Cyflwynwyd gan:Cyng. Ioan Thomas
Penderfyniad:
1.1 Nodwyd y
sefyllfa ariannol derfynol adrannau’r Cyngor am 2020/21.
1.2 Cymeradwywyd y symiau
i’w cario ymlaen (y golofn “Gor/(Tan) Wariant
Addasedig” o’r
talfyriad yn Atodiad 1), sef –
ADRAN |
£’000 |
Oedolion, Iechyd a Llesiant |
(100) |
Plant a Theuluoedd |
0 |
Addysg |
(100) |
Economi a Chymuned |
(100) |
Priffyrdd a Bwrdeistrefol |
0 |
Amgylchedd |
(100) |
Ymgynghoriaeth Gwynedd |
(64) |
Tai ac Eiddo |
(75) |
Tîm Rheoli Corfforaethol a Chyfreithiol |
(100) |
Cyllid |
(86) |
Cefnogaeth Gorfforaethol |
(100) |
1.3 Cymeradwywyd yr
argymhellion a’r trosglwyddiadau ariannol canlynol (sydd wedi’u
egluro yn Atodiad
2) –
·
Yr Adran Plant a Theuluoedd i dderbyn cymorth
ariannol un-tro o £1,261k i
ddiddymu y gorwariant yn llwyr, o ystyried yr amgylchiadau eithriadol yn
ymwneud â’r argyfwng eleni. Fel bod modd i’r adran symud ymlaen i wynebu
her 2021/22.
·
Yn unol â'r Rheoliadau Ariannol argymhellir cadw at
y drefn arferol i ganiatáu
i'r Adran Addysg gadw (£100k) o'i danwariant, gan symud (£159k) sef y
swm
uwchlaw (£100k), i'w ddefnyddio i gynorthwyo'r adran sydd wedi gorwario
yn
2020/21.
·
Caniatáu i’r Adran Tai ac Eiddo drosglwyddo (£848k)
cynnal a chadw corfforaethol i gronfa cynnal a chadw i ariannu'r gwariant i'r
dyfodol.
·
Yn unol â'r Rheoliadau Ariannol argymhellir cadw at
y drefn arferol i ganiatáu y Tim Rheoli Corfforaethol
a Chyfreithiol gadw (£100k) o'i danwariant, gan symud (£6k) sef y swm uwchlaw
(£100k), i'w ddefnyddio i gynorthwyo'r adran sydd wedi gorwario yn 2020/21.
·
Ar gyllidebau Corfforaethol:
¾ defnyddio (£926k)
o’r tanwariant net Corfforaethol i gynorthwyo'r Adran Plant sydd wedi gorwario yn 2020/21.
¾ fod (£2,047k) cynlluniau cyfalaf sydd i'w hariannu o refeniw i'w
trosglwyddo i gronfa i alluogi ailbroffilio'r adnodd.
¾ fod £600k yn cael ei ryddhau o falansau
cyffredinol y Cyngor.
¾ (£4,000k) yn cael ei neilltuo i gronfa Trawsffurfio y Cyngor i gefnogi
gwaith trawsffurfiol ac o natur un-tro.
¾ (£2,519k) yn cael ei neilltuo i gronfa ar gyfer trefniadau adfer yn sgil
Covid19.
1.4 Cymeradwywyd y
trosglwyddiadau ariannol o gronfeydd penodol fel a amlinellir
yn Atodiad 4 yn
dilyn adolygiad o’r cronfeydd, gan gynaeafu (£170k) o gronfeydd i gynorthwyo’r
Adran Plant sydd wedi gorwario yn 2020/21.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan
Thomas.
PENDERFYNIAD
1.1 Nodwyd y sefyllfa ariannol derfynol
adrannau’r Cyngor am 2020/21.
1.2 Cymeradwywyd y symiau i’w cario ymlaen
(y golofn “Gor/(Tan) Wariant
Addasedig” o’r talfyriad yn Atodiad 1),
sef –
ADRAN |
£’000 |
Oedolion, Iechyd a Llesiant |
(100) |
Plant a Theuluoedd |
0 |
Addysg |
(100) |
Economi a Chymuned |
(100) |
Priffyrdd a Bwrdeistrefol |
0 |
Amgylchedd |
(100) |
Ymgynghoriaeth Gwynedd |
(64) |
Tai ac Eiddo |
(75) |
Tîm Rheoli Corfforaethol a
Chyfreithiol |
(100) |
Cyllid |
(86) |
Cefnogaeth Gorfforaethol |
(100) |
1.3 Cymeradwywyd yr argymhellion a’r
trosglwyddiadau ariannol canlynol (sydd wedi’u
egluro yn Atodiad 2) –
ddiddymu y gorwariant yn llwyr, o ystyried
yr amgylchiadau eithriadol yn
ymwneud â’r argyfwng eleni. Fel bod modd i’r
adran symud ymlaen i wynebu
her 2021/22.
i'r Adran Addysg gadw (£100k) o'i
danwariant, gan symud (£159k) sef y swm
uwchlaw (£100k), i'w ddefnyddio i
gynorthwyo'r adran sydd wedi gorwario yn
2020/21.
¾
defnyddio
(£926k) o’r tanwariant net Corfforaethol i gynorthwyo'r Adran Plant sydd wedi
gorwario yn 2020/21.
¾
fod
(£2,047k) cynlluniau cyfalaf sydd i'w hariannu o refeniw i'w trosglwyddo i
gronfa i alluogi ailbroffilio'r adnodd.
¾
fod
£600k yn cael ei ryddhau o falansau cyffredinol
y Cyngor.
¾
(£4,000k)
yn cael ei neilltuo i gronfa Trawsffurfio y Cyngor i gefnogi gwaith
trawsffurfiol ac o natur un-tro.
¾
(£2,519k)
yn cael ei neilltuo i gronfa ar gyfer trefniadau adfer yn sgil
Covid19.
1.4 Cymeradwywyd y trosglwyddiadau
ariannol o gronfeydd penodol fel a amlinellir
yn Atodiad 4 yn dilyn adolygiad o’r
cronfeydd, gan gynaeafu (£170k) o gronfeydd i gynorthwyo’r Adran Plant sydd
wedi gorwario yn 2020/21.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn manylu ar wariant y Cyngor yn
2020/21. Tynnwyd sylw at dalfyriad o’r sefyllfa derfynol yr holl adrannau a
oedd i’w gweld yn yr adroddiad gyda’r symiau i’w cario ymlaen ar ddiwedd y flwyddyn
ariannol yn y golofn Gor / Tan Wariant Addasedig.
Amlygwyd y
prif faterion a meysydd ble gwelwyd gwahaniaethau sylweddol. Nodwyd fod effaith
ariannol Covid wedi bod yn sylweddol i’r Cyngor gyda
£20m wedi ei hawlio o’r gronfa caledi a Furlough erbyn
diwedd y flwyddyn. Esboniwyd yn dilyn derbyn nifer o grantiau sylweddol eraill
cysylltiedig â Covid-19 yn hwyr yn y flwyddyn ariannol, golyga hyn fod y
sefyllfa ariannol 2020/21 wedi ei drawsnewid erbyn diwedd y flwyddyn. Cyn
dyrannu'r grantiau digolledu am Covid19 gan Lywodraeth Cymru nodwyd fod 5 adran
yn gorwario, ond yn dilyn y dyraniad dim ond yr Adran Plant a Chefnogi
Teuluoedd sydd yn gorwario yn derfynol. Er hyn amlygwyd fod y lleihad yn y
gorwariant i £1.3m yn dilyn i werth £688k o arbedion nad oedd modd eu gwireddu
gael eu dileu ynghyd a derbyniad grant covid.
Esboniwyd
fod gwelliant sylweddol yn sefyllfa’r Adran Oedolion yn dilyn arbedion nad oedd
modd eu cyflawni yn cael ei dileu a’u llithro ynghyd a derbyniad grantiau
cyffredinol ym misoedd olaf y flwyddyn. Amlygwyd fod effaith Covid wedi cael ardrawiad sylweddol ar yr Adran Oedolion
sydd werth dros £4.5m erbyn diwedd y flwyddyn.
O ran yr Adran Briffyrdd a Bwrdeistrefol, nodwyd fod y
cynnydd yn gyfuniad o gwtogi gwariant, derbyniadau grant covid
ynghyd a grantiau cyffredinol a dileu arbedion. Pwysleisiwyd fod y maes
gwastraff yn parhau i fod y prif bwysau ar yr adran. Ymhelaethwyd drwy nodi fod
yr adran wedi wynebu costau ychwanegol sylweddol yn ymwneud â Covid19 er mwyn
cydymffurfio a’r rheoliadau ynghyd a cholledion incwm yn y maes gwastraff
masnachol.
Mynegwyd
wrth edrych ar falansau ysgolion fod cynnydd o £4.3m
yn 2019/20 i £10.7m yn 2020/21 yn sgil effaith Covid19 ynghyd a derbyniad
grantiau amrywiol. Esboniwyd fod adolygiad digonolrwydd ar gronfeydd penodol yn
y Cyngor wrth gau’r cyfrifon a llwyddwyd i gynaeafu £170k o adnoddau. Nodwyd y
penderfyniad.
Diolchodd y Pennaeth Cyllid i’r staff am sicrhau fod y
cyfrifon wedi eu cau yn amserol a wrth weithio o adref. Pwysleisiwyd fod y sefyllfa
tanwariant sydd i’w gweld ar draws yr adrannau yn cael ei gweld ar draws
awdurdodau Cymru yn ogystal. Nodwyd fod y Cyngor y llynedd wedi bod yn ffodus
o’r arian oedd tu ôl iddynt i ariannu cynlluniau yn ystod y pandemig
heb sicrwydd am arian grant. Ond, yn dilyn derbyn yr arian grant mae modd
bellach i'r’ Cabinet flaenoriaethu cynlluniau o’r gronfa trawsffurfio er mwyn
gwneud gwahaniaeth i wasanaethau ac i drigolion Gwynedd.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth
¾
Diolch
i staff yr adran am eu gwaith am y cadernid ariannol sydd gan Wynedd.
Awdur:Ffion Madog Evans
Dogfennau ategol: