn eu cylch gwaith.
Amodau cynllunio fel
y presennol mewn perthynas â'r rheolaethau rheoli a ganlyn;
• Hyd y cyfnod gweithio,
• Cyfyngu
ar yr Hawliau Datblygu a Ganiateir, adeiladau, strwythurau, rhai a godir,
ffyrdd preifat, llifoleuadau a ffensys,
• Mesurau
lliniaru ar gyfer effeithiau posib ar ffynhonnau i'r gogledd o'r ardal
echdynnu,
• Mesurau
lliniaru ar gyfer bioamrywiaeth leol, Moch Daear, adar bridio ac ymlusgiaid,
• Gweithgareddau
a ganiateir a Chydymffurfiaeth â’r Manylion/Cynlluniau a Gyflwynwyd,
• Oriau Gweithio,
• Diogelu hawliau tramwy cyhoeddus,
• Ymdrin â phridd a hwsmonaeth
• Draenio, mesurau i atal llygru
cyrsiau dŵr lleol,
• Adfer i ddefnydd amaethyddol cymysg a
chadwraeth natur
• Ail-adfer terfynau caeau
• Micro-addasu
lefelau adfer i sicrhau llif dŵr wyneb i'r gwlypdir tua'r gogledd o ardal
y cais,
• Lliniaru a chofnodi archeolegol,
• Mesurau
ôl-ofal ar gyfer defnyddiau amaethyddol a rheoli bioamrywiaeth,
• Rheolaethau
llwch a chyfyngu ar sŵn yn yr un modd ag y gwneir eisoes, ond hefyd, gosod
larymau sŵn gwyn ar beiriannau'r gwaith yn yr wyneb gweithio.
Cofnod:
Tynnwyd
sylw at y ffurflen sylwadau hwyr.
a)
Amlygodd
yr Uwch Swyddog
Cynllunio Mwynau a Gwastraff bod safle'r cais ar ystlys
ddwyreiniol yr ardal echdynnu bresennol, tua 530m o AHNE Llŷn ac i'r gorllewin o Barc Cenedlaethol Eryri. Ymhelaethodd gan nodi mai'r bwriad
yw ail-ymweld â'r ardaloedd yma
i ail-weithio'r mwyn a ystyriwyd yn flaenorol i
fod yn aneconomaidd,
gan hefyd alluogi'r cynllun echdynnu i gael mynediad i ddyddodion pellach
gan ymestyn tua'r dwyrain. Ategodd bod ardal yr estyniad arfaethedig
yn cynnwys glaswelltir wedi'i wella gyda therfynau
caeau o waliau cerrig afreolaidd. Yn ffinio'r ardal,
mae'r ardal waith presennol i'r gorllewin, llwybr beicio Lôn
Eifion i'r dwyrain ac ardal o laswelltir corsiog, garw i'r
gogledd.
Eglurwyd
bod Polisi Cynllunio Cymru (PCC) (Rhifyn 11, Chwefror 2021) yn amlinellu polisi cynllunio Llywodraeth y Cynulliad o ran cloddio mwynau. Dylai pob
Awdurdod Cynllunio Mwynau sicrhau bod ei gynlluniau datblygu
yn caniatáu cyfrannu at gyflenwad mwynau sy’n diwallu
anghenion lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.
Mae Cyngor Gwynedd, ar y cyd
â holl Awdurdodau Cymru wedi cymeradwyo’r
Datganiad Technegol Rhanbarthol a luniwyd gan Weithgor Agregau
Rhanbarthol Gogledd Cymru sydd ar
hyn o bryd yn destun ail adolygiad.
Paratowyd y datganiad yn unol â darpariaethau
Polisi Cynllunio Mwynau (Cymru) a Nodyn Cyngor Technegol (Cymru) 1: Agregau (NCTM1), i osod amcan
cyffredinol i sicrhau cyflenwad o agregau y mae
modd ei reoli’n
gynaliadwy
Mae'n
ofynnol bod y Cyngor, fel Awdurdod Cynllunio Mwynau, yn cynnal
banc tir o fwynau agregau wrth gefn yn
unol â'r canllawiau cyfredol sy'n nodi lleiafswm
o saith mlynedd ar gyfer tywod
a graean. Ers cyhoeddi’r Adolygiad RTS cyntaf, mae
lefel gyffredinol yr agregau wrth
gefn a ganiatawyd yng ngogledd Cymru
wedi gostwng - mae'r bwriad yn
ychwanegiad a groesawir i'r banc tir o dywod a graean yng ngogledd orllewin
Cymru.
Yn amodol i’r holl ystyriaethau cynllunio materol eraill,
ystyriwyd bod y datblygiad yn cydymffurfio gyda gofynion Polisi Mwynau
Strategol PS22 a Pholisi MWYN 3 o Gynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn
2011 – 2026.
b)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr
Aelod Lleol y pwyntiau canlynol:
·
Y
safle wedi hen sefydlu
·
Dim
gwrthwynebiad i ymestyn y cyfnod
·
Gwaith
adfer yn hanfodol
·
Cais i gynnal trafodaethau ynglŷn â chynnwys plannu coed yn y cynlluniau
adfer
·
Bod angen gwarchod Lôn Eifion
c) Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais
ch) Yn
ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Bod hyn yn
osgoi cario mwynau i mewn
o leoliad arall
·
Bod y safle yn cael ei
reoli yn dda – dim cwynion wedi eu derbyn
·
Bod yr adnodd
ei hangen yng Ngwynedd
·
Bod y safle yn cynnig cyfleoedd
cyflogaeth leol
a)
Mewn
ymateb i sylw'r Aelod Lleol
ynglŷn â phlannu coed, nodwyd bod gwell cyfleoedd o blannu coed a
chreu nodweddion nythu yn deillio
o’r cais dilynol ( C20/1064/22/AC). Amlygwyd mai adfer
y tir i borfa
y byddai’n cael ei wneud yma.
PENDERFYNWYD:
Dirprwyo'r hawl i Bennaeth Cynorthwyol
yr Adran i gymeradwyo'r cais, yn ddarostyngedig
i'r newid isod i Amod
1 ar ganiatâd cynllunio C16/0816/34/MW i ymestyn oes y gweithrediadau
mwynau sy'n ymwneud â gweithrediad tair lagŵn dyddodion ategol a'r gwaith cysylltiedig
am gyfnod o 4 blynedd ychwanegol:
Daw'r gwaith o echdynnu mwynau i ben erbyn 31 Rhagfyr 2024 ac erbyn hynny bydd yr
holl weithfeydd a pheiriannau wedi'u gwaredu o'r safle;
bydd y gwaith adfer wedi'i gwblhau
erbyn 31 Rhagfyr 2025.
Ymateb ymgynghoriad Cyfoeth Naturiol Cymru i'w atodi
i'r daflen penderfyniad, yn cynghori y dylid cysylltu â hwy yn uniongyrchol mewn perthynas â'r rheolaethau amgylcheddol a gweithredol penodol a'r ddarpariaeth
o wasanaeth o fewn eu cylch gwaith.
Amodau cynllunio fel y presennol mewn perthynas â'r rheolaethau
rheoli a ganlyn;
·
Hyd y cyfnod gweithio
·
Cyfyngu ar yr Hawliau Datblygu a Ganiateir,
adeiladau, strwythurau, rhai a godir, ffyrdd preifat, llifoleuadau a ffensys,
·
Mesurau lliniaru ar gyfer effeithiau posib ar
ffynhonnau i'r gogledd o'r ardal echdynnu,
·
Mesurau lliniaru ar gyfer bioamrywiaeth leol,
Moch Daear, adar bridio ac ymlusgiaid,
·
Gweithgareddau a ganiateir a Chydymffurfiaeth
â’r Manylion/Cynlluniau a Gyflwynwyd,
·
Oriau Gweithio,
·
Diogelu hawliau tramwy cyhoeddus,
·
Ymdrin â phridd a hwsmonaeth
·
Draenio, mesurau i atal llygru cyrsiau dŵr
lleol,
·
Ail-adfer terfynau caeau
·
Micro-addasu lefelau adfer i sicrhau llif
dŵr wyneb i'r gwlypdir tua'r gogledd o ardal y cais,
·
Lliniaru a chofnodi archeolegol,
·
Mesurau ôl-ofal ar gyfer defnyddiau amaethyddol
a rheoli bioamrywiaeth,
·
Rheolaethau llwch a chyfyngu ar sŵn yn yr
un modd ag y gwneir eisoes, ond hefyd, gosod larymau sŵn gwyn ar
beiriannau'r gwaith yn yr wyneb gweithio.
Dogfennau ategol: