Cyflwynwyd gan:Cyng. Dyfrig Siecyn
Penderfyniad:
Cymeradwywyd Adroddiad Perfformiad Cyngor Gwynedd 2020/21 ac
argymhellwyd i’r Cyngor Llawn ei fabwysiadu yn y Cyngor Llawn ar yr 8
Gorffennaf 2021.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dyfrig
Siencyn.
PENDERFYNIAD
Cymeradwywyd Adroddiad Perfformiad Cyngor Gwynedd 2020/21 ac
argymhellwyd i’r Cyngor Llawn ei fabwysiadu yn y Cyngor Llawn ar yr 8
Gorffennaf 2021.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei bod yn bleser
ei gyflwyno. Pwysleisiwyd fod y ddogfen yn un clir, darllenadwy sy’n rhoi
darlun clir o waith yr holl gyngor. Eglurwyd fod un rhan a’r ddechrau’r
adroddiad yn rhoi disgrifiad o’r gwaith a wnaethpwyd ar ddechrau’r cyfnod clo
pan fu i waith y Cyngor gael ei gyfyngu o ganlyniad i’r rheoliadau covid. Eglurwyd fod staff y Cyngor wedi ymateb yn ystwyth a
hyblyg i gyfarch y sefyllfa ac wedi gweithio i greu ffordd newydd o weithio.
Diolchwyd i’r holl staff am fod mor barod i addasu ac i ymateb mor gyflym ac effeithlon
i’r cyfnod clo.
Nodwyd fod yr adroddiad yn amlygu
blaenoriaethau’r Cyngor gan bwysleisio'r angen i barhau i drafod y maes
twristiaeth gynaliadwy. Nodwyd y bydd yr Adran Addysg yn parhau i weithio i wella’r ddarpariaeth addysg o fewn
y sir, gan nodi fod gwaith wedi ei wneud yn Ysgol Godrau’r
Berwyn ac Ysgol y Garnedd a bod ysgol newydd ar ei ffordd yng Nghricieth.
Mynegwyd yn wyneb yr argyfwng tai fod y
Cynllun Gweithredu Tai yn ei le. Nodwyd fod y cynllun hwn yn uchelgeisiol ac
arloesol a bod ymrwymiad o £77miliwn o arian ar gyfer cyfnod y cynllun.
Esboniwyd fod rhai adrannau yn anweledig gan
drigolion y sir ac wedi ei effeithio dros y blynyddoedd gan doriadau. Amlygwyd
adran Gwarchod y Cyhoedd sydd wedi delio gyda nifer o newidiadau o ganlyniad i
argyfwng Covid-19. Diolchwyd i staff am ymroi i’r drefn Profi, Olrhain a
Diogelu sydd wedi amlygu gallu Llywodraeth Leol i wneud y gwaith heb wastraffu
arian ar gwmnïau allanol.
Mynegwyd mai dyma Adroddiad Blynyddol olaf y
tymor yma ac y bydd trefn newydd i’r
dyfodol. Ychwanegwyd fod y drefn herio perfformiad mewnol o fewn y Cyngor yn
ail gychwyn er mwyn sicrhau fod y Cyngor yn edrych ar ei gwendidau ac yn gwella
yn barhaus.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth
¾
Diolchwyd i staff yr adran
Blant a Chefnogi Teuluoedd am barodrwydd a hyblygrwydd yn ystod y cyfnod.
Diolchwyd i’r holl rieni maeth sydd wedi bod mor barod i lenwi’r bwlch.
Ychwanegwyd fod yr adran yn ymwybodol o’u heriau wrth symud yn eu blaenau a bod
y cynllun awtistiaeth am fod yn un o’r flaenoriaeth am eleni.
¾
Diolchwyd i staff yr adran
Oedolion, Iechyd a Llesiant am ddyfalbarhau mewn blwyddyn anodd. Nodwyd fod
eleni wedi amlygu cryfder y staff.
¾
Tynnwyd sylw at un cywiriad
bychan i’w addasu, fod 8 blaenoriaeth gwella bellach nid 7.
¾
Cydnabuwyd y gwaith arbennig
sydd wedi ei wneud yn yr ysgolion i ymateb i’r her o ddysgu o adref.
¾
Diolchwyd i staff yr adran
gyllid a technoleg gwybodaeth am ei gwaith i gefnogi yr adrannau eraill.
¾
Diolchwyd i staff yr adran
Economi am siarad gyda busnesau yn ystod yr holl gyfnod ac i ddyrannu grantiau
cofid.
Awdur:Dewi Wyn Jones
Dogfennau ategol: