Ystyried
unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.19 o’r
Cyfansoddiad.
COFNODION:
(Dosbarthwyd atebion
ysgrifenedig yr Aelodau Cabinet i’r cwestiynau i’r aelodau ymlaen llaw.)
(1) Cwestiwn gan y Cynghorydd Owain Williams
“Pa ymateb mae
Cyngor Gwynedd am ei roi i’r datganiad haerllug gan Lywodraeth San Steffan, a’r
Blaid Dorïaid yn arbennig, sef ein gorchymyn i gyhwfan fflag ‘Jac yr Undeb’
uwchben ac ar ochrau adeiladau'r ‘Ymerodraeth’, sef y Deyrnas Unedig, yma yng
Nghymru?”
Ateb gan yr Aelod
Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol, y Cynghorydd Nia Jeffreys
“Nid gorchmynion ydi’r rhain, ond canllawiau ac anogaeth i godi Baner yr
Undeb ar adeiladau yng Ngwledydd Prydain.
Mae'r Cyngor yn gyfrifol am hedfan baneri ar ei adeiladau ei hun, ac mae
gennym eisoes bolisi ar gyfer hynny.
Rwyf wedi anfon ymlaen fanylion y polisi hwnnw at yr aelodau er
gwybodaeth.”
Cwestiwn Atodol gan y
Cynghorydd Owain Williams
“Gofynnaf i’r Cyngor hwn gysylltu â Swyddfa Prif Weinidog y Deyrnas
Unedig a gofyn am esboniad ac ymddiheuriad am sarhau a bychanu ein cenedl.”
Ateb gan yr Aelod
Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol, y Cynghorydd Nia Jeffreys
“Rydw innau’n
cytuno hefyd bod yr agwedd yn haerllug ac yn sarhaus. Rydym ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu
rwy’n meddwl o fewn y Cyngor yma. Er
enghraifft, yn ddiweddar roedd Gweinidogion Prydain eisiau ‘UK Day’ ac eisiau
i’r plant ganu ryw gân yn yr ysgolion am undeb a chryfder y Deyrnas Unedig. Rydw i’n ddiolchgar iawn i Gymdeithas
Bêl-droed Cymru am gael y syniad bod plant yn ysgolion Cymru yn canu'r anthem
genedlaethol ar yr un diwrnod, ac roeddwn yn andros o falch o weld ar y
newyddion ac ar y cyfryngau cymdeithasol, yn dilyn arweiniad gan y Pennaeth
Addysg yng Ngwynedd, bod plant ar draws ysgolion Gwynedd yn gwneud hynny. Felly rwy’n meddwl ein bod ni fel Cyngor yn
gwneud popeth o fewn ein gallu i hyrwyddo ein diwylliant a’n hunaniaeth
Gymreig.”
(2) Cwestiwn gan y Cynghorydd Alwyn Gruffydd
“Gan ystyried bod
y ‘Cynllun Gweithredu Tai’ yn labelu Cynllun Cymorth Prynu yn un “hynod
boblogaidd” a bod yr arian a fuddsoddir yn y cynllun yn gallu cael ei “ail
gylchu”, ac o ystyried y gost sydd ynghlwm ag adeiladu tai newydd, ac na fedrwn
ni adeiladu ein hunain allan o’r argyfwng cartrefi beth bynnag, onid yw’n
anghenraid i’r Cyngor hybu defnydd llawer ehangach o gynlluniau darparu
ecwiti fel cynllun ‘Prynu Cartref-Cymru’ sy’n llawer mwy cost effeithiol ac yn
fodd amgenach na dim byd arall i helpu pobl fyw yn eu cynefin?”
Ateb gan yr Aelod
Cabinet Tai, y Cynghorydd Craig ab Iago
“Rydym ni ynghanol
argyfwng tai go iawn, ac mae gan bawb ohonom straeon neu enghreifftiau yn ein
wardiau o annhegwch a phrisiau tai rhy uchel, neu golli adeiladau i bobl o’r tu
allan sy’n dymuno gwneud pres hawdd. Mae’r
sefyllfa yn mynd yn fwy anobeithiol bob dydd.
Roeddem yn clywed yn ddiweddar mai ein prisiau tai ni oedd wedi codi
fwyaf ym Mhrydain. Mae’r rhain yn bethau
rydym i gyd yn poeni amdanynt, ac mi fuaswn i’n dweud mai dyma’r flaenoriaeth
uchaf i ni i gyd o ran y pethau rydym eisiau eu datrys. A dyna’r ydi’r Cynllun Gweithredu Tai -
ffordd o ymateb i hynny o’r ochr tai, ac mae’r cynllun wedi ei adeiladu ar
gyfer un pwrpas, sef i gartrefu pobl leol.
Dyna’r ethos y tu ôl i bob dim yn y cynllun. Mae’n hollol arloesol ac rydym yn arwain ar
hyn drwy Brydain oherwydd bod y cynllun yn bodoli yn llwyr ar gyfer hynny. Ond rydym ni wedi adeiladu hyblygrwydd i’r
system. Rydym ni’n ceisio treialu cymaint
o bethau ag y gallwn, ac rydym yn mynd i wneud y gwaith dros y blynyddoedd. Mae’r cynllun mae’r Cynghorydd Alwyn Gruffydd
yn sôn amdano ynddo. Ond wrth gwrs, nid
yw ein hymateb ni yn y fan yna yn mynd i ddatrys y broblem nes y byddwn yn
taclo’r ochr cynllunio, a dim ond un ffordd sydd o daclo hynny, ac am ryw reswm
mae’n glir i mi nad oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw fwriad i wneud hynny. Mi fyddech yn disgwyl hyn gan Lywodraeth San
Steffan, gan nad ydynt yn poeni amdanom ni o gwbl, ond ni fyddech yn disgwyl
diffyg ymateb gan Lywodraeth Cymru!
Mae’n anodd iawn deall pam fyddai ein Llywodraeth ni eisiau gweld ein
cymunedau yn marw, fel sy’n digwydd rŵan, a ddim yn ymateb o gwbl. Ond dyna’r sefyllfa rydym ni ynddi
rŵan. Yr oll fedrwn ni wneud ydi
parhau i roi pwysau arnynt, a thrafod hyn a chadw hyn yn y newyddion fel rydym
yn wneud eisoes. Pe byddent yn rhoi
rhagor o bres i ni ar yr ochr tai i fuddsoddi yn hyn, mi fyddem yn gwneud
hynny, oherwydd dyna rydym eisiau wneud.
Nid oes yna ddiffyg awydd yma i ateb y broblem a gwneud mwy o’r hyn
rydym yn ceisio ei wneud, dim ond diffyg adnoddau ar hyn o bryd.”
Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Alwyn Gruffydd
“Onid yw’n hen bryd i’r Cyngor yma
ddechrau cynnig morgeisi i bobl leol?
Ateb gan yr Aelod
Cabinet Tai, y Cynghorydd Craig ab Iago
“Rydym wedi bod yn
trafod yn yr Adran ers tua blwyddyn a hanner rŵan. Mae yna fwy y gallwn ni wneud, ac rydym ni’n
dysgu hefyd. Nid ydym yn dweud bod pob
dim yn y Cynllun Gweithredu Tai. Rydym
ni eisiau ychwanegu mwy iddo, ond wrth gwrs, mae yna ddiffyg pres, diffyg
adnoddau a diffyg amser. Ond yn bendant,
mae’n rhywbeth rydym ni wedi bod yn drafod.
Ni does yna ateb syml i hyn.
Rydym ni angen gwneud cymaint o bethau gwahanol ag y gallwn, ond yr ateb
ydi datrys yr ochr cynllunio.”
(3) Cwestiwn gan y Cynghorydd Beca Brown
“Hoffwn ddiweddariad ar faterion yn codi o’r argyfwng newid hinsawdd –
beth sydd wedi digwydd hyd yma, a beth yw cynlluniau’r Cyngor o hyn allan?”
Ateb gan yr Arweinydd, y
Cynghorydd Dyfrig Siencyn
“Hwn yw’r pwnc
pwysicaf fedrwn ni drafod y dyddiau hyn, ac oherwydd ei fod yn fater
corfforaethol, trawsadrannol, mae’n briodol i mi ateb y cwestiwn.
Efallai y byddwch yn cofio i chi dderbyn adroddiad ar y mater i gyfarfod
y Cyngor ar 19 Rhagfyr 2019, lle y bu i ni adrodd fod y Cabinet wedi sefydlu
tasglu er mwyn ystyried beth ymhellach sydd angen ei wneud yn y maes. Nodwyd y bwriad i lunio Cynllun Gweithredu
Newid Hinsawdd cyngor-gyfan hefyd.
Rhaid cydnabod fod
y gwaith wedi colli momentwm o ganlyniad i argyfwng Covid-19. Mae’r gwaith mae adrannau’r Cyngor yn ei
wneud yn y meysydd perthnasol (ailgylchu, datgarboneiddio, ymateb i lifogydd,
bioamrywiaeth) ayb wedi parhau wrth reswm, ond er bod swyddogion wedi bod yn
gweithio ar ddrafft, mae’r amserlen ar gyfer cyhoeddi’r cynllun gweithredu wedi
llithro.
Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol o bwysigrwydd ail afael yn y maes gwaith
yma ar fyrder, ac yn ei gyfarfod ym mis Ionawr 2021, penderfynodd y Cabinet
sefydlu Bwrdd Newid Hinsawdd i lywio’r gwaith.
Penderfynwyd hefyd i ariannu rheolwr prosiect am gyfnod o 12 mis yn y
lle cyntaf er mwyn cyfarch yr elfen sylfaenol o gydlynu’r holl waith. Mae swyddog wedi’i phenodi i’r swydd Rheolwr
Rhaglen Newid Hinsawdd erbyn hyn ac wedi cychwyn ar y gwaith yr wythnos hon.
Bydd y Bwrdd Newid Hinsawdd yn cwrdd yn yr wythnosau nesaf er mwyn
ailgydio yn y gwaith. Y flaenoriaeth
fydd i lunio rhaglen waith ar gyfer y chwe mis nesaf, a bydd hyn yn cynnwys
cynnal gweithdai efo chi fel aelodau er mwyn ystyried a oes unrhyw fylchau yn
ein cynllun gweithredu drafft, a diweddaru’r cynllun er mwyn ei gyhoeddi’n
derfynol cyn diwedd 2021.”
Cwestiwn Atodol gan y
Cynghorydd Beca Brown
“A fydd y cyhoedd yn gallu rhoi mewnbwn hefyd?”
Ateb gan yr Arweinydd, y
Cynghorydd Dyfrig Siencyn
“Mae hyn yn bwysig
ac rydym ni’n ymwybodol fod ein dinasyddion yn awyddus i gymryd rhan yn y
drafodaeth yma. Fel rhan o’n strategaeth
adfywio, rydym ar fin dechrau cynllun ymgysylltu, neu sgwrs, hefo’n cymunedau
yn yr 13 ardal llesiant ar amrywiaeth o bynciau, ac am ofyn iddyn nhw sut maen
nhw’n gweld eu hardal hwy yn 2035, a gofyn iddyn nhw beth yw eu blaenoriaethau
a beth sydd yn eu poeni. Nid yw’r
atebion i gyd gennym ni ac rydym yn awyddus i gael adborth gan drigolion lleol,
ac os oes yna syniadau am gynlluniau gweithredol, yna fe ddylem fod yn
cyd-gynhyrchu’r cynlluniau hynny. Dyma
gam cyntaf y daith honno, sy’n glamp o waith a dweud y gwir, ac mae gennym 10 o
swyddogion sy’n mynd i gychwyn ar y gwaith o fynd allan at yr ardaloedd
llesiant, ac rydym ni’n rhoi blaenoriaeth iddo.
Os bydd angen rhoi rhagor o adnoddau i mewn, byddwn yn gwneud
hynny. Rhan gyntaf y broses fydd siarad
hefo ein cynghorwyr lleol oherwydd bod ganddynt storfa o wybodaeth werthfawr
iawn am eu cymunedau a phwy o fewn eu cymunedau sy’n arwain, neu’n gallu
cyfrannu at y drafodaeth. Bydd hynny yn
cychwyn yn fuan, ac mae gen i gais yma i’r aelodau i gyd, yn arbennig gyda
phwnc fel newid hinsawdd, i ystyried beth sy’n digwydd yn ein hardaloedd, ac
rydym yn awyddus i glywed eich syniadau er mwyn i ni allu cydweithio gyda’n
cymunedau.”
(4) Cwestiwn gan y Cynghorydd Gruffydd Williams
“O ystyried bod yna 3 gwaith mwy o dai haf yma yng Ngwynedd nag o unedau
gwyliau, ac mai yma yng Ngwynedd mae’r nifer uchaf o dai haf yng Nghymru, onid
ydi’r Arweinydd yn gweld fod pwyso ar Lywodraeth Cymru i fynd ar ôl y cynllun 3
pwynt yn strategaeth wan?”
Ateb gan Yr Arweinydd, y
Cynghorydd Dyfrig Siencyn
“Na. Bydd Aelodau yn ymwybodol fod Adroddiad Dr
Simon Brooks, “Ail Gartrefi: Datblygu Polisïau yng Nghymru”, wedi ei seilio i
raddau helaeth iawn ar waith ymchwil trylwyr gan Adran Gynllunio'r Cyngor
hwn. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i
ddiolch i’r swyddogion cynllunio sy’n parhau i weithio ac i ymchwilio i mewn
i’r meysydd yma. Roedd adroddiad Dr
Simon Brooks yn gwneud 12 argymhelliad a bu i Gabinet y Cyngor benderfynu yn ei
gyfarfod ar Fehefin y 15fed i alw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar frys a
mabwysiadu pob un o’r 12 argymhelliad hwnnw. Gofynnwyd hefyd i’r Llywodraeth
gryfhau'r argymhelliad sydd yn ceisio ymateb i’r sefyllfa bresennol lle mae
modd i berchennog ail gartref osgoi talu treth Cyngor.
Galwodd y Cabinet
hefyd ar y Llywodraeth i flaenoriaethu'r argymhellion a fyddai’n gwneud y
gwahaniaeth mwyaf, gan adnabod y tri a ddylai gael eu gweithredu ar fyrder.
Yn dilyn
penderfyniad y Cabinet fe ysgrifennais at y Prif Weinidog yn galw arno i
weithredu yn ddi-oed. Mae copi o’r llythyr hwnnw wedi’i gynnwys fel rhan o
eitem 14(b) ar raglen y Cyngor hwn.
Rydym ni wedi cael ymateb fore heddiw
gan y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James AS.
Mae’n ymateb hir a thechnegol, sy’n sylfaenol yn dweud bod rhaid dilyn y
canllawiau sy’n bodoli a’r ddeddfwriaeth sy’n bodoli, ond fe wnawn rannu’r
ymateb hwnnw gyda’r holl aelodau cyn gynted ag y medrwn ni.”
Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Gruffydd Williams
“Ydi’r Arweinydd yn cytuno, o ystyried
bod y Llywodraeth bellach wedi addo cyfarch 2 o’r 3 phwynt yma y mae ef yn
pwyso amdanynt, ei bod yn amlwg bellach bod angen mynd i’r afael â materion
ehangach a phwysicach o lawer, sef y broblem tai haf?”
Ateb gan yr Arweinydd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn
“Rydym ni’n
siomedig i raddau helaeth nad yw’r Llywodraeth yn cymryd camau pendant, ond
rydym yn falch eu bod am gynnal y drafodaeth hefo ni, ac rydw i wedi mynegi
eisoes fy awydd i fod yn rhan o’r sgwrs honno.
Byddaf yn cyfeirio at y materion hynny rydym ni’n meddwl sy’n mynd i
gael yr effaith fwyaf ar dai haf, ail gartrefi, ayb, a gallaf eich sicrhau y
byddaf yn rhoi blaenoriaeth i hyn, ac yn gosod ein safbwynt ni fel Cyngor yn
glir iawn. Mewn cyfarfod ddoe gyda’r
Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, Rebecca Evans AS, fe godwyd y mater o dai
gwledig, ac fe ddywedodd hi fod hyn yn flaenoriaeth i’r Llywodraeth. Mae hynny’n rhyw fath o gysur i ni, ac mae
hi’n mynd i gychwyn ar daith rithiol o gwmpas y cynghorau ddiwedd y mis. Rwy’n credu bod cyfarfod wedi’i drefnu
rhyngddi hi a mi ddiwedd y mis yma gyda’r Prif Weithredwr. Felly byddaf yn dal ar bob cyfle i bwyso ac i
ofyn i’r Llywodraeth weithredu cyn gynted â phosib’, ac rwy’n gobeithio y
medraf ddwyn dylanwad arnynt.”