Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Cemlyn Williams

Penderfyniad:

Cymeradwywyd gweledigaeth “Cyfundrefn Addysg Drochi tuag at 2032 a thu hwnt”, ynghyd a’i weithredu, i fuddsoddi £1.1 miliwn o arian cyfalaf addysg Gymraeg Llywodraeth Cymru i sefydlu safleoedd addysg drochi o’r newydd yn Nhywyn a Bangor, ynghyd â gwella’r cyfleusterau presennol ym Mhorthmadog yn unol â’r adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Cemlyn Williams

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd gweledigaeth “Cyfundrefn Addysg Drochi tuag at 2032 a thu hwnt”, ynghyd a’i weithredu, i fuddsoddi £1.1 miliwn o arian cyfalaf addysg Gymraeg Llywodraeth Cymru i sefydlu safleoedd addysg drochi o’r newydd yn Nhywyn a Bangor, ynghyd â gwella’r cyfleusterau presennol ym Mhorthmadog yn unol â’r adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi pleser yn cyflwyno’r weledigaeth. Eglurwyd fod Canolfannau Iaith wedi bod mewn bodolaeth ers yr 1980au yng Ngwynedd a'u bod yn arloesol yn ôl yr adeg honno. Pwysleisiwyd fod y weledigaeth sydd yn cael ei chyflwyno heddiw'r un mor arloesol ac yn adeiladau ar waith da'r Canolfannau. Tynnwyd sylw i fygythiad cyllidol oedd i’w gweld dwy flynedd yn ôl, ond fod cyfnod y pandemig wedi bod yn gyfle i ail edrych ar y ddarpariaeth.

 

Eglurwyd fod gofyn heddiw i’r Cabinet fuddsoddi £1.1miliwn i ehangu ar safleoedd ym Mangor ac yn Nhywyn. Pwysleisiwyd fod y weledigaeth yn amlygu darpariaeth gyfoes a hyblyg. Mynegwyd fod y Gyfundrefn wedi bod yn y Pwyllgor Iaith ac yn y Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi a bod cefnogaeth unfrydol ganddynt. Nodwyd fod cyfarfod wedi ei gynnal gyda’r Gweinidog Addysg Newydd a bod y Gweinidog wedi uniaethu gyda’r cynllun ac yn awyddus i genhadu’r gwaith da sydd yn cael ei wneud yma yng Ngwynedd. Pwysleisiwyd ei bod yn galonogol fod cefnogaeth i’r Cynllun.

 

Ychwanegodd y Pennaeth Addysg fod ychwanegu dau leoliad newydd ar gyfer y Canolfannau Iaith yn hynod gyffroes. Nodwyd fod y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn llwyddiannus a bod y gwasanaeth ei wedi ei ail bwrpasu gan nad oedd modd cyfarfod wyneb yn wyneb. Eglurwyd fod yr ail bwrpasu wedi sicrhau fod mwy o blant wedi cael cefnogaeth gan nodi fod hyn wedi amlygu fod technoleg yn allweddol i’r dyfodol. Tynnwyd sylw fod y model newydd yn edrych yn debyg i’r model Ysgol Ganol gyda phlant blwyddyn 5 i flwyddyn 9 yn cael ei addysgu gyda’i gilydd. Pwysleisiwyd yn ogystal fod lles plant yn ganolog gyda’r model newydd yn sicrhau fod plant yn mynychu eu hysgol ddiwrnod yr wythnos fel eu bod yn parhau i ddatblygu perthynas gyda’r cyfoedion.

 

Nododd y Rheolwr Gwasanaethau Corfforaethol Addysg  fod anghenion y dysgwyr yn gwbl ganolog i’r gyfundrefn ynghyd a chodi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd addysg Gymraeg. Eglurwyd y bydd y gyfundrefn newydd yn gweithio mewn partneriaeth gyda’r ysgolion i gyd-ddarparu. Pwysleisiwyd fod y diwrnod yn yr ysgol i ddisgyblion o fewn y gyfundrefn drochi yn gyfle i’r disgyblion ymdoddi n ôl i’r ysgol ar ôl y cyfnod drochi. Diolchwyd i bawb am fod yn rhan o’r drafodaeth gan gynnwys y dysgwyr eu hunain.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

¾    Diolchwyd i’r adran am eu gwaith yn arwain y gwaith ar draws Gwynedd a nodwyd os siroedd eraill yn dilyn bydd angen gofyn i’r Llywodraeth i’w ariannu gan fod angen yr ymrwymiad er mwyn cynnal y gwariant. Holwyd beth a fydd yn digwydd o ran y staff, nodwyd fod mwy o ganolfannau yn golygu’r agen am fwy o staff felly y bydd cynnydd ac nid dirywiad.

¾    Datganwyd pryder am y grantiau sydd yn talu am y gwaith gan fod Gwynedd yr awdurdod sydd yn cael y canran uchaf o’r arian yn rhanbarthol, a eglurwyd fod angen i’r arian gael ei ariannu i’r awdurdod yn benodol ac nid yn rhanbarthol.

¾    Croesawyd y buddsoddiad ac yn benodol ym Mangor gan fod y ddemograffeg yn wahanol i weddill y sir. Holwyd o ran amser yn yr ysgol yn ogystal holwyd pam un diwrnod yr wythnos a gofynnwyd a'r buasai modd ei gynyddu i ddau. Eglurwyd fod angen cydbwysedd ac os yn mynd i 3 diwrnod o drochi ac deuddydd yn yr ysgol y buasai ddim yn rhoi digon o amser i drochi. Eglurwyd yn ogystal fod y cwrs wedi ei gwtogi yn ogystal.

¾    O ran ariannu’r gyfundrefn, nodwyd fod tair ffynhonnell arian, a holwyd os oes trafodaeth wedi ei gynnal gyda’r ysgolion er mwyn perchnogi a chyfrannu at y gyfundrefn. Nodwyd fod trafodaeth wedi ei gynnal yn y Fforwm Cyllideb Ysgol a'r Fforwm Penaethiaid a bod cefnogaeth gan nad yw’r swm yn uchel ni fydd effaith fawr ar yr ysgolion yn unigol.

¾     Holwyd os oes lleoliadau penodol wedi pennu ar gyfer y safleoedd newydd yn Nhywyn a Bangor. Nodwyd fod lleoliad wedi ei adnabod ar safle Ysgol Tywyn a bod trafodaeth yn cael ei gynnal ar hyn o bryd gydag Ysgolion Bangor. Eglurwyd fod lleoliad o fewn prif adeilad Ysgol Eifionydd ar gyfer y datblygiadau ym Mhorthmadog ac y bydd hyn yn sicrhau fod yr addysg drochi yn fwy o ran yn yr ysgol yn hytrach na Chaban ar y cyrion.

 

 

 

Awdur:Debbie Anne Williams Jones

Dogfennau ategol: