Cyflwyno adroddiad
yr Aelod Cabinet Amgylchedd.
Penderfyniad:
·
Mabwysiadu ledled y sir Atodlen 3 o Ddeddf
Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982, fel y’i diwygiwyd gan y Ddeddf
Plismona a Throseddu 2009, gan ddod yn weithredol ddim cynt na 1 Rhagfyr 2021.
·
Cyfarwyddo’r Pennaeth Gwasanaethau
Cyfreithiol i gyhoeddi’r hysbysebion statudol ynghlwm â’r penderfyniad i
fabwysiadu am 2 wythnos yn olynol, gyda’r cyntaf ddim hwyrach na 28 diwrnod cyn
y dyddiad y daw'r penderfyniad i rym.
·
Dirprwyo’r materion o bennu ffioedd, gosod
amodau safonol a chynllun prosesu’r ceisiadau i’r Pwyllgor Trwyddedu
Cyffredinol.
COFNODION:
Cyflwynodd yr
Aelod Cabinet Amgylchedd adroddiad yn gofyn i’r Cyngor fabwysiadu grymoedd i
reoleiddio sefydliadau rhyw a’r gofynion cysylltiol.
Ymhelaethodd y
Pennaeth Cynorthwyol Amgylchedd ar y wybodaeth gefndirol.
Nododd y Swyddog Monitro fod angen cywiro’r trydydd argymhelliad yn yr
adroddiad sy’n cyfeirio at ddirprwyo’r materion o bennu ffioedd, gosod amodau
safonol a chynllun prosesu ceisiadau i’r ‘Pwyllgor
Trwyddedu Canolog’, i ddarllen ‘Pwyllgor
Trwyddedu Cyffredinol’.
Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau. Cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau
unigol:-
·
Croesawyd yr adroddiad, a diolchwyd i’r Adran sydd wedi bod yn gweithio
ar frys ar y mater polisi hwn.
·
Pwysleisiwyd ei
bod yn bwysig cael hawl i reoleiddio’r maes yma, ac er mai sefydliadau lefel
isel y sonnir amdanynt yma, a phrin iawn ydynt yn y sir, os o gwbl, rhaid
sicrhau bod siopau rhyw yn parhau i fod yn llefydd modern, sy’n gyfeillgar i
ferched ac i gyplau, ac nid i ddynion yn unig, fel yn yr oes a fu.
·
Nodwyd, er na
ragwelid y byddai’r Cyngor yn derbyn cais i drwyddedu sinema oedolion yn yr oes
ar-lein ddigidol sydd ohoni, bod y gallu i reoli'r math o gynnyrch allai gael
ei ddangos mewn lle felly yn hollbwysig.
·
Nodwyd, er na ragwelid y byddai yna sefydliadau adloniant rhyw yn dod i
Wynedd, ei bod yn allweddol bod gennym bwerau mewn grym er mwyn gallu gwarchod
lles a diogelwch merched sy’n gweithio mewn llefydd fel hyn, gan eu bod ymhlith
y mwyaf bregus mewn cymdeithas, ac yn aml yn ifanc iawn.
·
Nodwyd, er bod y
drafodaeth bresennol wedi’i sbarduno gan gais i agor siop ryw, roedd yn bwysig
cofio bod yr un ddeddf sy’n berthnasol yma yn cynnwys mannau adloniant
rhyw. Gan hynny, roedd yn ofynnol
ystyried goblygiadau pellgyrhaeddol y drafodaeth, rhag ofn i ni wynebu
ceisiadau o’r math yn y dyfodol.
·
Nodwyd bod
sefydliadau rhyw yn atgyfnerthu agweddau diwylliannol niweidiol o ferched, ac
yn normaleiddio gwneud merched yn wrthrychau rhyw, a bod y cysylltiad rhwng
gwneud merched yn wrthrychau rhyw, eu dad-ddyneiddio a thrais yn erbyn merched
wedi ei gydnabod. Roedd llawer o bryder
hefyd am y modd mae merched sy’n gweithio yn y busnesau yma’n cael eu trin a’u
hecsbloetio. Cyfeiriwyd at waith ymchwil
oedd yn dangos bod merched yn teimlo’n fwy diymgeledd a bregus mewn gofodau
cyhoeddus pan mae yna ddelweddau rhywiol o ferched wedi’u harddangos yna,
ynghyd â gwaith ymchwil arall oedd yn dangos bod yr achosion o aflonyddu’n
rhywiol ac o drais yn erbyn merched yn cynyddu yng nghyffiniau’r busnesau yma.
·
Awgrymwyd petai’r Cyngor yn gwahardd y busnesau yma, y byddai hynny’n
danfon neges glir i bobl Gwynedd, neges a fyddai’n gallu lleihau agweddau
niweidiol bechgyn tuag at ferched, a byddai’r polisi hyn yn gyson ag ymdrechion
y Cyngor i hyrwyddo cydraddoldeb ac yn gyson gyda’r neges sy’n cael ei chyfleu
yn ein hysgolion, sef y dylai bechgyn barchu merched.
·
Nodwyd bod mwyafrif y merched sy’n gweithio yn y busnesau yma yn gwneud
hynny oherwydd tlodi, diffyg gofal ac anghenion gofal plant, a bod busnesau
rhyw yn gwneud elw o ddifreintedd o fewn ein cymdeithas.
·
Nodwyd ei bod yn
bwysig hefyd bod addysg rhyw a pherthnasau yn ein hysgolion yn trafod y pynciau
dwys yma a’n bod yn cynnal ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth ac yn gweithio ar
gynlluniau sy’n dod â llwybrau amgen ar gyfer merched bregus, er mwyn atal
merched rhag gorfod mynd i weithio i’r busnesau yma yn y lle cyntaf.
·
Pwysleisiwyd bod
rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu fel Cyngor i atal pob math o ragfarn a
thrais yn erbyn merched, a dylem ddilyn esiampl rhai cynghorau eraill drwy
weithio tuag at Achrediad y Rhuban Gwyn, sef datganiad bod y Cyngor yn ymroi i
weithio tuag at daclo trais yn erbyn merched.
·
Holwyd beth fyddai’r drefn o ran trafod ymhellach a chynnig camau pellach
i reoli niferoedd posib’ busnesau rhyw, neu ddatgan gwrthwynebiad llwyr i
fusnesau o’r math yma, yn dilyn y rheoleiddio?
Mewn ymateb, eglurwyd mai argymhelliad i’r Cyngor fabwysiadu trefn sy’n
caniatáu trwyddedu neu beidio oedd gerbron, ac o gael y disgresiwn statudol
yna, ni ellid rhoi safbwynt sy’n dweud na fyddai’r Cyngor yn caniatáu unrhyw
un. Mater i’r Pwyllgor Trwyddedu
Cyffredinol fyddai ymdrin ag unrhyw geisiadau.
·
Nodwyd na fyddai cau’r sefydliadau hyn yn sicrhau diogelwch unrhyw ferch
na pherson, ac y dylid eu rheoleiddio, yn hytrach na’u sgubo dan y carped.
PENDERFYNWYD
·
Mabwysiadu ledled y sir Atodlen 3 o Ddeddf Llywodraeth
Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982, fel y’i diwygiwyd gan y Ddeddf Plismona a
Throseddu 2009, gan ddod yn weithredol ddim cynt na 1 Rhagfyr 2021.
·
Cyfarwyddo’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol i
gyhoeddi’r hysbysebion statudol ynghlwm â’r penderfyniad i fabwysiadu am 2
wythnos yn olynol, gyda’r cyntaf ddim hwyrach na 28 diwrnod cyn y dyddiad y
daw'r penderfyniad i rym.
·
Dirprwyo’r materion o bennu ffioedd, gosod amodau
safonol a chynllun prosesu ceisiadau i’r Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol.
Dogfennau ategol: