Agenda item

Codi ty preswyl newydd

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Eirwyn Williams

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

Caniatau yn groes i’r argymhelliad

Amodau

5 mlynedd, yn unol â’r cynlluniau, deunyddiau, tynnu hawliau a ganiateir, cynllun draenio, cwblhau parcio, dim mwy o ffenestri heb ganiatâd

Cofnod:

a)    Amlygodd Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu bu i’r Pwyllgor Cynllunio ohirio gwneud penderfyniad ar y cais yn eu cyfarfod ar yr 22ain o Fawrth, 2021 er mwyn gofyn i swyddogion drafod y deunydd toi a chladin allanol gyda’r ymgeisydd.

 

Bwriad y cais oedd codi tŷ newydd a chreu mynedfa gerbydol oddi ar y ffordd stad bresennol. Eglurwyd bod y safle wedi ei leoli o fewn ffin datblygu pentref Criccieth; ar blot cul o fewn stad o dai amrywiol sydd ar lethr sy’n codi tua chefn y safle, ac wedi ei leoli rhwng dau eiddo gydag eiddo arall union o’i flaen gyferbyn a’r ffordd stad gul. Ategwyd bod y cais wedi bod yn destun sawl cais cynllunio ac apêl - 6 cais cynllunio wedi ei wrthod ar y safle yn y gorffennol a chaniatâd wedi ei roi ar y safle drwy apêl ar sail y cynlluniau a gyflwynwyd fel rhan o gais C08D/0870/35/LL, Cadarnhawyd bod y caniatâd yma yn parhau yn fyw ar y safle

 

Cyflwynwyd y cais i Bwyllgor ar gais yr Aelod Lleol.

 

Adroddwyd bod yr adroddiad yn mynd i’r afael a’r materion hynny a godwyd yn yr apeliadau blaenorol; ac yn asesu’r bwriad yn erbyn polisïau cyfredol y Cynllun Datblygu Lleol. Nodwyd bod penderfyniadau apêl (gwrthod a chaniatáu) ar y safle yn gosod yn glir fod potensial i eiddo deulawr ar y safle yma beri goredrych ac effaith annerbyniol ar y trigolion gerllaw bob ochr ac i’r blaen. Mae’r penderfyniadau apêl yn dibynnu ar leoliadau ffenestri a lefelau llawr er mwyn sicrhau nad oes effaith andwyol ar y tai cyfagos.

 

Eglurwyd bod y tŷ sydd gerbron erbyn hyn oddeutu 4m yn lletach a 1m yn hirach na’r eiddo a ganiatawyd. Nodir fod yr eiddo wedi ei ddylunio gydag ongl ar y blaen fel nad yw’r edrychiad yn edrych allan i’r un cyfeiriad i gyd (i geisio osgoi goredrych). Mae’r annedd gerbron felly ychydig yn is o ran crib y to na’r hyn a ganiatawyd ond yn lletach ac yn cynnwys mwy o agoriadau ar y llawr cyntaf. Ystyriwyd nad yw’r lleihad mewn uchder yn gyfaddawd am yr effaith andwyol o gynyddu ei led ac ychwanegu agoriadau ar y llawr cyntaf. Ystyriwyd y byddai’r bwriad yn cael effaith andwyol sylweddol yn fwy ar eiddo Pen y Bryn sydd wedi ei leoli yn union o flaen y safle, na’r hyn a grybwyllwyd yn dderbyniol yn ystod apêl 2011. Ystyriwyd fod maint yr eiddo (yn benodol ei led a’i swmp) yn golygu nad yw’r eiddo yn cydweddu a phatrwm adeiladu a dyluniad y stad

 

Adroddwyd bod y swyddogion wedi trafod deunydd to a chladin allanol gydag asiant yr ymgeisydd a bod yr asiant yn fodlon newid y to i do llechi a chladin i sedar yn hytrach na dur. Er hynny, ar sail yr asesiad, roedd y swyddogion yn parhau i ystyried fod y bwriad yn annerbyniol oherwydd ei faint (yn benodol ei uchder a’i led) lleoliad y ffenestri/drysau a balconïau ar yr edrychiad blaen a’r lefelau llawr gorffenedig yn cael effaith andwyol sylweddol ar fwynderau a phreifatrwydd rhesymol eiddo o flaen y safle. Yr argymhelliad oedd gwrthod y cais.

 

c)  Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y pwyntiau canlynol:

·         Ei fod yn cytuno gyda phenderfyniad Cyngor Cymyned / Tref

·         Dim gwrthwynebiad

 

ch) Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais yn groes i’r argymhelliad

 

d)    Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·           Bod y pryderon am y deunyddiau allanol wedi eu datrys

·           Deunyddiadu allanol bellach yn dderbyniol

·           Bod y dyluniad gorffenedig erbyn hyn yn gweddu yn well gyda thai cyfagos

·           Nad oes un math o ddyluniad unigryw i’r ardal

·           Na fyddai effeithiau ar fwynderau tai cyfagos a goredrych dim gwaeth na’r hyn sydd eisoes wedi derbyn caniatâd

 

PENDERFYNWYD:

 

Caniatáu yn groes i’r argymhelliad

 

Amodau

5 mlynedd, yn unol â’r cynlluniau, deunyddiau, tynnu hawliau a ganiateir, cynllun draenio, cwblhau parcio, dim mwy o ffenestri heb ganiatâd

 

Dogfennau ategol: