Alwen Williams i gyflwyno adroddiad Chwarter 4 (Ion-Mawrth) y Cynllun Twf, Cofrestr Risg
y Portffolio wedi'i diweddaru ac Adroddiad Blynyddol y Swyddfa Rheoli
Portffolio ar gyfer 2020-21.
Penderfyniad:
Nodwyd yr Adroddiad
Perfformiad Chwarter 4, Cofrestr Risg y Portffolio wedi’i ddiweddaru ac
Adroddiad Blynyddol y Swyddfa Rheoli Portffolio ar gyfer 2020/21.
Cytunwyd ar ffurf
yr adroddiad chwarterol gan amlygu gwelliannau ar gyfer fersiynau’r dyfodol.
Cymeradwywyd
cyflwyno Adroddiad Perfformiad Chwarter 4 ac Adroddiad Blynyddol y Swyddfa
Rheoli Proffilio ar gyfer 2020-21 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynghyd
a phwyllgorau craffu’r awdurdodau lleol.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Alwen Williams
(Cyfarwyddwr Portffolio) a Hedd Vaughan-Evans (Rheolwr Gweithrediadau).
PENDERFYNWYD
Nodwyd yr Adroddiad Perfformiad Chwarter 4,
Cofrestr Risg y Portffolio wedi’i ddiweddaru ac Adroddiad Blynyddol y Swyddfa
Rheoli Portffolio ar gyfer 2020/21.
Cytunwyd ar ffurf yr adroddiad chwarterol gan
amlygu gwelliannau ar gyfer fersiynau’r dyfodol.
Cymeradwywyd cyflwyno Adroddiad Perfformiad
Chwarter 4 ac Adroddiad Blynyddol y Swyddfa Rheoli Proffilio ar gyfer 2020-21 i
Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynghyd a phwyllgorau craffu’r awdurdodau
lleol.
RHESYMAU
DROS Y PENDERFYNIAD
Ym mis Rhagfyr 2020 bu i’r Bwrdd Uchelgais a Llywodraethau Cymru a’r DU
gytuno ar Gytundeb Terfynol ar gyfer Cynllun Twf Gogledd Cymru. Mae adrodd
rheolaidd ar gynnydd yn erbyn Cynllun Twf Gogledd Cymru yn un o ofynion
Cytundeb Terfynol y Cynllun Twf.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr
adroddiad yn rhoi trosolwg o’r cynnydd yn y rhaglenni a phrosiectau ar gyfer
Chwarter 4 yn dilyn arwyddo’r Cytundeb Terfynol yn ôl ym mis Rhagfyr 2020.
Esboniwyd fod y ffocws wedi bod i symud i’r cyfnod gweithredu drwy adolygiad
Gwaelodlin ym mis Ionawr i adolygu’r holl brosiectau i ail gadarnhau amserlenni
ar gyfer datblygu a chyflawni achosion busnes. Ychwanegwyd fod nifer sylweddol
o weithdai prosiect wedi eu cynnal er mwyn datblygu achosion busnes yn unol â
chanllawiau’r Better Business
Cases. Nodwyd yn ystod y cyfnod fod y Llythyr Dyrannu
Grant wedi ei arwyddo a bod y dogfennau perthnasol wedi eu cyflwyno. O
ganlyniad i hyn, mynegwyd fod y rhandaliad cyntaf o £16m wedi ei dderbyn ym mis
Mawrth 2021.
Esboniwyd fod dau brosiect, Prosiect Morlais
a Phrosiect Canolfan Opteg a Pheirianneg Menter, wedi cwblhau eu Hadolygiadau
Porth a bellach yn gweithio i fynd i’r afael â’r argymhellion a wnaed cyn
cyflwyno achosion busnes. Amlygwyd fod dau brosiect ar hyn o bryd yn adrodd yn
‘goch’ – Safle strategol Allweddol Bodelwyddan o ganlyniad i ganiatâd cynllunio
amlinellol yn dod i ben, a Phorth Caergybi o ganlyniad gostau cynyddol a’r
angen i adolygu’r prosiect.
Tynnwyd sylw at y gorfrestr
risg gan bwylsesio fod y proffil risg ar y cyfan yn
sefydlog a nad oedd unrhyw feysydd arwyddocaol newydd o bryder. Amlygwyd fod risigiau arwyddocaol yn parhau gyda ambell i brosiect
unigol ac mae archwaeth ac gallu’r sector
breifat i fuddsoddi yn parhau yn aneglur o ganlyniad i Covid-19. Nodwyd y
prif addasiadau i’r gofrestr risg a oedd yn cynnwys:
·
Graddfa
risg gros a risg gweddilliol Capasiti wedi gostwng yn
dilyn cwblhau yr ymgyrch recriwtio diweddaraf ar gyfer y Swyddfa Rheoli’r
Portffolio.
·
Graddfa
risg gros a risg gweddilliol Buddsoddiad Sector Gyhoeddus wedi gostwng yn dilyn
arwyddo’r Cytundeb Terfynol a Cytundeb Llywodraethu 2.
Cyflwynwyd yr adroddiad blynyddol a oedd yn edrych yn ôl ar gynnydd yn
ystod y flwyddyn ariannol 2020/21 a oedd yn amlygu’r Cynllun Twf a
gweithgareddau eraill gefnogir gan y Swyddfa Rhaglen.
Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a
ganlyn:-
·
Nodwyd
fod yr adroddiad yn arddangos yr holl waith sydd wedi ei wneud dros y flwyddyn
a diolchwyd i’r tîm am ei greu.
·
Pwysleisiwyd
yr angen i bwysleisio'r ymdeimlad o bartneriaeth gref sydd i’w gweld yn y
Cydbwyllgor. Ymhelaethwyd yr angen i amlygu’r cydweithio rhwng gwleidyddion a
swyddogion i sicrhau fod y cynllun yn cael ei gyflawni.
Dogfennau ategol: