Cymeradwyo’r
Datganiad at bwrpasau ei arwyddo gan Arweinydd y Cyngor a’r Prif Weithredwr
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad
Cymeradwyo’r datganiad
Argymell bod Arweinydd y
Cyngor a Prif Weithredwr y Cyngor yn ei arwyddo
Cofnod:
Cyflwynwyd y datganiad gan Pennaeth Cynorthwyol - Refeniw a Risg. Eglurodd bod y datganiad, er nad yn rhan o’r cyfrifon,
yn ddogfen statudol ac angen ei chyhoeddi gyda’r cyfrifon. Yn unol â Rheoliadau
Cyfrifon Archwilio (Cymru) a Chod ymarfer CIPFA mae’n rhaid i bob Awdurdod
Lleol sicrhau bod datganiad o reolaeth fewnol yn ei le. Adroddwyd mai’r Prif
Weithredwr ac Arweinydd y Cyngor sydd yn arwyddo’r datganiad er bod angen
cymeradwyaeth gan y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu.
Rhoddwyd ychydig o gefndir i’r datganiad gan
nodi bod dyletswydd ar bob Awdurdod Lleol i gyflwyno
datganiad blynyddol ac er yn wahanol
o ran fformat neu ddull mae
eu cynnwys yn debyg iawn.
Yng Ngwynedd, y Grŵp Asesu Trefniadau Llywodraethu, o dan arweiniad y Prif Weithredwr sydd yn adolygu'r
gofrestr risg. Bydd y grŵp yn trafod risgiau
mewn 23 o feysydd llywodraethu gwahanol, gan nodi’r rheolaethau
sydd gan y Cyngor yn eu lle
er mwyn lliniaru’r
risgiau hynny. Caiff hyn ei
wneud mewn ymateb i fframwaith
CIPFA sydd yn adnabod egwyddorion craidd ar gyfer
llywodraethu da.
Amlygwyd bod risg newydd wedi
cael ei ychwanegu
yn ystod 2021/21, sef ‘Trefniadau a gweithredu annigonol gan Wasanaethau’r Cyngor i reoli rigiau
iechyd a diogelwch yn effeithiol’. Ategwyd bod y risg yma yn wreiddiol
wedi ei gynnwys
o fewn y risg mwy cyffredinol ‘Trefniadau Rheoli Risg’, ond ystyriwyd
bod Iechyd, Diogelwch a Llesiant yn cyflwyno
risgiau unigryw ac o ganlyniad y byddai’n briodol i’r maes
gael sylw penodol o fewn y gofrestr risg llywodraethu.
Adroddwyd bod y Grŵp wedi dod i gasgliad bod 0 maes gyda risgiau uchel
iawn, 2 faes risgiau uchel, 12 maes risgiau canolig
a 9 maes risgiau isel. Nodwyd mai'r
meysydd risg uchel oedd ‘Diwylliant’
a’r risg newydd ‘Iechyd, Diogelwch a Llesiant’.
Tynnwyd sylw hefyd at newid
mewn sgôr risg ‘gwendidau wrth reoli arian
cyhoeddus’ sydd yn golygu nad
yw cyllid y Cyngor yn cael ei
ddefnyddio at ei flaenoriaethau. Addaswyd y sgôr oherwydd, er bod trefniadau cynllunio ariannol y Cyngor yn parhau’n gryf,
mae’r sgôr tebygolrwydd wedi newid i 3 gan
fod cynlluniau arbedion bellach am fod y anoddach i’w gwireddu.
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau:
·
Bod angen mwy o wybodaeth am y tîm newydd a sefydlwyd
ar gyfer cryfhau’r gefnogaeth i drefniadau Craffu
·
Angen ystyried risg i asedau eiddo'r
Cyngor - hyn yn debygol o gynyddu o ganlyniad i staff y Cyngor yn gweithio o adre
a swyddfeydd yn wag
Mewn ymateb i gais
am fwy o wybodaeth am drefniadau rheoli CCTV amlygwyd bod cynllun gwybodaeth newydd wedi ei sefydlu
gan Cefnogaeth Gorfforaethol mewn ymateb i adnabod
risg o warchod / diogelu data sydd yn ymddangos ar
CCTV. Nodwyd bod bwriad i sicrhau bod y wybodaeth sydd yn cael ei
ddal ar CCTV yn cael ei
ystyried fel ‘data’ ac o ganlyniad yn cael ei
reoli drwy ganllawiau rheoli data.
PENDERFYNWYD
Derbyn yr adroddiad
Cymeradwyo’r datganiad
Argymell bod Arweinydd y Cyngor a Prif Weithredwr y
Cyngor yn ei arwyddo
Dogfennau ategol: