Agenda item

Ystyried yr adroddiad.

Penderfyniad:

a)    Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

b)    Dymuno’n dda i’r adran yn eu hymgais barhaol i hyrwyddo defnydd y Gymraeg ymhellach ymysg eu staff.

 

Cofnod:

a.     Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd. 

b.    Dymuno’n dda i’r adran yn eu hymgais barhaol i hyrwyddo defnydd y Gymraeg ymhellach ymysg eu staff. 

 

 

Cyflwynodd y Pennaeth Adran YGC ei adroddiad yn amlygu’r camau a gymerwyd o fewn yr adran er mwyn hybu’r Gymraeg ymysg staff. Cododd y pwyntiau pwysig fel a ganlyn; 

 

·  Nododd bod yr adran wedi profi llwyddiant drwy gydweithio gyda’r Swyddogion Iaith er mwyn eu rhoi ar ben ffordd gyda’u hymdrechion. 

·  Eglurodd bod staff wedi cwblhau Hunan-asesiadau iaith i’w clymu i fewn i’r drefn ac o ganlyniad wedi sylweddoli ba pwyslais sydd ar ddefnyddio’r iaith. 

·  Ategodd bod canran uchel o staff di-gymraeg yn yr adran o gymharu ag adrannau eraill o fewn y Cyngor. 

·  Rhannodd bod 92% o aelodau staff yn cwrdd â gofynion eu swydd ond eglurodd ei bod wedi cymryd peth amser i gymryd fan hyn drwy wersi a dulliau eraill. 

·  Nododd bod y cynllun cyfeillion wedi helpu i sicrhau bod defnydd iaith yn cael ei hyrwyddo yn naturiol ymysg siaradwyr Cymraeg. 

·  Rhannodd enghraifft o un swyddog a ymunodd yn ystod y cyfnod clo gan nodi bod Swyddog arall yn ei chefnogi i gychwyn sgyrsiau yn y Gymraeg. 

·  Eglurodd mai asgwrn cefn y llwyddiant yw gwersi Cymraeg drwy Teams a drwy’r bartneriaeth â’r Brifysgol - nododd bod hyn ar y cyd efo cyswllt rheolaidd gyda swyddogion Iaith. 

·  Rhoddodd bwyslais ar yr aelodau staff canlynol; Alex Jones, Nansi John ac Owain Angus Duncan sydd wedi llwydo â’u hymdrechion ac o ganlyniad i hynny wedi ennill gwobr goffa Dafydd Orwig.  

·  Nododd o 2014 ymlaen bod staff yn mynd i gyfweliadau a chyfarfodydd mewn perthynas â chymwysterau proffesiynol ac yn Defnyddio’r Gymraeg 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau.  Yn ystod y drafodaeth, codwyd y sylwadau canlynol:- 

 

·  Gofynnodd aelod beth yw polisi penodi’r adran er mwyn sicrhau penodi staff sy’n siarad Cymraeg. Ategodd y byddai’n werthfawr bod mewn sefyllfa lle gall y Cyngor ysgogi mwy o siaradwyr Cymraeg i ddilyn gyrfaoedd technegol ac arbenigol er mwyn osgoi’r trafferthion penodi. 

·  Diolchodd yr aelod am y cyflwyniad ac yn ychwanegol at y Swyddogion Iaith am weithio’n ddiwyd ym mhob adran. 

·  Gofynnodd a oedd cyfle i ddylanwadu ar y rhan ddeiliad a chontractwyr allanol i ddefnyddio Cymraeg pan maent yn delio a’r adran YGC. 

·  Holodd aelod faint o staff sy’n gweithio o fewn yr adran er mwyn gosod cyd-destun i’r ffigyrau oedd wedi cwblhau’r hunanasesiad.   

·  Awgrymodd aelod y dylai’r Cyngor weld yr elw buan o’r cydweithio sydd wedi bod rhwng y Cyngor a’r system addysg leol i hyrwyddo pynciau STEM ymysg disgyblion lleol. 

·  Mynegodd aelod bod yr adroddiad yma yn dod gan adran sy’n wynebu llawer mwy o heriau nag eraill i benodi siaradwyr Cymraeg oherwydd y sgiliau penodol sydd angen 

·  Ategodd at hyn gan ofyn ba ymdrech sy’n cael ei wneud i gyrraedd y gweithlu arbenigol ar draws Gymru at ddibenion penodi. 

·  Holodd aelod sut mae’r adran yn sicrhau defnydd o dermau technegol Cymraeg cywir. 

 

Mewn ymateb i rai o’r sylwadau nododd y Pennaeth Adran YGC; 

 

·  O ran swydd disgrifiad mae ymgais barhaol i sicrhau bod penodiadau yn cyrraedd y dynodiad iaith ofynnol, fodd bynnag nid oes gan bob arbenigwr y maes sgiliau iaith. Parhaodd gan nodi bod yr adran yn ceisio trosi siaradwyr Saesneg i’r Gymraeg drwy gynnig gwersi. 

·  Datganodd bod gan yr adran ymgais i sicrhau bod staff yn rhugl y Gymraeg a bod y rhai sy’n llwyddo yn parhau i ddefnyddio a dysgu mwy am y Gymraeg. 

·  Ategodd bod yr adran YGC yn gweithio i sawl corff er mwyn dod ag arian i’r Cyngor ac felly yn gwerthu sgiliau peirianyddol a thechnegol. Parhaodd i nodi nad oedd y sgiliau gan siaradwyr Cymraeg ar bob achlysur. 

·  Fel datrysiad i hynny, nododd y Pennaeth eu bod yn cydweithio efo Coleg Menai/ Llandrillo a Phrifysgol Glyndŵr er mwyn creu cyfleoedd i siaradwyr Cymraeg ddilyn gyrfaoedd technegol ac arbenigol. 

·  Rhannodd her arall sy’n wynebu’r adran, sef bod cyflogau Cyngor o fewn yr adran yn uchel yn lleol, fodd bynnag bod yna gystadleuaeth yn genedlaethol gan i gyflogau tueddu i fod yn uwch ac yn denu staff Cymraeg. 

·  Nododd bod cytundebau yn nodi bod y Gymraeg yn flaenoriaeth, a rhoddir pwyslais ar yr iaith wrth ymdrin â chwmnïau. Rhoddwyd enghreifftiau o gwmnïau o Loegr yn datblygu ymwybyddiaeth iaith o ganlyniad i gydweithio â’r adran.   

·  Cytunodd bod angen amryw o ddulliau er mwyn hyrwyddo a hybu’r Gymraeg o fewn yr adran gan ei fod yn bwysig cadw’r Gymraeg yn iaith fyw sycael ei weld yn addasu ymysg meysydd amrywiol. 

 

Dogfennau ategol: