Dafydd L Edwards a Sian
Pugh i
ddarparu sefyllfa alldro terfynol 2020/21 i Fwrdd Uchelgais Economaidd
Gogledd Cymru a chael cymeradwyaeth i'r Ffurflen Flynyddol Swyddogol ar gyfer
2020/21.
Penderfyniad:
Nodwyd a derbyniwyd
Cyfrif Incwm a Gwariant Refeniw'r Cydbwyllgor ar gyfer 2020/21.
Cymeradwywyd
Ffurflen Flynyddol Swyddogol y Cydbwyllgor ar gyfer 2020/21 (amodol ar
Archwiliad Allanol), yn unol â’r amserlen statudol, sef 31 Mai 2021. Roedd y
Ffurflen Flynyddol wedi’i gwblhau a’i ardystio’n briodol gan y Swyddog Cyllid
Cyfrifol, sef Pennaeth Cyllid Cyngor Gwynedd fel Swyddog Statudol y
Cydbwyllgor. Awdurdodwyd y Cadeirydd i lofnodi’r Ffurflen Flynyddol er
mwyn cadarnhau fod y Cyd-bwyllgor wedi cymeradwyo’r datganiadau ariannol arno.
Cymeradwywyd y
trosglwyddiad o’r tanwariant o £241,023 i’r gronfa wrth gefn.
Clustnodwyd £4,953 o’r llog a dderbyniwyd ar y grant o £16m yn erbyn costau benthyca yn y dyfodol.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Dafydd L Edwards
(Swyddog Statudol Statudol – Awdurdod Lletya) a Sian
Pugh (Cyfrifydd Grŵp – Corfforaethol a Phrosiectau).
PENDERFYNWYD
Nodwyd
a derbyniwyd Cyfrif Incwm a Gwariant Refeniw'r Cydbwyllgor ar gyfer 2020/21.
Cymeradwywyd
Ffurflen Flynyddol Swyddogol y Cydbwyllgor ar gyfer 2020/21 (amodol ar Archwiliad Allanol), yn unol â’r amserlen
statudol, sef 31 Mai 2021. Roedd y Ffurflen Flynyddol wedi’i gwblhau a’i
ardystio’n briodol gan y Swyddog Cyllid Cyfrifol, sef Pennaeth Cyllid Cyngor Gwynedd fel Swyddog Statudol y
Cydbwyllgor. Awdurdodwyd y Cadeirydd i lofnodi’r Ffurflen Flynyddol er mwyn
cadarnhau fod y Cydbwyllgor wedi cymeradwyo’r
datganiadau ariannol arno.
Cymeradwywyd
y trosglwyddiad o’r tanwariant o £241,023 i’r gronfa wrth gefn.
Clustnodwyd
£4,953 o’r llog a dderbyniwyd ar y grant o £16m yn erbyn costau benthyca yn y
dyfodol.
RHESYMAU
DROS Y PENDERFYNIAD
Mae angen i’r Cydbwyllgor fod yn ymwybodol o’i sefyllfa ariannol ar
gyfer 2020-21 a chydymffurfio â’r gofynion statudol yn nhermau cwblhau Ffurflen
Flynyddol Swyddogol Archwilydd Cyffredinol Cymru, sef yr arferiad priodol ar
gyfer adroddiad cyfrifon cydbwyllgorau ag incwm a gwariant sy’n llai na £2.5
miliwn
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi mai eleni
fydd y flwyddyn olaf y bydd y Bwrdd Uchelgais yn cymeradwyo'r Ffurflen
Flynyddol Swyddogol gan y bydd yr incwm a gwariant yn codi dros y trothwy o
£2.5m, ac felly bydd angen i ddatganiadau mwy manwl. Nodwyd fod grant wedi ei
dderbyn cyn diwedd y flwyddyn ariannol ar gyfer 2021/22 ac felly wedi ei nodi
fel credydwyr yn adroddiad. Mynegwyd fod yr adroddiad yn debyg iawn i’r
adroddiad monitro a dderbyniwyd yn gynharach yn y flwyddyn.
Nodwyd fod tanwariant o £641mil i’w gweld yn
y Swyddfa Rheoli Rhaglen sydd yn gynnydd bychan ers yr adolygiad trydydd
chwarter gan esbonio ei fod o ganlyniad
i ad-daliad a dderbyniwyd gan Gyngor Conwy ar gyfraniad y Tîm Ymgysylltu
Rhanbarthol a lleihad yng ngwariant ar y pennawd Cynllunio, Datblygu a Chefnogi
Prosiectau. Nodwyd fod tan wariant o £29mil dan y pennawd Gwasanaethau Cefnogol
o ganlyniad i ostyngiad yn y gwariant ar wasanaethau cefnogol y Corff Atebol.
Mynegwyd fod yr incwm ar gyfer 2020/21 yn
cynnwys cyfraniadau partneriaid, Grantiau ESF a grantiau bychan eraill. Yn
ychwanegol, esboniwyd fod ad-daliad Tîm Ymgysylltu ar gyfer 2019-20 wedi ei
dderbyn a llog ar falansau a oedd yn cynnwys bron i
£5mil o log ar y grant cyfalaf o £16m a dderbyniwyd ganol Mawrth. Eglurwyd fod
y grant cyfalaf hwn yn cael ei ddangos fel credydwr ar y Datganiad o Falansau ar y Ffurflen Flynyddol ac y bydd ar gael i
ariannu’r rhaglen gyfalaf yn 2021/22 unwaith mae’r achosion busnes terfynol
wedi eu cymeradwyol
Nodwyd fod hyn yn gadael sefyllfa ariannol
derfynol ar gyfer 2020/21 yn danwariant o £241mil. Esboniwyd fod yr arian wedi
ei drosglwyddo i’r gronfa werth gefn i
roi balans o £738mil. Ategwyd fod £415mil o’r
gronfa eisoes wedi ei glustnod fel rhan o gyllideb 2021/22 fel y cymeradwywyd
gan y Bwrdd Uchelgais yn ôl ym mis Mawrth. Eglurwyd y bydd hyn yn gadael balans o £323 o filoedd yn y gronfa wrth gefn.
Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a
ganlyn:-
·
Holwyd os yw’r sefyllfa fel yr oedd y
swyddogion yn disgwyl iddo fod. Mynegwyd fod y sefyllfa rhywfaint yn well, gan nodi
fod tanwariant o ganlyniad i fethu penodi.
·
Gofynnwyd a oedd targed ar gyfer y
gronfa wrth gefn, nodwyd nad oedd ffigwr penodol ond bydd angen wrth edrych ar
gynllun tymor canolig er mwyn delio gydag unrhyw risgiau allai godi.
Dogfennau ategol: