Agenda item

Cais ar gyfer materion a gadwyd yn ôl a gwybodaeth draenio a datblygu cam wrth cam mewn cyswllt a chaniatâd cynllunio amlinellol C16/1603/41/AM ar gyfer codi 9 tŷ sy'n cynnwys 3 fforddiadwy a ffordd mynediad

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Aled Evans

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

Ddirprwyo’r hawl i ganiatáu’r cais er mwyn cytuno ar y manylion  terfynol y cylfat a derbyn sylwadau ffafriol gan yr Uned Draenio Tir

Amodau priffyrdd

Nodyn fod amodau 7 a 10 o’r caniatâd amlinellol sy’n ymwneud â materion draenio a datblygu gam wrth gam wedi eu rhyddhau fel rhan o’r caniatâd yma.

Nodyn SUDS

Cofnod:

Cais ar gyfer materion a gadwyd yn ôl a gwybodaeth draenio a datblygu cam wrth gam mewn cyswllt a chaniatâd cynllunio amlinellol C16/1603/41/AM ar gyfer codi 9 sy'n cynnwys 3 fforddiadwy a ffordd mynediad.

            Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr.

a)    Egluroddodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu y caniatawyd y cais amlinellol gyda llunwedd, graddfa, golwg a thirweddu wedi ei gadw yn ôl, gyda’r cais gerbron ar gyfer asesu y materion hynny ynghyd a materion draenio a datblygu cam wrth gam sy’n destun amodau rhif 7 a 10 o’r caniatâd amlinellol. Ategwyd bod  egwyddor y bwriad ynghyd a’r materion yn ymwneud gyda’r fynedfa eisoes wedi eu caniatáu o dan y cais amlinellol.

Tynnwyd sylw fod cais cynllunio C20/0674/41/MG hefyd wedi ei gyflwyno ar ail hanner y safle yng nghyd-destun caniatâd amlinellol C16/1363/41/AM ar gyfer 9 ychwanegol (3 ohonynt yn fforddiadwy) ac sy’n defnyddio’r un fynedfa. O’i ddarfod byddai’r ddau ddatblygiad yn ymddangos fel un datblygiad mwy.

Disgrifiwyd y safle presennol fel rhan o gae sy’n codi’n raddol o’r briffordd ac sydd wedi ei leoli tu ôl i dai presennol a ger stad Tŷ’n Rhos gyda’r cais  yma yn ymwneud a hanner y safle sydd agosaf i dai presennol Tŷ’n Rhos, ac sy’n cynnwys y ffordd fynediad. Amlygwyd bod rhan helaeth o’r safle erbyn hyn wedi ei leoli y tu allan i ffin ddatblygu pentref Chwilog, er bod y fynedfa yn parhau o fewn y ffin ddatblygu. Ategwyd bod y cynlluniau a gyflwynwyd fel rhan o’r cais gerbron yn cadarnhau’r fynedfa yn unol â’r hyn a ganiatawyd o dan y caniatâd amlinellol. Mae llunwedd y safle yn dangos bwriad i ddarparu ffordd stad oddi ar y fynedfa sy’n fforchio; ynghyd a chodi 4 annedd ar wahân a 3 mewn teras ar ochr chwith y ffordd stad sy’n fforchio i’r chwith. Nodwyd fod y cais amlinellol yn destun cytundeb 106 sydd yn sicrhau’r elfen fforddiadwy ynghyd a taliadau ar gyfer llecynnau agored ac addysg.

O ganlyniad, yr unig faterion a aseswyd ar gyfer y cais yma oedd materion dyluniad, llunwedd, graddfa a thirweddu. Adroddwyd bod nodweddion dyluniad amrywiol yn yr ardal gyda dyluniad, gorffeniad a’r tirweddu bwriedig yn syml, yn cydweddu’r ardal ac yn dderbyniol o ran effaith weledol. Nodwyd bod sylwadau gan yr Uned Drafnidiaeth ynglŷn â threfn parcio a llwybr troed  wedi eu cyflwyno i’r asiant ar gyfer eu datrys - mater llwybr troed yn golygu sicrhau fod y cynlluniau sydd wedi eu cyflwyno yn cyfateb a'i gilydd. Yn ddarostyngedig i dderbyn cynlluniau diwygiedig i’r llwybr troed ac amodau i sicrhau gorffeniad y ffordd stad, datblygiad gam wrth gam a pharcio, ystyriwyd y bwriad yn dderbyniol ac yn cydymffurfio gyda gofynion polisïau TRA 2 a 4 o’r CDLl.

Cyfeiriwyd at sylwadau oedd wedi eu derbyn gan drigolion lleol, yr Aelod Lleol ynghyd â’r Cyngor Cymuned ynglŷn â materion draenio presennol ar y safle sy’n effeithio tai cyfagos. Nodwyd bod swyddogion o’r Uned Draenio yn ymwybodol o’r sefyllfa ac wedi ymweld â’r safle. Yn ogystal, bydd angen dylunio’r system gwaredu dŵr wyneb er mwyn cydymffurfio â gofynion System Draenio Gynaliadwy (SuDS). Er mwyn sicrhau effeithlonrwydd y system ddraenio newydd bydd mesurau cynnal a chadw yn cael eu cynnwys oddi fewn i gynllun systemau dwr cynaliadwy (SuDS) a fydd yn cael ei gymeradwyo gan Uned Dwr ac Amgylchedd y Cyngor yn ei rôl fel Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy (SDC).

Amlygwyd, yn wahanol i’r hyn a nodwyd yn yr adroddiad,  mai’r argymhelliad fyddai Dirprwyo’r hawl i ganiatáu’r cais er mwyn cytuno ar fanylion terfynol y cylfat a derbyn sylwadau ffafriol gan yr Uned Draenio Tir.

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y pwyntiau canlynol

·         Bod angen parhau gyda thrafodaethau yn ymwneud a’r cylfyrt

·         Angen osgoi llifogydd i res o dai cyfagos

 

c)    Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais

PENDERFYNWYD: Dirprwyo’r hawl i ganiatáu’r cais er mwyn cytuno ar fanylion  terfynol y cylfat a derbyn sylwadau ffafriol gan yr Uned Draenio Tir

·         Amodau priffyrdd

·         Nodyn fod amodau 7 a 10 o’r caniatâd amlinellol sy’n ymwneud â materion draenio a datblygu gam wrth gam wedi eu rhyddhau fel rhan o’r caniatâd yma.

·         Nodyn SUDS

 

Dogfennau ategol: