Ystyried yr
adroddiad.
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad gan
nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.
COFNODION:
Derbyn
yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.
Cyflwynodd y Pennaeth Adran Economi a Chymuned ei
hadroddiad gan nodi’r ymatebion a phrif bwyntiau o ran hyrwyddo’r iaith Gymraeg
o fewn yr adran. Ategodd bod yr adran Economi a Chymuned mewn sefyllfa wahanol
i adran fel yr YGC gan fod rhan fwyaf o’r staff yn gallu’r Gymraeg ac yn ei
ddefnyddio oherwydd natur eu gwaith.
Cychwynnodd
gan bwysleisio bod 97% o staff yr adran wedi cyrraedd y dynodiad iaith
ddisgwyliedig. Ategodd bod mwy o waith i wneud ymysg staff sydd wedi bod yn yr
adran am amser hir ac yn gallu’r Gymraeg ond ddim yn ei ddefnyddio. Nododd nad
oedd heriau recriwtio a bod staff newydd ieuengach yn tueddu i ddefnyddio’u
Cymraeg yn naturiol.
Cyfeiriodd
at yr adroddiad sy’n cynnwys dolenni perthnasol ar gyfer mwy o wybodaeth
ynghylch hyrwyddo’r iaith. Tynnodd sylw at y prif bwyntiau fel a ganlyn;
· Bod
gan yr adran gobeithion y byddai modd cyllido
dilyniant i gynllun Arfor os
bydd arian ar gael.
· Fuodd
cynllun i gyflwyno cerddoriaeth Gymraeg i fusnesau sy’n anghyfarwydd a
diwylliant Cymreig yn un llwyddiannus er mwyn hybu’r Gymraeg o fewn y sector
Twristiaeth.
· Ymfalchïodd
yn y gwasanaeth llyfrgelloedd lle mae 100% o
staff yn siaradwyr Cymraeg ac
yn ei ddefnyddio’n naturiol. Fel
gweithwyr yn y gymuned, cydnabuwyd bod
ganddynt rôl ychwanegol fel
hyrwyddwyr iaith ymysg llyfrgellwyr. Rhannodd lythyr gan un o drigolion sy’n
defnyddio’r gwasanaeth ac wedi ymddiddori yn yr iaith o ganlyniad
i’r ymdrechion gan y staff.
· O
ran cytundebau gyda chwmnïau allanol, nododd mai’r gwasanaeth hamdden oedd yr
her fwyaf iddynt er mwyn hyrwyddo’r Gymraeg, yn arbennig mewn ardaloedd llai
Cymreig yn y Sir.
· Eglurodd
bod hyn wedi ei ddatrys yn rhannol wrth i gwmni Byw’n Iach gymryd yr awenau.
Sicrhaodd bod y cwmni yn glynu at bolisi iaith y Cyngor fel rhan o’u contract
· Nododd
bod rhwystrau mewn rhai achosion, er enghraifft rhagwelir bydd diffyg Cymraeg
mewn cyfarfodydd gyda Llywodraeth Prydain er mwyn trafod cyllid, gan na fydd
Llywodraeth Cymru’n gyfrifol dros ddyrannu hwn.
Rhoddwyd
cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Yn ystod y
drafodaeth, codwyd y materion canlynol:-
· Mynegodd
aelod ei thristwch na fydd Llywodraeth Cymru’n gyfrifol am ddyrannu cyllid i
raglenni newydd ac ategodd y byddai effaith andwyol ar yr iaith Gymraeg.
· Croesawu
twristiaeth gynaliadwy - gwerthu lle fel cyrchfan yn negyddol, neu ormodedd yn
dinistrio beth mae’r bobl yn dod i’w cael.
· Ymfalchïodd
bod newid pwyslais ar y math o dwristiaeth sy’n fuddiol i ardal fel Gwynedd sef
y math cynaliadwy.
· Cytunodd
aelod bod angen i gwmni Byw’n Iach ymrwymo i hyrwyddo’r
Gymraeg ymysg eu staff. Gofynnodd sut mae hyn yn cael
ei fesur a herio gan yr adran.
· Gofynnodd
aelod am fwy o wybodaeth ynghylch y gwahaniaeth fydd rhwng delio a grantiau o
Lundain yn hytrach o Gaerdydd a faint o ddylanwad fydd gan y Cyngor i fynnu
defnydd o’r Gymraeg. Ategodd bod eisoes enghraifft gyda’r Bwrdd Uchelgais
Economaidd sy’n cael ei arwain fwy gan San Steffan ac mae’n dangos bod dylanwad
negyddol ar yr iaith Gymraeg.
· Cyfeiriodd
aelod at staff y llyfrgelloedd
fel llysgenhadon
naturiol yn eu rôl a chwestiynodd a yw’n werth
cynnwys hyn yn y swydd ddisgrifiad ar gyfer y dyfodol.
· Cyfeiriodd
aelod at y galw am wersi Cymraeg yn mynd drwy’r to, gan bobl sydd eisiau dod ar
eu gwyliau. Ategodd eu bod yn gweld y Gymraeg fel rhywbeth sy’n cyfoethogi eu
profiad o fod yng Nghymru.
· Nododd
aelod ei fod yn rhan o brotocol i bobl yn yr adrannau wybod bod disgwyliad
iddynt ddefnyddio’r Gymraeg.
Mewn
ymateb i rai o’r sylwadau a’r cwestiynau uchod, nododd y
Pennaeth Adran Economi a Chymuned;
· Er
mwyn sicrhau twristiaeth gynaliadwy bod angen cyfyngu niferoedd ymwelwyr mewn
rhai ardaloedd a bod trafodaeth yn digwydd yn yr adolygiad.
· Bod
gwaith monitro gwasanaeth o’r Cyngor yn digwydd i fesur perfformiad cwmni Byw’n
Iach gydag Aelod Cabinet yn cwrdd â’r cwmni i herio perfformiad. Ategodd bod
data ganddynt, yn ymwneud a chyrhaeddiad staff a dynodiadau iaith swydd.
· Mewn
perthynas â defnydd y Gymraeg mewn cyfarfodydd, nododd bod cyfarfodydd rhithiol
wedi caniatáu i fwy o Gymraeg cael ei ddefnyddio gan fod meddalwedd fel Zoom yn
caniatáu cyfieithu ar y pryd.
· Nad
oedd sicrwydd hyd hyn ynghylch trefniadau gydag arian o’r cronfeydd newydd sy’n
disodli cyllid Ewropeaidd. Rhagdybir mai Llywodraeth Prydain yng Nghymru fydd
yn delio a’r ceisiadau.
· Bod
diwylliant Cymreig naturiol ymysg staff Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd
Cymru gan fod rhan fwyaf yn rhugl y Gymraeg. Fodd bynnag cydnabuwyd bod her
gyda chyfathrebu a thrafod gyda’r Llywodraethau am ei fod yn digwydd drwy’r
Saesneg.
· Mewn
ymateb i’r cwestiwn ynghylch staff y Llyfrgelloedd, nododd nad yw’r rôl o fod yn
llysgennad i’r iaith yn benodol yn y swydd ddisgrifiad. Fodd bynnag, mae
hyrwyddo’r Gymraeg yn rhan naturiol o’r swydd.
Ategodd
yr Ymgynghorydd Iaith y
pwyntiau canlynol:
· Bod
cymal ym mholisi iaith y Cyngor sy’n nodi ei fod yn ddisgwyliedig i staff y
Cyngor gyfathrebu yn y Gymraeg. Ategodd bod y polisi dan sylw wrthi’n cael ei
ddiwygio a bod cyfle yn y diwygiad i atgoffa staff am y cymal hwn wrth
hyrwyddo’r polisi newydd.
· Mewn
perthynas â chyfathrebu, mae newid wedi bod dros y flwyddyn ddiwethaf, gyda ‘Teams’
yn rhwystr oherwydd diffyg cyfleuster cyfieithu ar y pryd ac nid pawb sy’n
fodlon defnyddio Zoom sydd
â darpariaeth dda.
Dogfennau ategol: