Agenda item

Canolfan y Fron, Llandwrog, Caernarfon, LL54 7BB.

 

I ystyried y cais

Penderfyniad:

Caniatáu’r cais

 

Cofnod:

1.            CAIS AM DRWYDDED EIDDO – Canolfan y Fron, Llandwrog, Caernarfon

 

Ar ran yr eiddo: 

 

Mike Elsden (ymgeisydd) 

Eiriona Williams (cynrychiolydd yr ymgeisydd)

 

Eraill a wahoddwyd:

 

Preswylwyr Cyfagos:

 

Edward Willcox

Jim Embrey

 

Aelod Lleol: Cynghorydd Dilwyn Lloyd

 

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y Cadeirydd y byddai gan bob parti hawl i hyd at 5 munud i gyflwyno eu sylwadau

 

a)                    Adroddiad yr Adran Trwyddedu

 

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer Canolfan y Fron, Llandwrog, Caernarfon. Gwnaed y cais mewn perthynas â dangos ffilmiau, dramâu, chwaraeon o dan do, paffio neu adloniant ymgodymu, cerddoriaeth byw ac wedi ei recordio, perfformiadau dawns a gwerthu alcohol. 

 

Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol. Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ac amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn cael eu cynnwys ar y drwydded.

 

Tynnwyd sylw at yr ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Nodwyd bod sawl gwrthwynebiad wedi ei dderbyn gan breswylwyr cyfagos a Chymdeithas Preswylwyr y Fron oedd yn cynnwys deiseb wedi ei arwyddo gan 36 o breswylwyr yn nodi amodau ac amseroedd derbyniol. Nid oedd sylwadau na gwrthwynebiadau wedi eu derbyn gan yr Heddlu na’r Gwasanaeth Tan.

 

Roedd y gwrthwynebiadau yn cyfeirio at bob un o’r amcanion trwyddedu. Mynegwyd pryderon ar faterion gwrthgymdeithasol o ran sŵn, niwsans cyhoeddus, materion glanweithiol, parcio a throsedd ac anrhefn. Nodwyd hefyd nad oedd Pwyllgor y Ganolfan wedi ceisio ymgynghoriad cyhoeddus o flaen llaw, a bod oriau arfaethedig yr ymgeisydd yn codi pryder.

 

Argymhellwyd fod y Pwyllgor yn ystyried pryderon y preswylwyr cyfagos ac yn cymeradwyo’r cais yn unol â gofynion y Ddeddf Drwyddedu 2003. 

Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr  Trwyddedu

·      Gwahodd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais

·      Rhoi cyfle i’r ymgynghorai gyflwyno eu sylwadau

·      Gwahodd deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r sylwadau

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y drwydded.

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgynghorai

Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd cynrychiolydd yr ymgeisydd:

·      Ni fydd adloniant yn cael ei gynnal tu allan ar ôl 22:00

·      Ni fydd alcohol yn cael ei werthu o’r siop ar ôl 21:00

·      Ni fydd alcohol yn cael ei werthu o’r bwyty ar ôl 21:00

·      Oriau arferol yw 8:30 – 17:30

·      Gobaith yw cynnal digwyddiadau ac felly’r angen yn codi am estyniad mewn oriau. Nid oes sicrwydd ar hyn o bryd oherwydd nad oes ceisiadau am ddigwyddiad wedi ei dderbyn

·      Bwriad gohebu gyda’r gymuned leol pan gyflwyni’r cais am ddigwyddiad

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â niferoedd staff nodwyd mai gwirfoddolwyr rhan amser sydd yn staffio'r siop gyda chogydd a thri arall yn helpu yn y bwyty. Cadarnhawyd bod y Cogydd sydd a’i enw ar y drwydded bresennol wedi ymddiswyddo a bod Cogydd newydd wedi ei phenodi. Ategwyd bod y Cogydd newydd wedi llwyddo gyda chais am drwydded bersonol ac yn barod i dderbyn y cyfrifoldeb. Nodwyd bod angen sicrhau na fydd alcohol yn cael ei werthu hyd nes bydd y Cogydd presennol wedi derbyn y drwydded.

 

Manteisiodd yr ymgynghorai oedd yn bresennol ar y cyfle i ymhelaethu ar sylwadau a gyflwynwyd ganddynt drwy lythyr.

 

Jim Embrey:

·         Bod trwydded ‘addas’ yn dderbyniol

·         Bod Y Fron yn ardal anghysbell a thawel gydag oddeutu 300 o drigolion yn byw yno

·         Yr oriau agor arfaethedig yn eithafol i’r gymuned leol

·         Bod trigolion lleol wedi cyfarfod ac wedi cytuno i estyniad oriau cyfyngedig - ychydig o nosweithiau hwyr yn dderbyniol

 

 

Edward Willcox

·         Rhyfeddu pam bod Canolfan y Fron heb ofyn am farn y gymuned cyn cyflwyno cais

·         Angen ystyried effaith gwerthu alcohol ar deuluoedd sydd yn byw yn lleol

·         Bod angen gofalu bod y drwydded yn cael ei gweithredu yn gywir  

 

Aelod Lleol – Cynghorydd Dilwyn Lloyd

·         Pryderon mwyaf yw sŵn ar ôl 23:00

·         Bod byngalos yr henoed drws nesaf i’r ganolfan

·         Y Fron yn bentref bach cysglyd

·         Parcio wedi ei amlygu fel pryder

·         Awgrym gosod amod i gau am 22:30 i fodloni pobl leol

·         Dim gwrthwynebiad ond pwysig rhannu sylwadau a mynegi sylwadau

 

Cyfeiriwyd at y sylwadau eraill a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus 

 

Yn manteisio ar y cyfle i gloi'r achos, nododd cynrychiolydd yr ymgeisydd y pwyntiau canlynol:

·         Er bod y cais yn nodi 8:30 – 23:30, ar gyfer digwyddiadau arbennig yn unig fydd hyn. Bydd y bwyty yn cau am 21:00 fel arall.

·         Awgrymwyd mai achlysurol yn unig fyddai’r digwyddiadau

·         Bydd y Ganolfan yn cysylltu gyda’r gymuned cyn cytuno cynnal digwyddiad

 

Ategodd y Rheolwr Trwyddedu bod yr oriau a gyflwynwyd gyda'r cais yn rhoi hyblygrwydd i’r drwydded ac mai hanfod y cais oedd ‘bwriad achlysurol’.

 

Ymneilltuodd yr ymgeisydd a’i gynrychiolydd, yr ymgynghorwyr a’r Rheolwr Trwyddedu o’r cyfarfod tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais

Wrth gyrraedd y penderfyniad ystyriodd yr Is-bwyllgor sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd gan y partïon â diddordeb ac adroddiad y Swyddog Trwyddedu. Ystyriwyd  Polisi Trwyddedu’r Cyngor a chanllawiau’r Swyddfa Gartref. Roedd yr holl ystyriaethau yn cael eu pwyso a’u mesur yn erbyn yr  amcanion trwyddedu o dan y Ddeddf Trwyddedu 2003, sef:

                       i.       Atal trosedd ac anhrefn

                      ii.       Atal niwsans cyhoeddus

                     iii.       Sicrhau diogelwch cyhoeddus

                     iv.       Gwarchod plant rhag niwed

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais

 

Rhoddwyd trwydded fel a ganlyn:

 

1. Oriau agor

·         Amserau safonol: Sul-Sadwrn 08:30-23:00

·         Awr derfynol 00:00 ar Benwythnosau Gŵyl Banc, Noswyl Nadolig a Dydd San Steffan

·         Awr derfynol 01:00 ar Noswyl Calan

 

2. Dramâu

·         Tu mewn: Sul-Sadwrn 08:30-23:00

·         Tu allan: Sul-Sadwrn 08:30-22:00

 

3. Ffilmiau tu mewn: Sul-Sadwrn 08:30-23:00

4. Chwaraeon tu mewn: Sul-Sadwrn 08:30-23:00

5. Paffio neu wreslo tu mewn: Sul-Sadwrn 08:30-23:00

 

6. Cerddoriaeth fyw

·         Tu mewn: Sul-Sadwrn 08:30-23:00 (gydag awr derfynol 00:00 ar Benwythnosau Gŵyl Banc, Noswyl Nadolig a Dydd San Steffan, ac awr derfynol 01:00 ar Noswyl Calan)

·         Tu allan: Sul-Sadwrn 08:30-22:00 (gydag awr derfynol 23:00 ar Benwythnosau Gŵyl Banc, Noswyl Nadolig, Dydd San Steffan a Noswyl Calan)

 

7. Cerddoriaeth wedi recordio

·         Tu mewn: Sul-Sadwrn 08:30-23:00 (gydag awr derfynol 00:00 ar Benwythnosau Gŵyl Banc, Noswyl Nadolig a Dydd San Steffan, ac awr derfynol 01:00 ar Noswyl Calan)

·         Tu allan: Sul-Sadwrn 08:30-22:00 (gydag awr derfynol 23:00 ar Benwythnosau Gŵyl Banc, Noswyl Nadolig, Dydd San Steffan a Noswyl Calan)

 

8. Perfformiadau dawns

·         Tu mewn: Sul-Sadwrn 08:30-23:00

·         Tu allan: Sul-Sadwrn 08:30-22:00

 

9.   Un rhywbeth o ddisgrifiad tebyg i gerddoriaeth fyw, cerddoriaeth wedi recordio  neu berfformiadau dawns

·         Tu mewn: Sul-Sadwrn 08:30-23:00 (gydag awr derfynol 00:00 ar Benwythnosau Gŵyl Banc, Noswyl Nadolig a Dydd San Steffan, ac awr derfynol 01:00 ar Noswyl Calan)

·         Tu allan: Sul-Sadwrn 08:30-22:00 (gydag awr derfynol 23:00 ar Benwythnosau Gŵyl Banc, Noswyl Nadolig, Dydd San Steffan a Noswyl Calan)

 

10. Cyflenwi alcohol i yfed ar ac oddi ar yr eiddo

·         Amserau safonol: Sul-Sadwrn 08:30-21:00

·         Amserau pan fo digwyddiad preifat: Sul-Sadwrn siop 08:30-21:00, caffi - bar 08:30-23:00

·         Awr derfynol 00:00 yn y caffi - bar ar Benwythnosau Gŵyl Banc, Noswyl Nadolig a Dydd San Steffan

·         Awr derfynol 01:00 yn y caffi - bar ar Noswyl Calan

 

11. At ddibenion yr amodau hyn, diffinnir Penwythnosau Gŵyl Banc fel cyfnod yn cychwyn ar ddydd Gwener ac yn gorffen ar y dydd Llun canlynol pan fo diwrnod o fewn y cyfnod hwnnw yn ŵyl banc.

 

12. Ymgorfforir y materion sydd wedi eu rhagnodi yn Atodlen Weithredol (Rhan M) y cais fel amodau ar y drwydded.

 

Diolchwyd i bawb am gyflwyno sylwadau ar y cais.

 

Rhoddodd yr Is-bwyllgor ystyriaeth briodol i’r holl sylwadau. Diystyrwyd sylwadau a ddaeth i law i’r graddau eu bod yn amherthnasol i’r amcanion trwyddedu e.e. dadleuon nad oes angen eiddo trwyddedig ar yr oriau y gofynnwyd amdanynt neu o gwbl, neu ddiffyg caniatâd cynllunio perthnasol. Nid yw’r materion hyn yn ystyriaethau ceisiadau trwydded eiddo.

 

Rhoddwyd ystyriaeth arbennig i’r canlynol.

 

Derbyniwyd sylwadau gan breswylwyr Y Fron yn gwrthwynebu’r cais gan gyfeirio at  y pedwar amcan trwyddedu. Yn gryno, mynegwyd pryderon y byddai caniatau’r drwydded yn debygol o arwain at gynnydd mewn troseddu, anhrefn, sŵn, materion glanweithiol a phroblemau parcio. Yn ogystal, derbyniwyd sylwadau gan gynrychiolydd yr ymgeisydd yn nodi bwriad cyfyngu rhai agweddau o’r hyn y gofynnwyd amdanynt yn y cais ac o ganlyniad bu i’r Is-bwyllgor drin y rhain fel diwygiadau. Er sylw, ni chyflwynwyd gwrthwynebiadau gan yr Heddlu, y Gwasanaeth Tan ac Achub, Uned Gwarchod y Cyhoedd y Cyngor nac Adran Priffyrdd y Cyngor.

 

Amlygodd yr Is-bwyllgor eu bod yn derbyn bod rhai o’r pryderon a fynegwyd ynglŷn â’r cais yn rhai diffuant. Fodd bynnag, nid oedd yr Is bwyllgor o’r farn bod tystiolaeth ddigonol wedi dod i law i brofi bod y problemau hyn yn debygol pe byddai’r drwydded yn cael ei chaniatáu, ac y byddai’n groes i’r amcanion trwyddedu.

 

Amlygwyd pryder y byddai cynnydd mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol. Ni chyflwynwyd tystiolaeth i gefnogi’r honiad tu hwnt i honiadau cyffredinol am yfed y gellid eu priodoli i unrhyw eiddo trwyddedig. Ni chyflwynwyd rhesymau na thystiolaeth pam y byddai’r eiddo penodol yma yn debygol o achosi problemau ymddygiad gwrthgymdeithasol. Ymddengys bod y sylwadau wedi cael eu cyflwyno ar sail dyfalu ac nid tystiolaeth - nid yw hyn yn sail gyfreithiol i wneud penderfyniad - yn ôl yr Uchel Lys yn R (on the application of Daniel Thwaites Plc) v Wirral Corough Magistrates Court [2008] EWHC 838 (Admin).

 

Ni dderbyniwyd gwrthwynebiad gan yr Heddlu. Ystyriwyd be fyddai problemau troseddu tebygol yn codi, byddai’r Heddlu wedi amlygu hyn. O dan yr amgylchiadau, nid oedd yr Is-bwyllgor wedi ei berswadio y byddai rhoi’r drwydded yn tanseilio’r amcan o atal trosedd ac anrhefn.

 

Yng nghyd-destun pryderon sbwriel a sŵn pe caniateir y drwydded, ystyriwyd y sylwadau fel pryderon cyffredinol yn seiliedig eto ar ddyfalu heb gyflwyno tystiolaeth gadarn. Ni dderbyniwyd sylwadau gan Adran Gwarchod y Cyhoedd yn adrodd y byddai rhoi’r drwydded yn debygol o achosi problem sŵn - byddai sylwadau o’r fath wedi dod i’r amlwg petai problemau sŵn tebygol. Gwrthododd yr Is-bwyllgor yr honiad bod cyfyngu oriau yn angenrheidiol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â’r Ddeddf Sŵn 1996. Gyda diffyg  tystiolaeth, doedd dim sail i’r Is-bwyllgor ddod i gasgliad y byddai caniatáu’r drwydded yn achosi problemau o ran tanseilio’r amcan niwsans cyhoeddus.

 

Yng nghyd-destun pryderon diogelwch ffordd a diffyg gofod parcio gyda mynediad i gerbydau'r gwasanaethau brys yn cael eu heffeithio, derbyniwyd y pryderon mewn  perthynas â’r amcan trwyddedu o sicrhau diogelwch cyhoeddus. Fodd bynnag, ystyriwyd y pryderon eto fel rhai yn seiliedig ar ddyfalu yn hytrach na thystiolaeth.  Nid oedd yr Heddlu, y Gwasanaeth Tân ac Achub, unrhyw wasanaeth brys arall na’r Adran Priffyrdd wedi mynegi unrhyw bryder o safbwynt diogelwch y ffordd. Disgwylid y byddai sylwadau gan yr asiantaethau swyddogol yn amlygu hyn petai risg i ddiogelwch y cyhoedd yn bodoli. Yn wyneb y diffyg tystiolaeth a diffyg sylwadau oddi wrth arbenigwyr yn y maes, nid oedd yr Is-bwyllgor wedi ei berswadio y byddai caniatáu’r cais yn debygol o danseilio’r amcan trwyddedu o sicrhau diogelwch cyhoeddus.

 

Roedd y pryderon am ddiogelwch plant yn rhai cyffredinol a oedd eto yn seiliedig ar ddyfalu heb ddim tystiolaeth gadarn i gefnogi’r honiad. Nid oedd yr Is-bwyllgor o’r farn bod y cais yn tanseilio’r amcan o warchod plant rhag niwed.

 

Dygwyd sylw’r Is-bwyllgor fod deiseb wedi ei chyflwyno yn gwrthwynebu’r cais. Er y darparwyd copi i’r Is-bwyllgor, daethpwyd i’r casgliad nad oedd y ddeiseb yn dderbyniol fel tystiolaeth. Nid yw’r nifer sydd yn gwrthwynebu cais ynddo’i hun yn brawf bod un neu fwy o’r amcanion trwyddedu yn debygol o gael eu tanseilio.

 

Tra bo’r Is-bwyllgor yn fodlon bod pryderon teilwng wedi eu codi, roedd hefyd yn siomedig gweld bod y pryderon hyn wedi eu llygru i raddau gan ‘wleidyddiaeth bentrefol’ o amgylch yr eiddo. O ganlyniad, byddai’r Is-bwyllgor yn llwyr annog i’r ymgeisydd a phob parti i’r cais hwn gynnal deialog adeiladol gyda’i gilydd mewn perthynas ag unrhyw faterion all godi neu beidio gyda’r eiddo yn y dyfodol.

 

Tra bo’r Is-bwyllgor yn deall a derbyn pryderon trigolion ar y cais, rhaid gwneud penderfyniad ar sail gyfreithlon ac ar dystiolaeth gadarn sydd yn berthnasol i un neu fwy o’r amcanion trwyddedu. O dan yr amgylchiadau roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon bod y cais diwygiedig yn gydnaws â’r pedwar amcan trwyddedu. Caniatawyd y cais.

 

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i bawb oedd yn bresennol. Ategwyd bod gan bob parti i’r cais yr hawl i gyflwyno apêl yn Llys Ynadon Caernarfon yn erbyn penderfyniad yr Is-bwyllgor. Dylid cyfeirio unrhyw apêl o’r fath drwy roi rhybudd o apêl i’r Prif Weithredwr, Llys Ynadon Llandudno, Llandudno, o fewn cyfnod o 21 diwrnod gan gychwyn â’r dyddiad y bydd yr apelydd yn  derbyn llythyr (neu gopi ohono) yn cadarnhau’r penderfyniad.

 

Dogfennau ategol: