Ystyried
unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.19 o’r
Cyfansoddiad.
COFNODION:
(Dosbarthwyd atebion
ysgrifenedig yr Aelodau Cabinet i’r cwestiynau i’r aelodau ymlaen llaw.)
(1) Cwestiwn gan y Cynghorydd Mike Stevens
“Mae llawer o
aelodau’n teimlo eu bod wedi eu camarwain yn llwyr pan gawsom ein gorfodi i
dderbyn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd (CDLlC) yn 2017. Ar y pryd dywedwyd wrthym fod y cynllun yn
ddogfen fyw y gellid ei diweddaru ar unrhyw adeg. Dywedir wrthym nawr na ellir diwygio’r
cynllun am dair blynedd. O ystyried yr
argyfwng tai difrifol a’r prinder tai aruthrol sy’n ein hwynebu, pa gyfarwyddyd
a roddir i swyddogion cynllunio i fod yn fwy hyblyg ac yn llai draconaidd wrth
ddehongli canllawiau cynllunio er mwyn caniatáu mwy o ddatblygu?”
Ateb gan yr Arweinydd, y
Cynghorydd Dyfrig Siencyn
“Nid
wyf yn derbyn fod aelodau wedi eu camarwain yn 2017 pan fu iddynt fabwysiadu'r
Cynllun Datblygu Lleol Ar y Cyd. Roedd
yr adroddiad cynhwysfawr yn gosod allan y trefniadau monitro blynyddol sydd
wedi eu cynnal ers iddo gael ei fabwysiadu.
Mae’r cysyniad o fonitro ac adolygu parhaus wedi ei adeiladu i’r drefn
Cynllun Lleol, trefniant nad oedd yn rhan o drefniadau cynlluniau datblygu
blaenorol.
Mae adroddiadau monitro blynyddol wedi eu paratoi
ers mabwysiadu’r Cynllun a’u hystyried yn erbyn y fframwaith fonitro. Cyflwynwyd yr adroddiad monitro cyntaf i’r
Pwyllgor Craffu Cymunedau, pwyllgor y mae’r Cynghorydd Mike Stevens yn aelod
ohono, yn 2019, ac ar y pryd trefnwyd sesiynau briffio ar gyfer pob aelod er
cyfleu canfyddiadau’r adroddiad. Yn 2020
llaciwyd y gofyn statudol i gyflwyno adroddiadau monitro blynyddol ffurfiol gan
Lywodraeth Cymru oherwydd y pandemig.
Fodd bynnag bu i’r Cyngor barhau i baratoi adroddiad monitro blynyddol
drafft, sydd ar wefan y Cyngor, ac eto trefnwyd sesiynau briffio ar gyfer yr
holl Aelodau. Nid oedd y dystiolaeth o’r
adroddiadau monitro blynyddol hynny yn cefnogi’r angen am adolygiad buan o’r
cynllun. Mae bellach yn bedair blynedd
ers mabwysiadu’r Cynllun ac felly mae gofyn cyfreithiol i gynnal adolygiad
llawn. Bydd y dystiolaeth o bob
adroddiad monitro blynyddol yn cael ei bwydo i mewn i’r broses yma.
Fel yr adroddwyd i’r Cyngor ym Mehefin 2021, mae
camau sydd rhaid eu dilyn fel rhan o’r broses adolygu er cytuno ar newidiadau
i’r Cynllun.
Boed yn aelodau o’r Pwyllgor Cynllunio neu’n
Swyddogion yn gwneud penderfyniadau dirprwyedig, mae’n rhaid i benderfyniadau
cynllunio gael eu gwneud yn unol â’r Cynllun Datblygu Lleol mabwysiedig, oni
bai fod ystyriaethau cynllunio materol yn dangos fel arall. Mae hyn yn ofyn cyfreithiol.
Mae’r
syniad bod cyfarwyddyd yn cael ei roi i ymdrin â’r penderfyniadau yma mewn
unrhyw ffordd arall yn gwahodd aelodau a swyddogion i weithredu mewn modd
anghyfreithiol. Rwyf hefyd yn ymwrthod
â’r datganiad fod swyddogion yn anhyblyg neu’n ddraconaidd wrth roi
cyngor. Wrth wneud honiad o’r fath y tu
allan i’r sianelau priodol, heb unrhyw gyfeiriad at dystiolaeth, mae’n
tanseilio swyddogion mewn ffordd annheg a hefyd yn tanseilio hyder cyhoeddus yn
y gyfundrefn gynllunio a rheolaeth datblygu.”
Cwestiwn Atodol
gan y Cynghorydd Mike Stevens
“Mae’r ffaith bod y Cynllun Datblygu Lleol yn methu pobl Gwynedd yn
amlwg o’r argyfwng rydym yn awr yn ei wynebu.
Mae’r cynllun, a fabwysiadwyd yn 2017, wedi dyddio’n ddifrifol oherwydd
y ffordd mae’r byd wedi newid. Gan
hynny, a wnewch chi drefnu cyfarfod brys o’r Cyngor, a’n bod yn rhoi’r rheolau
sefydlog o’r neilltu er mwyn cael trafodaeth lawn ac agored ynglŷn â’r
argyfwng presennol?”
Ateb gan yr Arweinydd, y
Cynghorydd Dyfrig Siencyn
“Mae gen i
rywfaint o gydymdeimlad gyda rhwystredigaeth y Cynghorydd Mike Stevens, ond ei
gŵyn, mewn difri’, yw cwyn yn erbyn y drefn gynllunio sydd gennym, ac yn
bersonol, rwy’n credu bod angen diwygiad radical yn y drefn gynllunio honno. Ond nid ydi hynny ar raglen y Llywodraeth, a
hyd yn oed petai ar raglen y Llywodraeth, byddai’n cymryd blynyddoedd i’w
ddatblygu. Mae’r camau rydym ni’n cymryd
i adolygu’r Cynllun Datblygu Lleol yn orfodol arnom. Maen nhw’n statudol. Rydych chi wedi gweld y llythyrau rydym ni
wedi derbyn yn ôl gan y Gweinidog. Mae’n
rhaid i ni ddilyn y drefn statudol, sef canllawiau Llywodraeth Cymru, ac mae
hynny’n cymryd amser. Mae’n rhaid i ni,
a dyma’r pwynt pwysig. Mae’n ddrwg gen
i, ond does gennym ni ddim dewis. Os na
wnawn ni ddilyn y drefn yma, ac mae’r bygythiad yn glir yn llythyr y Gweinidog,
yna fe allem fod mewn sefyllfa lle mae’r Gweinidog yn dweud bod ein cynlluniau
ni, neu ein haddasiadau, yn ddi-sail, ac ni fyddwn yn gallu gweithredu. Felly mae’n rhaid i ni wneud hynny, er
gwaethaf yr hyn rydym yn feddwl o’r drefn sy’n bod. Gyda llaw, mae’r adolygiad wedi cychwyn a
bydd yna gyfarfodydd ddechrau mis Tachwedd ar gyfer yr holl aelodau i chi
drafod mater y Cynllun Datblygu Lleol.
Yn ychwanegol at hynny, rwy’n credu, o safbwynt y broblem tai haf ac
ail-gartrefi, nad trwy’r Cynllun Datblygu Lleol mae ateb hynny, ond trwy
faterion eraill. Mae angen adolygu’r
Cynllun Datblygu Lleol, ond yn bwysicach na dim, ac rwy’n credu bod hwn yn rhan
o’r broses ddemocrataidd, mae’n rhaid i ni gael barn pawb, yr etholwyr, unrhyw
fudd-ddeiliaid. Ni fedrwn wthio rhywbeth
trwodd yn unig, neu byddwn mewn peryg’ o fethu adolygu’r Cynllun Datblygu
Lleol. Mae’n ddrwg gen i anghytuno â’r
Cynghorydd Mike Stevens ynglŷn â hyn, ac rwy’n siŵr y cawn ni sgwrs
aeddfed am y peth i’r dyfodol.”
(2) Cwestiwn gan y Cynghorydd Angela Russell
“Hoffwn ofyn cwestiwn am fater yn ymwneud â brechu plant a phobl ifanc
yn erbyn Covid-19.
Gai ddweud, reit
ar y cychwyn fel hyn, nad ydi hyn ddim byd i wneud hefo rhywun yn coelio mewn
Covid neu ddim, na chwaith os ydych chi yn coelio mewn brechu neu ddim. Nid dyma ydw i’n godi drwy ofyn y cwestiwn
yma. A rhaid i ni gofio nad oes yr un
ohonom yn y cyfarfod yma yn arbenigwyr meddygol yn y maes dyrys yma.
Ond rydw i am ofyn
yma am ein cyfrifoldeb ni fel cynghorwyr, a rhai ohonom ni’n llywodraethwyr
ysgolion hefyd. Rydw i’n pryderu, yn
fawr iawn, am y mater o frechu plant.
Wrth i blant a phobl ifanc gael cynnig y brechiad Covid mae’r arbenigwyr
yn dweud wrthym y bydd hyn yn lleihau amharu ar addysg y plant yn ystod misoedd
y gaeaf, ac o fudd i rai sydd yn byw yn yr ardaloedd tlotaf, neu gydag
anhwylderau iechyd yn barod.
Mae’n fy nychryn
fod plant, dan 18 oed, yn medru cymryd y brechiad heb ganiatâd rhieni. Rhy ifanc i gael rhyw yn gyfreithlon, i
briodi, i bleidleisio ... ond mae’n iawn iddyn nhw gymryd y brechiad heb
ganiatâd. Mae hyn yn fy mhoeni yn fawr
iawn.
Mae yna nifer fawr o rieni wedi dod ataf yn bryderus iawn am y
sefyllfa. Rydw i wedi eu cynghori i
ysgrifennu at yr ysgol i ddatgan eu pryderon.
Fel Llywodraethwr dwy ysgol, rydw i’n ymwybodol iawn o fy
nghyfrifoldebau fel Aelod o Fwrdd Llywodraethol. Mae athrawon yn gorfod cael caniatâd rhieni i
roi tabled i blentyn, i roi eli haul ar y croen, ayb.
In loco parentis – yng nghyfrifoldeb yr ysgol.
·
Beth yw ein cyfrifoldeb ni os bydd rhywbeth, mawr
neu fach, yn mynd o’i le os bydd plentyn yn cael ei niweidio gyda brechlyn?
·
Beth yw cyfrifoldeb y Bwrdd Llywodraethol amser
hynny, a ninnau fel Llywodraethwyr?”
Ateb gan yr Aelod
Cabinet Addysg, y Cynghorydd Cemlyn Williams
“Nid wyf am ail-ddarllen yr ymateb ysgrifenedig cyfan, ond mae’r
paragraff cyntaf yn dweud yn sylfaenol mai rhaglen sydd yn cael ei rhedeg gan
Wasanaeth Iechyd Cyhoeddus (GIG) Cymru a Llywodraeth Cymru ydi’r rhaglen
frechu. Eu penderfyniad nhw oedd cyflwyno
rhaglen frechu i bobl ifanc 12-15 oed.
Mae yna dipyn o wybodaeth gefndirol yn yr ymateb ysgrifenedig, ond yn
benodol i ymateb i’r Cynghorydd Angela Russell, mae’r paragraff olaf yn
ymhelaethu ar rôl ysgolion a llywodraethwyr, sef er y gall ysgolion, ac yn y
cyd-destun yma llywodraethwyr hefyd, wrth gwrs, gytuno i gynnal gwasanaethau
imiwneiddio ar y safle a helpu i ddosbarthu gwybodaeth, nid ydynt yn
gyfrifol am sicrhau cydsyniad rhiant neu blentyn, asesu cymhwysedd Gillick na
chyfryngu rhwng rhieni a phlant sydd efallai yn anghytuno ynghylch a ddylid
cydsynio ai peidio. Rôl nyrsys yr
ysgol yw hyn, sydd â'r arbenigedd a'r profiad i ymdrin â materion o’r
fath. Mae nyrsys cofrestredig yn atebol
yn broffesiynol.”
Cwestiwn Atodol gan y
Cynghorydd Angela Russell
“Mae meddygon teulu wedi bod yn derbyn dros £25 am y ddau frechlyn Covid
a deallaf fod yna £10 ychwanegol am frechu plant. Felly, ydi hyn yn mynd dros £35 fesul plentyn
am y ddau frechiad, a phwy sy’n derbyn y pres am frechu miloedd o blant - y nyrs
ysgol, yr ysgol, Cyngor Gwynedd neu Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr? Mae llawer o rieni am gadw plant adref. Bydd absenoldebau’n uchel. Faint o bres ychwanegol fydd yna ar gyfer
addysgu yn y cartref yn y gyllideb?”
Ateb gan yr Aelod
Cabinet Addysg, y Cynghorydd Cemlyn Williams
“Cyn belled ag y mae’r gyllideb yn y cwestiwn, nid wy’n ymwybodol bod
yna gost ychwanegol i Gyngor Gwynedd.
Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr sydd yn cynnal hyn ac mae gen i wybodaeth
bellach am hynny. Fel i mi nodi mewn
ymateb i’r cwestiwn gwreiddiol, nid ydi Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn bwriadu
cyflwyno’r brechiadau yma mewn ysgolion.
Mae’r Bwrdd yn nodi “ar yr adeg hon, nid ydym ni’n bwriadu brechu’r
grŵp oedran hwn mewn clinigau mewn ysgolion, ond byddwn yn parhau i
adolygu’r penderfyniad hyn. Y bwriad ydi defnyddio canolfannau brechu ar
benwythnosau a chyda’r hwyr yn bennaf, a disgwylir i riant fynd gyda’u plentyn
i roi cydsyniad”. Felly, oni bai bod y
sefyllfa yn newid, ni fydd unrhyw gyfrifoldeb ar ysgolion na llywodraethwyr am
rôl brechiadau, ac fel rydw i wedi nodi’n barod, dim ond y nyrsys hyfforddedig
sy’n gyfrifol am sicrhau cydsyniad rhiant neu blentyn.”
(3) Cwestiwn gan y Cynghorydd Gruffydd Williams
“Yng
nghyfarfod llawn o’r Cyngor yn 2017 fe basiwyd y Cynllun Datblygu Lleol o drwch
blewyn drwy bleidlais fwrw’r Cadeirydd.
Bryd hynny fe fynegodd sawl aelod a bleidleisiodd o blaid ac yn erbyn ei
fod yn wallus. Mi ddywedodd yr
Arweinyddiaeth fod y Cynllun yn un byw a bod posib’ ei newid. Bryd hynny, oni ddylai fod wedi bod yn
hanfodol i aelodau’r Cyngor gael gwybod gan yr Arweinyddiaeth a’r Swyddogion
bod y broses adolygu oedd am gymryd lle ymhen 4 blynedd yn mynd i gymryd 3
blynedd a hanner ychwanegol?”
Ateb gan y Dirprwy
Arweinydd, y Cynghorydd Dafydd Meurig
“Mae hwn yn
gwestiwn digon tebyg i gwestiwn y Cynghorydd Mike Stevens yn gynharach
ynglŷn â’r broses creu Cynllun Datblygu Lleol. I raddau, rwy’n rhannu’r rhwystredigaeth ein
bod mewn trefn gynllunio hynod glogyrnaidd a statudol, a bod yna gymaint o
waith mynd trwy’r holl gamau er mwyn cael y maen i’r wal, ac mae hynny’n wir am
y broses monitro ac adolygu hefyd. Mae’n
system sydd wedi cael ei gosod mewn statud.
Gobeithio fod pawb wedi cael cyfle i ddarllen yr ateb ysgrifenedig, ac
ar wahân i hynny, does 'na fawr fedra’i ychwanegu at hynny, heblaw i rannu’r
rhwystredigaeth ynglŷn â’r drefn gynllunio.”
Cwestiwn Atodol gan y
Cynghorydd Gruffydd Williams
“O ystyried bod
pob un o’r 65 dangosydd yn yr adroddiad monitro diweddar yn datgan bod dim angen
gweithredu pellach, yn hytrach na’r hyn fyddai’n ddisgwyliedig ynghanol
argyfwng tai, sef awgrymu newid y polisïau, yna mae’n dilyn na fydd yna unrhyw
newid i bolisïau yn ystod y cyfnod adolygu.
Gan hynny, onid cynllun marwaidd ydi hwn sy’n cyfiawnhau ei hun drwy
ystadegau amwys ac yn tynghedu ein cymunedau a’r Gymraeg i farwolaeth, ac felly
yn wyneb y ffaith bod yr Arweinyddiaeth wedi ein tywys i gors nad oes modd i ni
ddianc ohoni, a ddylent ystyried eu sefyllfa ac ymddiswyddo?”
Ateb gan y Dirprwy Arweinydd,
y Cynghorydd Dafydd Meurig
“Wn i ddim beth
fedra’i ychwanegu yn fwy na’r hyn sydd wedi cael ei ddweud yn barod. Nid ydi’r ddogfen yn ddogfen farw. Mae hi’n ddogfen fyw, ac mae’n cael ei
hadolygu ar hyn o bryd. Mae yna bethau
wedi newid, wrth reswm, yn ystod y 4 blynedd ddiwethaf - mae yna newidiadau o
ran Wylfa newydd, mae effeithiau Brexit i’w gweld, mae effeithiau Covid i’w
gweld ac mae newid hinsawdd yn ffactor.
Mae yna newidiadau mawr wedi digwydd, ac mi fydd yna adolygiad, ac mae’n
debyg y bydd yn adolygiad fydd yn cymryd peth amser oherwydd y newidiadau sydd
wedi digwydd. Felly nid wy’n derbyn
hynny. Beth sy’n bwysig ydi, wrth i ni
fynd i adolygu, ein bod ni i gyd yn cymryd rhan yn yr adolygiad yna, bod pawb
ohonom yn mynychu’r sesiynau codi ymwybyddiaeth ar gyfer aelodau, a’n bod ni i
gyd yn cymryd rhan yn y cyfnod ymgynghori, ac rwy’n meddwl bod hynny’n
hollbwysig. Felly nid wy’n derbyn bod
'na gamarwain wedi bod. Roedd yna
ddogfennaeth gynhwysfawr yn 2017, ac mae’n hollol glir yn y fan honno beth
ydi’r arweiniad ynglŷn â’r drefn adolygu a’r drefn monitro. Felly fedra’i ddim siarad dros bobl oedd,
efallai, ddim wedi darllen y dogfennau yn llawn ar y pryd, ond yn sicr, rwy’n
rhannu’r rhwystredigaeth ynglŷn â’r drefn, ond dyna ydi’r drefn a
gobeithio y byddwn i gyd yn cymryd rhan yn y broses.”