Agenda item

Y Grochan, ‘Stryd Twll yn y Wal’, Caernarfon

 

I ystyried y cais

Penderfyniad:

Caniatáu’r cais

 

Cofnod:

CAIS AM DRWYDDED EIDDO  Y CROCHAN, 9 – 11 STRYD TWLL YN Y WAL, CAERNARFON

 

Ar ran yr eiddo:

 

Dewi Jones a Chris Summers - ymgeiswyr

 

Eraill a wahoddwyd:

 

Preswylwyr Cyfagos:

 

Rita Geary

Mandy Matthews

 

Aelod Lleol: Cynghorydd Cai Larsen

 

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y Cadeirydd y byddai gan bob parti hawl i hyd at 5 munud i gyflwyno eu sylwadau

 

a)    Adroddiad yr Adran Trwyddedu

 

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer Y Crochan, 9 – 11 Stryd Twll yn y Wal, Caernarfon. Gwnaed y cais mewn perthynas a gwerthu alcohol ar ac oddi ar yr eiddo. 

 

Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol. Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ac amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn cael eu cynnwys ar y drwydded.

 

Tynnwyd sylw at yr ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Nodwyd bod gwrthwynebiadau wedi ei derbyn gan breswylwyr cyfagos yn cyfeirio at ddau o’r amcanion trwyddedu. Mynegwyd pryderon ar faterion gwrthgymdeithasol o ran sŵn, niwsans cyhoeddus a bod byrddau y busnes yn rhwystr i’r preswylwyr.

 

Argymhellwyd fod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r cais yn unol â gofynion y Ddeddf Drwyddedu 2003.

 

Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:

 

           Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr Trwyddedu

           Gwahodd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais

           Rhoi cyfle i’r ymgynghorai gyflwyno eu sylwadau

           Gwahodd deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r sylwadau

           Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y drwydded.

           Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgynghorai

 

Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd yr ymgeiswyr:

·         Nad oeddynt wedi bod yn gwerthu alcohol yn anghyfreithlon - eu bod wedi cyflwyno a derbyn rhybuddion digwyddiad dros-dro

·         Bydd byrddau yn cael eu gosod tu allan ar un ochr o’r stryd yn unig

·         Bod rheoliadau diogelwch tan yn unol â rheoliadau covid

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â deilydd y drwydded, amlygodd Mr Dewi Jones ei fod bellach wedi derbyn trwydded bersonol. Cadarnhawyd hefyd nad oedd grisiau dihangfa dân allan o’r llawr cyntaf na’r ail - grisiau mewnol yn unig gyda drysau yn agor i’r ffrynt ac i’r cefn.

 

Manteisiodd yr ymgynghorai oedd yn bresennol ar y cyfle i ymhelaethu ar sylwadau a gyflwynwyd ganddynt drwy lythyr.

 

Rita Geary (Mandy Mathews yn cyflwyno sylwadau ar ran Rita Geary)

·         Wedi byw ar y stryd ar hyd ei bywyd - pethau yn mynd yn anoddach ac yn creu poen meddwl

·         Dim eisiau byw gyda sŵn

·         Anodd i’r gwasanaethau brys gael mynediad i’r stryd ar ôl 16:00

·         Gormod o fyrddau tu allan ar y stryd

·         Byddai trwydded ychwanegol yn cynyddu problemau yn y stryd

 

Mandy Mathews

·         Yn byw drws nesaf i’r eiddo - dim 2m rhwng ei drws ffrynt a’r byrddau

·         Dim yn teimlo yn saff - llawer o sefydliadau tebyg yn y stryd

·         Dim gwrthwynebiad i fenter newydd, ond y bwriad yn ychwanegu at problemau sydd eisoes yn bodoli

·         Angen ystyried y preswylwyr

·         Hawl parcio ar y stryd rhwng 16:00 a 11:30 sydd yn ddelfrydol ar gyfer oriau ei gwaith, ond anodd cael y car allan / mewn i’r  stryd ar rai adegau oherwydd bod byrddau ar y stryd  – hyn yn creu mwy o broblemau a phoen meddwl

·         Lle bwyta yw’r bwriad, pam fod angen gwerthu alcohol?

·         Ystyried cyfaddawd o  ‘dod â'ch alcohol eich hun'

·         Angen osgoi yfed allan ar y stryd

 

Aelod Lleol: Y Cynghorydd Cai Larsen

·         Bod yr ymgeiswyr wedi rhedeg Cynllun Porthi Pawb oedd yn llwyddiannus iawn yng Nghaernarfon yn ystod y cyfnod clo

·         Ei fod yn cydymdeimlo gyda phryderon y preswylwyr cyfagos

·         Bod y bwriad yn un o sefydlu bwyty safonol o gymharu â sefydliadau eraill ar y stryd ac felly yn denu cwsmer gwahanol

·         Byddai caniatáu ‘dod â'ch alcohol eich hun' ‘yn debygol o arwain at fwy o yfed gyda phryniant  cwrw rhatach

·         Llai o reolaeth heb drwydded - bod disgyblaeth a chyfrifoldeb gan ddeilydd y drwydded i gadw trefn

 

Yn manteisio ar y cyfle i gloi'r achos, nododd yr ymgeisydd y pwyntiau canlynol:

·         Byddai caniatáu pobl i ‘ddod â'ch alcohol eich hun' yn creu mwy o broblemau - dim rheolaeth dros hyn

·         Bwriad yw gweini'r bwrdd olaf am 20:30 felly dim yn rhagweld pobl yn aros ymlaen yn hwyrach na 22:00

·         Ni fydd y bwyty yn cyfrannu at sŵn

 

Ategodd y Rheolwr Trwyddedu bod yr ymgeiswyr wedi cyflwyno cais am rybudd digwyddiadau dros dro i werthu alcohol gyda llond llaw wedi eu caniatáu. Nid oedd unrhyw werthiant alcohol anghyfreithlon wedi digwydd ac ni dderbyniwyd cwynion yn ystod y cyfnod yma.

 

Ymneilltuodd yr ymgeiswyr, yr ymgynghorwyr a’r Rheolwr Trwyddedu o’r cyfarfod tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais

Wrth gyrraedd y penderfyniad ystyriodd yr Is-bwyllgor sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd gan y partïon â diddordeb ac adroddiad y Swyddog Trwyddedu. Ystyriwyd  Polisi Trwyddedu’r Cyngor a chanllawiau’r Swyddfa Gartref. Roedd yr holl ystyriaethau yn cael eu pwyso a’u mesur yn erbyn yr  amcanion trwyddedu o dan y Ddeddf Trwyddedu 2003, sef:

                       i.       Atal trosedd ac anhrefn

                      ii.       Atal niwsans cyhoeddus

                     iii.       Sicrhau diogelwch cyhoeddus

                     iv.       Gwarchod plant rhag niwed

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais

 

Rhoddwyd trwydded fel a ganlyn:

 

1.    Oriau agor: Sul-Sadwrn 09:00-00:00

 

2.    Cyflenwi alcohol i yfed ar ac oddi ar yr eiddo: Sul-Sadwrn 09:00-23:30

 

3.    Ymgorfforir y materion sydd wedi eu rhagnodi yn Atodlen Weithredol (Rhan M) y cais fel amodau ar y drwydded.

 

Diolchwyd i bawb am gyflwyno sylwadau ar y cais.

 

Rhoddodd yr Is-bwyllgor ystyriaeth briodol i’r holl sylwadau. Diystyrwyd sylwadau a ddaeth i law i’r graddau eu bod yn amherthnasol i’r amcanion trwyddedu e.e. dadleuon nad oes angen eiddo trwyddedig ar yr oriau y gofynnwyd amdanynt neu o gwbl, neu ddiffyg caniatâd cynllunio perthnasol. Nid yw’r materion hyn yn ystyriaethau ceisiadau trwydded eiddo.

 

Rhoddwyd ystyriaeth arbennig i’r canlynol.

 

Derbyniwyd sylwadau gan aelodau o’r cyhoedd yn gwrthwynebu’r cais gan gyfeirio at yr amcanion trwyddedu o atal trosedd ac anhrefn, atal niwsans cyhoeddus a sicrhau diogelwch cyhoeddus. Yn gryno, mynegwyd pryderon bod yr eiddo wedi bod yn gweini alcohol heb drwydded, byddai caniatáu trwydded yn debygol o arwain at gynnydd mewn sŵn a bod byrddau busnesau yn rhwystr i breswylwyr cyfagos. Er sylw, ni chyflwynwyd gwrthwynebiadau gan yr Heddlu, y Gwasanaeth Tan ac Achub, Uned Gwarchod y Cyhoedd y Cyngor nac Adran Priffyrdd y Cyngor.

 

Amlygodd yr Is-bwyllgor eu bod yn derbyn bod rhai o’r pryderon a fynegwyd ynglŷn â’r cais yn rhai diffuant. Fodd bynnag, nid oedd yr Is bwyllgor o’r farn bod tystiolaeth ddigonol wedi dod i law i brofi bod y problemau hyn yn debygol pe byddai’r drwydded yn cael ei chaniatáu, ac y byddai’n groes i’r amcanion trwyddedu.

 

Amlygwyd pryder bod yr eiddo wedi bod yn gweini alcohol heb drwydded ac felly yn cwestiynu parodrwydd yr ymgeisydd i beidio â chyflawni’r drosedd hon yn y dyfodol. Ni chyflwynwyd manylion o ran dyddiadau, amser, nag amgylchiadau'r digwyddiadau honedig hyn a derbyniwyd cadarnhad gan yr ymgeiswyr a'r Rheolwr Trwyddedu bod rhybuddion digwyddiad dros-dro wedi eu cyflwyno mewn perthynas â nosweithiau diweddar yn yr eiddo. Gan dybio bod unrhyw drosedd wedi'i chyflawni, ni roddwyd esboniad sut y byddai caniatáu trwydded yn arwain at fwy o achosion o werthu alcohol heb drwydded pan fyddai bodolaeth trwydded yn lleihau'r tebygolrwydd o droseddu yn y lle cyntaf - oherwydd diffyg tystiolaeth, nid oedd yr Is-bwyllgor wedi ei berswadio y byddai rhoi’r drwydded yn tanseilio’r amcan o atal trosedd ac anrhefn.

 

Amlygwyd pryder y byddai caniatáu’r drwydded yn arwain at gynnydd mewn problemau sŵn. Er hynny, ni chyflwynwyd tystiolaeth i gefnogi’r honiad tu hwnt i honiadau cyffredinol y gellid eu priodoli i unrhyw eiddo trwyddedig cyfagos, ac ni eglurwyd pam y byddai’r eiddo hwn yn benodol yn debygol o achosi problem sŵn yn fyw nag eraill. Ymddengys bod y sylwadau wedi cael eu cyflwyno ar sail dyfalu ac nid tystiolaeth - nid yw hyn yn sail gyfreithiol i wneud penderfyniad - yn ôl yr Uchel Lys yn R (on the application of Daniel Thwaites Plc) v Wirral Corough Magistrates Court [2008] EWHC 838 (Admin).

 

Yng nghyd-destun gwrthwynebiad ar y sail y byddai byrddau sy’n perthyn i’r eiddo yn rhwystro mynediad ffordd, ni eglurwyd pam y byddai’r eiddo yma yn benodol yn debygol o achosi problem mynediad yn waeth nag eiddo trwyddedig cyfagos sydd gyda byrddau ar y stryd. Nid oedd yr Heddlu, y Gwasanaeth Tân ac Achub, unrhyw wasanaeth brys arall na’r Adran Priffyrdd wedi mynegi unrhyw bryder o safbwynt diogelwch y ffordd. Disgwylid y byddai sylwadau gan yr asiantaethau swyddogol yn amlygu hyn petai risg i ddiogelwch y cyhoedd yn bodoli. Yn wyneb y diffyg tystiolaeth a diffyg sylwadau oddi wrth arbenigwyr yn y maes, nid oedd yr Is-bwyllgor wedi ei berswadio y byddai caniatáu’r cais yn debygol o danseilio’r amcan trwyddedu o sicrhau diogelwch cyhoeddus.

 

Tra bo’r Is-bwyllgor yn deall a derbyn pryderon trigolion ar y cais, rhaid gwneud penderfyniad ar sail gyfreithlon ac ar dystiolaeth gadarn sydd yn berthnasol i un neu fwy o’r amcanion trwyddedu. O dan yr amgylchiadau roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon bod y cais diwygiedig yn gydnaws â’r pedwar amcan trwyddedu. Caniatawyd y cais.

 

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i bawb oedd yn bresennol. Ategwyd bod gan bob parti i’r cais yr hawl i gyflwyno apêl yn Llys Ynadon Caernarfon yn erbyn penderfyniad yr Is-bwyllgor. Dylid cyfeirio unrhyw apêl o’r fath drwy roi rhybudd o apêl i’r Prif Weithredwr, Llys Ynadon Llandudno, Llandudno, o fewn cyfnod o 21 diwrnod gan gychwyn â’r dyddiad y bydd yr apelydd yn  derbyn llythyr (neu gopi ohono) yn cadarnhau’r penderfyniad.

 

 

Dogfennau ategol: