Black Sheep, Lon Pont Forgan, Abersoch
I ystyried y cais
Penderfyniad:
Caniatáu’r cais
COFNODION:
Ar
ran yr eiddo:
Ms Heidi
McKinnell (ymgeisydd)
Mr Dylan Evans
(cynrychiolydd yr ymgeisydd)
Eraill
a wahoddwyd:
Preswylwyr Cyfagos:
Margot Jones
Martin Turtle
Mike Parry ar ran
Grahame a Les Oddy
Robert Kennedy
Einir Wyn – Clerc Cyngor
Cymuned
Wyn Williams
Mark McClure
Aelod Lleol: Cynghorydd Dewi Roberts
Adran Gwarchod y Cyhoedd: Moira Duell Parry (Swyddog Iechyd yr
Amgylchedd)
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd
y Cadeirydd y byddai gan bob parti hawl i hyd at 5 munud i gyflwyno eu sylwadau
a)
Adroddiad yr Adran Trwyddedu
Cyflwynwyd
adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer
Black Sheep, 1 Lon Pont Morgan, Abersoch. Gwnaed y cais mewn perthynas â
gwerthu alcohol, darparu lluniaeth hwyr a cherddoriaeth wedi ei recordio gyda'r
cyfan wedi ei ddarparu ar ac oddi ar yr eiddo
Nodwyd bod gan
Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei
gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol.
Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r
amcanion trwyddedu ac amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn cael eu cynnwys ar y
drwydded.
Tynnwyd sylw at yr
ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Nodwyd bod sawl
gwrthwynebiad wedi ei dderbyn gan breswylwyr cyfagos a phryderon wedi eu
cyflwyno gan Cyngor Cymuned Llanengan a’r Aelod Lleol.
Roedd y
gwrthwynebiadau yn cyfeirio at bob un o’r amcanion
trwyddedu. Awgrymwyd y byddai materion trosedd ac anrhefn yn deillio o
ymddygiad gwrthgymdeithasol; cynnydd mewn ysbwriel a
sŵn o ganlyniad i’r oriau arfaethedig; yr eiddo ger lôn brysur, diffyg
palmant a diffyg parcio yn diystyru diogelwch y cyhoedd.
Adroddwyd nad oedd cytundeb wedi ei gyrraedd gyda’r ymgeisydd ac Adran
Gwarchod y Cyhoedd o ran cyfaddawdu i gwtogi oriau defnydd allanol yr eiddo o
ran chwarae cerddoriaeth wedi ei recordio a darpariaeth alcohol, yn unol a
mannau eraill yn y pentref. Amlygwd bod yr ymgeisydd wedi diwygio’r cais i
gyfarch pryderon o ran defnydd tu allan i’r eiddo ar
gyfer cwsmeriaid, gydag alcohol a cherddoriaeth hyd at 21:00 yn hytrach na
23:00. Er hynny, roedd yr Adran yn parhau i wrthwynebu’r cais ar sail bod yr
ardal yn un preswyl a bod busnesau tebyg gyda
llecynnau allanol wedi cyfyngu eu horiau mewn mannau eraill yn y pentref.
Argymhellwyd fod y
Pwyllgor yn gwrthod y cais yn unol â’r hyn a amlygwyd
gyda’r ymgynghoriad, ac yn unol â gofynion y Ddeddf Drwyddedu 2003.
Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:
·
Rhoi
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr Trwyddedu
·
Gwahodd
yr Heddlu i ymhelaethu ar y cais
·
Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau
i'r Heddlu
·
Gwahodd
deilydd y drwydded neu gynrychiolydd i ymateb i’r sylwadau
·
Rhoi cyfle i’r ymgynghorai
gyflwyno eu sylwadau
·
Rhoi
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y drwydded a’r
ymgynghorai
b)
Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd cynrychiolydd yr
ymgeisydd:
·
Bod yr adeilad, yn y gorffennol wedi cael ei
ddefnyddio fel lle bwyta - y cais yn un
am drwydded ar gyfer lleoliad sydd wedi cael trwydded yn y gorffennol
·
Nad oedd angen caniatâd cynllunio i leoli 4 - 5
bwrdd tu allan
·
Bod bwyty Crwst drws nesaf gyda thrwydded a byrddau
bwyta tu allan - yr ymgeisydd yn ceisio yr un peth
·
Bwriad yw cau yr ardal allanol am 21:00
·
Bwriad cael cerddoriaeth gefndirol yn unig - dim cerddoriaeth byw
·
Bod cais am drwydded gwerthu alcohol yn un ar gyfer y busnes fel
bwyty ac nid fel tafarn
·
Bydd y bwyty yn cyflogi pobl leol
·
Bod problemau parcio yn broblem gyffredinol yn
Abersoch
·
Eu bod yn barod i gydweithio gyda’r gymuned a’r
swyddogion perthnasol
Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhawyd bod bwriad
gosod 4 – 5 bwrdd picnic tu allan i’r
eiddo
c)
Manteisiodd
yr ymgynghorai oedd yn bresennol ar y cyfle i ymhelaethu ar sylwadau a
gyflwynwyd ganddynt drwy lythyr.
Margot Jones a Martin Turtle
·
Bod lleoliad
y bwyty yn uniongyrchol o dan eu cartref
·
Eu bod
yn bryderus iawn am effaith llygredd sŵn – hyn yn tarfu ar eu mwynhad
arferol o fod yn eu cartref a’u gardd
·
Bod
lleoliad bwriadedig ar gyfer eistedd tu allan yn peri pryder – potential
sŵn gyda’r nos ac i’r oriau mân
·
Yn
creu gofid i’w hiechyd - mae meddwl am
fyw uwchben y datblygiad yn annioddefol
·
Bod cyfeiriad at y bwyty mewn cylchgrawn yn
cyfeirio at y bwyty fel lleoliad ar gyfer ‘Alfresco Dinig area with fire pit’, ac
yn cynnig enw gwahanol i’r hyn sydd ar y drwydded
·
Y bwriad yn orddatblygiad o'r safle
·
Yn bobl leol sydd angen llonydd - dim eisiau mwy o
sŵn yn tarfu ar eu bywydau
Mike Parry (ar ran Grahame a Les Oddy)
·
Bod y
bwriad yn tanseilio’r pedwar amcan trwyddedu
·
Bod
angen gwarchod y cyhoedd
·
Bod gwrthwynebwyr wedi lleisio eu rhestru eu
rhesymau gwrthod yn glir
·
Byddai ehangu’r ddarpariaeth i gyrion y pentref yn
symud canolbwynt y pentref gan aflonyddu rhannau distaw o’r pentref
Robert Kennedy
·
Nad oedd angen bwyty arall yn y pentref i werthu
alcohol
·
Bod
maint a bwriad y bwyty yn anaddas ar gyfer y safle
·
Bod terfyn yr eiddo yn agos iawn at gartrefi
preswyl
·
Pryder
am lygredd sŵn - y sŵn yn creu effaith andwyol ar yr heddwch o gael eistedd allan yn
yr ardd
·
Bod oriau agor hyd 21:00 yn parhau yn hwyr - awgrym i gwtogi amser agor i 18:00
·
Awgrym
i symud yr ardal bwyta tu allan i flaen yr eiddo
·
Bod y
bwriad yn tanseilio’r pedwar amcan trwyddedu
·
Tebyg y bydd ymwelwyr yn defnyddio’r byrddau gyda’r
nos i sgwrsio ac yfed wedi oriau cau'r tafarndai lleol - hyn yn creu problemau
sŵn ychwanegol
·
Pryderon
sbwriel
Einir Wyn (Clerc Cyngor Cymuned)
·
Amlygu
pryderon sŵn
·
Pryderon
parcio – drwy ddefnyddio’r ardal parcio ar gyfer bwyta, bydd hyn yn golygu llefydd
parcio prin yn cael eu colli
·
Dim ymateb wedi ei dderbyn gan y Cyngor ynglŷn
â newid defnydd
·
4 o
fyrddau bach oedd tu allan i’r bwyty blaenorol wedi eu gosod ar flaen yr
adeilad
·
Dim gwrthwynebiad i’r bwyty - pryderon am werthu
alcohol a cherddoriaeth hwyr y nos
·
Rhaid
ystyried y pedwar amcan trwyddedu
Wyn Williams
·
Bod oddeutu 70 o dai o fewn canllath i’r safle
·
Yr
ardal yn hanesyddol yn cael ei chydnabod fel ardal breswyl
·
Gwrthodwyd apêl i drwydded safle cyfagos oherwydd
tanseilio tri o’r amcanion trwyddedu - dim eisiau dychwelyd i gyfnod o dderbyn
cwynion am drosedd ac anrhefn, diogelwch y cyhoedd a niwsans cyhoeddus
·
Bod y ddarpariaeth yn ymestyn allan o ganol y
pentref
·
Bod y
busnes twristiaeth yn bwysig a gwelwyd cynnydd mewn nifer teuluoedd i’r ardal
yn ddiweddar – hyn i’w groesawu – teuluoedd yn parchu’r amgylchedd ac yn ennyn
llai o gwynion
·
Angen
parchu ardal breswyl - rhaid rhoi
ystyriaeth i hyn
·
Bod
diffyg parch i’r Iaith Gymraeg – pam rhoi enw ‘Black Sheep’?
·
Mewn
argyfwng, sut fydd y gwasanaethau brys yn cyrraedd safle’r Bad Achub?
·
Nid
yw’r diwygiadau yn ymateb i’r pryderon
·
Bod y
safle ei hun yn beryg – dim palmant
·
Dim
ffenestri dwbl ar yr adeilad - pryderon
llygredd sŵn
·
Dim plismyn na swyddogion gwarchodaeth ddigonol i
gadw llygad a chadw trefn
·
Annog yr Is-bwyllgor i dderbyn argymhelliad y
Swyddog Trwyddedu
Mark McClure
·
Ei fod
yn byw gerllaw’r safle
·
Bod gwelliannau i’r pentref, ond na fyddai’r
datblygiad arfaethedig yn welliant
·
Ers i’r clwb nos gau gerllaw, yr ardal wedi distewi
- bydd llygredd sŵn i’r ardal yn dychwelyd gyda’r datblygiad
·
Pam
fod angen ardal eistedd tu allan?
·
Nid yw’r bwyty drws nesaf yn chwarae cerddoriaeth -
pam felly caniatáu cerddoriaeth gefndirol i effeithio ar y bwyty drws nesaf a
phreswylwyr cyfagos?
·
Nid yw’r
bwriad yn addas – dim buddiannau
·
Pryder
am ddiffyg llefydd parcio
·
Bydd y bwriad yn achosi niwsans cyhoeddus i ardal
breswyl llawn teuluoedd
·
Llefydd bwyta digonol yn y pentref - dim angen mwy
·
Bod yr
eiddo mewn safle peryg – bydd pobl yn cronni ar lon brysur
Cynghorydd Dewi Roberts (Aelod Lleol)
·
Bod
trafodaeth agored rhwng yr ymgeisydd a’r swyddogion yn fuddiol
·
Ategu
pryder preswylwyr cyfagos
·
Bod y safle yn anaddas ar gyfer gwerthu alcohol -
wedi ei leoli ar gyrion y pentref - bwyty yn dderbyniol ond dim bar – hyn yn
annog trafferthion
·
Siomedig
nad oedd yr Heddlu wedi amlygu pryderon traffig
·
Dim
palmant - lleoliad peryg i groesi’r lon
·
Bod
nifer y byrddau i weld yn ormod – 6 bwrdd picnic yn eistedd hyd at 24 o
unigolion
·
Angen
cwestiynu addasrwydd yr adeilad
·
Cefnogi’r
argymhelliad i wrthod
Moira Duell Parry
(Swyddog Iechyd yr Amgylchedd)
·
Bod yr amcan trwyddedu o atal niwsans cyhoeddus
wedi ei ystyried - y safle o fewn ardal breswyl – pryderon wedi amlygu am yr
ardal allanol
·
Bod trafodaethau wedi eu cynnal gyda’r ymgeisydd –
cais am fwy o fanylder mewn ymateb i’r pryderon
·
Gyda chyfyngiadau covid 19 nid oes modd ymweld â’r
safle ac felly dim manylion monitro wedi eu gweithredu - fel arfer byddai
cynllun rheoli sŵn wedi ei adnabod ynghyd ac awgrymiadau offer a chynllun
rheoli pobl
·
Lleisiau yn codi yn naturiol gydag alcohol ac yn
debyg o greu aflonyddwch
·
Diffyg eglurhad am ddefnydd y datblygiad – hyn yn
debygol o arwain at gwynion
·
Cais i'r ymgeisydd ddarparu mwy o dystiolaeth ynglŷn â sut bydd y bwriad yn cael ei
reoli
Cyfeiriwyd
at y sylwadau eraill a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus
ch) Yn manteisio ar y cyfle i
gloi'r achos, nododd cynrychiolydd yr ymgeisydd y pwyntiau canlynol:
·
Eu bod yn derbyn pryderon y preswylwyr cyfagos
·
Eu bod yn barod i ystyried trwydded ar gyfer tu
mewn yn unig
·
Nad oedd caniatad wedi ei roi i gynnwys y
cylchgrawn
·
Nid ‘bar and grill’ yw’r bwriad – caffi gyda’r dydd
ydyw a stecdŷ gyda’r nos
·
Barod i ystyried cau am 18:00
·
Bod y bwyty drws nesaf gyda thrwydded alcohol a
byrddau picnic – pam roi i un ac nid i un arall?
·
Canllawiau covid 19 yn caniatáu hyblygrwydd gyda
bwyta tu allan
·
Bod yr ymgeisydd yn berson lleol - eisoes yn rhedeg
bwyty arall yn y pentref
·
Nad oedd yr Heddlu wedi datgan unrhyw wrthwynebiad
·
Bod cyfaddawdu yn opsiwn - posib trafod defnydd o’r ardal bwyta tu
allan
·
Bod bwriad cau ar ddydd Llun a dydd Mawrth – yr
ymgeisydd gyda theulu ifanc ac eisiau treulio amser gyda’r teulu
Ategodd y Rheolwr
Trwyddedu bod pryderon gwirioneddol am ddefnydd tu allan
i’r safle.
d) Ymneilltuodd yr ymgeisydd, yr ymgynghorwyr, y Rheolwr Trwyddedu
a Swyddog yr Amgylchedd o’r cyfarfod tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais
dd) Wrth
gyrraedd y penderfyniad ystyriodd yr Is-bwyllgor sylwadau ysgrifenedig a
gyflwynwyd gan y partïon â diddordeb, adroddiad y Swyddog Trwyddedu yn ogystal
â sylwadau llafar a dderbyniwyd yn y gwrandawiad. Ystyriwyd hefyd Polisi
Trwyddedu’r Cyngor a chanllawiau’r Swyddfa Gartref. Roedd yr holl ystyriaethau
yn cael eu pwyso a’u mesur yn erbyn yr
amcanion trwyddedu o dan y Ddeddf Trwyddedu 2003, sef:
i.
Atal trosedd ac anhrefn
ii.
Atal niwsans cyhoeddus
iii.
Sicrhau diogelwch
cyhoeddus
iv.
Gwarchod plant rhag niwed
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais diwygiedig
Rhoddwyd y drwydded fel a ganlyn:
1. Oriau agor:
- Sul-Sadwrn 09:00-23:30
- Awr derfynol 00:30 ar Noswyl Calan
- Ardal eistedd tu allan yn cau 21:00 bob dydd
2. Cerddoriaeth wedi recordio (tu mewn yn unig):
- Sul-Sadwrn 09:00-23:00
- Awr derfynol 00:00 ar Noswyl Calan
3. Cyflenwi alcohol (i yfed ar ac oddi ar eiddo):
- Sul-Sadwrn 09:00-23:00
- Awr derfynol 00:00 ar Noswyl Calan
4. Ymgorffori’r materion sydd wedi eu rhagnodi yn Atodlen
Weithredol (Rhan M) y cais fel amodau ar
y drwydded.
Diolchwyd i bawb am gyflwyno sylwadau ar y cais.
Rhoddodd yr Is-bwyllgor ystyriaeth briodol i’r holl
sylwadau.
Diystyrwyd
sylwadau a ddaeth i law i’r graddau eu bod yn amherthnasol i’r amcanion
trwyddedu e.e. dadleuon nad oes angen eiddo trwyddedig
ar yr oriau y gofynnwyd amdanynt neu o gwbl, neu ddiffyg caniatâd cynllunio
perthnasol. Nid yw’r materion hyn yn ystyriaethau ceisiadau trwydded eiddo.
Rhoddwyd
ystyriaeth arbennig i’r canlynol.
Derbyniwyd 9
ymateb gan aelodau’r cyhoedd a phreswylwyr cyfagos yn gwrthwynebu’r cais gan
gyfeirio at y pedwar amcan trwyddedu. Mynegwyd pryderon y byddai caniatáu’r
drwydded yn debygol o arwain at gynnydd mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol,
sbwriel, sŵn, problemau diogelwch y cyhoedd (diffyg palmant a diffyg gofod
parcio). Adleisiwyd y pryderon hyn gan yr Aelod Lleol a’r Cyngor Cymuned.
Yn ogystal,
derbyniwyd sylwadau gan Uned Gwarchod y Cyhoedd y Cyngor yn nodi ymgais i
ganfod cyfaddawd gyda’r ymgeisydd i gyfarch pryderon o ran defnydd tu allan i’r eiddo ar gyfer cwsmeriaid. Ystyriwyd bod y
trafodaethau hyn wedi annog yr ymgeisydd i gyflwyno cais diwygiedig i gyfarch
pryderon o ran defnydd tu allan i’r eiddo ar gyfer
cwsmeriaid, gydag alcohol a cherddoriaeth hyd at 21:00 yn hytrach na 23:00. Er
diwygio’r cais, roedd yr Uned yn parhau i wrthwynebu’r cais ar y sail bod y
safle wedi ei leoli o fewn ardal breswyl a bod busnesau tebyg hefo llecynnau
allanol wedi cyfyngu oriau mewn mannau eraill yn y pentref.
Nodwyd bod yr
Heddlu wedi nodi nad oeddynt yn gwrthwynebu’r cais.
Amlygodd yr
Is-bwyllgor eu bod yn derbyn bod y pryderon a fynegwyd ynglŷn â’r cais yn
rhai diffuant. Fodd bynnag, nid oedd yr Is bwyllgor
o’r farn bod tystiolaeth ddigonol wedi dod i law i brofi bod y problemau hyn yn
debygol pe byddai’r drwydded yn cael ei chaniatáu, ac y byddai’n groes i’r
amcanion trwyddedu.
Amlygwyd pryder y
byddai cynnydd mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol. Er hynny, ni
chyflwynwyd tystiolaeth i gefnogi’r honiad tu hwnt i honiadau cyffredinol am
yfed y gellid eu priodoli i unrhyw eiddo trwyddedig. Ni chyflwynwyd rhesymau na thystiolaeth pam y byddai’r eiddo penodol yma yn debygol
o achosi problemau ymddygiad gwrthgymdeithasol. Ni ystyriwyd bod yr eiddo wedi
gweithredu fel eiddo trwyddedig ers sawl blwyddyn o dan berchnogion gwahanol
heb broblemau neilltuol o ran ymddygiad gwrthgymdeithasol. Ymddengys bod y
sylwadau wedi cael eu cyflwyno ar sail dyfalu ac nid tystiolaeth - nid yw hyn
yn sail gyfreithiol i wneud penderfyniad - yn ôl yr Uchel Lys yn R (on the
application of Daniel Thwaites Plc) v Wirral Corough Magistrates Court [2008]
EWHC 838 (Admin).
Ni dderbyniwyd
gwrthwynebiad gan yr Heddlu: Ystyriwyd be fyddai problemau troseddu tebygol yn
codi, byddai’r Heddlu wedi amlygu hyn. O dan yr amgylchiadau, nid oedd yr
Is-bwyllgor wedi ei perswadio y byddai rhoi’r drwydded yn tanseilio’r amcan o
atal trosedd ac anrhefn.
Yng nghyd-destun
pryderon sbwriel a sŵn pe rhoddir y drwydded,
ystyriwyd y sylwadau fel pryderon cyffredinol yn seiliedig eto ar ddyfalu heb
gyflwyno tystiolaeth gadarn. Ni roddwyd ystyriaeth i ddefnydd y safle yn y
gorffennol fel eiddo trwyddedig a’r diffyg hanes o bryderon sbwriel a sŵn ynghlwm a’r safle. Gan nad
oedd tystiolaeth i gefnogi’r honiadau nid oedd sail felly i dderbyn y byddai
rhoi’r drwydded yn achosi problemau niwsans cyhoeddus.
Wrth ystyried
pryderon diogelwch ffyrdd, diffyg palmant ar gyfer cerddwyr a diffyg gofod
parcio ar y safle, ystyriwyd y pryderon yng nghyd-destun yr amcan trwyddedu o
ddiogelwch y cyhoedd. Fodd bynnag, nid oedd yr Adran Priffyrdd na’r Heddlu wedi
cyflwyno sylwadau ar y materion hyn. Amlygwyd nad yw’n
dderbyniol derbyn y byddai pawb yn gyrru i’r lleoliad, o gofio ei fod o fewn
pellter cerdded o nifer o safleoedd gwyliau yn y pentref. O ganlyniad i ddiffyg
sylwadau gan arbenigwyr yn y maes, nid oedd yr
Is-bwyllgor wedi ei berswadio bod caniatáu’r cais yn debygol o danseilio
diogelwch cyhoeddus.
Roedd y pryderon a
gyflwynwyd am ddiogelwch plant hefyd yn rhai cyffredinol, yn seiliedig ar
ddyfalu heb dystiolaeth gadarn. Nid oedd yr Is-bwyllgor felly o’r farn bod y
cais yn tanseilio’r amcan trwyddedu o warchod plant rhag niwed.
Roedd yr
Is-bwyllgor wedi ei synnu bod rhai partïon wedi argymell gwrthod y cais yn
llwyr. Tra bo’ rhydd i bawb ei farn, roedd yr
Is-bwyllgor yn disgwyl y byddai argymhellion swyddogol yn seiliedig ar
ddealltwriaeth gywir o’r rheolau trwyddedu - nid oes rheol yn mynegi na chaiff
eiddo trwyddedig ei agor mewn ardal breswyl. Rhaid derbyn asesiad o’r
dystiolaeth yn erbyn yr amcanion trwyddedu os am gyflwyno argymhellion. Roedd
yr Is-bwyllgor hefyd o’r farn bod yr argymhelliad i wrthod y cais yn un llawdrwm sydd yn groes i fframwaith ac ysbryd ‘ysgafn’ y Ddeddf Trwyddedu.
O dan yr
amgylchiadau roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon bod y cais diwygiedig yn gydnaws
â’r pedwar amcan trwyddedu. Caniatawyd y cais.
Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad
yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i bawb oedd yn bresennol. Ategwyd
bod gan bob parti i’r cais yr hawl i gyflwyno apêl yn Llys Ynadon Caernarfon yn
erbyn penderfyniad yr Is-bwyllgor. Dylid cyfeirio unrhyw apêl o’r fath drwy roi
rhybudd o apêl i’r Prif Weithredwr, Llys Ynadon Llandudno, Llandudno, o fewn
cyfnod o 21 diwrnod gan gychwyn â’r dyddiad y bydd yr apelydd yn derbyn llythyr (neu gopi ohono) yn
cadarnhau’r penderfyniad.
Dogfennau ategol: