Cyflwynwyd gan:Cyng. Dyfirg Siencyn
Penderfyniad:
Cytunwyd ar ymateb y Cyngor i’r adroddiad “Ail Gartrefi –
Datblygu Polisïau Newydd yng Nghymru” fel y nodir yn rhan 9 o’r adroddiad gan
amlygu’n benodol yr angen i addasu argymhelliad rhif 7 – Llety Gwyliau Tymor
Byr a Threthi Busnes.
Cytunodd yr Arweinydd i gyfleu’r ymateb yn ffurfiol i
Lywodraeth Cymru gan alw arnynt i’w fabwysiadau a gweithredu’r argymhellion
mwyaf effeithiol ar fyrder er mwyn ymateb i’r argyfwng tai sy’n wynebu
cymunedau Gwynedd.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan
Cyng. Dyfrig Siencyn.
PENDERFYNIAD
Cytunwyd ar
ymateb y Cyngor i’r adroddiad “Ail Gartrefi – Datblygu Polisïau Newydd yng
Nghymru” fel y nodir yn rhan 9 o’r adroddiad gan amlygu’n benodol yr angen
i addasu argymhelliad rhif 7 – Llety Gwyliau Tymor Byr a Threthi Busnes.
Cytunodd yr Arweinydd
i gyfleu’r ymateb yn ffurfiol i Lywodraeth Cymru gan alw arnynt i’w fabwysiadau
a gweithredu’r argymhellion mwyaf effeithiol ar fyrder er mwyn ymateb i’r
argyfwng tai sy’n wynebu cymunedau Gwynedd.
.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod angen
ymatebiad i’r adroddiad “Ail Gartrefi – Datblygu Polisïau Newydd yng Nghymru”
gan y Dr Simon Brooks, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru a’r Coleg Cymraeg.
Mynegwyd fod Dr Brooks wedi cysylltu â’r Cyngor a bod nifer o’r argymhellion
wedi dod o adroddiad a gyflwynwyd gan yr Adran Amgylchedd i’r Cabinet yn ôl ym
mis Rhagfyr.
Eglurwyd fod
deuddeg argymhelliad yn yr adroddiad a bod angen i’r Cyngor ymateb i’r
adroddiad. Amlygwyd mai dim ond un argymhelliad mae’r Cyngor yn anghytuno a hi
sef argymhelliad 7 – Llety Gwyliau Tymor Byr a Threthi Busnes. Mynegwyd yr
angen i bob annedd gael ei gyfrif fel annedd ac yn cael ei orfodi i dalu treth
Cyngor ac unrhyw bremiwm sydd yn cyd-fynd ar annedd hwn. Nodwyd fod yr
adroddiad yn un clodwiw ac o bwys ac ategwyd yr awydd i yrru neges at y
Llywodraeth at ymateb y Cyngor i’r adroddiad.
Ychwanegodd y Prif Weithredwr fod yr adroddiad wedi
tynnu ar lawer o ffynonellau a'i bod yn holl
bwysig i’r Cyngor ymateb gan fod
problem ail gartrefi yng Nghywydd ar ei
gwaethaf. Amlygwyd y camau mae’r Cyngor wedi ei wneud
yn barod i daclo’r broblem
a oedd yn cynnwys mabwysiadu Polisi Gosod Newydd
fel bod y flaenoriaeth ar bobl leol,
gwneud defnydd o godi Premiwm Treth
Cyngor ar ail gartrefi gan fuddsoddi’r arian ychwanegol mewn Cynllun Gweithredu
Tai. Pwysleisiwyd fod y
Cyngor wedi gwneud popeth o fewn eu
gallu ar gyfer y sefyllfa ynghyd a chomisiynu gwaith penodol er mwyn edrych
i’r broblem. Cefnogwyd adroddiad Dr Simon
Brooks gan bwysleisio fod nifer o argymhellion
a wnaethpwyd gan y Cyngor yn y gwaith comisiwn
i’w gweld yn yr adroddiad.
Eglurwyd i wneud gwahaniaeth mwyaf mae
angen canolbwyntio ar yr argymhellion
sydd am wneud gwahaniaeth ac amlygwyd 3 argymhelliad. Y cyntaf oedd Argymhelliad 7, gan ei fod
wedi ei amlygu
fel un o brif
broblemau’r trigolion sef fod ail gartrefi
ddim yn talu
treth Cyngor wrth symud i dreth
fusnes bach. Pwysleisiwyd yr angen i rwystro
hyn rhag digwydd fel eu
bod yn cyfrannu i’r Cyngor ac efallai gyda’r premiwm yn rhwystro eraill
rhag prynu ail gartref. Yr ail flaenoriaeth oedd sicrhau fod
dosbarth derbyn penodol er mwyn
newid cartref o fod yn annedd
i fod yn
ail gartref a drwy hyn fod angen
cais cynllunio. A'r trydydd er
mwyn cael y dystiolaeth ar gyfer y ceisiadau cynllunio od
angen cynllun trwyddedu ar gyfer
dai gwyliau felly bod modd cadw golwg
ar niferoedd o fewn cymunedau, ac yna gwrthod ceisiadau
cynllunio os niferoedd yn uchel
mewn cymuned. Eglurwyd heb fabwysiadu’r
argymhellion rhain ni fydd modd taclo’r broblem.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth
¾ Nodwyd fod y Cyngor
mewn argyfwng tai, a bod y Cyngor yn ddyddiol yn edrych ar ôl trigolion
Gwynedd. Pwysleisiwyd yn ystod y flwyddyn eithriadol ddiwethaf fod y Cyngor
wedi parhau i edrych ar ôl trigolion a pharhau i berfformio yn arbennig o dda.
Eglurwyd dros y ddwy flynedd diwethaf fod y Cyngor wedi gwneud pob dim o fewn
ei gallu i ddatrys y broblem ond nad oes grym gan y Cyngor i ddatrys y
problemau go iawn. Mynegwyd nad yw’r broblem hon yn broblem newydd a bod
Llywodraeth San Steffan wedi bod yn ymwybodol ohoni ers y 1970au, ac er bod Tai
wedi ei ddatganoli i Gymru dim ond yr adroddiad hwn sydd wedi ei wneud.
Pwysleisiwyd fod yr atebion i gyd yn yr adroddiad ond fod angen bellach i'r
Llywodraeth weithredu.
¾
Nodwyd fod Llywodraeth Cymru
wedi gwneud adroddiadau ugain mlynedd yn ôl ond heb weithredu ar yr
argymhellion. Yn ôl ym mis Rhagfyr, mynegwyd fod yr adroddiad yn gweiddi ar
Lywodraeth Cymru i weithredu. Eglurwyd fod yr adroddiad diweddaraf ganddynt yn
gweiddi am weithredu.
¾
Pwysleisiwyd fod angen
gweithredu gan fod pryderon am ble mae pobl am fyw heddiw, heb sôn am ble fydd
plant y sir yn byw. Eglurwyd bob dydd fod achosion y yn amlygu'r argyfwng tai
yn codi ar draws Gwynedd.
¾
Eglurwyd nad yw hon yn broblem newydd a chwestiynwyd pam
nad yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud rhywbeth ynghynt. Codwyd fod gormod o
argymhellion yn cael ei amlygu gan yr adroddiad a bod posibilrwydd i’r
Llywodraeth ddewis un syml i'w weithredu, ac o ganlyniad ddim yn gwneud
gwahaniaeth.
¾
Croesawyd yr adroddiad gan bwysleisio ei bod yn amser i
adroddiadau ddod i ben ac i weithredu. Gofynnwyd i fudiadau gydweithio gyda
Chyngor Gwynedd i roi'r neges i'r Llywodraeth yn cwyno am ei gilydd.
¾
Amlygwyd fod ail gartrefi bellach i'w gweld yn bob ward
yn y sir a bod y broblem bellach yn ehangu o’r adroddiadau traddodiadol ac i
ardaloedd difreintiedig.
¾
Pwysleisiwyd fod angen bod yn glir fod talu treth Cyngor
yn angenrheidiol. Eglurwyd fod codi premiwm yn amlygu fod y Cyngor wedi ei
wneud beth mae yn gallu.
Awdur:Dafydd Gibbard
Dogfennau ategol: