Rhoi cyflwyniad a diweddariad i Aelodau ar gynnydd
Trafnidiaeth Cymru ar waith sy'n cael ei wneud ar Adolygiad Rhwydwaith Bws
Cenedlaethol Cymru.
Rhoi
cyflwyniad a diweddariad i Aelodau ar gynnydd Trafnidiaeth Cymru ar waith sy'n
cael ei wneud ar brosiectau o fewn Metro Gogledd Cymru.
Cofnod:
Cyflwyniad gan Lee Robinson, TfW.
Metro Gogledd Cymru
Rhannwyd cyflwyniad gyda’r Is-Fwrdd yn egluro’r darlun
cenedlaethol ac yna ffocysu ar Ogledd Cymru a’r prosiectau sydd ar waith.
Eglurwyd cyd-destun y rhaglen Metro Gogledd Cymru a thywyswyd yr Is-Fwrdd
drwy’r amserlen arfaethedig a’r parthau dan sylw.
Trafodwyd y prif amcanion ynghylch
Metro gogledd Cymru gan gynnwys:
- Bod angen diwygio
ambell i amserlen bresennol gan eu bod yn gyfyng
- Nifer o adrannau gydag arwyddion wedi dyddio
- Ar y cyfan, mae cyflymdra isel ar y lein
- Bod angen gwerthuso
cyflwr presennol asedau sy’n ymwneud a’r Metro
- Nodi bod rhai gorsafoedd yn parhau i fod yn anhygyrch
- Croesfannau rheilffordd
yn amharu ar y gallu i gynnal trenau sy’n rhedeg yn gyflymach
ac yn amlach.
Amlygwyd y camau nesaf fel a
ganlyn:
- Gwaith parhaus gydag Network Rail er mwyn gwerthuso
croesfannau rheilffordd a chyfarch yr anghenion yn y gobaith o gyrraedd
datrysiad parhaol i’r sefyllfa.
- Gwelliannau i ddod er
enghraifft yn Shotton a Glannau Dyfrdwy er mwyn
cynyddu cynhwysedd.
- Dealltwriaeth o pan
ddefnyddir ceir fel modd trafnidiaeth wrth deithio rhwng Gogledd Cymru a
dinasoedd fel Manceinion. Archwilio cysylltiad gyda HS2.
- Archwilio llefydd lle
gallai addasu’r ddarpariaeth heb angen newid sylweddol i’r isadeiledd, er
enghraifft o amgylch Gaer a Llandudno.
- Archwilio estyniad
gwasanaeth yn llefydd megis Caernarfon a Lein Amlwch.
Bysiau Rhanbarthol
Aethpwyd ati i drafod materion
ynghylch bysiau rhanbarthol, gan dynnu sylw at y prif egwyddorion fel a ganlyn:
- Awdurdodau lleol wedi cytuno mai prif amcan yw cynyddu defnydd ar y
rhwydwaith bysiau.
- Amlygwyd yng Ngogledd
Cymru mewn sawl ardal nad oedd dewis amgen gan ddefnyddwyr a dyna pam mae
cyfrannau uchel o ddefnyddwyr i’w gweld.
- Canfyddiad yw
cyflwyno’r rhwydweithiau mewn modd sy’n caniatáu gwella cysylltedd gan fod y
rhwydwaith mor gymhleth.
- Trefnwyd cytundebau
tocynnau er mwyn hwyluso prynu tocynnau, i gael mynediad at ddata defnyddwyr,
ac i wella effeithlonrwydd.
- Soniwyd am brosiectau traws Gogledd Cymru mewn ardaloedd megis Bangor,
Prestatyn a Chaergybi.
- Nodwyd bod gwaith yn
digwydd gydag Awdurdodau Lleol er mwyn adnabod safleoedd posib Parcio a
Theithio megis Bangor, Rhyl a Chyffordd Llandudno a fyddai hefyd yn cael
effaith bositif ar y Parc Cenedlaethol gan leihau’r problemau parcio.
- Eglurwyd bod cynllun
peilot ar waith er mwyn cyfyngu prisiau tocynnau
- Cwmni bysiau Traws Cymru yn edrych ar ffyrdd o ganiatáu integreiddio gyda’r
trenau er mwyn hwyluso teithio.
Cododd y sylwadau isod yn ystod y
drafodaeth:
- Gofynnwyd y Cadeirydd
am fwy o wybodaeth ynghylch y raddfa amser tebygol ar gyfer y camau nesaf.
- Mynegwyd un aelod bod
angen gweithio ar frandio Metro Gogledd Cymru er mwyn ei hyrwyddo.
- Cytunwyd bod gwasanaeth amserlennu yn bwysig iawn pan mae nifer uchel o
ddefnyddwyr er mwyn cadw hyder yn y gwasanaeth
- Gofynnwyd a oes unrhyw gynlluniau i addasu’r weledigaeth wrth i’r gweinidog
trafnidiaeth newydd ymgymryd yn ei swydd.
Holwyd aelod ynghylch cyllid ac os oedd cadarnhad o gyllid tymor hir er mwyn
ariannu’r prosiectau sydd ar y gweill
- Nodwyd y byddai
cysylltiadau o reilffordd Bangor yn gwella rhwydwaith teithio nifer o
drigolion, gan gynnwys hwyluso’r daith i’r gweithle neu Ysgol/Coleg.
- Ategwyd hyn i nodi yn
sicr nad diwallu anghenion ymwelwyr yn unig sydd angen a phwysleisiwyd
pwysigrwydd diwallu anghenion lleol
- Mynegwyd diddordeb mewn
cydweithio efo’r Parc Cenedlaethol i fonitro sefyllfa trafnidiaeth yn Eryri.
Pwysleisiwyd pwysigrwydd bod aelodau’r Is-Fwrdd efo mewnbwn yn nhrafodaethau.
- Diolchwyd Lee Robinson am yr adroddiad sy’n amlygu faint o waith sydd yn
digwydd o fewn y meysydd trafnidiaeth.
Mewn ymateb i’r sylwadau uchod nodwyd:
- Y byddai modd sicrhau
cysondeb gyda’r elfen marchnata er mwyn amlygu cysyniad o Fetro
Gogledd Cymru.
- Mynegwyd nad oedd
bwriad i newid cyfeiriad y gwaith arfaethedig na’r ddamcaniaeth bresennol wedi
i Ken Skates sefyll i lawr fel gweinidog dros yr
Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru.
- Ynghylch cyllid, nodwyd
nad oedd sicrwydd pendant i gyllido’r prosiectau dan sylw, fodd bynnag mae
cynllun 5 mlynedd mewn egwyddor yn awgrymu y bydd cyllid ar gael.
- Cyfeiriwyd at
faniffesto’r Blaid Lafur ynghylch Trafnidiaeth, yn arbennig o amgylch gwella
trafnidiaeth yn y Gogledd.
- Teithio actif yn bwysig
iawn ac mae angen edrych ar ffyrdd i ganiatáu mynediad at orsafoedd a threnau
ar feic neu ar droed.
Awgrymwyd bod angen cyfarfod arall yn yr Haf cyn y cyfarfod
nesaf arfaethedig yn yr Hydref ar gyfer trafod blaenoriaethau’r Is-Fwrdd.
Dogfennau ategol: