Cyflwynwyd gan:Cyng. Cemlyn Williams
Penderfyniad:
Bu i’r Cabinet, yn dilyn ystyried sylwadau a dderbyniwyd yn ystod y
cyfnod ymgynghori statudol, ynghyd â’r ymateb yr Adran Addysg i’r sylwadau
hynny
i.
Gymeradwyo
cyhoeddi cynnig statudol i gau Ysgol Abersoch ar 31 Rhagfyr 2021, a darparu lle
i ddisgyblion yn Ysgol sarn Bach o 1 Ionawr 2022
ii.
Cymeradwyo
cyhoeddi rhybuddion statudol ar y cynnig yn (i) yn unol â gofynion Adran 48 o
Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Cemlyn
Williams
PENDERFYNIAD
Bu i’r
Cabinet, yn dilyn ystyried sylwadau a dderbyniwyd yn ystod y
cyfnod ymgynghori statudol, ynghyd â’r ymateb yr Adran
Addysg i’r sylwadau hynny
i.Gymeradwyo cyhoeddi cynnig statudol i
gau Ysgol Abersoch ar 31 Rhagfyr 2021, a darparu lle i ddisgyblion yn Ysgol
Sarn Bach o 1 Ionawr 2022
ii.Cymeradwyo cyhoeddi rhybuddion statudol
ar y cynnig yn (i) yn unol â gofynion Adran 48 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth
Ysgolion (Cymru) 2013.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi mai pwrpas yr adroddiad yw adrodd yn ôl yn dilyn cyfnod
ymgynghori statudol ar yr opsiwn i gau Ysgol Abersoch a chynnig lle i’r
disgyblion yn Ysgol Sarn Bach. Mynegwyd nad oedd y penderfyniad i ddod a’r
adroddiad i’r Cabinet wedi bod yn rhwydd ond fod yr adran yn gofyn am
gymeradwyaeth i gyhoeddi cynnig statudol i gau Ysgol Abersoch yn unol â
gofynion Adran 48 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013.
Pwysleisiwyd ei
bod yn anodd iawn cyflwyno’r adroddiad hwn, ond fod dyletswydd sicrhau addysg a phrofiadau ac
amgylchedd gorau posib i blant. Mynegwyd fod ystyriaeth lawn wedi ei roi i’r
holl opsiynau posib i’r ysgol. Diolchwyd i’r holl unigolion, disgyblion,
athrawon a llywodraethwyr ar roi eu hamser i ymateb i’r ymgynghoriad statudol.
Mynegwyd fod yr
angen wedi codi i edrych ar ddyfodol Ysgol Abersoch y dilyn gostyngiad yn nifer
y disgyblion Nodwyd fod niferoedd Ysgol Abersoch wedi gostwng dros y
blynyddoedd diwethaf a bellach fod 76% o gapsiti’r
ysgol yn wag gyda rhag amcanion am y blynyddoedd nesaf yn dangos fod y
niferoedd am barhau yn isel.
Bu i’r Pennaeth
Addysg nodi yn ôl yn Mai 2019 y bu i’r Cabinet gytuno i gefnogi cynnal
trafodaeth ffurfiol gyda chorff llywodraethol yr Ysgol i drafod opsiynau posib
yn dilyn lleihad yn y nifer y disgyblion. Bu i 3 cyfarfod ei gynnal a oedd yn
gyfle i egluro’r angen i drafod opsiynau, i gyflwyno a thrafod yr opsiynau cyn
dod i benderfyniad ar yr opsiwn ffarfredig.
Yn ôl ym Medi 2020
nodwyd y bu i’r Cabinet ymgymryd â’r proses ymgynghori statudol ar gynnig i gau
Ysgol Abersoch Awst 2021, gan gynnig lle i’r disgyblion yn Ysgol Sarn Bach. Bu
i’r penderfyniad gan ei gadarnhau yn y Cabinet ar y 5ed o Dachwedd wedi i’r
penderfyniad gael ei alw mewn i’r Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi ym mis
Hydref.
Amlygodd y
Pennaeth Addysg y prif heriau oedd yn wynebu’r ysgol a oedd yn cynnwys
niferoedd disgyblion wedi gostwng ers 2016. Mynegwyd fod 8 disgybl yn yr ysgol
yn llawn amser ar hyn o bryd gyda 2 ddisgybl yno rhan amser. Ychwanegwyd fod y
rhagolygon yn nodi y bydd 10 disgybl yn 2021, a 12 yn 2022 a 2023. Esboniwyd fod
data yn amlygu fod 21 o blant yn nalgylch Abersoch yn mynychu ysgolion arall a
bod 3 disgybl o du hwnt i ddalgylch Aberoch yn mynychu’r ysgol. Mynegwyd fod
niferoedd isod yn rhoi pwysau ychwanegol ar gyllidebau. Tynnwyd sylw at y
ffaith fod yr ysgol yn derbyn arian ychwanegol o ganlyniad i niferoedd isel i
sicrhau staff. Mynegwyd fod Ysgol Abersoch yn derbyn £50,000 ychwanegol ar ben
eu cyllidebau a olygai fod cost y disgybl oddeutu £17,000 y plentyn o’i gymharu
ag oddeutu £4,000 y plentyn yn sirol.
Nodwyd fod y
Cabinet yn Rhagfyr 2019 wedi ymrwymo i Egwyddorion Addysg i Bwrpas sydd yn sail
i weledigaeth yr adran i sicrhau cyfundrefn addysg. Mynegwyd yn ogystal fod
ysgolion cynradd yn dilyn Strategaeth Addysg Gynradd a bod yr egwyddorion ar
strategaeth wedi bod yn wreiddiol yn yr holl broses.
Bu i’r Swyddog
Addysg amlygu’r opsiynau a gafodd ei ystyried a oedd yn cynnwys addasu’r ystod
oedran i 3-9 oed neu 3-11oed. Mynegwyd y buasai manteision i wneud hyn ond nad
oedd yn gynaliadwy i’r dyfodol. Amlygwyd
fod 3 math o ffedereiddio wedi eu cynnig fel opsiynau i sicrhau presenoldeb o
fewn yr ardal ond pwysleisiwyd nad oedd hyn yn cyfarch yr her o niferoedd yn
lleihau. Cyflwynwyd yr opsiwn o gau a darparu lle i’r disgyblion yn Ysgol Sarn
bach a oedd yn cynnig cyfleoedd cyson i’r disgyblion ac addysg o’r ansawdd
uchaf ynghyd a chysondeb o ran niferoedd o fewn dosbarthiadau. Ychwanegwyd fod
y pellter daearyddol yn bellter teg ac y buasai gan rieni'r gallu i ddewis
ysgol i’w plant.
Yn dilyn hyn bu i
ymgynghoriad cyhoeddus gael ei gynnal rhwng y 12 Ionawr a 23 Chwefror. Bu i
ddogfennau ymgynghorol gael ei anfon ar e-bost ynghyd a chopïau caled a bu i
sesiynau galw mewn rhithiol gael eu cynnal. Derbyniwyd 154 ymateb. Mynegwyd fod
mwyafrif o’r ymatebion yn gwrthwynebu gyda'r opsiwn i gau ac amlinellwyd y prif
bwyntiau.
Mynegwyd fod nifer
o ymatebion yn nodi anfodlonrwydd gyda chynnal yr ymgynghoriad o ganlyniad i
gyfyngiadau Covid-19. Pwysleisiwyd o ran gofynion rheoliadau yn nodi nad oes
gofyn cynnal cyfarfodydd cyhoeddi ac felly fod y drefn a ddilynwyd yn briodol.
Amlygwyd fod pryderon wedi codi o ran amserlen ac nad oedd cau ar 31 Awst 2021
yn rhoi digon o amser i rieni benderfynu ar yr ysgol i anfon eu plant iddo, o
ganlyniad i hyn mae’r Adran Addysg wedi gwthio’r dyddiad ymlaen i Ragfyr 2021.
Tynnwyd sylw at y sylwadau nad oedd y Mudiad Meithrin a’r Cylch Meithrin wedi
cael cyfle i fod yn rhan o’r ymgynghoriad. Mynegwyd fod yr adran wedi sylwi nad
oedd yr e-bost wedi eu hanfon atynt a bu i’r adran ymestyn y cyfnod ymateb i’r
mudiad hyd Ebrill 21 ond ni dderbyniwyd unrhyw ymatebiad.
Nodwyd fod nifer o
sylwadau wedi ei derbyn am yr opsiynau amgen. Tynnwyd sylw at y sylwad am
oedi’r broses i roi cyfle i’r ysgol gynyddu’r nifer, mynegwyd nad oedd modd
ymrwymo i oedi gan fod niferoedd wedi disgyn yn gyson dros y blynyddoedd
diwethaf ac nad oedd yn hyfyw i’r dyfodol. Wrth ymateb i’r ymatebiadau oedd yn
holi pam nad oedd adolygiad dalgylch, esboniwyd nad yw adolygiad dalgylch yn
rhan o’r strategaeth ac mai ymateb i heriau penodol un ysgol yw’r penderfyniad
hwn.
Eglurwyd fod nifer
o ymatebion yn nodi fod gormod i bwyslais ar niferoedd yn yr ysgol ac yn
cwestiynu’r rhagamcanion. Eglurwyd nad oedd y rhagamcanion yn rhai gwyddonol
ond fod yr adran yn credu y buasai'r niferoedd yn parhau yn isel dros y 5
mlynedd nesaf. Nodwyd yn ogystal y buasai safon yr addysgu yn disgyn drwy symud
i ysgol arall, ond pwysleisiodd yr adran fod ymateb Estyn yn amlygu fod safon y
ddwy ysgol yn debyg iawn ac felly na fuasai gwahaniaeth arwyddocaol i addysg y
plant.
Tynnwyd sylw at ôl
ddefnydd o adeilad yr ysgol yn dilyn cau, mynegwyd fod gan y cyngor Bolisi Ôl
Ddefnyddio Ysgolion ac y bydd trafodaethau cyfreithiol yn cael ei chynnal i
sicrhau na fydd ymrwymiadau addysg i’r adeilad.
Amlygwyd pryderon
nad yw’r llwybr teithio i Ysgol Sarn Bach yn addas i blant gerdded i’r ysgol,
ond nodwyd fod bws ysgol yn weithredol ar hyn o bryd ac y bydd lle i’r
disgyblion ychwanegol ar y bws hwn. Eglurwyd fod ymatebion yn amlygu fod bywyd
y pentref yn cael ei ddylanwadu gan yr ysgol. Nodwyd y bydd disgwyliad i Ysgol
Sarn Bach drin Abersoch fel rhan o’i hardal gan sicrhau fod y gwaith agos
gyda’r pentref’ yn parhau. Ychwanegwyd fod nifer o ddisgyblion Abersoch yn
mynychu Ysgol Sarn Bach fod cyswllt gyda’r pentref i’w gweld yn barod.
Mynegwyd fod pryderon amlwg wedi ei nodi yn yr ymgynghoriad
ar Iechyd a Lles y disgyblion a phwysleisiwyd ei bod wedi bod yn gyfnod anodd
ac y bydd y cyfnod y trosglwyddo yn anodd yn ogystal. Ond pwysleisiwyd bydd yr adran yn gweithio gyda’r ddwy ysgol
i weithio gyda hwy ar y cyfnod pontio.
Derbyniwyd nifer o ymatebion yn amlygu effaith negyddol ar
yr iaith a diwylliant gan fod yr ysgol yr adnodd pwysicaf o fewn y pentref’ ar
gyfer yr iaith. Pwysleisiwyd fod gwaith da yn cael ei wneud yn yr ysgol ond fod
disgwyl i bob ysgol fod yn gweithio i hybu defnydd o’r iaith yn yr ysgol ac yn
gymdeithasol ac o ganlyniad bydd disgwyliad i Ysgol Sarn Bach barhau gyda’r
gwaith da sydd yn cael ei wneud.
Nodwyd fod
ymatebion wedi holi be fydd yn digwydd i’r Cylch Meithrin a Ti a Fi os yr ysgol
yn cau. Mynegwyd ei fod o ddwylo’r adran ond y gall gael ei ystyried ar gyfer
ôl ddefnydd yr adeilad. Pwysleisiwyd ar y cyfan fod plant Ysgol Abersoch yn
anhapus ac yn codi pryderon am y profiadau y gallent eu colli fel ymweliadau
i’r traeth a’r Pendref a bod disgyblion Ysgol Sarn Bach yn cydymdeimlo ond yn
awyddus i groesawu’r disgyblion i’w hysgol.
Tynnodd y Swyddog Addysg at yr opsiynau
amgen gan nodi eu bod wedi edrych ar Ysgol Aml Safle a dau fath o ffederasiwn
ysgolion. Esboniwyd fod yr opsiynau wedi bod yn fodel all weithio os y pellter
daearyddol yn sylweddol. Ond, mynegwyd gan nad oedd y pellter yn un helaeth
eglurwyd nad oeddent yn ddatrysiad i’r dyfodol ac na fuasai yn ateb i’r heriau sydd yn wynebu
Ysgol Abersoch.
Nododd yr Aelod Lleol ei fod yn siomedig iawn nad oedd modd
i’r Cadeirydd ac Is Gadeirydd ymuno a’r cyfarfod. Mynegwyd fod yr adroddiad yn
helaeth a gofynnwyd pa mor annibynnol yw’r adolygiad gan ei fod yn cael ei
arwain gan yr adran addysg. Pwysleisiwyd fod yr ymateb yn gryf yn erbyn y
penderfyniad, a bod y gymuned yn unfrydol yn erbyn cau’r ysgol. Eglurodd y
buasai ychwanegu un flwyddyn ysgol i gynnwys blwyddyn 3 yn gwneud llawer o
wahaniaeth i Ysgol Abersoch a gofynnwyd pam nad oedd yr adran wedi cymryd
unrhyw gamau yn gynt i ddatrys y broblem o gapasiti.
Ychwanegodd
nad oedd unrhyw sylw wedi ei wneud i’r ymgyrch i gael tai i bobl leol o fewn y
pentref, ac y buasai cau'r ysgol cyn y cynlluniau hyn yn gynamserol. Eglurwyd
fod y Cylch Meithrin a Ti a Fi wedi llwyddo i dynnu plant i mewn ac nad oedd
digon o amser wedi mynd heibio i weld pe bai yn gwneud gwahaniaeth i’r
niferoedd. Eglurwyd fod disgyblion yr ysgol gyda pherthynas agos gyda’r pentref
ac o’i gau buasai yn cau'r berthynas yma gyda’i chynefin. Ychwanegwyd fod nifer
o deuluoedd wedi nodi eu bod yn awyddus i droi ei ail gartref i fod yn gartref
llawn amser yn dilyn y cyfnod cofid ac felly buasai posibilrwydd y byd
niferoedd yn codi. Gofynnodd i’r Cabinet i ohirio'r penderfyniad am flwyddyn i
weld os bydd newid i’r niferoedd.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth
¾
Diolchwyd
i athrawon, disgyblion, rhieni, llywodraethwyr a'r gymuned am fod yn barod i
ymateb i’r ymgynghoriad.
¾
Tynnwyd
sylw at y broses sydd wedi ei dilyn ers 2019 a'i bod wedi bod yn dryloyw ac yn
dilyn prosesau cywir. Eglurwyd y bydd effaith ar gymuned ond fod y plant yn
barod yn symud i Ysgol Sarn Bach pan yn 8 oed ac felly fod cysylltiad yno yn
barod. Mynegwyd mai safon addysg i blant Gwynedd yw’r flaenoriaeth.
¾
Mynegwyd
fod y ffigwr o £17,000 y plentyn yn drawiadol i gymharu £4,000 dros y sir i
gyd. Amlygwyd fod yr Asesiad Ardrawiad Ieithyddol wedi ei herio yn yr ymatebion
a gofynnwyd am ymateb yr adran i hynny. Yn ogystal holwyd beth fydd yr adran yn
ei wneud i sicrhau’r cyswllt gydag Ysgol Sarn Bach a’r pentref. Nododd y
Swyddog Addysg fod sail y pryderon yn deillio o’r ffaith nad yw’r adran yn
cymharu tebyg wrth debyg, ond pwysleisiwyd fod yr adran yn credu fod yr
adroddiad yn gywir. O ran ymarferoldeb y gwaith i ddod ar ddwy gymuned at ei
gilydd bydd angen edrych ar y cynllun yn y siarter iaith a gafael yn y
strategaethau sydd wedi gweithio yn Abersoch a’i pharhau yn Ysgol Sarn Bach.
¾
Nodwyd
fod ymatebion wedi amlygu teimladau cryf am yr ysgol a bod angen eu hystyried.
Tynnwyd sylw at yr effaith ar y gymuned a’r iaith ond mynegwyd mai ansawdd
addysg a llesiant plant sydd yn flaenoriaeth. Gofynnwyd am gadarnhad os bydd yr
ysgol yn cau y bydd llesiant plant yn cael sylw mewn Ysgol newydd. Yn ogystal o
ran ddyfodol y safle, eglurwyd fod yr adnodd yn bwysig i’r gymuned a bod y
gymuned a llais cryf dros ddyfodol y safle. O ran y symud, nododd y Swyddog
Addysg fod angen cynllunio gofalus i sicrhau fod profiadau yn digwydd yn y ddwy
ysgol cyn i’r ysgol gau i ddisgyblion ddod i adnabod eu hunain. Ychwanegwyd y
buasai gwasanaethau arbenigol ar gael yn ogystal i sicrhau llesiant y plant.
¾
Nodwyd
rôl ysgol o fewn cymuned fel hwb ac yn lle ble mae rhieni yn cymdeithasu a
phlant yn magu gwreiddiau ac yn gweld gwerth ei gael yn ganol cymuned. Ond,
nodwyd fod nifer uchel o blant yn mynychu ysgol tu allan i’r dalgylch yn
drawiadol, a holwyd a yw ysgol un ystafell ddosbarth am roi datrysiad llawn i’r
problemau sydd yn wraidd i broblemau'r ysgol. Gofynnwyd i’r adran gysidro
llwybr saff i Ysgol Sarn Bach, er mwyn tynnu'r gymuned i mewn drwy gysylltu’r
pentref a’r ysgol newydd. Eglurwyd y bydd y Cyngor yn drawsadrannol yn edrych i
mewn i’r posibiliadau o greu llwybr cerdded.
¾
Diolchwyd
i’r aelod lleol am fanteisio ar bob cyfle i fod yn rhan o’r drafodaeth ac i
leisio barn dros y trigolion.
Awdur:Gwern ap Rhisiart
Dogfennau ategol: