Cyflwyno adroddiad y
Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol.
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad.
COFNODION:
Cyflwynodd y
Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol ei hadroddiad blynyddol mewn
perthynas â pherfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol o fewn Gwynedd yn ystod y
flwyddyn flaenorol.
Nododd y
Cyfarwyddwr, oherwydd y pandemig, fod 2020/21 wedi bod yn flwyddyn wahanol iawn
i’r blynyddoedd a fu, ac yn flwyddyn na ddymunid gweld ei thebyg fyth eto. Cydymdeimlodd â phawb oedd wedi colli
anwyliaid i’r firws, a diolchodd i bob un o weithwyr gofal y sir, oedd wedi
mynd tu hwnt i’r gofyn i roi’r gofal gorau bosib’ i’r trigolion. Nododd hefyd fod y cydweithio ar draws
Gwynedd wedi bod yn ysbrydoliaeth i bawb, ac y gwelwyd y gorau o bobl yng
Ngwynedd, yn staff, gwirfoddolwyr, pencampwyr yn y cymunedau ac aelodau
etholedig.
Nododd ymhellach,
er gwaetha’r heriau a wynebwyd yn sgil y pandemig, ei bod yn falch o nodi fod
perfformiad gwasanaethau cymdeithasol ar gyfer y flwyddyn a fu wedi bod yn
gadarnhaol unwaith eto. Fodd bynnag,
wrth ganolbwyntio ar ymdopi gyda’r argyfwng Cofid, roedd rhai blaenoriaethau
wedi llithro rhywfaint, neu wedi eu rhoi o’r neilltuo am y tro. O ganlyniad, roedd yr adroddiad yn
canolbwyntio ar y ffordd yr ymatebwyd i’r pandemig a’r modd y parhawyd i gynnal
a darparu’r gwasanaethau hanfodol, yn ogystal â datblygu a darparu gwasanaethau
newydd.
Eglurodd fod llu o staff a rheolwyr gweithgar ac ymroddedig y tu ôl i’r
perfformiad yma, yn ogystal â gofalwyr sy’n deulu neu ffrindiau, rhieni maeth a
gwirfoddolwyr. Roedd y pandemig wedi
dangos bod gwasanaethau gofal cadarn yn y cymunedau yn hollol hanfodol, a mawr
obeithid y byddai polisïau a threfniadau, ayb, i’r dyfodol yn amlygu bod y
sector gofal cyn bwysiced â’r gwasanaethau iechyd.
Pwysleisiodd y byddai hi a’r penaethiaid yn cadw golwg barcud ar effaith
y flwyddyn ddiwethaf ar y staff yn yr hir dymor a’r tymor byr / canolig. Roedd cefnogaeth iechyd meddwl ar gael i’r
staff, ac roedd rhaid bod yn byw i anghenion staff unigol, a cheisio rhagweld y
problemau i’r dyfodol. Roedd y pandemig
hefyd wedi gadael effaith ar boblogaeth y sir o ran cyflogaeth, unigrwydd,
iselder, ayb, ac roedd y Bwrdd Cefnogi Pobl yn edrych ar faterion llesiant, ac
wedi dysgu o’r profiadau Cofid er mwyn sicrhau ein bod yn ymateb yn y ffordd
orau bosib’.
Ychwanegodd nad oedd perfformiad da yn bosib’ heb y gefnogaeth
wleidyddol a chorfforaethol, a diolchodd i bawb o’r aelodau am eu gwaith drwy
gydol bob blwyddyn yn cefnogi, herio a chynnig sylwadau a syniadau newydd. Diolchodd i’r ddau Aelod Cabinet yn y maes
gofal, y Cynghorwyr Dafydd Meurig a Dilwyn Morgan, ac i’r Arweinydd a gweddill
y Cabinet a Chadeirydd ac aelodau’r Pwyllgor Craffu Gofal am eu cymorth parhaus
a’u cefnogaeth i’r maes. Manteisiodd
hefyd ar y cyfle i ddiolch i’r Pennaeth Oedolion, Iechyd a Llesiant a’r
Pennaeth Plant a Theuluoedd a’r uwch reolwyr a’r rheolwyr. Diolchodd hefyd i adrannau eraill y Cyngor am
eu parodrwydd i gamu i mewn a chefnogi’r gwaith gofal cymdeithasol dros y
flwyddyn ddiwethaf. Diolchodd yn
arbennig i Dilwyn Williams am ei arweiniad a’i gefnogaeth yn ystod ei gyfnod
fel Prif Weithredwr, gan nodi ei bod yn edrych ymlaen at gydweithio gyda Dafydd
Gibbard, fel y Prif Weithredwr newydd.
I gloi, nododd y byddai 2021 yn sialens hefyd, ond drwy gydweithio a
rhannu a chynnig syniadau, roedd yn hyderus y gellid parhau i gynnig y
gwasanaeth gorau i bobl Gwynedd.
Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a
ganlyn:-
·
Nodwyd bod adran
Gwynedd o Profi Olrhain Diogelu wedi gwneud gwaith arbennig o dda.
·
Nodwyd, waeth pa mor galed roedd y Cyngor yn gweithio,
yn enwedig yn y maes iechyd meddwl, nad oedd modd cael y maen i’r wal os nad
oedd gan y Bwrdd Iechyd staff digonol, a phwysleisiwyd yr angen i hyfforddi
meddygon a nyrsys ym Mangor, ar y cyd rhwng yr Ysbyty a’r Brifysgol.
·
Diolchodd y ddau
Aelod Cabinet yn y maes gofal i’r Cyfarwyddwr am ei chefnogaeth a’i harweiniad,
ac i bob aelod o’r staff, yn enwedig y staff rheng flaen, am eu holl waith, a’u
haberth bersonol ar adegau, er budd pobl fregus Gwynedd.
·
Diolchwyd i’r staff
am eu parodrwydd i gynorthwyo’r aelodau i ymateb i ymholiadau gan y cyhoedd.
·
Nodwyd y byddai
effeithiau’r pandemig yn parhau am flynyddoedd, a galwyd ar gyd-aelodau i
gynorthwyo gyda’r baich er lles y swyddogion a phobl Gwynedd.
·
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chapasiti’r Adran
i wynebu’r problemau sy’n ein hwynebu yn y dyfodol yn sgil Cofid a Brexit,
eglurwyd bod y mater recriwtio yn y maes gofal wedi’i gynnwys yng nghofrestr
risg y ddwy Adran. Nid oedd yna atebion
hawdd i hyn, ond byddai’n rhaid gwneud y maes yn flaenoriaeth, mewn
partneriaeth â’r Gwasanaeth Iechyd.
Roedd yn rhaid cael yr ariannu gan y Llywodraeth i sicrhau bod modd talu
cyflogau teg yn y sector yn ei gyfanrwydd.
Nid oedd yn glir eto pa fath o wasanaeth fyddai ei angen yn sgil y
profiadau gyda Chofid, ond roedd yn bwysig gallu bod yn ymatebol a gallu ateb
rhai o’r problemau mewn ffordd mor adeiladol a rhagweithiol ag y gellid.
·
Gofynnwyd pa fath o
ymateb a gafwyd i’r ymgyrchoedd cenedlaethol a lleol diweddar i recriwtio
gweithwyr yn y maes gofal, a holwyd beth allai’r aelodau wneud i hybu hyn. Mewn ymateb, nodwyd bod yr ymgyrchoedd wedi
gwella’r sefyllfa. Credid bod modd
gwneud mwy, ac efallai bod sgôp i gael mwy o’r ymdeimlad lleol i rai o’r swyddi
hefyd, fel bod modd cefnogi unrhyw un sydd braidd yn ofnus o ymgeisio am swydd
mewn cyngor neu gyda darparwr. Gallai
rôl yr aelodau fod yn allweddol o ran hynny.
Roedd yn rhaid ystyried y gweithwyr cymdeithasol hefyd, gan sicrhau bod
digon yn cael eu cefnogi i gwblhau gradd uwch i ddod i mewn i’r maes. Diau y byddai’r Pwyllgor Craffu Gofal yn cadw
golwg ar y gwaith sy’n digwydd, a gwahoddwyd unrhyw un oedd â syniadau
ynglŷn â sut i wella’r systemau recriwtio a’r ymgyrchoedd ddod i
gysylltiad â’r Adran i drafod ymhellach.
·
Holwyd sut y
gallai’r Cyngor gefnogi’r bobl hynny sydd ar y lein ac yn methu cael arian o
unman. Mewn ymateb, eglurwyd y credid
bod gwaith y Bwrdd Cefnogi Pobl yn mynd i’r cyfeiriad yma, gan ei fod yn
cynnwys ffrydiau gwaith penodol o ran cyflogaeth, tlodi, iechyd meddwl,
llesiant, ayb, ond y gellid trafod hyn ymhellach gyda’r aelod y tu allan i’r
cyfarfod.
PENDERFYNWYD derbyn yr
adroddiad.
Diolchwyd i’r Cyfarwyddwr am ei chyflwyniad.
Dogfennau ategol: