Cyflwyno adroddiad
yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol.
Penderfyniad:
Derbyn yr
adroddiad er gwybodaeth.
COFNODION:
Cyflwynodd yr
Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol adroddiad yn diweddaru’r Cyngor yn dilyn
cymeradwyo trefniadau yng nghyfarfod diwethaf y Cyngor ar 8 Gorffennaf, 2021 ar
gyfer cynnal cyfarfodydd y Cyngor er cyfarch gofynion newydd yn Rhan 3 o Ddeddf
Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.
Ymhelaethodd y
Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth ar gynnydd y gwaith yn y cefndir gan nodi,
er bod yr amserlen wreiddiol wedi llithro ychydig, bod y gwaith o uwchraddio
Siambr Dafydd Orwig a Siambr Hywel Dda ar gyfer cynnal cyfarfodydd hybrid i’r
dyfodol bellach wedi’i gwblhau. Nododd
hefyd fod profion cychwynnol o’r dechnoleg yn argoeli’n dda, ond bod mân bethau
angen sylw pellach.
Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau.
Cyfeiriodd nifer o aelodau at fanteision ac anfanteision trefn
gyfarfodydd hybrid.
O safbwynt y manteision, nodwyd y byddai’n:-
·
Lleihau costau ac amser teithio i gyfarfodydd.
·
Lleihau allyriadau carbon.
·
Hwyluso cyfranogiad pob mathau o wahanol bobl, megis
pobl sy’n gweithio, pobl anabl, gofalwyr, ayb.
O safbwynt yr anfanteision, nodwyd:-
·
Bod aelodau yn gweld gwerth mewn cyd-gyfarfod wyneb
yn wyneb, a’u bod yn colli’r ymgom a’r rhannu profiadau sy’n digwydd yn
naturiol cyn ac ar ôl cyfarfod.
·
Bod trefn rithiol neu hybrid yn newid dynameg y
cyfarfod, ac nad oes modd adnabod iaith y corff, ayb.
·
Bod ymuno â chyfarfod o bell yn gallu bod yn
brofiad unig.
Codwyd y materion a ganlyn gan aelodau unigol:-
·
Cwestiynwyd yr angen i wario £130,000 ar ddatblygu’r
system hybrid. Mewn ymateb, eglurwyd bod
y swm yma ar gyfer uwchraddio 17 ystafell bwyllgor ar draws y sir, a bod angen
sicrhau bod gennym system fodern a dibynadwy yn ei lle. Nodwyd hefyd bod y mwyafrif o gynghorau
eraill yn wynebu’r un lefel o gostau.
·
Holwyd, os yw bellach yn iawn i athrawon a phlant
fynd i’r ysgolion, pam nad yw’n iawn i gynghorwyr fynd i’r Siambr i gyfarfod
wyneb yn wyneb? Mewn ymateb, eglurwyd
bod cyfarwyddyd Llywodraeth Cymru yn eithaf clir y dylem weithio o adref os yn
bosib’, a hyd oni fyddai’r cyfarwyddyd hwnnw’n newid, ni fyddai’n bosib’ cynnal
cyfarfodydd wyneb yn wyneb.
·
Nodwyd bod Senedd Cymru a Senedd San Steffan yn
cyfarfod yn hybrid eisoes, a phwysleisiwyd yr angen i symud ymlaen â’r
trefniadau yng Ngwynedd cyn gynted â phosib’.
Mewn ymateb, eglurwyd bod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi yn gynnar
iawn yn ystod y cyfnod, gyda nifer fawr o swyddogion yn gweithio yn y
cefndir. O ran cynnydd y gwaith
technegol, roedd Gwynedd tua’r canol ymysg cynghorau Cymru, ond gorau po gyntaf
y gellid symud ymlaen â’r gwaith treialu, ayb, fel ein bod mewn sefyllfa i
weithredu’n gynt, yn hytrach nag yn hwyrach, petai cyfarwyddyd y Llywodraeth yn
newid.
·
Gan dderbyn mai cyfarwyddyd presennol y Llywodraeth
yw i bawb barhau i weithio o adref os yn bosib’, holwyd a ydym yn wir yn anelu
at gael cyfarfod hybrid neu gyfarfod wyneb yn wyneb o’r Cyngor llawn ym mis
Mawrth y flwyddyn nesaf? Mewn ymateb,
nodwyd ein bod wedi llwyddo i gynnal cyfarfodydd rhithiol yn effeithiol ers 18
mis, a chan fod y niferoedd achosion Covid ar gynnydd yn ein hardaloedd, roedd
cyfrifoldeb arnom, fel arweinwyr cymunedol, i ddangos esiampl nes bydd y sefyllfa
wedi tawelu.
·
Awgrymwyd y byddai modd i’r mwyafrif o gyfarfodydd
fod yn hybrid, ond y dylai’r Cyngor llawn a chyfarfodydd lle mae cyfrinachedd
yn bwysig, megis pwyllgorau penodi, fod wyneb yn wyneb.
·
Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhawyd bod y
newidiadau a ddaeth yn sgil y cyfnod clo wedi galluogi i swyddogion y Cyngor
ddysgu llawer drwy gynnal nifer mwy o gyfarfodydd cenedlaethol nag erioed o’r
blaen, gan hefyd ddylanwadu mwy nag erioed o’r blaen drwy gynnal cyfarfodydd
rhithiol gyda’r Llywodraeth, ayb.
·
Holwyd
faint o arbedion costau teithio a wnaed ers cychwyn y pandemig. Mewn ymateb, cadarnhawyd bod ffigurau costau
teithio 2020-21 wedi’u cyhoeddi ar y safle we, a chredid bod yr arbediad yn
agos at £40,000.
PENDERFYNWYD derbyn yr
adroddiad er gwybodaeth.
Dogfennau ategol: