Cyflwyno adroddiad
Arweinydd y Cyngor.
Penderfyniad:
Cymeradwyo’r adroddiad fel
adlewyrchiad cywir, cytbwys a chlir o berfformiad y Cyngor yn ystod 2020/21,
a’i fabwysiadu.
COFNODION:
Cyflwynodd yr
Arweinydd adroddiad yn gofyn i’r Cyngor gymeradwyo a mabwysiadu Adroddiad
Perfformiad Cyngor Gwynedd 20120/21 fel darlun clir, cytbwys a chywir o
berfformiad y Cyngor yn ystod 2020/21.
Diolchodd i bob
aelod o staff oedd wedi cyfrannu at y gwaith, ac yn arbennig i’r Rheolwr Gwasanaeth
Cefnogi Busnes y Cyngor a’r Swyddog Cefnogi Busnes am gasglu’r holl wybodaeth,
ac am baratoi’r adroddiad mewn ffordd mor ddealladwy a diddorol.
Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau. Codwyd y materion a ganlyn gan aelodau unigol:-
·
Gan gyfeirio at
dudalen 46 o’r rhaglen, sy’n nodi y bydd Cais Twf Gogledd Cymru yn arwain at
£1.1bn o fuddsoddiad yn rhanbarth y Gogledd dros y deg mlynedd nesaf, gan greu hyd
at 4,000 o swyddi ledled y Gogledd, holwyd faint o’r buddsoddiad hwn fyddai’n
debygol o ddod i Wynedd. Mewn ymateb,
nodwyd na chredid bod yna dargedau penodol ar gyfer Gwynedd, ond y bwriedid
cadw golwg ar y sefyllfa, gan adrodd yn ôl i Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd
Cymru ar yr hyn sy’n digwydd. Eglurwyd
bod nifer o brosiectau yn mynd ar draws y rhanbarth, megis y prosiectau digidol
sy’n ymestyn a gwella cysylltedd digidol ar draws yr holl ranbarth. Roedd niferoedd swyddi wedi’u pennu ar gyfer
prosiectau penodol ym Mhrifysgol Bangor a Glynllifon, a gellid darparu mwy o
fanylion i’r aelodau am rheini i’r dyfodol.
·
Yn wyneb y ffaith bod Wylfa B yn annhebygol
iawn o ddigwydd bellach, gofynnwyd o ble fyddai’r miloedd o swyddi newydd a
addawyd yn dod, a phwy fyddai’n dod i’r 8,000 o dai ychwanegol fyddai’n weddill
yng Ngwynedd a Môn. Mewn ymateb,
eglurwyd nad oedd Wylfa B yn rhan o brosiectau Bwrdd Uchelgais Economaidd
Gogledd Cymru, nac wedi’i gynnwys yn eu ffigurau swyddi. Byddai’r newidiadau o ganlyniad i beth bynnag
fyddai’n digwydd i safle Wylfa B yn dod i mewn i’r adolygiad o’r Cynllun
Datblygu Lleol, ynghyd ag unrhyw faterion eraill sy’n berthnasol i ail-edrych
arnynt, megis niferoedd tai a niferoedd swyddi.
·
Gan gyfeirio at dudalen 49 o’r rhaglen, sy’n
cyfeirio at sicrhau arian Ewropeaidd i wireddu cynlluniau fel rhan o’r prosiect
Creu Swyddi Gwerth Uchel, holwyd beth fyddai effaith Brexit ar y buddsoddiadau
presennol, a buddsoddiadau i’r dyfodol.
Mewn ymateb, nodwyd bod nifer o brosiectau yn eu lle yn barod sy’n
manteisio ar gronfeydd Ewrop, a chredid y byddai'r rheini’n parhau tan
2023. Fodd bynnag, byddai’r arian i’r
dyfodol yn llawer llai na’r £350m yr wythnos a addawyd gan Lywodraeth Prydain,
ac er bod y Gronfa Ffyniant Gyffredin i fod i wneud iawn am hynny, roedd yn
rhaid i’r holl gynghorau sir ar draws Prydain gystadlu am y symiau pitw oedd ar
gael.
·
Gan gyfeirio at dudalennau 122-123 o’r rhaglen,
mynegwyd anfodlonrwydd bod ceisiadau cynllunio wedi cymryd 89 diwrnod ar
gyfartaledd i gyrraedd penderfyniad yn ystod 2020/21, a bod un cais wedi cymryd
blwyddyn gyfan. Ychwanegwyd, yn sgil
codi’r mater gyda’r Adran, y daeth i’r amlwg bod y swyddog oedd yn delio â’r
cais yn sâl, a holwyd i ba raddau roedd rheolwyr yn goruchwylio swyddogion sy’n
gweithio o adref o safbwynt eu lles a’u hiechyd meddwl. Mewn ymateb, eglurwyd na ellid rhoi sylw ar
achos unigol, ond gofynnwyd i’r aelodau gyfeirio unrhyw bryderon o’r fath i
sylw’r Prif Weithredwr. Ychwanegwyd ei
bod yn bwysig cydnabod bod y staff wedi bod trwy gyfnod o newid anferthol yn
ystod y deunaw mis diwethaf, ac wedi gallu ymdopi’n wych gyda hynny i raddau
helaeth iawn. Ni chredid bod y staff
angen goruchwyliaeth yn y mwyafrif o achosion, gan eu bod yn bobl ymdrechgar a
chydwybodol sy’n gwneud eu gorau bob amser.
Fodd bynnag, roeddent angen cefnogaeth, yn arbennig wrth weithio’n bell
o adref, ac ar wahân i’w timau o ddydd i ddydd, ac roedd trefniadau a
chefnogaeth mewn lle i sicrhau bod hynny’n digwydd ym mhob rhan o’r Cyngor.
·
Croesawyd y cyfeiriad at sefydlu Cynllun
Awtistiaeth yng Ngwynedd yn adroddiad yr Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd, ond
nodwyd nad oedd son am y cynllun yn adroddiad yr Adran Oedolion, Iechyd a
Llesiant. Mewn ymateb, eglurwyd bod y cynllun
yn ymddangos yn adroddiad yr Adran Plant a Theuluoedd gan mai’r Adran honno
sy’n arwain ar y gwaith ac yn herio perfformiad y Grŵp Prosiect
traws-adrannol (sy’n cynnwys swyddogion o’r Adran Plant a Theuluoedd a’r Adran
Oedolion, Iechyd a Llesiant, ynghyd â phartneriaid megis Cyngor Ynys Môn a’r
Bwrdd Iechyd). Eglurwyd bod y cynllun yn
gorwedd o fewn yr Adran Plant a Theuluoedd oherwydd yr angen i’r gefnogaeth
gychwyn o blentyndod yr unigolyn, ond roedd yn gynllun gydol oes wrth i’r
unigolyn drosglwyddo o’r Gwasanaeth Plant i’r Gwasanaeth Oedolion. Nodwyd ymhellach, petai aelodau yn dymuno
gwybod mwy am y gweithgaredd a’r prosiect, a chael cyfle i rannu barn a
phrofiadau personol mewn ambell achos, y gellid trefnu iddynt gyfarfod y ddau
Aelod Cabinet a’r swyddogion perthnasol.
·
Holwyd a oedd Gwynedd yn barod am y don o
broblemau iechyd meddwl fydd yn dod yn sgil Cofid. Mewn ymateb, nodwyd bod trafodaethau ar y
gweill rhwng y Cyngor a’r Bwrdd Iechyd er mwyn ceisio rhagweld beth fydd maint
y galw i’r dyfodol. Ychwanegwyd y
byddai’r Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant yn fodlon iawn trefnu
cyfarfod rhwng yr aelodau a’r swyddogion perthnasol i gael gwell
dealltwriaeth. Nodwyd ymhellach bod y
cynnydd mewn achosion yn amlygu ei hun drwy wasanaethau’r Cyngor gyda
chwsmeriaid yn troi at y Cyngor o bob cyfeiriad. Er enghraifft, yn y maes tai, gwelwyd cynnydd
difrifol dros y deunaw mis diwethaf yn y niferoedd o bobl sy’n colli
tenantiaethau oherwydd problemau iechyd meddwl, ond llwyddodd y Cyngor i gyllido
aelod newydd o staff yn y Tîm Iechyd Meddwl yn y Gwasanaeth Iechyd fyddai ar
gael yn benodol i helpu tenantiaid tai cymdeithasol i warchod eu
tenantiaethau.
·
Gan gyfeirio at
dudalen 61 o’r rhaglen, llongyfarchwyd yr Adran Addysg ar gwblhau’r gwaith o
sefydlu adeilad newydd ar gyfer Ysgol y Garnedd ym Mangor.
·
Gan gyfeirio at
dudalen 103 o’r rhaglen, holwyd sut y gellid bod yn sicr mai llwyddiant
strategaeth y Cyngor, yn hytrach na phlant yn cael eu colli o dan y radar
oherwydd Covid, oedd yn gyfrifol am y peth gostyngiad yn nifer y plant mewn
gofal yn 2020/21. Mewn ymateb, nodwyd y
bu’r Cyngor dan bwysau gan Lywodraeth Cymru i osod targedau ar y niferoedd
plant mewn gofal, ond y gwrthodwyd gwneud hynny gan na chredid bod targed yn
addas, a bod y Cyngor yn darparu yn ôl yr angen, yn hytrach nag er mwyn
cyrraedd unrhyw dargedau. Canmolwyd y
cydweithio rhwng yr Adran Addysg a’r Adran Plant a Theuluoedd, a diolchwyd yn
arbennig i staff yr ysgolion am adnabod a chyfeirio plant allai fod wedi mynd o
dan y radar oherwydd Covid ymlaen i’r Gwasanaeth Plant. Nodwyd ymhellach bod trefniadau’r Adran yn
gadarn iawn o ran asesu’r data yng nghyswllt y cyfeiriadau, e.e. ydi’r
cyfeiriadau yn debyg i’r flwyddyn ddiwethaf, ac i flynyddoedd tebyg? Hefyd, roedd llawer o waith triongli yn
digwydd er mwyn gweld beth mae’r data yn ddweud wrthym. Er hynny, roedd yn anodd gwybod i sicrwydd
bod popeth yn dod i mewn fel y dylai oherwydd y bu’r cyfnod yn un na welwyd ei
debyg o’r blaen. Nodwyd ymhellach y
cynhaliwyd sawl ymgyrch i sicrhau bod pawb yn y gymdeithas, y staff ac aelodau
yn cadw llygaid agored, ac yn cyfeirio unrhyw fater o bryder i’r Tîm Cyfeirio,
a thrwy gydweithio gyda’r heddlu, a phartneriaid allweddol eraill, hyderid bod
y Cyngor yn gwneud popeth y gallai i sicrhau bod y materion diogelu hyn yn dod
i sylw’r Adran. Hefyd, fel rhan o’r
strategaeth cadw teuluoedd hefo’i gilydd, roedd cyfraddau uchel iawn o blant yn
gallu aros gyda’u rheini, neu deulu estynedig, yn hytrach na mynd i ofal.
·
Gan gyfeirio at dudalen 124 o’r rhaglen, holwyd
beth oedd y sefyllfa ddiweddaraf o ran ail-gychwyn y gwasanaethau trafnidiaeth
gyhoeddus a dorrwyd yn ystod y cyfnod Covid, a chynllun Llywodraeth Cymru o ran
gwella trafnidiaeth gyhoeddus. Mewn
ymateb, nodwyd y bu i’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters, AS ddod â
chynllun trafnidiaeth uchelgeisiol iawn gerbron, oedd yn diystyru anghenion yr
ardaloedd gwledig. Yn dilyn gwneud sylw
ynglŷn â hyn, cyflwynodd y Dirprwy Weinidog gynllun gwledig rhyfeddol, er
nad oedd yn glir sut y byddai’n cael ei gyflawni. Nid oedd y sefyllfa o ran y gwasanaeth
presennol yn eglur, ond pryderid bod y Llywodraeth a’i bryd ar ganoli’r
gwasanaeth bysiau gyda Thrafnidiaeth Cymru, ac nid oedd hynny’n codi llawer o
obaith am wella’r gwasanaeth yng Ngwynedd.
Nodwyd ymhellach bod yr Adran Amgylchedd wedi gwneud darn o waith cyn y
pandemig yn edrych ar y ddarpariaeth, megis pryd fyddai’n bosib’ defnyddio
tacsi neu fws mini, yn hytrach na bws sy’n dal 50 o bobl. Roedd y pandemig wedi taro’r Adran yn galed
iawn a bu’r Llywodraeth yn sybsideiddio’r ochr yma o’r gwaith yn fawr iawn yn
ystod y pandemig. Roedd y Llywodraeth,
drwy Drafnidiaeth Cymru, wedi bod yn ceisio gwthio ymlaen gyda chynlluniau
newydd, ond nid oedd y darlun cyflawn o ran yr hyn oedd ganddynt dan sylw yn
eglur hyd yma. Gofynnwyd i unrhyw
aelodau oedd yn cael trafferthion yn lleol ddod â thystiolaeth o hynny i sylw’r
Adran.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r adroddiad fel adlewyrchiad cywir, cytbwys a chlir
o berfformiad y Cyngor yn ystod 2020/21, a’i fabwysiadu.
Dogfennau ategol: