Agenda item

Gwesty Plas Weunydd, Llechwedd, Blaenau Ffestiniog, LL41 3NB

 

I ystyried y cais

Penderfyniad:

Caniatáu’r cais

 

Cofnod:

Ar ran yr eiddo:        

 

Mr Michael Bewick      Gwesty Plas Weunydd, Llechwedd, Blaenau Ffestiniog

                       

Eraill a wahoddwyd:

           

Mark Mortimer - Swyddog Iechyd yr Amgylchedd

 

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y Cadeirydd y byddai gan bob parti hawl i hyd at 10 munud i gyflwyno eu sylwadau

 

a)                    Adroddiad yr Adran Trwyddedu

 

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer Gwesty Plas Weunydd, Llechwedd, Blaenau Ffestiniog. Gwnaed y cais mewn perthynas â gwerthu alcohol, cerddoriaeth byw ar yr eiddo a cherddoriaeth wedi ei recordio ar, ac oddi ar yr eiddo

 

Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol. Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ac amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn cael eu cynnwys ar y drwydded.

 

Tynnwyd sylw at yr ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Nodwyd bod sylwadau wedi ei derbyn gan yr Heddlu ac Adran Gwarchod y Cyhoedd a bod yr ymgeisydd eisoes wedi cyfaddawdu i’r amodau a gynigiwyd:

 

·         Cytunodd drwy gwtogi oriau chwarae cerddoriaeth oddi ar yr eiddo am 9y.h.

·         Rhoi cais rhybudd digwyddiad dros dro os ydynt yn bwriadu cynnal digwyddiad ar ôl 11y.h.

·         Peidio gwagio biniau boteli ac ailgylchu ar ôl 9:30y.h.

·         Cynnal asesiad risg ac i gyflogi goruchwylwyr drysau os bernir o’r asesiad risg fod angen hynny, neu ar unrhyw adeg arall ar gais a chytundeb yr Heddlu.

 

Argymhellwyd fod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r cais yn unol â’r hyn a gytunwyd gydag Adran Gwarchod y Cyhoedd, yr Heddlu a gofynion y Ddeddf Drwyddedu 2003. 

Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr  Trwyddedu

·      Gwahodd yr Heddlu i ymhelaethu ar y cais

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i'r Heddlu

·      Gwahodd deilydd y drwydded neu gynrychiolydd i ymateb i’r sylwadau

·      Rhoi cyfle i’r ymgynghorai gyflwyno eu sylwadau

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y drwydded a’r ymgynghorai

b)         Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd yr ymgeisydd:

·                  Bod yr adeilad hanesyddol bellach wedi ei drosi yn westy moethus

·                  Y gobaith yw y bydd y safle, i’r dyfodol yn rhan o Safle Treftadaeth y Byd

·                  Bod cynnydd yn nifer yr ymwelwyr i’r ardal – y gwesty yn ymateb i’r angen

·                  Bwriad yw cynnig gwasanaeth o werth uchel ac ansawdd da i ymwelwyr

·                  Byddai’r gwesty yn creu swyddi yn yr ardal

·      Bwriad bod yn gymdogion da a chydweithio gyda’r gymuned – bod cynnig arhosiad diogel a distaw yn rhan o’r gwasanaeth

 

c)         Manteisiodd yr ymgynghorai oedd yn bresennol ar y cyfle i ymhelaethu ar sylwadau a gyflwynwyd ganddynt drwy lythyr.

 

Swyddog Iechyd yr Amgylchedd,

·      Bod Llechwedd wedi cydymffurfio gyda’r holl ofynion

 

Cyfeiriwyd at y sylwadau a dderbyniwyd gan yr Heddlu

 

ch)    Yn manteisio ar y cyfle i gloi ei achos, nododd yr ymgeisydd ei fod yn hapus gyda chynnwys yr adroddiad ysgrifenedig ac o’r cyfle i gael cyflwyno’r cais.

 

d)      Ymneilltuodd yr ymgeisydd, y Rheolwr Trwyddedu a Swyddog yr Amgylchedd o’r cyfarfod tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais

 dd)      Wrth gyrraedd y penderfyniad ystyriodd yr Is-bwyllgor sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd gan y partïon â diddordeb, adroddiad y Swyddog Trwyddedu yn ogystal â sylwadau llafar a dderbyniwyd yn y gwrandawiad. Ystyriwyd hefyd Polisi Trwyddedu’r Cyngor a chanllawiau’r Swyddfa Gartref. Roedd yr holl ystyriaethau yn cael eu pwyso a’u mesur yn erbyn yr  amcanion trwyddedu o dan y Ddeddf Trwyddedu 2003, sef:

                       i.       Atal trosedd ac anhrefn

                      ii.       Atal niwsans cyhoeddus

                     iii.       Sicrhau diogelwch cyhoeddus

                     iv.       Gwarchod plant rhag niwed

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais

 

Rhoddwyd y drwydded fel a ganlyn:

 

1.            Oriau agor: Sul-Sad 07:00-23:00

2.            Cerddoriaeth fyw tu mewn: Sul-Sad 12:00-23:00

3.            Cerddoriaeth wedi recordio tu mewn: Sul-Sad 11:00-23:00

4.            Cerddoriaeth wedi recordio tu allan: Sul-Sad 11:00-21:00

5.            Alcohol i yfed ar yr eiddo: Sul-Sad 11:00-23:00

6.            Y materion a nodir yn rhan M o’r cais am drwydded (atodlen weithredu) i’w hymgorffori fel amodau ar y drwydded.

7.            Ni fydd yr eiddo yn gwagio biniau poteli ac ailgylchu ar ôl 21:30 bob dydd.

8.            Ar gyfer unrhyw ddigwyddiad arbennig ac ar gais yr Heddlu, bydd yr eiddo yn cynnal asesiad risg ysgrifenedig ac, os cynghorir felly gan y cyfryw asesiad, yn cyflogi goruchwylwyr drws wedi eu cofrestru gan yr SIA ar gyfer y digwyddiad hwnnw.

 

Diolchwyd i bawb am gyflwyno sylwadau ar y cais.

 

Rhoddodd yr Is-bwyllgor ystyriaeth briodol i’r holl sylwadau. 

 

Nodwyd nad oedd yr Uned Gwarchod y Cyhoedd na’r Heddlu yn gwrthwynebu’r cais mewn egwyddor. Cyflwynwyd argymhelliad gan Gwarchod y Cyhoedd bod awr derfynol chwarae cerddoriaeth tu allan yn cael ei chwtogi i 21:00, ac na ddylid gwagio biniau poteli ac ailgylchu ar ôl 21:30. Yn ogystal argymhellodd yr Heddlu y dylid cael amod yn gofyn am baratoi asesiad risg ac os yn berthnasol cyflogi goruchwylwyr drws ar gyfer digwyddiadau arbennig. Cyflwynwyd yr argymhellion hyn er budd hybu’r pedwar amcan.

 

Ni roddwyd amod o ran yr angen i wneud cais am rybudd digwyddiad dros dro os yn bwriadu cynnal digwyddiad ar ôl 23:00 gan nad yw’n angenrheidiol cynnwys amod o’r fath. O dan yr amgylchiadau roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon bod y cais fel y’i diwygiwyd yn gydnaws â’r pedwar amcan trwyddedu.

 

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i bawb oedd yn bresennol. Ategwyd bod gan bob parti i’r cais yr hawl i gyflwyno apêl yn Llys Ynadon Caernarfon yn erbyn penderfyniad yr Is-bwyllgor. Dylid cyfeirio unrhyw apêl o’r fath drwy roi rhybudd o apêl i’r Prif Weithredwr, Llys Ynadon Llandudno, Llandudno, o fewn cyfnod o 21 diwrnod gan gychwyn â’r dyddiad y bydd yr apelydd yn  derbyn llythyr (neu gopi ohono) yn cadarnhau’r penderfyniad.

 

Dogfennau ategol: