VENU, PWLLHELI
I ystyried y cais
Penderfyniad:
Caniatáu’r cais
Cofnod:
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
a)
Adroddiad yr Adran Trwyddedu
Cyflwynwyd
adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer The
Venu, Pwllheli, Gwynedd. Gwnaed y cais mewn perthynas â gwerthu alcohol,
cerddoriaeth byw ar yr eiddo, cerddoriaeth wedi ei recordio ar ac oddi ar yr
eiddo, dangos chwaraeon byw a lluniaeth hwyr yn nos.
Nodwyd bod gan
Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno
yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol. Cyfeiriwyd
at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion
trwyddedu ac amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn cael eu cynnwys ar y drwydded.
Tynnwyd sylw at yr
ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Nid oedd gan Cyngor Tref
Pwllheli wrthwynebiad i’r cais. Nodwyd bod yr ymgeisydd wedi cytuno i gynnwys
amodau ychwanegol mewn perthynas a Theledu Cylch Cyfyng (TCC) ar gais yr
Heddlu. Ni dderbyniwyd sylwadau na gwrthwynebiadau
pellach. Ategwyd bod y cais yn adlewyrchu'r hyn oedd wedi ei ganiatáu ar y
drwydded eiddo oedd yn bodoli yn flaenorol.
Argymhellwyd fod y
Pwyllgor yn cymeradwyo’r cais yn unol â’r hyn a gytunwyd gyda’r Heddlu a
gofynion y Ddeddf Drwyddedu 2003.
Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:
·
Rhoi
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr Trwyddedu
·
Gwahodd
yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais
·
Rhoi cyfle i’r ymgynghorai
gyflwyno eu sylwadau
·
Gwahodd
deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r sylwadau
·
Rhoi
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y drwydded.
·
Rhoi
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgynghorai
Mewn ymateb i sylw ynglŷn â phwysleisio’r
angen i sicrhau bod recordiadau TCC yn cael eu cadw am 30 diwrnod, nododd y
Swyddog Trwyddedu bod hyn yn rhan o argymhellion yr Heddlu - yr ymgeisydd a
staff yr eiddo i dderbyn hyfforddiant ar sut i weithredu TCC sut i recordio a
llawr lwytho yn effeithiol. Ategwyd bod yr ymgeisydd wedi cytuno i gydymffurfio yn
llawn a’r gofynion hyn.
Nid oedd yr
ymgeisydd yn bresennol i ymhelaethu ar y cais.
Nid oedd Heddlu
Gogledd Cymru yn bresennol i ymhelaethu
ar sylwadau a gyflwynwyd ganddynt.
d) Ymneilltuodd y Rheolwr Trwyddedu o’r
cyfarfod tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.
dd) Wrth
gyrraedd y penderfyniad ystyriodd yr Is-bwyllgor sylwadau ysgrifenedig a
gyflwynwyd gan y partïon â diddordeb ac adroddiad y Swyddog Trwyddedu
Ystyriwyd Polisi Trwyddedu’r Cyngor a chanllawiau’r
Swyddfa Gartref. Roedd yr holl ystyriaethau yn cael eu pwyso a’u mesur yn erbyn
yr amcanion trwyddedu o dan y Ddeddf
Trwyddedu 2003, sef:
i.
Atal trosedd ac anhrefn
ii.
Atal niwsans cyhoeddus
iii.
Sicrhau diogelwch
cyhoeddus
iv.
Gwarchod plant rhag niwed
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais
Rhoddir trwydded fel a
ganlyn:
1.
Oriau agor: Sul-Sadwrn 08:00-03:00
2.
Cerddoriaeth fyw tu mewn a thu
allan: Sul-Sadwrn 08:00-02:45
3.
Cerddoriaeth wedi ei recordio tu
mewn a thu allan: Sul-Sadwrn 08:00-02:45
4.
Digwyddiadau chwaraeon dan do:
Sul-Sadwrn 08:00-23:45
5.
Perfformiadau dawns tu mewn a thu
allan: Sul-Sadwrn 08:00-02:45
6.
Lluniaeth hwyr nos: Sul-Sadwrn
23:00-02:30
7.
Cyflenwi alcohol i yfed ar ac oddi
ar yr eiddo: Sul-Sadwrn 08:00-02:30
8.
Ymgorfforir y materion a ragnodwyd
yn yr Atodlen Weithredol (Rhan M) o’r cais fel amodau ar y drwydded.
9.
Ymgorfforir yr amodau drafft a
argymhellwyd gan Heddlu Gogledd Cymru mewn perthynas â theledu cylch cyfyng
(TCC) fel amodau ar y drwydded.
Diolchwyd i bawb am gyflwyno sylwadau ar y cais.
Rhoddodd yr Is-bwyllgor ystyriaeth briodol i’r holl
sylwadau.
Wrth
ystyried sylwadau’r Heddlu, canfuwyd nad oedd y sylwadau yn gwrthwynebu’r cais
ond yn argymell cynnwys amodau safonol ychwanegol mewn perthynas â TCC.
Ystyriwyd bod yr amodau hyn yn cael eu cynnig er mwyn hyrwyddo’r amcanion
trwyddedu. Nodwyd bod yr ymgeisydd yn cefnogi’r argymhellion. O dan yr
amgylchiadau, roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon bod y cais am drwydded, gan
gynnwys yr amodau arfaethedig gan yr Heddlu, yn gydnaws â’r amcanion trwyddedu.
Caniatawyd y cais.
Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad
yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i bawb oedd yn bresennol. Ategwyd
bod gan bob parti i’r cais yr hawl i gyflwyno apêl yn Llys Ynadon Caernarfon yn
erbyn penderfyniad yr Is-bwyllgor. Dylid cyfeirio unrhyw apêl o’r fath drwy roi
rhybudd o apêl i’r Prif Weithredwr, Llys Ynadon Llandudno, Llandudno, o fewn
cyfnod o 21 diwrnod gan gychwyn â’r dyddiad y bydd yr apelydd yn derbyn llythyr (neu gopi ohono) yn
cadarnhau’r penderfyniad.
Dogfennau ategol: