Agenda item

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Cemlyn Williams

 

Ystyried adroddiad ar yr uchod.

 

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad a gofyn i’r Adran a’r Aelod Cabinet Addysg gymryd sylw o sylwadau’r pwyllgor, a bod y pwyllgor craffu yn derbyn adroddiad pellach ar hyn pan fydd mwy o fanylder ar gael.

 

Cofnod:

Croesawyd yr Aelod Cabinet Addysg, ynghyd â swyddogion yr Adran Addysg i’r cyfarfod.

 

Cyflwynwyd - adroddiad yr Aelod Cabinet Addysg yn gwahodd y craffwyr i gyflwyno sylwadau ar y weledigaeth arfaethedig ar gyfer cyfundrefn addysg drochi tuag at 2032 a thu hwnt.

 

Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun, gan nodi mai bwriad y weledigaeth newydd oedd adeiladu ar y gwaith da a gyflawnwyd gan y canolfannau iaith dros y degawdau diwethaf, cydnabod gwaith caled y staff, a chyfoesi a moderneiddio’r ddarpariaeth.

 

Nododd y Pennaeth Addysg:-

 

·         Y credai fod hon yn weledigaeth gyffrous, oedd yn gosod seiliau i wasanaeth sydd wedi’i glodfori i fod yn gwneud rhagor o waith da, gan gyfoesi’r gwasanaeth i fod yn rhan o gyfundrefn yr unfed ganrif ar hugain ar gyfer ysgolion.

·         Bod yr Adran a staff y canolfannau iaith yn awyddus i beidio colli gafael ar y gwersi a ddysgwyd yn sgil ail-bwrpasu’r gwasanaeth a chyrraedd mwy o blant mewn ffordd wahanol yn ystod cyfnod y pandemig, ac y dymunid adeiladu ymhellach ar y cryfderau a’r dulliau gweithredu hynny.

·         Bod yr aelodau eisoes wedi derbyn copi o lythyr Estyn at y Prif Weithredwr oedd yn amlygu gwaith yr Awdurdod yn cefnogi ysgolion a phlant yn ystod cyfnod y pandemig, ac yn rhoi canmoliaeth arbennig i waith y canolfannau iaith wrth iddynt fynd ati i ail-bwrpasu’r gwasanaeth.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chyflwyno sylwadau.  Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-

 

·         Rhoddwyd cydnabyddiaeth i lwyddiant y canolfannau iaith dros y blynyddoedd i sicrhau bod dysgwyr yn caffael y Gymraeg.

·         Cytunwyd gyda’r bwriad i gryfhau’r atebolrwydd fel rhan o’r weledigaeth newydd.

·         Cefnogwyd y bwriad i arfogi gweithlu’r ysgolion i gefnogi’r dysgwyr i wneud cynnydd pellach i feithrin hyder a chaffael y Gymraeg.

·         Cefnogwyd y bwriad i sefydlu darpariaeth addysg drochi ym Mangor.

·         Gofynnwyd i’r Adran Addysg gyflwyno rhagor o fanylder am y gyfundrefn addysg drochi pan fydd ar gael.

·         Cafwyd amrywiaeth barn ar ffynhonnell gyllido’r gyfundrefn addysg drochi, gyda rhai aelodau yn gefnogol i’r bwriad y byddai ysgolion yn cyfrannu gan gynyddu atebolrwydd a chydberchnogaeth o’r gyfundrefn rhwng yr Adran Addysg a’r ysgolion, ond mynegwyd hefyd ddymuniad i’r Cyngor yn gorfforaethol fod yn ariannu’r bwlch cyllidol yn sgil y ffaith fod y Gymraeg yn un o brif flaenoriaethau’r Cyngor.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau, ac i gwestiynau gan aelodau, nodwyd:-

 

·         O safbwynt mewnbwn a chyfraniad yr ysgolion i’r weledigaeth a’r gwasanaeth ar ei newydd wedd, y bwriedid ymgysylltu’n anffurfiol â phenaethiaid yr ysgolion ar y weledigaeth newydd.  Hefyd, petai’r gyfundrefn newydd yn dod i rym, roedd yn debygol y byddai bwrdd rheoli yn cael ei sefydlu ar gyfer y gyfundrefn newydd, fyddai’n cynnwys cynrychiolaeth o blith y gyfundrefn ysgolion.  Golygai hynny y gallai’r ysgolion gyfrannu a chyd-berchnogi a siapio’r ddarpariaeth, er mwyn sicrhau bod y gyfundrefn yn ymateb i anghenion yr ysgolion, ac yn cyfoesi ar yr un pryd â datblygiadau addysgol sy’n digwydd ar lawr dosbarth.

·         O safbwynt addysg gydol oes, a’r cyfleoedd allai godi o ran cynnig gwasanaethau i’r gymuned, bod bwriad i edrych ar gyfleoedd y tu hwnt i addysg drochi yn unig, megis gofal plant a chyfleoedd i rieni ac oedolion ddysgu Cymraeg, wrth i fwy o fanylder ynglŷn â’r safleoedd newydd ddod i fodolaeth.

·         O safbwynt mesurau llwyddiant, bod y targed i bob plentyn 5 oed dderbyn addysg cyfrwng Cymraeg wedi’i osod ar bob awdurdod fel mesurydd, a dyna’r cyfrwng yn y cyfnod sylfaen yn yr ysgolion yng Ngwynedd.  Cytunid y gallai plant gael eu colli wrth fynd o un cyfnod allweddol i’r llall, ond byddai’r ffocws ar ddilyniant yn cael sylw penodol o fewn y Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg newydd, yn ogystal â’r defnydd anffurfiol o’r Gymraeg a chyfleoedd y tu hwnt i’r gyfundrefn addysg i blant a phobl ifanc ddefnyddio’r Gymraeg.  Roedd yna hefyd fesurau penodol ar gyfer mesur cynnydd y dysgwyr dros eu cyfnod o 8-10 wythnos ar safle’r gyfundrefn drochi, ac roedd angen sicrhau bod y cynnydd yma’n parhau wedi i’r disgyblion drosglwyddo’n ôl i’r gyfundrefn ysgolion.

·         O ran atebolrwydd, byddai’r ysgolion yn ganolog i’r gyfundrefn newydd hon.  Roedd yr adborth gan y penaethiaid yn ystod y cyfnod clo yn clodfori’r cyswllt agosach fu rhwng y canolfannau a’r ysgolion, ac wrth i’r sector ysgolion gyfrannu tuag at gyllido’r weledigaeth drochi newydd, byddai’r atebolrwydd, ynghyd â llais yr ysgolion yn rhediad a chyfeiriad strategol y gwasanaeth yn cynyddu.  Golygai hefyd fod y gwasanaeth yn gallu bod yn fwy ymatebol wrth i sefyllfaoedd lleol o ran proffil iaith ein cymunedau newid.  Dymunid sefydlu cyfundrefn lle byddai’r plant yn cael y manteision gorau o’r system drochi ac arbenigedd y staff, ond bod hynny’n digwydd fwy ar y cyd hefo’r ysgolion, a bod y plant yn cael y cyfle yn ystod y cyfnod yma i ddychwelyd i’r ysgol o bryd i’w gilydd, ac i gymhathu a defnyddio’u sgiliau iaith newydd gyda’u cyfoedion.  Credid y byddai’r penaethiaid yn gafael yn y cyfrifoldebau hyn a’r atebolrwydd yma, ac wrth symud ymlaen, y gellid sefydlu cyfundrefn o lywodraethiant gyda phennaeth y gwasanaeth trochi newydd, yr Adran Addysg a’r ysgolion yn bartneriaid allweddol yn hynny.

·         Ei bod yn gynamserol i ddod i gasgliad ynglŷn â phwy fydd yn cyfrannu at gyllido’r ddarpariaeth.  Gellid dadlau y byddai system lle byddai’r holl gyfundrefn yn cyfrannu yn gytbwys ar draws y gwasanaeth, ond gellid hefyd gweld mantais o gael cyswllt ariannol agosach gyda’r ysgolion hynny sydd â phlant yn mynychu’r gyfundrefn drochi, gan fod hynny’n sicrhau mwy o atebolrwydd a mwy o gyfrifoldeb gwirioneddol gan yr ysgolion hynny tuag at lwyddiant y system drochi.  Fodd bynnag, y cam cyntaf ar hyn o bryd oedd sefydlu’r weledigaeth, cael cydsyniad gwleidyddol a chorfforaethol ar hynny, a chael cydsyniad y Cabinet maes o law.  Yn dilyn hynny, gellid symud ymlaen i weithio drwy’r manylder, a phwysleisiwyd y byddai’r Adran yn hapus iawn i gynnwys yr aelodau etholedig yn y drafodaeth ar hyd y daith.

·         Nad gweddnewid y gyfundrefn yn llwyr oedd y nod, eithr adeiladu ar y cryfderau presennol, gan anelu tuag at ragoriaeth a chyrraedd mwy o blant. 

·         Er y deellid y ddadl y gallai dysgwyr sy’n mynychu eu hysgol leol am un diwrnod bob wythnos newid iaith yr ysgol honno, bod gan yr Awdurdod ddyletswydd gofal tuag at y plant yma, a rhan annatod a phwysig o’r gwasanaeth newydd fyddai sicrhau bod y plant hynny’n gallu dychwelyd i’r fam ysgol ar y pumed diwrnod, ac yn cael y cyfle i ddefnyddio’r Gymraeg yno.

·         Na ellid ymhelaethu ar y materion staffio ar hyn o bryd oherwydd yr angen i ymgynghori yn y lle cyntaf ar y weledigaeth, a derbyn sêl bendith gwleidyddol ar hynny.  Nid oedd gan y Cabinet rôl uniongyrchol mewn materion o gyflogaeth, a byddai’n rhaid i’r Adran ystyried ac ymgynghori ar y materion staffio maes o law.  Gan ei bod yn debygol y byddai’r staff fyddai’n gweithredu’r weledigaeth newydd yn perthyn i un endid, yn hytrach na chanolfannau unigol, byddai angen mwy o hyblygrwydd yn y system staffio fel bod modd dargyfeirio staff, o bosib’, er mwyn targedu union anghenion y plant.

·         Y derbynnid y sylw bod angen athrawon sy’n arbenigwyr ar gaffael iaith ymhob un o’r canolfannau, ac y byddai’r Adran yn sicrhau staffio priodol.

·         Bod y pwysau ar y gwasanaeth trochi wedi cynyddu yn ystod cyfnod y pandemig wrth i fwy o bobl o’r tu allan symud i Wynedd, a bod rhaid darparu system drochi sy’n ein galluogi i gyrraedd y plant ychwanegol yma sydd wedi symud i mewn i’r sir, ac a fydd yn symud i mewn yn y dyfodol.  Deellid y pryder ynglŷn â diffyg parhad y ganolfan iaith ym Mhenrhyndeudraeth, ond yr hyn oedd yn allweddol oedd bod yna ddarpariaeth ar gael o hyd i blant yr ardal honno, ac ardaloedd newydd yn derbyn buddsoddiad o’r newydd, sef Tywyn a Bangor, sef lleoliadau strategol lle’r oedd yr Adran yn rhagweld y byddai rhai o’r anghenion mwyaf i’r dyfodol.

·         O ran y rhesymeg dros ffurfio canolfannau blynyddoedd 5-9, gan adael y rhai cynradd yn flynyddoedd 2-4 yn unig, y ceisid targedu’r gwasanaeth a’r arbenigedd staff a’r dull o ddysgu tuag at adrannau penodol.  Roedd anghenion y plant ieuengaf yn dra gwahanol i anghenion y plant hŷn, a’r dulliau o ddysgu a mewnoli gwybodaeth, cymhathu sgiliau ayb, yn dra gwahanol wrth i ddatblygiad niwrolegol plentyn symud yn ei flaen.  Y bwriad yma oedd ceisio atgyfnerthu’r cysyniad o’r datblygiad sy’n digwydd o ganol yr oedran cynradd tuag at ganol yr oedran uwchradd.  Roedd yr Adran yn grediniol bod targedu’r oedran canol yma yn ffordd effeithiol o bontio i’r addysg mwy ffurfiol y tu hwnt i flwyddyn 9, ac hefyd yn fodd o gynyddu'r nifer o blant a phobl ifanc yng Ngwynedd sy’n parhau i astudio pynciau drwy gyfrwng y Gymraeg hyd at TGAU, Lefel A a thu hwnt.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a gofyn i’r Adran a’r Aelod Cabinet Addysg gymryd sylw o sylwadau’r pwyllgor, a bod y pwyllgor craffu yn derbyn adroddiad pellach ar hyn pan fydd mwy o fanylder ar gael.

 

 

Dogfennau ategol: