Cyflwyno adroddiad gan Uwch Reolwr Cyllid, Cyngor Gwynedd
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
Derbyn a chymeradwyo’r wybodaeth:
· Cyfrif Incwm a Gwariant Refeniw 2020/21
· Ffurflen Flynyddol ar gyfer y Flwyddyn
a Ddaeth i Ben 31 Mawrth 2021
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad gan Ffion Madog Evans (Uwch Rheolwr Cyllid) a oedd yn ymateb i ofyniad statudol o dan Adran 12 o Ddeddf Archwilio Gyhoeddus (Cymru) 2004 i adrodd ar ddatganiad cyfrifon blynyddol ar gyfer y Gwasanaeth Polisi Cynllunio ar y Cyd. Gan fod trosiant y Gwasanaeth yn is na £2.5m, fe ystyrir yn gorff Llywodraeth Leol lai o faint, gan hynny mae gofyn cwblhau ffurflen datganiadau cyfrifon a ddarparwyd gan Archwilio Cymru i gwrdd â’r gofynion statudol. Cyfeiriwyd at Atodiad 1 sydd yn cynnwys yr adroddiad alldro ac yn egluro sefyllfa derfynol incwm a gwariant refeniw'r Gwasanaeth ar gyfer 2020/21.
Amlygwyd fod y gyllideb i’w weld yn y golofn gyntaf gyda’r gwariant yn yr ail, yna mae posib archwilio’r gorwariant neu'r tanwariant yn y drydedd golofn. Nodwyd fod y gwariant am 2020/21 £49,239 yn is na’r gyllideb oedd ar gael, ac felly bu modd lleihau'r cyfraniad gofynnol i Gyngor Gwynedd a Môn i £218,326 yr un, sydd yn lleihad o dros £24,600 o’i gymharu gyda’r gyllideb. Ymhellach nodwyd nad oedd rhaid defnyddio’r gronfa wrth gefn. Wrth edrych yn fanylach ar y ffigyrau fesul pennawd, mae ardrawiad effaith Covid-19 a’r cyfnod clo yn amlwg ar y ffigyrau a gwahanol benawdau’r gyllideb, wrth i staff fod yn gweithio o adra, felly'r darlun yn gyson efo’r darlun ar draws y Cynghorau.
Nodwyd fod y cyfrifon eisoes wedi eu hanfon i sylw Archwilwyr Allanol, Swyddfa Archwilio Cymru. Dim ond os bydd newidiadau yn dilyn yr archwiliad hynny y bydd yna fersiwn ddiwygiedig yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor ar yr 22ain o Hydref, 2021. Gofynnwyd i’r Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd dderbyn a chymeradwyo’r cyfrifon am 2020/21 ac i’r Cadeirydd arwyddo’r ffurflen yn electroneg ar dudalen 12.
Materion a Godwyd
·
Cwestiynwyd y gorwariant misol o £48,000 a fod
hynny’n ymddangos i fod yn eithriadol o uchel.
·
Nodwyd fod y ffigyrau yn ymddangos yn rhesymol a
bod effaith a goblygiadau ariannol yn amlwg, hynny yw'r ffaith fod staff y
gweithio o adra, llai o gostau o ran swyddfeydd a llai o gostau teithio.
Ymhellach mynegwyd y ffaith fod yna ddefnydd da o adnoddau’r Gwasanaeth (staff)
wedi cael ei wneud er mwyn cynnal tasgau gwaith penodol.
·
Nodwyd fod y balans yn
ymddangos yn uchel a holwyd y rheswm am hynny.
·
Cydnabuwyd y gwariant sylweddol a fydd ei angen
er mwyn cynnal yr adolygiad o’r Cynllun, holwyd gan hynny a fydd angen edrych
ar gynyddu’r gyllideb.
·
Holwyd pam fod yr iaith gyfathrebu ar gyfer y
Ffurflen Flynyddol wedi dewis yr opsiwn Saesneg. Ymateb 3 ·
Cadarnhawyd mai tanwariant dros y flwyddyn yw £49,000 (nid gorwariant) ac yn
sgil hynny fod y cyfraniad ariannol gan y ddau awdurdod wedi bod yn is.
·
Nodwyd y sylw.
·
Amlygwyd fod y balans
wedi ei gronni dros y blynyddoedd ac felly fod hynny’n un o’r rhesymau pam ei
fod yn ymddangos yn uchel. Fodd bynnag mae’r arian hyn wrth gefn er mwyn cyfrannu
at wariant yn y dyfodol. Hynny’n benodol wrth ystyried y gyllideb sydd ei angen
er mwyn cynnal adolygiad o’r Cynllun a hefyd wrth ystyried yr arbedion sydd
angen ei ganfod ar gyfer y Gwasanaeth.
·
Cadarnhawyd na fyddai’r gyllideb bresennol yn
ddigonol er mwyn ariannu'r adolygiad o’r Cynllun ac y byddai rhaid i’r ddau
awdurdod ganfod yr arian priodol er mwyn gyfrannu’n ariannol tuag at y gyllideb
angenrheidiol.
·
Diolchwyd y Cynghorydd am dynnu sylw at y dewis
iaith a gadarnhawyd mai gwall ydoedd a fyddai’n cael ei gywiro gan mai drwy
gyfrwng y Gymraeg mae’r ohebiaeth yn cael ei wneud rhwng y Cyngor a Swyddfa
Archwilio Cymru.
Penderfyniad
Derbyniwyd a chymeradwywyd y ‘Cyfrif Incwm
a Gwariant refeniw 2020/2021 ynghyd a’r ‘Ffurflen Flynyddol’ ar gyfer y
flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2021. Cytunwyd y Cadeirydd i lofnodi’r
cyfrifon yn electroneg, gan gadarnhau ei bod wedi cael ei gymeradwyo gan y
Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd.
Dogfennau ategol: