Cyflwyno adroddiad
yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol.
Penderfyniad:
Mabwysiadu’r Datganiad
Amrywiaeth isod, a gofyn i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth ddatblygu
rhaglen waith i gefnogi’r datganiad:-
“Mae'r Cyngor hwn yn
ymrwymo i fod yn Gyngor Amrywiol. Trwy hynny,
rydym yn awyddus i fod yn adlewyrchu’r gymdeithas rydym yn byw ynddi gan, yn y
lle cyntaf, geisio cynyddu’r niferoedd o ferched, pobl ifanc, pobl anabl a
lleiafrif ethnig sy’n sefyll etholiad i fod yn Gynghorydd Gwynedd.
Rydym yn ymrwymo i:-
·
Ddarparu ymrwymiad clir a chyhoeddus i
wella amrywiaeth mewn democratiaeth
·
Ddangos
diwylliant agored a chroesawgar i bawb, a hyrwyddo’r safonau ymddygiad uchaf
·
Hybu
gweithrediadau fel Cyngor Amrywiol cyn etholiadau lleol 2022.
·
Weithio
ar y safonau a nodir yn Siarter Cymru ar gyfer Cymorth a Datblygu i Aelodau.
·
Ddangos
ymrwymiad i ddyletswydd gofal dros Gynghorwyr
·
Ystyried
sut i ddarparu hyblygrwydd ym musnes y cyngor drwy adolygu ein trefniadau
ymarferol
·
Barhau
i annog fod yr holl aelodau yn derbyn y lwfansau a’r cyflogau y mae ganddynt
hawl eu derbyn, ac yn benodol unrhyw ad-daliadau am gostau gofal, fel bod yr
holl aelodau yn derbyn cydnabyddiaeth deg am eu gwaith ac nad yw rôl yr aelodau
yn gyfyngedig i’r rhai all ei fforddio.
Weithio tuag at sicrhau bod cynghorwyr o grwpiau a dangynrychiolir yn cael eu cynrychioli pryd bynnag fo’n bosibl mewn rolau proffil uchel a dylanwad uchel.”
COFNODION:
Cyflwynodd yr Arweinydd adroddiad yn argymell:-
·
Bod
y Cyngor yn mabwysiadu Datganiad Amrywiaeth er mwyn datgan yn gyhoeddus fod Cyngor
Gwynedd yn hybu a hyrwyddo amrywiaeth mewn democratiaeth.
·
Gofyn
i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth arwain ar ddatblygu rhaglen waith lawn
ar gyfer gwireddu’r datganiad, gan gyflwyno’r rhaglen waith i’r Cyngor llawn yn
ei gyfarfod nesaf ar 2 Rhagfyr, 2021.
Gwahoddwyd Arweinydd y
Grŵp Annibynnol i ddweud gair, ac yna manylodd yr Aelod Cabinet Cefnogaeth
Gorfforaethol ar y paratoadau ar gyfer cynnal Wythnos Democratiaeth yng
Ngwynedd, yn cychwyn ar 18 Hydref. Gofynnodd
i bawb rannu’r negeseuon fydd yn cael eu trydar a’u rhannu dros yr wythnos, gan
nodi fod bwriad i ail gynnal yr ymgyrch yn Ionawr, wedi cael cyfle i ddysgu
gwersi o’r ymgyrch cyntaf.
Rhoddwyd cyfle i’r
aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau.
Codwyd y materion a ganlyn gan aelodau unigol:-
·
Mynegwyd pryder bod rhywbeth mawr o’i le pan mae
cymaint o aelodau yn cael eu hethol ar y Cyngor yn ddiwrthwynebiad, ac na ellid
bod yn siŵr bod yr hyn oedd yn cael ei argymell yn mynd i newid y sefyllfa
o ran denu pobl i sefyll etholiad.
·
Nodwyd bod y datganiad yn un clodwiw a chroesawyd yr
ymgyrch i geisio cael mwy o amrywiaeth o wahanol gefndiroedd i sefyll fel
cynghorwyr.
·
Awgrymwyd y dylai’r datganiad gynnwys, nid yn unig
merched, pobl ifanc, pobl anabl a lleiafrifoedd ethnig, ond hefyd pobl lliw a
phobl â nodweddion eraill sy’n cael eu cynnwys yn y ddeddfwriaeth cydraddoldeb,
megis rhywedd a chyfeiriadedd rhywiol.
Mewn ymateb, nododd yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol ei bod yn
croesawu’r sylw, ac y byddai’n sicrhau bod y datganiad yn cael ei addasu i
adlewyrchu’r pwynt pwysig yma. Byddai
hefyd yn sicrhau bod sylw penodol at hyn yn y rhaglen waith fydd yn cael ei
datblygu i gefnogi’r datganiad.
·
Nodwyd bod rôl amlwg i’r pleidiau gwleidyddol
ymestyn allan a chynnal digwyddiadau i godi ymwybyddiaeth am waith cynghorwyr.
·
Mynegwyd rhwystredigaeth y gallai arafwch cyhoeddi
penderfyniad Llywodraeth Cymru ynglŷn â’r ffiniau etholiadol fod wedi
arafu’r broses o geisio denu amrywiaeth o ymgeiswyr i sefyll etholiad ym mis
Mai 2022.
·
Awgrymwyd bod angen newid y diwylliant o fewn y
Cyngor i’w wneud yn fwy deinamig, gan mai ychydig oedd i’w weld yn digwydd yng
Ngwynedd o gymharu â rhai siroedd eraill, a chwestiynwyd tybed oedd hynny
oherwydd agwedd uwch swyddogion tuag at rai cynghorwyr.
PENDERFYNWYD mabwysiadu’r Datganiad Amrywiaeth isod, a gofyn i’r
Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth ddatblygu rhaglen waith i gefnogi’r
datganiad:-
“Mae'r Cyngor hwn yn ymrwymo i fod yn Gyngor
Amrywiol. Trwy hynny, rydym yn awyddus i
fod yn adlewyrchu’r gymdeithas rydym yn byw ynddi gan, yn y lle cyntaf, geisio
cynyddu’r niferoedd o ferched, pobl ifanc, pobl anabl a lleiafrif ethnig sy’n
sefyll etholiad i fod yn Gynghorydd Gwynedd.
“Rydym yn ymrwymo
i:-
·
Ddarparu ymrwymiad
clir a chyhoeddus i wella amrywiaeth mewn democratiaeth
·
Ddangos diwylliant agored a chroesawgar i bawb, a
hyrwyddo’r safonau ymddygiad uchaf
·
Hybu gweithrediadau fel Cyngor Amrywiol cyn
etholiadau lleol 2022.
·
Weithio ar y safonau a nodir yn Siarter Cymru ar
gyfer Cymorth a Datblygu i Aelodau.
·
Ddangos ymrwymiad i ddyletswydd gofal dros
Gynghorwyr
·
Ystyried sut i ddarparu hyblygrwydd ym musnes y
cyngor drwy adolygu ein trefniadau ymarferol
·
Barhau i annog fod yr holl aelodau yn derbyn y
lwfansau a’r cyflogau y mae ganddynt hawl eu derbyn, ac yn benodol unrhyw
ad-daliadau am gostau gofal, fel bod yr holl aelodau yn derbyn cydnabyddiaeth
deg am eu gwaith ac nad yw rôl yr aelodau yn gyfyngedig i’r rhai all ei
fforddio.
·
Weithio tuag at sicrhau bod cynghorwyr o grwpiau a
dangynrychiolir yn cael eu cynrychioli pryd bynnag fo’n bosibl mewn rolau
proffil uchel a dylanwad uchel.”
Dogfennau ategol: