Agenda item

Cais ar gyfer codi adeilad cynhyrchu wyau maes gan gynnwys seiloau a gwaith cysylltiedig

 

Aelod Lleol: Cynghorydd Gareth Williams

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

Caniatáu yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol:

 

  1. Cychwyn o fewn 5 mlynedd.
  2. Unol a’r cynlluniau
  3. To a waliau allanol i fod o liw gwyrdd tywyll i gydweddu’r sied bresennol
  4. Lliw y biniau porthiant i gydweddu’r rhai presennol.
  5. Defnydd amaethyddol o’r adeilad yn unig.
  6. Cyflwyno cynllun tirlunio
  7. Cyflwyno Asesiad Effaith Sŵn cyn dechrau’r datblygiad
  8. Cyflwyno Asesiad i Effaith Mater Gronynnol Llygredd cyn dechrau’r datblygiad
  9. Cyflwyno Cynllun Gwella Bioamrywiaeth cyn dechrau’r datblygiad
  10. Cyflwyno Cynllun Rheoli Tail diwygiedig cyn dechrau’r datblygiad

 

Cofnod:

Cais ar gyfer codi adeilad cynhyrchu wyau maes gan gynnwys seiloau a gwaith cysylltiedig

 

          Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr.

 

a)    Ymhelaethodd yr Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi mai cais ydoedd ar gyfer codi uned amaethyddol i gadw ieir sy’n cynhyrchu wyau maes, ynghyd a  chodi seiloau a gwaith cysylltiedig ar Fferm Crugeran, Sarn Mellteyrn. Byddai’r sied arfaethedig wedi ei lleoli yn baralel i sied ieir presennol ar y safle - o’r un dyluniad a maint yn cartrefu hyd at 32,000 o ieir dodwy. Bydd y pedwar seilo porthiant oddeutu 6.8 medr mewn uchder, o liw llwyd las ac wedi ei lleoli gyfochrog a’r sied.

 

Adroddwyd bod y safle wedi ei leoli yng nghefn gwlad, o fewn dynodiad Ardal Tirwedd Arbennig, Tirwedd Hanesyddol Gofrestredig Llŷn ac Enlli. Yng nghyd-destun mwynderau gweledol, mae gosodiad y sied ieir presennol yn gymharol wastad o fewn tirwedd donnog sy’n sicrhau mai golygfeydd ysbeidiol sydd o’r sied bresennol o’r dirwedd gyfagos. Nid yw’n ymddangos yn ymwthiol nac allan o le o fewn yr Ardal Tirwedd Arbennig. Byddai’r sied arfaethedig wedi ei lleoli yn baralel  i’r sied bresennol, ac felly wedi ei sgrinio, i raddau o’r golygfeydd amlycaf.

 

Eglurwyd bod rhai tai annedd yng nghyffiniau’r cais. Ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau gan drigolion lleol i’r bwriad, sy’n gadarnhaol ac yn amlygu’r modd y mae’r fferm yn cael ei rheoli. Ymgynghorwyd gydag Uned Gwarchod y Cyhoedd y Cyngor ynglŷn â’r materion sŵn. Nid oedd yr Uned yn ystyried y Cynllun Rheoli Sŵn a dderbyniwyd yn ddigonol. Argymhellwyd, oherwydd lleoliad gwledig yr uned, y dylai Asesiad Sŵn gael ei gynnal a’i gytuno cyn dechrau adeiladu'r uned i sicrhau na fyddai’r uned yn cael effaith sŵn ar drigolion cyfagos nac yn codi lefelau sŵn cefndirol annerbyniol yn yr ardal.

 

Bwriedir defnyddio mynedfa bresennol y fferm a’r trac mynediad i’r sied bresennol ar gyfer gwasanaethu’r bwriad.  O ran patrymau trafnidiaeth, bydd disgwyl i lori HGV ddod draw 2/3 gwaith y mis i gludo bwyd i’r ieir fel y trefniant sydd i’r sied ieir presennol.  Bydd wyau’n cael eu casglu bob 3 diwrnod a lorïau yn cario ieir newydd bob rhyw 13 mis. Ac eithrio hynny, bydd mynd a dod dyddiol gan weithwyr y fferm. Nododd yr Uned Drafnidiaeth nad oedd ganddynt wrthwynebiad i’r cais ac mai dim ond ychwanegiad bychan mewn lefelau traffig a ragwelir.

 

O ystyried yr holl faterion perthnasol gan gynnwys polisïau a chanllawiau cenedlaethol a lleol, ynghyd â’r ymatebion a dderbyniwyd yn dilyn proses ymgynghori, ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol yn ddarostyngedig i gynnwys amodau.

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad noddodd yr ymgeisydd y pwyntiau canlynol:

·         Ei fod yn hapus iawn gyda’r ffordd y mae’r sied bresennol wedi cryfhau eu busnes ffermio.

·         Y sied bresennol wedi cymryd ei lle yn dda iawn yn y tirlun.

·         Yn deulu a busnes Cymraeg - byddai ail sied yn cynnig mwy o gyfleoedd gwaith i bobl Cymraeg lleol

·         Bod yr asiantaethau i gyd, gan gynnwys CNC yn hapus gyda’r drwydded a’r cais am yr ail sied.

·         Bod y galw am wyau maes yn cynyddu oherwydd llesiant yr ieir, a hefyd ei fod yn gynnyrch iach.

·         Yn ogystal â’r wyau, mae’r tail yn werthfawr iawn oherwydd  lleihad yn y defnydd o wrtaith artiffisial a’r ffaith ei fod yn iachach i’r pridd.

·         Bod datblygu busnes eang a chryf yn bwysig iawn wrth edrych i’r dyfodol, gan roi cyfle i’w blant, dau fab ag un ferch, gael bywoliaeth ym Mhen Llyn.

 

c)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y pwyntiau canlynol:

·         Ei fod yn llwyr gefnogi’r cais.

·         Nad oedd wedi derbyn unrhyw gwynion o ardal Botwnnog yn ystod yr amser ymgynghori.

·         Bu’r sied bresennol yn fodd ardderchog i godi arian i’r ardal drwy gynnal diwrnodau agored, yn ogystal â chodi arian tuag at Eisteddfod Genedlaethol Pen Llyn yn y dyfodol agos.

·         Nad yw’r sied bresennol yn amharu ar y tirlunyn cymryd ei lle yn daclus dros ben ac yn gweddu i’r tirlun o’i chwmpas.

·         Yn dilyn llwyddiant y perchnogion, ac ers i’r sied gael ei chodi yn Hydref 2017, mae’r trydydd ffloc o ieir yno erbyn hyn.  Mae un rheolwr llawn amser yn gweithio yno ynghyd a chwe pherson lleol, rhan amser

·         Oherwydd llwyddiant y fenter, cryfhawyd busnes y fferm a sicrhawyd gwaith i’r rhai sy’n gweithio arni - mae’r perchnogion bob amser yn chwilio am ddulliau o ddatblygu busnes er mwyn eu budd eu hunain ac yn ogystal â’r cenedlaethau sy’n dilyn.

·         Mae’r tail ieir wedi creu arbedion ariannol mewn gwrtaith artiffisial ar gyfer gwella ansawdd y tir.

·         Mae mwy o alw am wyau maes rhydd gan eu bod yn iachus i’w bwyta.

·         Bod y teulu yn creu cyflogaeth i Gymry Cymraeg lleol. Yn gyfle gwych i greu mwy o gyfleoedd gwaith i  ieuenctid lleol weithio’n eu cynefin. Gyda mwy a mwy o bobl ddieithr dros y ffin yn prynu cartrefi Pen Llyn, mae canfod gwaithadrefyn sicr o ostwng.

·         Bod menter gyntaf Crugeran gyda’u sied ieir wedi bod yn llwyddiant ysgubol ac felly yn gefnogol i’r cais am ail sied

 

ch)  Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais

 

d)    Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

 

·         Bod y busnes yn creu gwaith yn lleol

·         Bod yr adeiladau at bwrpas amaethyddol wedi ei gosod ar dir amaethyddol

·         Bod y teulu yn rheoli’r busnes mewn modd cyfrifol

·         Bod y sied wedi ei lleoli ar ehangder o dir

·         Bod menter o’r fath yn bwysig i gefn gwlad

 

e)    Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â faint o diriogaeth oedd ar gyfer yr ieir, amlygwyd bod 1 hectar ar gyfer 2000 o ieir. Ategwyd bod yr ieir yn cael eu rhyddhau o’r sied ar drefniant cylchdroi ac yn cael rhyddid i drigo tu mewn i’r sied a thu allan yn y caeau. Nodwyd bod yr ymgeisydd yn gorfod cydymffurfio a gofynion llesiant yr ieir.

 

       PENDERFYNWYD

 

       Caniatáu yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol:

 

1.              Cychwyn o fewn 5 mlynedd.

2.              Unol a’r cynlluniau.

3.              To a waliau allanol i fod o liw gwyrdd tywyll i gydweddu’r sied bresennol

4.              Lliw'r biniau porthiant i gydweddu’r rhai presennol.

5.              Defnydd amaethyddol o’r adeilad yn unig.

6.              Cyflwyno cynllun tirlunio

7.              Cyflwyno Asesiad Effaith Sŵn cyn dechrau’r datblygiad

8.              Cyflwyno Asesiad i Effaith Mater Gronynnol Llygredd cyn dechrau’r datblygiad

9.              Cyflwyno Cynllun Gwella Bioamrywiaeth cyn dechrau’r datblygiad

10.            Cyflwyno Cynllun Rheoli Tail diwygiedig cyn dechrau’r datblygiad

 

Dogfennau ategol: