Agenda item

Cais o dan Adran 73 o'r Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref i amrywio amod 1 ar ganiatâd cynllunio C15/0299/34/MW (adeiladu 3 lagŵn siltio ategol a gwaith cysylltiedig i ddarparu'r capasiti angenrheidiol i alluogi gwaith mwynau sy'n parhau a darparu system gaeedig ar gyfer rheoli dŵr o'r chwarel ar y safle) i ganiatáu estyniad pedair blynedd mewn cysylltiad â'r gwaith mwynau a blwyddyn ychwanegol i gwblhau'r gwaith adfer

 

AELODAU LLEOL: Cynghorydd Owain Williams a’r Cynghorydd Craig ab Iago

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

Dirprwyo'r hawl i Bennaeth Cynorthwyol yr Adran i gymeradwyo'r cais, yn ddarostyngedig i'r newid isod i Amod 2 ar ganiatâd cynllunio C15/0299/34/MW i ymestyn oes y gweithrediadau mwynau sy'n ymwneud â gweithrediad tair lagŵn dyddodion ategol a'r gwaith cysylltiedig am gyfnod o 4 blynedd ychwanegol:

 

Daw'r defnydd a ganiateir o'r safle fel lagŵn siltio ategol i ben erbyn 31 Rhagfyr 2024; cwblheir y gwaith adfer wedyn erbyn 30 Mehefin 2025 neu pan fydd y gwaith yn dod i ben, pa bynnag un ddaw gyntaf.

 

Ymateb ymgynghoriad Cyfoeth Naturiol Cymru i'w atodi i'r daflen penderfyniad, yn cynghori y dylid cysylltu â hwy yn uniongyrchol mewn perthynas â'r rheolaethau amgylcheddol a gweithredol penodol a'r ddarpariaeth o wasanaeth o fewn eu cylch gwaith.

 

Amodau cynllunio fel y presennol mewn perthynas â'r rheolaethau rheoli a ganlyn;

 

  • Hyd y cyfnod gweithio,
  • Cyfyngu ar yr Hawliau Datblygu a Ganiateir, adeiladau, strwythurau, rhai a godir, ffyrdd preifat, llifoleuadau a ffensys,
  • Gweithgareddau a ganiateir a Chydymffurfiaeth â’r Manylion/Cynlluniau a Gyflwynwyd,
  • Oriau Gweithio,
  • Diogelu hawliau tramwy cyhoeddus,
  • Ymdrin â phridd a hwsmonaeth
  • Draenio, mesurau i atal llygru cyrsiau dŵr lleol,
  • Adfer i ddefnydd amaethyddol cymysg a chadwraeth natur,
  • Mesurau ôl-ofal ar gyfer defnyddiau amaethyddol a rheoli bioamrywiaeth,
  • Rheolaethau llwch a chyfyngu ar sŵn yn yr un modd ag y gwneir yn barod.

 

COFNODION:

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr.

 

a)    Amlygodd yr Uwch Swyddog Cynllunio Mwynau a Gwastraff bod isadeiledd rheoli dŵr y safle wedi ei adolygu yn 2015, gan fod angen cloddio silt allan o'r lagwnau yn rheolaidd er mwyn sicrhau'r capasiti setlo gofynnol. Eglurwyd bod tueddiad gan y system i orlwytho yn ystod cyfnodau o lawiad parhaus a chyson gyda'r posibilrwydd y gall llifogydd cyflym ddigwydd ble mae dŵr wyneb a dŵr ffo o'r tir gerllaw yn ymuno â dŵr o'r lagŵn siltio presennol, gan arwain at y posibilrwydd o ddŵr ffo llygredig yn effeithio ar SoDdGA ac ACA Cors Gyfelog.

 

Prif bwrpas y datblygiad arfaethedig i'r lagwnau yw ategu'r isadeiledd rheoli dŵr presennol trwy system gaeedig, er mwyn atal hyn rhag digwydd. Bydd capasiti uwch yn y lagwnau yn lliniaru effeithiau posib ar yr amgylchedd dŵr lleol, ac yn darparu system reoli dŵr hunangynhwysol ar y cyd â'r isadeiledd presennol.

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y pwyntiau canlynol:

·         Angen sicrhau bod yr ardal yn ddiogel

·         Y safle yn agos at lwybrau cyhoeddus ac felly angen tynnu sylw at beryglon y lagwnau

·         Cynllun adfer i gynnwys plannu coed coll ddail - gwern, bedw arian - coed cynhenid

·         Amlygu pryderon am yr effeithiau i Gors Gyfelog

 

c)     Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais

 

ch)  Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         cais i ystyried sylwadau'r Aelod Lleol yng nghyd-destun diogelu’r ardal a phlannu coed

           

PENDERFYNWYD: Dirprwyo'r hawl i Bennaeth Cynorthwyol yr Adran i gymeradwyo'r cais, yn ddarostyngedig i'r newid isod i Amod 2 ar ganiatâd cynllunio C15/0299/34/MW i ymestyn oes y gweithrediadau mwynau sy'n ymwneud â gweithrediad tair lagŵn dyddodion ategol a'r gwaith cysylltiedig am gyfnod o 4 blynedd ychwanegol:

Daw'r defnydd a ganiateir o'r safle fel lagŵn siltio ategol i ben erbyn 31 Rhagfyr 2024; cwblheir y gwaith adfer wedyn erbyn 30 Mehefin 2025 neu pan fydd y gwaith yn dod i ben, pa bynnag un ddaw gyntaf.

 

Ymateb ymgynghoriad Cyfoeth Naturiol Cymru i'w atodi i'r daflen penderfyniad, yn cynghori y dylid cysylltu â hwy yn uniongyrchol mewn perthynas â'r rheolaethau amgylcheddol a gweithredol penodol a'r ddarpariaeth o wasanaeth o fewn eu cylch gwaith.

 

Amodau cynllunio fel y presennol mewn perthynas â'r rheolaethau rheoli a ganlyn;

·         Hyd y cyfnod gweithio,

·         Cyfyngu ar yr Hawliau Datblygu a Ganiateir, adeiladau, strwythurau, rhai a godir, ffyrdd preifat, llifoleuadau a ffensys,

·         Gweithgareddau a ganiateir a Chydymffurfiaeth â’r Manylion/Cynlluniau a Gyflwynwyd,

·         Oriau Gweithio,

·         Diogelu hawliau tramwy cyhoeddus,

·         Ymdrin â phridd a hwsmonaeth

·         Draenio, mesurau i atal llygru cyrsiau dŵr lleol,

·         Adfer i ddefnydd amaethyddol cymysg a chadwraeth natur,

·         Mesurau ôl-ofal ar gyfer defnyddiau amaethyddol a rheoli bioamrywiaeth,

·         Rheolaethau llwch a chyfyngu ar sŵn yn yr un modd ag y gwneir yn barod.

 

Dogfennau ategol: